Eitem Rhaglen

Ymateb Drafft i Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Llywodraeth Cymru

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Lle a Llesiant Cymunedol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Cyfarwyddwr Lle a Llesiant Cymunedol mewn perthynas ag Ymateb Drafft i Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol.

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Lle a Llesiant Cymunedol fod y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol (FfDC) yn gynllun datblygu newydd fydd yn gosod cyfeiriad ar gyfer datblygiad yng Nghymru o 2020 i 2040. Mae’n gosod strategaeth ar gyfer mynd i’r afael â blaenoriaethau cenedlaethol allweddol drwy’r system gynllunio, gan gynnwys cynnal a datblygu economi llewyrchus, lleihau carbon, datblygu ecosystemau gwydn a gwella iechyd a lles ein cymunedau. Mae’r FfDC yn gynllun gofodol, sy’n golygu ei fod yn gosod cyfeiriad ynghylch ble y dylid buddsoddi mewn seilwaith a datblygiad er lles Cymru a’i phobl. Yr FfDC fydd yr haen uchaf o gynllun datblygu ac mae’n canolbwyntio ar faterion a heriau ar lefel genedlaethol. Oherwydd ei natur strategol, nid yw’n neilltuo datblygiad i bob rhan o Gymru ac nid yw ychwaith yn cynnwys polisïau ar bob math o ddefnydd tir. Dywedodd ei bod yn hollbwysig ymateb i’r FfDC i sicrhau bod polisi cynllunio ar yr haen uchaf yn addas i bwrpas a bod aliniad clir rhwng dyheadau Cyngor Sir Ynys Môn o’r lefel leol i’r lefel genedlaethol fydd yn gosod cyfeiriad i fuddsoddiad mewn seilwaith a datblygiad yn y dyfodol.

 

Ychwanegodd bod hyn yn gyfle i’r Cyngor ddylanwadu ar gynnwys y FfDC fydd yn siapio datblygiad y genedl yn ystod yr ugain mlynedd nesaf. Dywedodd mai Llywodraeth Cymru sy’n penderfynu ar Ddatblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol yn hytrach na’r awdurdod cynllunio lleol. Cyfeiriodd at yr ymgynghoriad a gynhaliwyd ynghylch Fferm Solar Traffwll fel enghraifft. Mae’r fferm solar arfaethedig yn safle 289 acer ar dir fferm mewn 7 ardal i’r de o’r A55. Llywodraeth Cymru fydd yn penderfynu ar y cynnig hwn. Nododd y byddai gan y FfDC fwy o ddylanwad ar unrhyw benderfyniad na pholisïau Cynllun Datblygu Lleol yr Awdurdod.

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Lle a Llesiant Cymunedol fod y Cyngor Sir yn cefnogi’r egwyddor o greu FfDC ar gyfer Cymru. Fodd bynnag, mae gan y Cyngor bryderon ac amheuon mewn perthynas â nifer o themâu a pholisïau yn y FfDC drafft. Dywedodd bod angen mynegi’n bendant na fydd rhai o’r prosiectau sy’n rhan o’r FfDC yn cydweddu â thirwedd yr Ynys. Mae’r FfDC yn cynnig bod canol yr Ynys yn addas ar gyfer ffermydd gwynt a ffermydd solar ac, yn ôl Llywodraeth Cymru, mae rhagdybiaeth o blaid datblygiadau ynni gwynt a solar mawr ar y tir yn yr ardaloedd â blaenoriaeth. Dywedodd nad yw swyddogion yn ystyried bod datblygu tyrbinau gwynt 250 metr o uchder yn addas i’r Ynys. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Lle a Llesiant Cymunedol bod y Cyngor yn synnu nad yw Caergybi’n cael ei chydnabod na’i diffinio fel Ardal Dwf Rhanbarthol ar gyfer Cymru, yn arbennig o ystyried bod yr FfDC yn cyfeirio’n benodol at bwysigrwydd Porthladd Caergybi i wasanaethu Cymru, y DU ac Iwerddon.

 

Noda’r FfDC y bydd lefel newydd o bolisïau cynllunio yn cael eu creu h.y. Polisïau Cynllunio Cenedlaethol, Polisïau Cynllunio Rhanbarthol a Pholisïau Cynllunio Lleol. Cwestiynodd y Cyfarwyddwr Lle a Lles Cymunedol yr angen am dair haen o bolisïau gan fod adnoddau llywodraeth leol eisoes dan bwysau ac mae’r Awdurdod hwn wedi cytuno ar Bolisi Cynllunio ar y Cyd gyda Chyngor Gwynedd.

 

Tynnodd y Cyfarwyddwr Lle a Llesiant Cymunedol sylw at y ffaith fod rhai Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol wedi cael eu hepgor o’r FfDC:-

 

·      Prosiectau ynni carbon isel

·      Dim digon o gyfeiriadau at ardaloedd gwledig

·      Polisi Dynodedig ar gyfer yr Iaith Gymraeg

·      Dim cyfeiriad at drydedd bont

·      Tai fforddiadwy

·      Pwysigrwydd y Maes Awyr yn y Fali ar gyfer y cysylltiad rhwng Gogledd a De Cymru

 

Nododd fod Swyddogion yn y Cyngor yn tynnu sylw at bryderon yr Awdurdod mewn grwpiau prosiect ar lefel rhanbarthol ac mae’r Prif Weithredwr yn codi materion sy’n peri pryder yng nghyfarfodydd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.

 

Rhoes y Pwyllgor ystyriaeth i’r adroddiad a chodwyd y materion a ganlyn:-

 

·           Gofynnwyd sut bydd y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Arfaethedig yn effeithio ar raglen waith strategol y Cyngor a llesiant cymunedol. Dywedodd y Cyfarwyddwr Lle a Llesiant Cymunedol mai dogfen ddrafft yw’r FfDC ar hyn o bryd ac y byddai’r ddogfen derfynol yn cael ei chyhoeddi ym mis Medi 2020. Yn dilyn hynny, bydd rhaid i’r Cyngor roi sylw i’r fframwaith polisi, dros gyfnod o 20 mlynedd, wrth siapio twf a datblygiad yr Ynys yn y dyfodol, er lles trigolion a’r genhedlaeth nesaf. Yn ogystal, bydd rhaid cynnal adolygiad cadarn o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd i sicrhau fod y ddwy ddogfen yn cyd-fynd â’i gilydd;

·           Cyfeiriwyd at y ffaith bod y FfDC yn dynodi cyfran fawr o’r Ynys fel ardal addas ar gyfer ffermydd gwynt a ffermydd solar. Gofynnwyd beth fyddai’r effeithiau posib ar Lu Awyr Brenhinol y Fali a’r maes awyr ym Mona. Dywedodd y Cyfarwyddwr Lle a Llesiant Cymunedol y bydd rhaid cynnal trafodaeth gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn ynghylch effeithiau’r cynigion hyn yn y FfDC;

·           Gofynnwyd a yw ymateb drafft y Cyngor i’r FfDC yn ddigon cadarn ac yn addas i bwrpas. Dywedodd y Cyfarwyddwr Lle a Llesiant Cymunedol bod y dyddiad cau ar gyfer ymateb i’r FfDC wedi cael ei ymestyn i 15 Tachwedd ac y byddai modd cynnwys unrhyw faterion neu bryderon sydd gan Aelodau Etholedig o dan unrhyw bennawd yn ymateb yr Awdurdod cyn cyflwyno’r ymateb ffurfiol i’r fframwaith;

·           Nodwyd y byddai’n briodol gwahodd Comisiynydd yr Iaith Gymraeg i gyfarfod o’r Pwyllgor Sgriwtini hwn mewn perthynas â’r angen i gynnwys polisi dynodedig ar gyfer yr Iaith Gymraeg o fewn y Fframwaith Cenedlaethol. Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai modd gwahodd Comisiynydd yr Iaith Gymraeg naill ai i’r cyfarfod hwn neu i Sesiwn Briffio Aelodau;

·           Cyfeiriwyd at y siom ynghylch y ffaith nad yw Caergybi’n cael ei chydnabod na’i diffinio fel Ardal Dwf Rhanbarthol ar gyfer Cymru. Dywedodd y Cyfarwyddwr Lle a Llesiant Cymunedol ei bod yn bwysig i Gaergybi gael ei diffinio fel Ardal Dwf Rhanbarthol gan y byddai hynny’n ei gwneud yn haws denu arian ar gyfer prosiectau yn y dref h.y. tuag at Ganolfan Feddygol, ysgolion. Nododd y byddai’n anodd denu arian sector cyhoeddus ar gyfer prosiectau yn nhref Caergybi oni bai ei bod yn cael statws Ardal Dwf Rhanbarthol.

 

PENDERFYNWYD-

 

·           argymell i’r Pwyllgor Gwaith fod ymateb drafft y Cyngor i Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Llywodraeth Cymru yn cael ei gymeradwyo

·           gwahodd Comisiynydd yr Iaith Gymraeg naill ai i gyfarfod o’r Pwyllgor Sgriwtini hwn neu i Sesiwn Briffio misol ar gyfer Aelodau mewn perthynas â’r angen am bolisi dynodedig ar gyfer yr Iaith Gymraeg o fewn y Fframwaith Cenedlaethol.

 

GWEITHREDU: Fel y nodwyd uchod.

 

 

Dogfennau ategol: