Eitem Rhaglen

Gweddill y Ceisiadau

12.1 - OP/2019/5 - Huws Gray, Stryd y Bont, Llangefni

 

12.2 - FPL/2019/200 – Ysgol Gynradd Pentraeth, Lôn Tanrallt, Pentraeth

 

12.3 - FPL/2019/226 - Fronwen, Niwbwrch

Cofnodion:

12.1  OP/2019/5 – Cais amlinellol ar gyfer dymchwel yr adeiladau presennol             ynghyd â chodi 52 annedd fforddiadwy gyda datblygiadau cysylltiedig     sy’n cynnwys manylion llawn am y fynedfa i gerbydau ar dir

            ger Huws Gray, Stryd y Bont, Llangefni.

 

Bu’r Cadeirydd, y Cynghorydd Nicola Roberts, ddatgan diddordeb personol a diddordeb a oedd yn rhagfarnu yn y cais ond fe siaradodd fel Aelod Lleol. Gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais a ddilynodd. Yr Is-gadeirydd oedd yn y Gadair ar gyfer y cais hwn. 

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod safle’r cais wedi’i leoli ar dir sy’n berchen i’r Cyngor Sir.   

 

Gofynnodd yr Aelodau Lleol, y Cynghorydd Dylan Rees a Nicola Roberts i aelodau ymweld â’r safle gan fod y cais cynllunio yn un sylweddol a bod rhai pryderon wedi eu codi yn lleol am edrych drosodd, agosrwydd, rheoli traffig a mesurau lliniaru. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Eric W Jones y dylid cynnal ymweliad safle ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Bryan Owen.

 

 

PENDERFYNWYD ymweld â’r safle am y rhesymau a roddwyd.

 

12.2  FPL/2019/200 – Cais llawn i godi ffensys yn Ysgol Gynradd Pentraeth, Ffordd Tanrallt, Pentraeth.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod safle’r cais wedi’i leoli ar dir sy’n berchen i’r Cyngor Sir.   

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Bryan Owen.  

 

          PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

 

12.3  FPL/2019/226 – Cais llawn ar gyfer codi tri chaban gwyliau, creu trac mynediad, diwygio’r fynedfa bresennol ynghyd â gosod cyfleuster trin carthffosiaeth ar dir yn Fronwen, Niwbwrch.

 

Cyflwynwyd y cais i’r pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol. 

 

Amlinellodd y Rheolwr Rheoli Datblygiadau y cais i’r Pwyllgor a rhoddodd hanes cynllunio cais blaenorol a oedd wedi’i wrthod. Nododd fod llythyr pellach o gefnogaeth wedi’i dderbyn mewn perthynas â’r cais. Mae’r ymgeisydd wedi cyflwyno gwelliannau i’r fynedfa i gerbydau er mwyn datrys y trydydd rheswm dros wrthod yn y cais blaenorol. Mae uchder y cabanau gwyliau arfaethedig hefyd wedi’i ostwng. Fodd bynnag, nid yw lleoliad y cabanau gwyliau wedi newid ac maent mewn lle amlwg ar y safle heb unrhyw gyfleusterau cyfagos. Roedd yr argymhelliad yn un o wrthod.  

 

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Owen fod y safle ar y brif ffordd rhwng Pentre Berw a Niwbwrch a’i fod ger yr atyniad twristiaeth Tacla Taid. Dywedodd fod yr ardal yn atyniad i dwristiaid gan ei fod ger Traeth Llanddwyn; mae’r holl gyfleusterau o fewn pellter cerdded i bentrefi lleol. Mynegodd y Cynghorydd Owen mai cais fel yr un hwn yn Fronwen yw’r math o beth y mae twristiaid yn ddymuno ei gael a does dim gwrthwynebiad yn lleol i’r cais na gan Gyngor Cymuned Rhosyr. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd K P Hughes y dylid caniatáu’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog gan fod cyfleuster o’r fath i dwristiaid yn bwysig i’r ardal a’r Ynys. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Eric W Jones.

 

Cynigiodd y Cynghorydd John Griffith y dylid gwrthod y cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Nicola Roberts. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd T Ll Hughes y dylid ymweld â’r safle er mwyn gweld a yw’r cais yn cydymffurfio â pholisi cynllunio TWR3. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd R O Jones.  

 

         Yn dilyn pleidlais PENDERFYNWYD ymweld â’r safle am y rhesymau a          

         roddwyd.

 

 

Dogfennau ategol: