Eitem Rhaglen

Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Drafft

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Lle a Llesiant Cymunedol.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Lle a Llesiant Cymunedol, yn cynnwys ymateb drafft Cyngor Sir Ynys Môn i Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Drafft ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor Gwaith. 

 

Yn absenoldeb yr Aelod Portffolio Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, adroddodd y Cadeirydd bod ymateb drafft y Cyngor i’r ymgynghoriad ar gynigion o fewn y Fframwaith Datblygu Lleol wedi’i rannu â holl Aelodau’r Cyngor er gwybodaeth ac ar gyfer eu mewnbwn. Yn ogystal, mae sylwadau wedi eu derbyn gan gynghorau tref a chymuned ac maent wedi eu hanfon ymlaen at y Swyddogion. Mae Arweinwyr y chwe Chyngor yng ngogledd Cymru hefyd yn rhoi ymateb at ei gilydd ar ran Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru er mwyn tynnu sylw at fannau lle mae cynigion y Fframwaith yn gwyro oddi wrth ddyheadau’r Bwrdd ar gyfer yr ardal. Dywedodd y Cadeirydd ei bod bellach yn deall bod y dyddiad cau o 1 Tachwedd, 2019 ar gyfer ymateb i’r ymgynghoriad bellach wedi’i ymestyn i 15 Tachwedd 2019 ac ychwanegodd yr hoffai fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i Swyddogion y Cyngor am gydlynu’r ymateb ac am ddod â’r wybodaeth at ei gilydd.    

 

Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio bod ymateb i’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn hynod bwysig gan y bydd yn gosod y cyfeiriad ar gyfer datblygu yng Nghymru rhwng 2020 a 2040; mae’n amlinellu strategaeth ar gyfer mynd i’r afael â blaenoriaethau cenedlaethol allweddol drwy’r system gynllunio, yn cynnwys cynnal a datblygu economi ffyniannus, datgarboneiddio, datblygu ecosystemau gwydn a gwella iechyd a llesiant cymunedau. Mae’n gynllun gofodol ac mae’n rhan o’r haen uchaf o gynlluniau datblygu sy’n canolbwyntio ar faterion a heriau ar raddfa genedlaethol. Mae’r Cyngor felly’n croesawu’r cyfle i wneud sylwadau ar y Fframwaith ac er ei fod yn cefnogi’r egwyddor o greu Fframwaith o’r fath, mae ganddo bryderon ac amheuon difrifol mewn perthynas â nifer o themâu a pholisïau yn y Fframwaith Datblygu Drafft, yn enwedig mewn perthynas â’r canlynol -    

 

           Cydnabod y Prosiectau o Arwyddocâd Cenedlaethol Presennol (NSIP) - mae’r Cyngor o’r farn nad yw’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol (FfDC) drafft yn rhoi digon o gydnabyddiaeth i brosiectau megis Wylfa Newydd a National Grid na gallu ynni niwclear i gwrdd â thargedau allyriadau. Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd y prosiectau hyn i dwf economaidd Ynys Môn a gogledd orllewin Cymru yn y dyfodol ac mae angen i hynny gael ei adlewyrchu yn y FfDC.  

           Agwedd tuag at Ynni Carbon Iselmae agwedd y FfDC drafft tuag at ynni carbon isel yn rhy gul gan ganolbwyntio’n ormodol ar ddatblygiadau gwynt a solar. Mae dynodiad mwyafrif yr Ynys fel ardal flaenoriaeth ar gyfer ynni gwynt a solar o bryder sylweddol ac mae’n annerbyniol. Mae’r Cyngor yn gwrthwynebu’r dynodiad hwn am nifer o resymau gan gynnwys materion yn ymwneud â’r isadeiledd sydd ei angen er mwyn cynnal datblygiadau o’r fath.    

           Ardaloedd Twf Rhanbarthol - mae’r Cyngor wedi synnu ac yn siomedig iawn nad yw Caergybi wedi'i chynnwys na’i diffinio fel ardal o dwf rhanbarthol yng Nghymru ac mae o’r farn bod angen i’r FfDC cael ei ddiwygio er mwyn adlewyrchu pwysigrwydd strategol posibl Caergybi i Gymru. 

           Gweledigaeth ar gyfer Ardaloedd Gwledig – Mae cefnogi ardaloedd gwledig a hyrwyddo eu datblygiad a’u ffyniant yn bwysig i’r Cyngor yn Ynys Môn fel y mae i nifer o Gynghorau eraill yng ngogledd Cymru. Mae’r Cyngor yn credu nad yw’r FfDC drafft yn darparu digon o weledigaeth na chyfeiriad ar gyfer ardaloedd gwledig sydd â naws drefol ac maent yn methu â chydnabod a deall pwysigrwydd twf twristiaeth a’r economi ymwelwyr i’r ardal.  

           Polisi Iaith Gymraegteimlir fod peidio â chael polisi Iaith Gymraeg penodol yn rhywbeth sylfaenol sydd wedi’i adael allan.  

           Cysylltedd a Thrydedd Bont - mae’r Cyngor yn siomedig na wneir unrhyw gyfeiriad yn y FfDC drafft tuag at y drydedd bont arfaethedig rhwng yr Ynys a’r tir mawr a gofynnir bod hyn yn cael ei gydnabod a’i gynnwys yn y FfDC terfynol. 

           Cysylltiadau Awyrmae’r Cyngor yn ystyried y dylai’r FfDC roi mwy o bwyslais ar rôl genedlaethol Maes Awyr Caerdydd ac ar y pwysigrwydd o gysylltu gogledd a de Cymru a’r rhan y mae’r gwasanaeth yn ei chwarae yn natblygiad economaidd gogledd orllewin Cymru gan ddarparu cysylltedd busnes, cyfleoedd twristiaeth ac amseroedd teithio byrrach. 

           Tai Fforddiadwy - mae’r Cyngor yn nodi bod y FfDC yn gosod targed uchelgeisiol ar gyfer y ddarpariaeth o dai fforddiadwy ac mae’n cyfeirio at yr angen i 47% o dai ychwanegol fod yn dai fforddiadwy ar gyfer y cyfnod o 5 mlynedd o 2018/19 i 2022/23; er nad yw’r Cyngor yn gwrthwynebu’r dyhead hwn, mae’n codi cwestiynau am hyfywdra’r datblygiad mewn ardal fel Ynys Môn gydag ychydig iawn o wybodaeth yn y Fframwaith am sut y bydd y targed hwn yn cael ei gyflawni.  

 

Adroddodd y Cynghorydd G.O.Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio bod y Pwyllgor wrth ystyried y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn ei gyfarfod ar 24 Hydref, wedi trafod goblygiadau tymor hir yr FfDC ar gynlluniau strategol yr Ynys yn y dyfodol a’r effeithiau tebygol ar raglen strategol y Cyngor ac ar lesiant cymunedol. Nododd y Pwyllgor y pryderon a fynegwyd am nifer o agweddau o’r FfDC fel y cyfeiriwyd atynt uchod ac o wytnwch ymateb drafft y Cyngor i’r ymgynghoriad y bu ei argymell i’r Pwyllgor Gwaith. Yn ychwanegol at hyn, cefnogodd y Pwyllgor Sgriwtini y syniad y dylid gwahodd Comisiynydd y Gymraeg i annerch Aelodau - un ai mewn cyfarfod o’r Pwyllgor Sgriwtini neu yn un o’r sesiynau briffio Aelodau misol a gynhelir - ar yr angen am Bolisi Iaith Gymraeg penodol yn y FfDC.    

 

Nododd y Pwyllgor Gwaith y pwyntiau a godwyd gan y Pwyllgor Sgriwtini gan nodi eu bod yn ymwybodol bod diddordeb sylweddol yn y mater hwn gyda nifer o sylwadau wedi eu cyflwyno a phryderon wedi eu codi. Wrth gytuno â rhan helaeth yr ymateb drafft fel y’i cyflwynwyd, tynnodd Aelodau’r Pwyllgor Gwaith sylw penodol at eu hanfodlonrwydd â’r ffaith i Gaergybi gael ei hepgor fel canolfan dwf ranbarthol a’r diffyg cyfeiriad at drydedd bont ynghyd â’u hanesmwythyd gyda dynodiad arfaethedig rhan fawr o’r Ynys fel ardal flaenoriaeth ar gyfer ynni gwynt a solar, rhywbeth yr oeddent yn ei ystyried yn annerbyniol ar sail effeithiau tirlun, amgylcheddol, economaidd a chymunedol posibl datblygiadau o’r fath ynghyd â’r effaith y byddai’n ei gael ar ddiwydiant twristiaeth yr Ynys. Tra’n cydnabod y byddai angen i geisiadau cynllunio ar gyfer y pethau o dan sylw gael sylw ar sail achos wrth achos, roeddent yn cytuno ag ymateb y Swyddogion fod yr ymagwedd tuag at y mater hwn yn creu disgwyliad y byddai datblygiadau o’r fath yn dderbyniol beth bynnag eu heffeithiau ac roeddent o’r farn bod hyn yn destun pryder. Roedd y Pwyllgor Gwaith yn gobeithio y byddai Llywodraeth Cymru yn ystyried ymateb y Cyngor fel un derbyniol ac yn adeiladol a phwysleisiodd os oedd y cynllun yn mynd i weithio ar gyfer trigolion, cymunedau ac economi’r Ynys, roedd angen i’r pwyntiau a godwyd gael ystyriaeth a sylw wrth baratoi fersiwn derfynol yr FfDC.      

 

Penderfynwyd

 

           Cymeradwyo’r llythyr ynghlwm gan gynnwys Atodiad A fel ymateb Cyngor Sir Ynys Môn i Ymynghoriad Llywodraeth Cymru ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol (2020-2040).

           Bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i’r Cyfarwyddwr Lle a Llesiant Cymunedol wneud unrhyw fân newidiadau, amrywiadau neu gywiriadau a nodir ac sy’n rhesymol angenrheidiol cyn cyhoeddi’r ymateb ffurfiol.

Dogfennau ategol: