Eitem Rhaglen

Ceisiadau'n Codi

7.1  OP/2019/5 – Huws Grey, Stryd y Bont , Llangefni

 

7.2  FPL/2019/226 – Fronwen, Niwbwrch

Cofnodion:

 

7.1 OP/2019/5 - Cais cynllunio amlinellol ar gyfer dymchwel yr adeiladau presennol ynghyd â chodi 52 o anheddau fforddiadwy gyda datblygiadau cysylltiedig ynghyd â  manylion llawn y fynedfa i gerbydau ar dir ger Huws Gray, Stryd y Bont, Llangefni      

 

Adroddwyd ar y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod safle'r cais ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor. Yn y cyfarfod o’r Pwyllgor a gynhaliwyd ar 2 Hydref, 2019, penderfynwyd bod angen ymweld â’r safle a gwnaed hynny wedyn ar 16 Hydref 2019.

 

Gan ei bod wedi datgan diddordeb personol a diddordeb sy’n rhagfarnu mewn perthynas â’r  cais, gadawodd y Cynghorydd Nicola Roberts (Cadeirydd) y cyfarfod pan gafodd y mater ei gyflwyno. Cadeiriodd y Cynghorydd Richard Owain Jones (Is-Gadeirydd) y cyfarfod ar gyfer yr eitem.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu mai gohirio ystyried y cais oedd argymhelliad y Swyddog bellach, a hynny oherwydd bod materion technegol wedi codi.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes, ac eiliodd y Cynghorydd Bryan Owen, y dylid gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd.

 

7.2 FPL/2019/226 - Cais llawn ar gyfer lleoli tri siale gwyliau, ffurfio trac mynediad newydd, newidiadau i fynediad cyfredol ynghyd â gosod gwaith trin newydd ar dir yn Fronwen, Niwbwrch.   

 

Adroddwyd ar y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod wedi ei alw i mewn i'r pwyllgor gan Aelod Lleol. Yn ei gyfarfod ar 2 Hydref, 2019 penderfynodd y Pwyllgor ymweld â'r safle a gwnaed hynny wedyn ar 16 Hydref, 2019.  

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod cais blaenorol i leoli tri siale gwyliau ac i greu trac  mynediad newydd yn y lleoliad wedi ei wrthod ym mis Mehefin, 2019 ar y sail nad oedd y datblygiad yn cydymffurfio â Pholisi TWR3 (Safleoedd Carafanau Sefydlog a Siales a Gwersylla Amgen Parhaol) a Pholisi PS4 (Trafnidiaeth Gynaliadwy, Datblygu a Hygyrchedd) oherwydd ystyrir ei fod mewn lleoliad ynysig anghynaliadwy yn y cefn gwlad agored a hefyd oherwydd na chredir ei fod wedi ei leoli'n dda nac o ansawdd uchel. Ystyriwyd ymhellach nad oedd gan y cynnig gwreiddiol lain welededd ddigonol ar gyfer y fynedfa  arfaethedig, a hynny’n groes i ofynion polisi. Mae'r cais hwn yn cynnwys cynllun i wella’r llain welededd ac mae'r Adain Briffyrdd wedi cadarnhau bod y cynllun hwnnw’n dderbyniol. Y materion cynllunio allweddol wrth ystyried y cais felly, fel o’r blaen, yw cynaliadwyedd y datblygiad dan ddarpariaethau Polisi PS4 ac a ellir ystyried ei fod yn ddatblygiad o safon uchel o dan ddarpariaethau Polisi TWR3.

 

Dywedodd y Swyddog fod Polisi PS4 yn nodi y bydd datblygiadau’n cael eu lleoli er mwyn lleihau'r angen i deithio, yn enwedig mewn cerbydau modur. Mae Polisi TWR 3 yn cefnogi datblygiadau twristiaeth ar yr amod eu bod o ansawdd uchel o ran dyluniad, gosodiad ac edrychiad. Nid yw'r cynnig fel y cyflwynwyd ef yn cynnwys unrhyw gyfleusterau cysylltiedig ac eithrio'r siales eu hunain. Mae'r CCA drafft ar Gyfleusterau a Llety Twristiaeth yn nodi’n eglur nad ystyrir bod cynigion am garafanau neu siales annibynnol sengl mewn cae amaethyddol neu o fewn cwrtil annedd breifat heb unrhyw gyfleusterau cysylltiedig yn ddatblygiadau o ansawdd uchel ac nid ydynt felly’n gyson â Pholisi TWR 3. Nid yw datblygiadau o'r fath yn cyfoethogi ansawdd yr arlwy ar gyfer twristiaid yn ardal y cynllun a gallai effeithiau cronnus datblygiadau o'r fath effeithio’n negyddol ar y dirwedd. Amlygodd y Swyddog, er bod y siales yn llai o faint bellach, mae’r gosodiad a'r lleoliad yn aros yr un fath i bob pwrpas ag o dan y cais blaenorol, sef ffurf linellol mewn man ynysig yn y cefn gwlad heb unrhyw gyfleusterau cysylltiedig. O’r herwydd, nid ystyrir ei fod yn ddatblygiad o ansawdd uchel yn unol â'r polisi a'r canllawiau atodol. Er gwaethaf bod y datblygiad arfaethedig yn agos at y prif rwydwaith priffyrdd sef y B4421, mae'r anheddiad agosaf oddeutu 1km i'r de-orllewin yn Niwbwrch a cheir yno trwy'r B4421 sy'n ffordd 60mya heb balmentydd na goleuadau sy'n golygu bod hwn yn lleoliad anghynaliadwy o dan ddarpariaethau’r polisïau lleol a chenedlaethol. Argymhelliad y Swyddog felly yw gwrthod y cais. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Owen, yn siarad fel Aelod Lleol, fod derbynioldeb y datblygiad o dan ddarpariaethau polisi yn dibynnu ar sut mae'r polisïau hynny'n cael eu darllen a'u dehongli. ‘Roedd yr ymweliad â’r safle wedi dangos nad yw safle’r cais yn bell o glwstwr o dai, a bod yna nifer o fusnesau a mwynderau sy'n dibynnu ar dwristiaeth tua 1.5 milltir i ffwrdd yn Niwbwrch. Amlygodd y Cynghorydd Owen nad yw Polisi TWR 3 yn cau allan y math hwn o ddatblygiad, ac y gellid, yn ei farn ef, ystyried bod y datblygiad arfaethedig o ansawdd uchel yn unol â gofynion y CCA . Yn ogystal, pethau eraill sydd o blaid y datblygiad yw ei leoliad ar y prif lwybr bws a’i fod y tu allan i unrhyw Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ac nad yw'n effeithio'n andwyol ar y dirwedd o’i amgylch yn yr un modd â'r mast ffôn ymwthiol sydd y tu ôl i'r safle datblygu arfaethedig. Yng ngoleuni'r ystyriaethau hyn, ni allai weld sut y gellid gwrthod y cynnig a gofynnodd i'r Pwyllgor gefnogi'r cais.

 

Mynegodd y Cynghorwyr Eric Jones a Kenneth Hughes eu cefnogaeth i'r cais gan nodi pwysigrwydd twristiaeth i economi a ffyniant Ynys Môn a chan gyfeirio hefyd at botensial y cynnig i gyfrannu at y farchnad swyddi leol. Amlygodd y Cynghorydd Hughes fod Polisi TWR 3 yn caniatáu siales gwyliau yn y math hwn o leoliad ac mai mater o farn yw’r dadleuon o blaid ac yn erbyn y cynnig; gan hynny ‘roedd o’r farn bod yr achos o blaid y cynnig yn drech na’r achos yn ei erbyn. Lleoliad y cynnig yn y cefn gwlad yw'r hyn sy'n gwneud datblygiadau o'r fath yn ddeniadol i dwristiaid sy’n dymuno dianc rhag sŵn trefi a dinasoedd. O ystyried pa mor bwysig oedd twristiaeth i'r Ynys roedd yn teimlo y dylai’r Pwyllgor fanteisio ar bob cyfle o fewn y polisi, megis y datblygiad arfaethedig hwn, a hynny er mwyn cefnogi pobl Ynys Môn ac fel na thanseilir eu hymrwymiad i gyfrannu at ynys lewyrchus. Teimlai y byddai caniatáu'r cais yn rhesymol o dan ddarpariaethau Polisi TWR 3 ac ar y sail honno cynigiodd bod y cais yn cael ei gymeradwyo yn groes i argymhelliad y swyddog. Eiliodd y Cynghorydd Eric Jones y cynnig.      

 

Mynegodd y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes, wrth nodi ei gefnogaeth i'r cais, rai amheuon ynghylch y potensial i ddatblygu ymhellach yn y cae o flaen safle'r cais. Gofynnodd am eglurhad ynghylch a fyddai modd gosod amod yn gwahardd datblygiad pellach.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu nad oedd modd gosod cyfyngiad o'r fath ar y tir dan sylw; pe bai'r Pwyllgor yn derbyn bod egwyddor safle'r cais yn addas ar gyfer y math hwn o ddatblygiad o dan Bolisi TWR3, yna ni allai roi unrhyw sicrwydd na fyddai unrhyw fwriad i ymestyn yn y dyfodol. Eglurodd y Swyddog hefyd fod y cyfeiriad yn yr adroddiad at gynaliadwyedd lleoliad y cynnig yn cael ei wneud mewn perthynas â thrafnidiaeth a'r angen i leihau teithio. Cadarnhaodd ymhellach na fu unrhyw wrthwynebiadau i'r cais yn lleol.

 

Cytunodd y Cynghorydd John Griffith â safbwynt y Swyddog gan ddweud bod yr ymweliad â’r safle wedi dangos y byddai'r datblygiad arfaethedig wedi'i leoli'n ddwfn yn y cefn gwlad agored ac ar wahân i unrhyw gyfleusterau neu anheddau. Cyfeiriodd at adroddiad y Swyddog ac at y rhesymau a roddwyd dros wrthod y cais blaenorol a oedd yn ymwneud â lleoliad ynysig y cynnig, y ffaith nad ystyrir ei fod o ansawdd uchel ac y credir ei fod, oherwydd ei leoliad, yn tanseilio ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynaliadwyedd. ‘Roedd y Cynghorydd John Griffith yn pryderu y gallai cymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog osod cynsail a thrwy hynny agor y drws i geisiadau tebyg eraill ar yr Ynys. Felly cynigiodd, ac eiliwyd ef gan y Cynghorydd Richard Owain Jones, y dylid gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

Yn y bleidlais ddilynol ar y mater, cariwyd y cynnig i gymeradwyo'r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog ar y sail yr ystyriwyd ei fod yn dderbyniol o dan Bolisi TWR 3.

 

Penderfynwyd caniatáu'r cais yn groes i'r argymhelliad y Swyddog oherwydd ystyrir ei fod yn dderbyniol dan ddarpariaethau Polisi TWR3. (Ni phleidleisiodd y Cynghorydd Bryan Owen ar y mater) 

 

Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, gohiriwyd y cais yn awtomatig i'r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i Swyddogion baratoi adroddiad ar y rheswm a roddwyd dros  gymeradwyo'r cais.

 

Dogfennau ategol: