Eitem Rhaglen

Monitro Perfformiad:Cerdyn Sgorio Corfforaethol Chwarter 1 2019/20

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - i'w ystyried a'i graffu gan y Pwyllgor - adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid yn ymgorffori Cerdyn Sgorio cyntaf blwyddyn ariannol 2019/20 yn portreadu sefyllfa’r Cyngor yn erbyn ei amcanion gweithredol ar ddiwedd Chwarter 1.

 

Amlygodd Arweinydd y Cyngor fod llawer o waith wedi'i wneud dros fisoedd yr haf i ailwampio'r cerdyn sgorio i roi golwg mwy strategol iddo; mae hyn wedi cael ei gyflawni gan well alinio y DPA monitro corfforaethol i dri amcan strategol y Cyngor (gweler para 2.1) a drwy ddileu rhai DPAau yr ystyrir eu bod yn rhy weithredol ar gyfer y cerdyn sgorio. Ers i adroddiad cerdyn sgorio Ch4 2018/19 gael ei drafod ym mis Mehefin, 2019, mae’r Mesurau Atebolrwydd Cyhoeddus (PAM) wedi’u cyhoeddi gan Data Cymru. Mae statws Ynys Môn yn genedlaethol wedi dangos gwelliant pellach gyda'r Awdurdod â’r nifer fwyaf o ddangosyddion yn y chwartel uchaf ledled Cymru. Ychwanegodd yr Arweinydd fod mwyafrif y DP ar ddiwedd Ch1 yn perfformio'n dda yn erbyn eu targedau ond gyda 5 wedi dechrau'r flwyddyn fel rhai sy’n tanberfformio ac wedi'u dynodi'n Goch neu'n Ambr ar y cerdyn sgorio. Mae'n rhy gynnar yn Ch1 fodd bynnag i ddod i gasgliadau o ran tueddiadau perfformiad o'r darlun a gyflwynir gan y cerdyn sgorio ar yr adeg hon.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y Pwyllgor ynghylch y dirywiad yr adroddwyd arno mewn agweddau ar berfformiad ym maes tai, cynllunio a gwasanaethau plant yn ystod Chwarter 1 ac a yw unrhyw fesurau lliniaru ychwanegol yn cael eu hystyried i wella perfformiad, rhoddodd swyddogion eglurhad a sicrwydd fel a ganlyn

 

           O ran gwella'r sefyllfa o Ch2 ymlaen wrth gyflawni'r amserlen darged ar gyfer gosod unedau llety gosodadwy (ac eithrio unedau Anodd i'w Gosod - DTLs) (21 diwrnod yw'r targed o'i gymharu â pherfformiad cyfartalog gwirioneddol o 25.6 diwrnod ac o’r herwydd, mae’n Goch ar y cerdyn sgorio - Dangosydd 34) dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Tai fod proses symlach newydd wedi'i chyflwyno a ddylai arwain at osod unedau mewn modd mwy amserol. Mae'r Gwasanaeth Tai yn gosod tua 260 o unedau bob blwyddyn a gwyddys fod tua 20% ohonynt yn rhaid anodd i’w gosod. Mae'r broses symlach newydd yn golygu bod y tîm Datrysiadau Tai yn cysylltu â'r tîm Cymorth Tai a'r tîm Digartrefedd pan ddaw eiddo anodd i’w gosod ar gael er mwyn sefydlu a oes unrhyw un o'u cleientiaid cofrestredig yn cyfateb i'r gofynion ac yn addas ar gyfer yr unedau dan sylw. Wrth i gynnydd gael ei wneud gyda'r dangosydd hwn, bydd perfformiad yn erbyn Dangosydd 35 - Gwasanaethau Landlord: canran y rhent a gollir oherwydd eiddo sy'n wag hefyd yn gwella oherwydd po fwyaf yr amser y mae'n ei gymryd i osod unedau llety gosodadwy, po uchaf yw'r rhent a gollir. Fel diweddariad, dywedodd y Swyddog fod perfformiad ar gyfer Dangosydd 34 ar 9 Medi wedi gwella i 21.4 diwrnod.

           O ran canran yr achosion gorfodi cynllunio yr ymchwiliwyd iddynt o fewn 84 diwrnod - Dangosydd 43 (Coch ar y cerdyn sgorio gyda pherfformiad o 55% yn erbyn targed o 80%) dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio bod Uwch Reolwr profiadol wedi'i benodi yn ddiweddar i ddarparu arweinyddiaeth gadarn â ffocws i’r Tîm Gorfodi. Gwnaed gwaith sylweddol dros fisoedd yr haf i fynd i’r afael â’r ôl-groniad hanesyddol ac er bod y gwaith hwn yn mynd rhagddo bydd y tîm hefyd yn ceisio delio ag achosion gorfodi mewn ffordd fwy amserol yn y dyfodol. Gwnaed cynnydd da felly gyda'r perfformiad cyfredol yn dangos cynnydd amlwg dros bob chwarter yn 2018/19 wrth i brosesau newydd gael eu hymgorffori ac wrth i'r gwaith o glirio'r ôl-groniad barhau. Rhagwelir y bydd y gwelliant hwn yn parhau i'r flwyddyn sydd i ddod. Nododd y Pwyllgor y byddai'n ddefnyddiol, pe bai systemau'n caniatáu, i gynghorau cymunedol gael eu hysbysu am geisiadau cynllunio yn eu hardal neu fel cam cyntaf, i geisiadau gael eu dynodi fesul ward.

           O ran canran yr asesiadau plant a gwblhawyd mewn amser - Dangosydd 25 (Ambr ar y Cerdyn Sgorio gyda pherfformiad o 85.32% yn erbyn targed o 90%) dywedodd yr Aelod Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol fod y tanberfformio i’w briodoli i ddiffyg rheolaeth mewn un grŵp ymarfer a bod hyn bellach wedi'i gywiro. Cyflwynwyd proses newydd lle cesglir y data mewn ffordd wahanol a ddylai arwain at welliant yn Ch2.

           Dygodd y Cynghorydd Alun Roberts, aelod o’r Panel Sgriwtini Cyllid, sylw at y ffaith fod rhaglen ddigidol yn cael ei datblygu a fydd yn helpu’r Panel i ymchwilio i faterion ariannol yn fwy manwl yn enwedig o ran olrhain a sefydlu patrymau gwariant o fewn gwasanaethau. Nododd y Pwyllgor y byddai'n ddefnyddiol pe bai'n derbyn cyflwyniad o alluoedd y rhaglen ar ôl iddi gael ei rhoi ar waith yn llawn.

 

Ar ôl ystyried yr adroddiad a'r sicrwydd a roddwyd gan Swyddogion ar y materion a drafodwyd, penderfynodd y Pwyllgor dderbyn yr adroddiad, nodi'r meysydd y mae'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn eu rheoli i sicrhau gwelliannau i'r dyfodol ac argymell y mesurau lliniaru fel y cawsant eu hamlinellu i’r Pwyllgor Gwaith.

 

CAM GWEITHREDU YCHWANEGOL - Gwybodaeth am nifer yr unedau Anodd i'w Gosod i'w hymgorffori yn adroddiad Chwarter 2 i'r Pwyllgor.

Dogfennau ategol: