Eitem Rhaglen

Cynllun Datbygu Lleol ar y Cyd - Adroddiad Monitro Blynyddol

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Lle a Llesiant Cymunedol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Cyfarwyddwr Lle a Llesiant Cymunedol mewn perthynas â’r Adroddiad Monitro Blynyddol 2019 – Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.

 

Adroddodd y Deilydd Portffolio Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd bod yr Adroddiad Monitro Blynyddol yn cofnodi canfyddiadau gwaith monitro gweithrediad strategaethau a pholisïau’r cynllun rhwng 1 Ebrill a 31 Mawrth yn ystod y flwyddyn flaenorol. Fel arfer, mae’n rhaid cyhoeddi’r adroddiad monitro blynyddol cyntaf erbyn 31 Hydref yn ystod y flwyddyn yn dilyn mabwysiadu’r cynllun datblygu lleol. Mabwysiadwyd Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd ac Ynys Môn ddiwedd mis Gorffennaf 2017. O’r herwydd, er mwyn cynnwys blwyddyn ariannol gyflawn, dyma’r cyfle cyntaf i gyflwyno Adroddiad Monitro Blynyddol i Lywodraeth Cymru.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio bod rhaid i’r Adroddiad Monitro Blynyddol gynnwys fframwaith monitro a’i fod yn gyfrwng allweddol ar gyfer darparu adborth fel rhan o’r broses gylchol o lunio polisïau cynaliadwy. Mae prif ganfyddiadau’r Adroddiad Monitro Blynyddol fel a ganlyn:-

 

·      Mae 55% o unedau tai a ganiatawyd yn ystod cyfnod yr Adroddiad Monitro Blynyddol yn y Ganolfan Isranbarthol a’r Canolfannau Gwasanaethau Trefol. Rhoddwyd caniatâd i 23% o unedau mewn Canolfannau Gwasanaeth Lleol a 22% mewn Pentrefi, Clystyrau a Chefn Gwlad Agored sy’n cyd-fynd â strategaeth ddosrannu tai y Cynllun;

·      Rhoddwyd caniatâd cynllunio i 543 o unedau tai newydd yn ystod cyfnod yr Adroddiad Monitro Blynyddol h.y. safleoedd nad oedd â chaniatâd cynllunio ar y  diwrnod y cafodd y Cynllun ei fabwysiadu;

·      Rhoddwyd caniatâd cynllunio i 202 o dai fforddiadwy yn ystod cyfnod yr Adroddiad Monitro Blynyddol;

·      Yn ystod cyfnod yr Adroddiad Monitro Blynyddol (2017-2019), cwblhawyd 348 o unedau tai ar safleoedd a ddynodwyd ar gyfer tai;

·      Cwblhawyd 254 o unedau fforddiadwy yn 2017-19. Roedd cynnydd sylweddol yn nifer yr unedau tai fforddiadwy a gwblhawyd yn 2018/19 (193 o unedau) o gymharu â blynyddoedd blaenorol;

·      Derbyniodd y Cyngor 62 o apeliadau yn ystod y Cyfnod Monitro a diystyriwyd 74% ohonynt. Nid oedd yr apeliadau a ganiatawyd yn tanseilio polisïau allweddol y Cynllun.

 

Nododd y Swyddog bod casgliad yr Adroddiad Monitro Blynyddol yn un cadarnhaol a bod polisïau cynllunio yn cael eu gweithredu. Dywedodd, o ganlyniad i brif ganfyddiadau’r Adroddiad Monitro Blynyddol, nad oes tystiolaeth i awgrymu bod angen cynnal adolygiad cynnar o’r Cynllun.

 

Rhoes y Pwyllgor ystyriaeth i’r adroddiad a gwnaed y pwyntiau canlynol:-

 

·           Gofynnwyd sut mae pris tŷ fforddiadwy yn cael ei ddiffinio? Dywedodd y Rheolwr Polisi Cynllunio – Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd bod fformiwla i gyfrifo canran o gyflogau trigolion yr ardal yn cael ei defnyddio i benderfynu ar brisiau tai fforddiadwy (sydd yn rhan o ddatblygiadau newydd). Nododd bod Canllaw Cynllunio Atodol wedi’i lunio sydd yn rhoi gwybodaeth fanwl am dai fforddiadwy mewn gwahanol ardaloedd. Bydd cytundeb Adran 106 yn cael ei osod ar unrhyw ganiatâd cynllunio yn ôl yr angen, i sicrhau bod y tai yn cael eu cadw fel tai fforddiadwy. Cyfeiriwyd bod rhai datblygwyr yn nodi nad yw datblygiad yn hyfyw oni bai bod modd iddynt leihau cyfran y tai fforddiadwy sy’n rhan ohono. Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio bod ceisiadau i leihau elfen fforddiadwy unrhyw ddatblygiad yn cael eu hasesu a bod y dystiolaeth a gyflwynir i gyd-fynd â’r ceisiadau hynny’n cael ei harchwilio;

·           Gofynnwyd a oes trefniadau mewn lle i sicrhau bod yr Adroddiad Monitro Blynyddol yn ddigon cadarn a’i fod yn cydymffurfio â rheoliadau statudol. Dywedodd y Rheolwr Polisi Cynllunio bod Llywodraeth Cymru yn pennu fframwaith statudol ar draws Cymru mewn perthynas â’r Adroddiad Monitro Blynyddol a bod rhaid i bob Cynllun Datblygu Lleol lynu at y fframwaith. Roedd Aelodau’r Pwyllgor o’r farn bod angen llunio fersiwn ‘hawdd ei deall’ o’r ddogfen y flwyddyn nesaf;

·           Nodwyd nad yw’r Adroddiad Monitro Blynyddol yn cyfeirio at newid hinsawdd. Dywedodd y Cyfarwyddwr Lle a Llesiant Cymunedol fod yr Adroddiad Monitro Blynyddol wedi ei lunio i gydymffurfio â’r fframwaith statudol. Nododd bod modd i’r Pwyllgor hwn ofyn i Swyddogion gynnwys materion yn ymwneud ag allyriadau carbon yn yr Adroddiad Monitro Blynyddol nesaf. Ychwanegodd fod Swyddogion yn y Cyngor ar hyn o bryd yn gweithio ar strategaeth ynni a lleihau carbon ar gyfer y Cyngor fydd yn lleihau ôl-troed carbon i sicrhau bod yr Awdurdod yn chwarae rhan flaenllaw o ran cyflawni’r targed statudol i leihau carbon a osodwyd gan y llywodraeth ar gyfer 2030 a 2050.

 

PENDERFYNWYD argymell i’r Pwyllgor Gwaith:-

 

·           Bod yr Adroddiad Monitro Blynyddol ar gyfer 2019 yn gosod y sylfaen ar gyfer gweddill cyfnod y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd;

·           Cadarnhau bod y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd yn perfformio’n briodol hyd yma;

·           Nodi nad oes unrhyw bolisi cynllunio unigol yn methu â chyflawni ei amcanion;

·           Bod swyddogion yn cael eu gwahodd i ystyried dull o ddarparu fersiwn weledol, hawdd ei deall o’r Adroddiad Monitro Blynyddol (ar gyfer y cyfnod Ebrill 2019 i Mawrth 2020).

 

GWEITHREDU: Fel y nodwyd uchod

 

 

Dogfennau ategol: