Eitem Rhaglen

Adolygu Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg yn ymgorffori cylch gorchwyl y Pwyllgor i ddibenion adolygu.

 

Adroddodd y Pennaeth Archwilio a Risg fod Blaenraglen y Pwyllgor yn darparu ar gyfer cynnal adolygiadau rheolaidd o'i gylch gorchwyl ac ystyrir bod hynny’n arfer dda. Cymeradwyodd yr adolygiad diwethaf ym mis Medi 2018 gylch gorchwyl a ddiwygiwyd ac a ddiweddarwyd yn llawn er mwyn sicrhau ei fod yn gyson â chanllawiau a gyhoeddwyd gan CIPFA. Oherwydd bod y cylch gorchwyl wedi ei ddiwygio’n llawn yn 2018, cynhaliwyd ymgynghoriad sylweddol ac eang i ofyn barn rhanddeiliaid. Gan na chyhoeddwyd unrhyw ganllawiau penodol newydd ar gyfer y sector hwn ac oherwydd na fu unrhyw newidiadau sylweddol eraill sy'n effeithio ar y cylch gorchwyl, cynhaliwyd ymgynghoriad cyfyngedig gyda'r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 ac ymgynghorydd o CIPFA. Ni nodwyd unrhyw newidiadau sylweddol a'r unig newid oedd y newid yn nheitl swydd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog 151. Os mai dyna’r achos o hyd, gellir diweddaru'r cylch gorchwyl heb fod angen cymeradwyaeth gan y Pwyllgor Gwaith a'r Cyngor Llawn.

 

Gan gyfeirio at adrannau 30 i 33 o'r cylch gorchwyl a oedd yn ymwneud â thwyll a llygredd, amlygodd y Swyddog fod gwaith y Pwyllgor yn y maes hwn wedi bod yn gyfyngedig hyd yn hyn - mae'r Gwasanaeth Archwilio Mewnol wrthi ar hyn o bryd yn gwneud darn o waith ar dwyll a llygredd gyda'r bwriad o ddod ag adroddiad i gyfarfod y Pwyllgor yn Ebrill, 2020 a fydd yn cynnwys asesiad o’r risg o dwyll yn ogystal â throsolwg o dwyll am y flwyddyn.

 

Ystyriodd y Pwyllgor y cylch gorchwyl a gofynnodd a oes unrhyw gyrff heblaw CIPFA yn ymwneud â chyfrifoldebau Pwyllgorau Archwilio yng Nghymru. Cyfeiriwyd hefyd at gyflwyniad gan Swyddfa Archwilio Cymru i’r cyfarfod cyntaf o'r 22 o Gadeiryddion Pwyllgorau Archwilio lle'r oedd y canllawiau a ddarparwyd yn wahanol i gylch gorchwyl y Pwyllgor hwn, yn benodol o ran aelodaeth pwyllgorau archwilio.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Archwilio a Risg mai CIPFA yw'r prif gorff o ran cynhyrchu arweiniad ar swyddogaethau pwyllgorau archwilio. Mewn perthynas â chyflwyniad Swyddfa Archwilio Cymru eglurodd fod rhan o'r cyflwyniad yn ymwneud â chynigion a gynhwysir yn y Mesur Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) sy'n cyflwyno diwygiadau etholiadol a threfniadau llywodraethu newydd ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru a fydd, pan gaiff ei ddeddfu, yn debygol o arwain at newidiadau gan gynnwys newid yn aelodaeth y pwyllgor hwn. Ar hyn o bryd, mae aelodaeth a chylch gorchwyl y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru). Mewn ymateb i gais am ddiweddariad ar y trefniadau i'r Pwyllgor gynnal hunanasesiad, dywedodd y Swyddog, gan fod y cyfarfod o’r 22 o gadeiryddion archwilio yn gwneud darn o waith ar effeithiolrwydd pwyllgorau archwilio, byddai’n synhwyrol i oedi cyn cynnal yr hunanasesiad, a hynny er mwyn osgoi dyblygu. Mae sesiwn lle cyfarfu'r 22 o gadeiryddion a'r penaethiaid archwilio gyda'i gilydd wedi nodi’r meysydd hynny lle ystyrir bod pwyllgorau archwilio angen y gefnogaeth fwyaf, sef yn benodol mewn perthynas â hyfforddiant ar y côd llywodraethu. Y gobaith felly yw y bydd rhywfaint o hyfforddiant ar faterion llywodraethu yn cael ei ddarparu yn gynnar y flwyddyn nesaf.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r cylch gorchwyl cyfredol gyda dim ond mân newidiadau i ddiweddaru teitl swydd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151.

 

NI CHYNIGIWYD UNRHYW GAMAU YCHWANEGOL

Dogfennau ategol: