Eitem Rhaglen

Polisi Gosod Cyffredin a Chysylltiad Lleol

Cyflwyno adroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Tai.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i'w ystyried gan y Pwyllgor, adroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Tai ar ganlyniad ymgynghoriad a gynhaliwyd ar Bolisi Gosod Tai Cymdeithasol Ynys Môn yn ystod y cyfnod rhwng 17 Mehefin, 2019 a 5 Awst, 2019.

 

Adroddodd Pennaeth y Gwasanaethau Tai fod y Gwasanaeth Tai, yn dilyn derbyn cymeradwyaeth gan y Pwyllgor Gwaith, wedi ymgynghori ar ei Bolisi Gosod Cyffredin er mwyn nodi a ddylid cynnwys cysylltiad cymunedol yn y polisi. Mae’r Gwasanaethau Tai yn awyddus i gyfrannu tuag at gymunedau cynaliadwy drwy sicrhau bod cysylltiadau teuluol a chymunedol yn cael eu cynnal ac mae'n bwriadu adolygu'r Polisi Gosod Cyffredin i weld a yw’r polisi presennol yn cyflawni'r nod hwnnw. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad gyda phartneriaid a rhanddeiliaid allweddol a derbyniwyd 114 o ymatebion fel a ddangosir yn Atodiad 1 yr adroddiad gydag 85% o'r ymatebwyr yn mynegi eu cefnogaeth i gynnwys cysylltiad cymunedol yn y Polisi Gosod Cyffredin ar y sail y byddai'n cryfhau cymunedau ac yn ei gwneud yn haws i ddarparu cefnogaeth i deulu a ffrindiau. Fodd bynnag, roedd rhai pryderon ynghylch yr hyn a olygir gan gysylltiad cymunedol. Cafwyd ymateb da hefyd i gwestiynau eraill yn ymwneud â gweithredu'r Polisi.

 

Dywedodd y Swyddog fod yr adolygiad hefyd wedi rhoi cyfle i'r Gwasanaethau Tai edrych ar faterion eraill fel y'u crynhoir yn yr adroddiad. Yn ogystal, rhoddwyd ystyriaeth i sut y byddai cysylltiad ag ardal benodol yn cael ei ddiffinio a'r casgliad oedd y byddai dalgylch y cynghorau cymunedol a thref yn cwrdd â'r gofyniad cysylltiad lleol sy'n cyfateb orau i'r ymatebion i'r ymgynghoriad.

 

Yn seiliedig ar ganlyniad yr ymgynghoriad, darperir Polisi Gosod Tai Cyffredin diwygiedig sy'n ymgorffori'r prif newid a ganlyn mewn perthynas â chysylltiad lleol o dan Atodiad 2 a bydd yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith i'w gymeradwyo'n derfynol:

 

Bydd ymgeisydd yn cael ei asesu yn unol â’i g/chysylltiad ag ardal y Cyngor Tref neu Gymuned y maent wedi nodi eu bod yn dymuno byw ynddi lle mae'r eiddo gwag wedi ei leoli. Bydd ymgeiswyr yn cael eu hystyried o fewn eu band yn nhrefn dyddiad. Bydd yn ofynnol o hyd i gael cysylltiad lleol o 5 mlynedd â'r Ynys ac eithrio mewn achosion lle mae angen brys am fel y diffinnir hynny dan y Ddeddf Tai.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y Pwyllgor, eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Tai ymhellach

 

             Er mai dim ond trosglwyddiadau i unedau llety llai neu fwy oedd yn cael eu hystyried yn flaenorol, gellir ystyried trosglwyddiadau tebyg am debyg o dan y polisi diwygiedig;

           Bod y diffiniad statudol o lety gwarchod wedi newid; tai gwarchod yn hanesyddol oedd tai lle darparwyd gwasanaeth warden a lle roedd y meini prawf oedran yn nodi pobl 60 oed neu hŷn. Wrth i natur tai gwarchod newid, cyflwynwyd elfen o hyblygrwydd gyda llety o'r fath bellach yn cwmpasu ystod o feini prawf e.e. pobl 55 oed a hŷn, pobl 60 oed a hŷn, unigolion ag anabledd cofrestredig ac ati.

           Bod y stoc dai yn brin o lety 4 ystafell wely gyda dim ond 67 o unedau o'r fath ar gael ar hyn o bryd. Er mwyn cydnabod yr angen, mae'r Awdurdod yn datblygu unedau 4 ystafell wely fel rhan o'i ddatblygiadau tai newydd. Mae'r Awdurdod wedi datblygu strategaeth i annog unigolion / cyplau sydd mewn unedau tai sy'n fwy na'u hanghenion i symud i lety llai trwy ddatblygu byngalos hefyd fel rhan o’r stoc newydd o dai cyngor. Mae'r Awdurdod hefyd yn cydnabod yr angen am lety / unedau 1 a 2 ystafell wely ar gyfer pobl sengl. Mae datblygu unedau llai yn fwy problemus gan fod yn rhaid i'r unedau hyn gael digon o arwynebedd llawr i alluogi pobl i fyw ynddynt yn gyffyrddus ac iddynt beidio â chael eu hystyried yn llety dros dro.

           Mewn cymunedau lle mae prinder tir ar gyfer datblygu, gall yr Awdurdod ddefnyddio tir wedi'i eithrio ar gyfer datblygu tai fforddiadwy. Efallai na fydd rhestr aros tai cymdeithasol y Gwasanaeth Tai yn adlewyrchu'n llawn yr angen mewn pentrefi gwledig llai felly, lle mae tir yn cael ei nodi, gellir caffael gwasanaethau hwylusydd tai gwledig i sefydlu faint o dir sydd ar gael yn yr ardal ac a oes awydd yn lleol i weld tai fforddiadwy yn cael eu datblygu.

 

Ar ôl ystyried y broses ymgynghori a'r ymatebion iddi, roedd y Pwyllgor yn fodlon bod y broses wedi bod yn ddigonol a bod y newidiadau i'r Polisi Gosod Cyffredin yn dderbyniol yn seiliedig ar yr ymatebion a gafwyd. Felly penderfynwyd argymell y Polisi Gosod Cyffredin diwygiedig i'w fabwysiadu gan y Pwyllgor Gwaith.

 

NI CHYNIGIWYD UNRHYW GAMAU GWEITHREDU YCHWANEGOL

Dogfennau ategol: