Eitem Rhaglen

Adroddiadau Blynyddol a Chyfrifon Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn 2018/19

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn cynnwys yr Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn ar gyfer 2018/19 ar gyfer eu hystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod yr adroddiad yn darparu trosolwg o gefndir Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn gan gynnwys statws cyfreithiol yr Ymddiriedolaeth a’r gwahanol elfennau ynddi h.y. y tair cronfa sy’n ffurfio’r Ymddiriedolaeth (Stad Elusennol David Hughes, Cronfa Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn 1/3 (Cyfyngedig), Cronfa Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn 2/3 (Cyfyngedig)). Mae’r Ymddiriedolaeth yn ennill incwm drwy gasglu rhenti o bortffolio Ymddiriedolaeth Gwaddol David Hughes y mae’n buddsoddi ynddynt a difidendau a llog ar fuddsoddiadau’r Gronfa Buddsoddi a reolir, llogau eraill a gwerthiant buddsoddiadau. Mae gwariant yn ymwneud â chynnal a chadw eiddo, nwy a thrydan ac ati, dibenion elusennol, ffioedd elusennol (archwilio) a ffioedd rheoli eiddo. Darperir gwybodaeth mewn perthynas ag incwm, gwariant ac asedau’r Ymddiriedolaeth yn Atodiad A yr adroddiad sy’n cynnwys y cyfrifon ariannol ar gyfer yr Ymddiriedolaeth 2018/19. Mae’r rhain yn dangos bod elw net o £113,016 ar gyfer y flwyddyn; daeth buddsoddiadau incwm i £131,010 (£125,970 ohono o Stad David Hughes a  £5,040 o ddifidendau a llog). Roedd gwariant ar gyfer y cyfnod yn £126,589 gyda £99,943 ohono’n mynd ar drwsio a chynnal a chadw. Ar 31 Mawrth, 2019 roedd cyfanswm cronfeydd yr Ymddiriedolaeth yn £3,237,050, ac o’r swm hwn, roedd £372,681 yn falans arian parod yr Ymddiriedolaeth ar y dyddiad hwn.       

 

Atgoffodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 pawb am ddibenion elusennol y tair cronfa y mae Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn wedi eu rhannu iddynt, y prif ffynonellau cyllido a’r dosbarthiad o gyllid rhwng y tair cronfa. (Mae paragraff 2.1. yr adroddiad yn cyfeirio at hyn). Nododd y Swyddog fod yna lawer o wariant wedi bod ar uwchraddio’r portffolio eiddo oedrannus er mwyn sicrhau ei fod i fyny i’r safon a bod y buddsoddiad hwn wedi parhau yn 2018/19 gyda £99,943 yn cael ei wario ar drwsio a chynnal a chadw stad David Hughes gan adael £5,621 dros ben i’w wario rhwng y tair cronfa. Mae’r rhan fwyaf o werth y Gronfa yn dod o stad David Hughes - £2,545,800. Mae’r Gronfa felly yn ariannol iach ac mae’r adroddiad uchod yn cwblhau’r gwaith o adrodd ar gyfrifon Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn am eleni.

       

Roedd y Pwyllgor Gwaith yn ddiolchgar am y gwaith a wnaed gan y Gwasanaeth Cyllid er mwyn sicrhau mwy o eglurder o ran y ffordd y mae Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn yn gweithio a hynny drwy’r adroddiad hwn a’r adroddiad a nodir ymhellach o dan eitem 13 ar yr agenda. Holodd y Pwyllgor Gwaith a yw’r Cyngor yn adroddiadau ar y defnydd o’r arian a dderbynnir gan Elusen David Hughes ar gyfer y Tlodion, sef cyfanswm o chwarter unrhyw incwm dros ben net o Stad Elusennol David Hughes (Cronfa Waddol). Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151, oherwydd nad yw’r elusen yn uniongyrchol gysylltiedig â’r Cyngor ei bod yn adrodd yn uniongyrchol i’r Comisiwn Elusennau ac mai unig rôl y Cyngor mewn cysylltiad â’r elusen yw dosbarthu’r cyllid perthnasol iddi.   

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon ar gyfer Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn am 2018/19 fel y’u cyflwynwyd o dan Atodiad A i’r adroddiad.

Dogfennau ategol: