Eitem Rhaglen

Polisi Gwirio ar sail Risg

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 a oedd yn ceisio sylwadau'r Pwyllgor ar bolisi arfaethedig i wirio ar sail risg. Roedd yr adroddiad yn nodi sut y penderfynwyd ar y grwpiau risg ar gyfer y Polisi arfaethedig; yr arbedion / manteision a ddisgwylir a sut byddai'r polisi'n cael ei weithredu a'i fonitro.

 

Adroddodd y Rheolwr Budd-daliadau fod y Gwasanaeth Budd-daliadau ar hyn o bryd yn gwneud yr un lefel o waith gwirio ar gyfer pob achos. Dyma'r lefel wirio sylfaenol fel y nodir yn fframwaith yr Adran Gwaith a Phensiynau ond nid yw’r fframwaith hwnnw’n cael ei ddefnyddio mwyach. Gan fod y gwaith yn llafurddwys, mae'n ei gwneud hi'n anoddach rhoi ffocws ychwanegol ar achosion penodol ac mae’n cyfyngu ar y gallu i adolygu’r achosion hynny lle mae'r risg o dwyll / camgymeriad ar ei uchaf. Er bod yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi caniatáu disgresiwn i awdurdodau weithredu eu prosesau eu hunain ar gyfer gwirio risg ers 2011, nid yw'r Awdurdod wedi ymrwymo i wneud hynny tan nawr. Mae adolygiad o brosesau a'r gostyngiad mewn achosion Budd-dal Tai wedi arwain at ailystyried hyn i weld a yw'n cael ei wneud yn y ffordd fwyaf effeithiol.

 

Er mwyn cynorthwyo i sefydlu ym mha gategori o hawlwyr y mae’r risg fwyaf o newid, gwnaed dadansoddiad ym mis Mehefin 2019 o'r holl achosion lle gordalwyd hawlwyr  oherwydd camgymeriad a wnaed gan yr hawlwyr eu hunain. Rhoddwyd sylw i’r rhesymau dros y gordaliadau yn ogystal â phroffil o sefyllfa'r hawlydd. Dadansoddwyd yr hawliadau a dderbyniwyd ym mis Mawrth ac Ebrill 2019 hefyd i ddarganfod i ba grŵp risg y byddai'r rhain yn disgyn. Mae'r adroddiad yn nodi canfyddiadau'r dadansoddiadau hynny gan gynnwys yr elfennau o’r hawliadau a gafodd sylw er mwyn pennu'r grŵp risg. Aseswyd yr effaith ar y gwasanaeth ac fe'i crynhoir yn yr adroddiad. Yn ogystal, cynhaliwyd Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb i weld a fydd y newid arfaethedig yn y dull o weithredu yn cael mwy o effaith  ar grwpiau penodol o hawlwyr.

 

Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad ac wrth ystyried amcanion y polisi newydd o geisio canolbwyntio adnoddau ar yr achosion hynny lle mae anghysondebau / camgymeriadau yn debygol o ddigwydd h.y. y rheini yn y categori risg uchel, mynegodd rai amheuon ynghylch y fethodoleg a fabwysiadwyd mewn perthynas â’r elfennau o’r hawliadau a ystyriwyd ac amlygodd yn benodol anawsterau posib gyda'r dadansoddiad grŵp oedran a'r ffordd y penderfynwyd ar yr ystod oedran gan ei fod yn credu y gallai arwain at broffil risg anghywir a fyddai’n gogwyddo’r casgliad y daethpwyd iddo tuag at grŵp oedran penodol. Awgrymodd y Pwyllgor efallai yr hoffai'r Swyddogion feddwl am y rhan hon o'r polisi cyn ei gyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith i'w gymeradwyo; argymhellodd y Pwyllgor ymhellach y dylid cymryd sampl ar hap o achosion o bob grŵp oedran, pob grŵp enillion a phob grŵp cyfansoddiad teulu yng nghamau cynnar gweithredu'r polisi er mwyn gwirio a rhoi prawf ar y rhagdybiaethau a wnaed.

 

Penderfynwyd nodi'r Polisi Gwirio ar Sail Risg ar gyfer Budd-dal Tai / Gostyngiadau’r Dreth Gyngor gan argymell

 

           Ailystyried yr ystod oed yn y grwpiau oedran;

           Y dylid cymryd sampl o achosion ar hap ar y llinellau a awgrymwyd unwaith y gweithredir y polisi.