Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd.
Cofnodion:
Cyflwynwyd i'w ystyried gan y Pwyllgor, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ar gynnydd diweddaraf y Gwasanaeth wrth weithredu'r Cynllun Datblygu Gwasanaeth 3 blynedd.
Cyfeiriodd yr adroddiad at annog datblygiadau o dan bob un o'r 5 thema sy'n sail i'r Cynllun Datblygu (a ddisodlodd y Cynllun Gwella Gwasanaeth blaenorol) yn benodol mewn perthynas â'r canlynol –
• cynllunio gweithlu (mae Strategaeth Gweithlu bellach ar waith ar gyfer y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd)
• arfer gwaith cymdeithasol (mae archwiliadau mewnol yn nodi lle gwnaed cynnydd cadarnhaol a lle mae angen gwneud gwaith pellach i sicrhau cysondeb ar draws pob maes);
• sicrhau ansawdd a'r fframwaith perfformiad (yr adroddir arno yn fanwl yng nghyfarfod mis Mehefin y Pwyllgor)
• darparu ymyrraeth gwaith cymdeithasol priodol ac amserol (mae archwiliadau mewnol yn parhau i gael eu cynnal i sicrhau bod plant a'u teuluoedd yn cael cynnig ymyrraeth ar yr adeg iawn), a
• gwella canlyniadau i blant mewn gofal (mae sawl polisi newydd bellach yn weithredol sy'n caniatáu i staff gefnogi a gwella canlyniadau i blant sydd yng ngofal yr Awdurdod Lleol).
Tynnodd yr Arweinydd a'r Aelod Portffolio ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol sylw hefyd at y gwaith a wnaed ar fentrau eraill a fu'n destun ffocws yn y cyfnod ers yr adroddiad diwethaf i'r Pwyllgor ym mis Mehefin, sef -
• Y Tîm Teuluoedd Gwydn sy'n ymyrryd â theuluoedd sy'n cyflwyno gyda lefel uchel o angen er mwyn darparu cefnogaeth ac ymyriadau dwys i gefnogi teuluoedd sydd wedi torri lawr ac i atal plant rhag mynd i ofal.
• Prosiect Voices from Care Cymru sy'n ceisio gwella ymgysylltiad â phlant sy'n derbyn gofal trwy ddatblygu grŵp cyfranogi ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal ac sydd wedi gadael gofal i gyd-gynhyrchu Strategaeth Plant mewn Gofal ac Ymadawyr Gofal a Siartr Rhiantu Corfforaethol ar gyfer Ynys Môn.
• Y Pythefnos Maethu a gynhaliwyd ym mis Mehefin ac sy'n ddigwyddiad blynyddol sy'n ceisio codi proffil Gofalwyr Maeth ac annog mwy o aelodau'r cyhoedd i ymuno a dod yn ofalwyr maeth.
• Recriwtio Gofalwyr Maeth. Mae'r ymgyrch recriwtio fel y'i cryfhawyd gan y pecyn maethu newydd ym mis Ionawr, 2019 wedi bod yn llwyddiannus a bydd o bosibl yn darparu hyd at 24 o welyau gofal maeth newydd ar gyfer plant sy'n derbyn gofal yn Ynys Môn erbyn mis Hydref 2019.
Croesawodd a nododd y Pwyllgor y datblygiadau fel y'u dogfennwyd. Mewn ymateb i gwestiynau ynghylch a yw’r ymgyrch recriwtio gofalwyr maeth yn mynd rhagddi, hysbyswyd y Pwyllgor fod dull yr Awdurdod o gyflwyno'r pecyn maethu newydd i hybu recriwtio wedi ennyn diddordeb yn allanol gydag awdurdodau ac asiantaethau eraill yn edrych i wneud yr un peth. Yr her i'r Awdurdod yw sicrhau ei fod yn aros ar y blaen o ran ei ddarpariaeth a bod ei becyn maethu yn parhau i fod yn ddeniadol a'i fod y gorau y gall fod.
Penderfynwyd bod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn cadarnhau ei fod yn fodlon â chyflymder y cynnydd a'r gwelliannau a wnaed hyd yma yn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd.
NI CHYNIGIWYD UNRHYW GAMAU GWEITHREDU PELLACH
Dogfennau ategol: