Eitem Rhaglen

Cofnodion - 9 Gorffennaf 2019

  Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod blaenorol o’r CYSAG a gynhaliwyd ar 9 Gorffennaf 2019.

 

  I drafod unrhyw faterion sy’n codi o’r cofnodion.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir, cofnodion y cyfarfod diwethaf o’r CYSAG a gynhaliwyd ar 9 Gorffennaf 2019.

 

Materion yn codi o’r cofnodion:-

 

  Cadarnhawyd bod aelodau’r CYSAG wedi cytuno i gynnwys aelodau o enwadau crefyddol eraill ar y Pwyllgor. 

  Gan gyfeirio at y ddwy sedd wag sydd ar y CYSAG, dywedodd y Cadeirydd y byddai’n mynd ar ôl mater y sedd wag ar gyfer Aelod etholedig o’r Cyngor. Mae’r Parchedig Jim Clarke wedi cynnig codi mater y sedd wag ar gyfer cynrychiolydd o’r Eglwys Bresbyteraidd gyda’r Eglwys. 

  Cadarnhawyd bod y Clerc i’r CYSAG wedi targedu un dalgylch o ran gofyn am adroddiadau hunan-arfarnu’r ysgolion.

  Nodwyd bod ymateb y CYSAG i’r holiadur ar y Cwricwlwm Drafft i Gymru 2022 wedi cael ei anfon ymlaen i Lywodraeth Cymru.

  Rhoes y Cadeirydd a’r Clerc i’r CYSAG adborth o’r cyfarfod o Gymdeithas CYSAGau Cymru yr aethant iddo yng Nghonwy ar 28 Mehefin 2019.  Nodwyd bod Cymdeithas CYSAGau Cymru wedi bod yn lobïo’r Gweinidog Addysg i fuddsoddi arian i dalu am ymgynghorwyr i ddarparu cyngor ac arweiniad arbenigol i’r CYSAGau ar draws Cymru mewn perthynas â’r cwricwlwm newydd.  

  Cadarnhaodd y Cadeirydd y bydd yn ymweld ag Ysgol Talwrn yr wythnos nesaf i arsylwi Addoli ar y Cyd yn yr ysgol. Erfyniodd ar aelodau’r CYSAG i drefnu ymweliadau ag ysgolion lleol yn eu hardaloedd; i arsylwi sesiynau Addoli ar y Cyd, i edrych ar lyfrau gwaith y disgyblion, i siarad â’r plant ac yna adrodd yn ôl i’r CYSAG ar eu canfyddiadau.   

 

Trafododd y CYSAG yr opsiwn o fabwysiadu ymagwedd fwy strwythuredig, ffurfiol o gofnodi ymweliadau ag ysgolion a darparu adborth i bwrpas monitro. Awgrymwyd y dylid adolygu a diweddaru’r templed a baratowyd eisoes gan Miss Bethan James i gofnodi Addoli ar y Cyd ac i gofnodi ymweliadau ag ysgolion.

 

  Rhannodd yr Ymgnnghorydd AG gopïau o bapurau arholiad TGAU AG Cymraeg a Saesneg a Lefel A Athroniaeth a Moeseg fel y gall y CYSAG ddod yn gyfarwydd â’r Maes Llafur Cytȗn. 

 

Yn y cyfarfod diwethaf o’r CYSAG, roedd cynrychiolwyr yr athrawon AG wedi mynegi pryderon fod cyflawni’r maes llafur AG wedi dod yn fwy heriol oherwydd prinder adnoddau Cymraeg a llwyth gwaith beichus athrawon AG o gymharu â phynciau eraill. Nodwyd bod adroddiad wedi ymddangos yn ddiweddar yn y wasg leol ar brinder adnoddau dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, mater yr oedd CYSAG Gwynedd wedi dwyn sylw ato.

 

Mynegwyd pryderon ynghylch y ddarpariaeth o adnoddau AG ac effaith tymor hir hyn ar ysgolion, yr anghysondeb rhwng papurau arholiad a’r llwyth gwaith yn y maes llafur AG o gymharu â phynciau eraill megis Hanes a Daearyddiaeth. Roedd y CYSAG yn teimlo’n gryf y dylid codi’r materion uchod gyda CBAC a Chymdeithas CYSAGau Cymru. Cytunodd y CYSAG y byddai’r materion uchod yn cael eu codi gan Mr Rheinallt Thomas yn y cyfarfod nesaf o Gymdeithas CYSAGau Cymru.

 

Mynegodd y CYSAG bryderon ynghylch prinder yr athrawon sy’n cael eu hyfforddi ar hyn o bryd i ddysgu Dyniaethau fel pwnc, rhywbeth a fydd yn cael effaith negyddol ar AG yn y dyfodol.

 

Dywedodd y Clerc i’r CYSAG fod Miss Bethan James, ymgynghorydd blaenorol y CYSAG wedi awgrymu y dylid penodi cynrychiolydd athrawon o ysgol gynradd nad ydyw’n ysgol eglwys i wasanaethu ar y CYSAG er mwyn cryfhau’r berthynas rhwng y CYSAG ac ysgolion.

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Bod y Cadeirydd yn codi mater y sedd wag ar gyfer Aelod etholedig ar y CYSAG gyda’r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

  Bod y Parchedig Jim Clarke yn cysylltu â’r Eglwys Bresbyteraidd i ofyn i’r Eglwys enwebu cynrychiolydd i ymuno â’r CYSAG.

  Bod yr aelodau’n parhau i ymweld ag ysgolion lleol i arsylwi Addoli ar y Cyd a defnyddio’r templed a baratowyd eisoes gan Miss Bethan James.

  Bod y Clerc, ar ran y CYSAG, yn ysgrifennu at CBAC yn mynegi pryderon ynghylch yr anghysondeb rhwng papurau arholiad a’r baich gwaith sy’n gysylltiedig â’r maes llafur AG o gymharu â phynciau eraill.

  Bod mater yr anghysondeb rhwng TGAU a Lefel A AG o gymharu â phynciau eraill yn cael ei godi gan Mr Rheinallt Thomas yng nghyfarfod nesaf Cymdeithas CYSAGau Cymru.

  Bod y Clerc a chynrychiolwyr yr athrawon yn trafod cynnwys y llythyr at CBAC ynglŷn â’r maes llafur AG a baich gwaith trwm yr athrawon. 

  Bod y Clerc yn ymchwilio i’r posibilrwydd o gynnwys cynrychiolydd athrawon ysgol gynradd nad yw’n ysgol eglwys ar y CYSAG.

Dogfennau ategol: