Eitem Rhaglen

Ceisiadau'n Gwyro

10.1 ­­- FPL/2019/201 - Tegfan, Llanynghenedl

 

10.2 - VAR/2019/49 - Trearddur House, Bae Trearddur

Cofnodion:

10.1  FPL/2019/201 – Cais llawn ar gyfer codi annedd ar dir ger Tegfan, Llanynghenedl.

 

        Mae’r cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor oherwydd ei fod yn groes i bolisïau’r    

        Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond bod yr Awdurdod Cynllunio Lleol â’i fryd

        ar ei ganiatáu.

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygiad fod cais wedi’i ganiatáu yn wreiddiol yn y 1960au ar gyfer annedd marchnad agored, Fodd bynnag, petai cais newydd yn cael ei gyflwyno byddai angen cyflwyno datganiad iaith Gymraeg ond mae sefyllfa wrth gefn mewn perthynas â’r cais hwn am annedd marchnad agored ac felly nid ystyrir bod angen datganiad iaith Gymraeg. Ystyrir fod y cais blaenorol yn debygol o gael ei weithredu ac mae’r newidiadau yn welliant o gymharu â’r hyn a ganiatawyd yn flaenorol.     

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth P Hughes y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Bryan Owen. 

 

        PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

10.2  VAR/2019/49 – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (11)(Cynllun Draenio) o ganiatâd cynllunio rhif 46C168A/FR (Codi annedd) a’r cais dilynol ar gyfer materion a gadwyd yn ôl cyfeirnod 46C168D/DA fel bod dŵr budr o'r annedd yn cael ei ollwng i waith trin carthffosiaeth ar y safle yn hytrach nag i’r system garthffosiaeth gyhoeddus ar dir ger Trearddur House, Bae Trearddur.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn tynnu’n groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond bod yr Awdurdod Cynllunio Lleol a’i fryd ar ei ganiatáu.   

 

Siaradwr Cyhoeddus

 

Dywedodd Mr Steve Bond (a oedd yn siarad o blaid y cais) fod y cais yn cynnig defnyddio cyfleuster trin carthion hunangynhwysol yn hytrach na defnyddio’r prif system garthffosiaeth. Mae’r amrywiad yn ganlyniad i’r anymarferoldeb o gysylltu â’r brif garthffos sydd wedi’i lleoli yn y cae pêl-droed tua 40 metr i’r de ac i mewn i dir ac sy’n berchen i drydydd parti. Er mwyn cysylltu â’r system garthffosiaeth bresennol byddai angen i gysylltiad cangen newydd o’r plot groesi’r cwrs dŵr presennol sydd ger ymyl ochr y cae pêl-droed. Amlygodd trafodaeth â Dŵr Cymru bod ganddynt bryderon ynghylch y risg y byddai cysylltiad cangen newydd yn cael ei ddifrodi ac y gallai hynny arwain at lygru’r cwrs dŵr. O ganlyniad, roedd Dŵr Cymru angen datrysiad peirianyddol sylweddol drud a ystyrir yn anymarferol ac yn annichonadwy ar gyfer datblygiad tŷ sengl, yn enwedig pan ychwanegir hyn at gost y draen a’r gost o sicrhau hawddfraint gan y perchennog tir trydydd parti. Mae’r wybodaeth hon am y costau wedi’i chyflwyno a’i derbyn gan yr Awdurdod Cynllunio a Chyfoeth Naturiol Cymru. Y cynnig yw i ddefnyddio cyfleuster trin carthion Klargester sydd, unwaith y bydd y carthion wedi eu trin, yn rhyddhau dŵr sy’n rhydd o unrhyw halogyddion ac sydd felly’n golygu y gall redeg i nant, afon neu ffos gerrig. Mae’r Adran Ddraenio wedi cymeradwyo’r profion mandylledd a gynhaliwyd ar y safle ac maent yn fodlon â’r defnydd arfaethedig o’r cyfleuster trin carthion a bydd y cyfleuster trin carthion a’r ffos gerrig wedi eu cynnwys ar dir yr ymgeisydd. Yn ogystal, ni fydd unrhyw effaith ar eiddo cyfagos ac mae lleoliad arfaethedig y cyfleuster yn golygu y bydd yn bodloni’r holl reoliadau angenrheidiol ac os caiff ganiatâd, bydd yn cael ei osod mewn modd a fydd yn cydymffurfio’n llawn â Rheoliadau Adeiladu ac anghenion Cyfoeth Naturiol Cymru.     

 

Dywedodd hefyd fod yr uned yn cynnwys system rybuddio gadarn sy’n hysbysu perchennog y tŷ ar unwaith os bydd problem gyda’r uned a thra bo lle yn parhau i fod yn y tanc ar gyfer carthion. Byddai gwaith cynnal a chadw hefyd yn cael ei wneud bob blwyddyn er mwyn bodloni Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae llai o risg o lygru’r tir a’r cwrs dŵr cyfagos gan ddefnyddio’r cyfleuster trin carthion arfaethedig na phetai cysylltiad â’r prif system garthffosiaeth yn cael ei osod ar draws y cwrs dŵr presennol. Dywedodd Mr Bond, yn groes i wrthwynebiadau a godwyd mewn perthynas â’r cais, bod y newid arfaethedig i’r cyfleuster trin carthion o dan y fath amgylchiadau yn cydymffurfio’n llawn â pholisïau cynllunio cenedlaethol presennol.   

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygiad fod polisïau cynllunio cenedlaethol yn nodi, mewn ardaloedd sy’n cael eu gwasanaethu gan systemau carthffosiaeth cenedlaethol, y dylai datblygiadau preswyl gysylltu iddynt. Fodd bynnag, oherwydd y costau i’r datblygwr o gysylltu i’r prif system ac oherwydd y byddai’n rhaid croesi tir perchennog trydydd parti, mae cyfiawnhad dros osod cyfleuster trin carthion pecyn ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cadarnhau nad ydynt yn gwrthwynebu i amrywio’r amod. Cafwyd gwrthwynebiadau yn lleol am y ffos gerrig dŵr budr a’r effaith ar ddraenio eiddo cyfagos; mae’r datblygwr wedi diwygio’r cais ac mae lleoliad y cyfleuster trin carthion yn cydymffurfio â rheoliadau. Mae’r Adran Ddraenio a’r Adran Rheoliadau Adeiladu wedi cadarnhau bod lleoliad newydd y cyfleuster yn dderbyniol. Dywedodd y Swyddog fod geiriad Amod 8 o ran y cyfleuster trin carthion angen ei ddiwygio gan fod angen i gynllun cynnal a chadw gael ei gyflwyno a’i gymeradwyo cyn y gwneir unrhyw ddefnydd o’r system ddraenio. Nodwyd fod y cais yn groes i Bolisi TAI 5 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, y sefyllfa wrth gefn yw bod caniatâd cynllunio eisoes yn bodoli ar safle’r cais; ystyrir nad oes unrhyw effaith andwyol ar yr Adeilad Rhestredig sydd wedi’i leoli o fewn cwrtil y safle. Roedd yr argymhelliad yn un o ganiatáu.   

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Kenneth P Hughes.  

 

         PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig ac i ddiwygio Amod 8 mewn modd sy’n golygu y bydd cynllun cynnal a chadw yn cael ei gyflwyno a’i gymeradwyo. 

 

 

Dogfennau ategol: