Eitem Rhaglen

Gweddill y Ceisiadau

12.1  OP/2019/14 – Gelli Aur, Brynsiencyn

 

12.2  DEM/2019/14 – Ysgol Gynradd Llaingoch, Ffordd Ynys Lawd, Caergybi

 

12.3  FPL/2019/207 – Cyn safle Tafarn y Marquis, Rhosybol

Cofnodion:

12.1 OP / 2019/14 – Cais amlinellol ar gyfer codi annedd gyda'r holl faterion wedi'u cadw’n ôl ar dir ger Gelli Aur, Brynsiencyn   

 

Adroddwyd ar y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y tir yn eiddo i'r Cyngor.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod safle’r cais yn ddarn o dir gwag rhwng 2 annedd ar stad Trefenai, Brynsiencyn. Mae amlinelliad o faint yr annedd o ran terfynau uchaf ac isaf wedi'i ddarparu fel rhan o'r cais ac os caiff y cais ei gymeradwyo, rhoddir amod ar y caniatâd (amod 08) i gyfyngu ar hyd a lled yr eiddo i'r meintiau a ddangosir ar y cynllun safle er mwyn  sicrhau bod y datblygiad yn cydymffurfio â’r canllawiau perthnasol ynghylch pellter o eiddo cyfagos. Dywedodd y Swyddog fod ymgyngoreion yn fodlon â'r cynnig ac wedi rhoi cymeradwyaeth amodol a chadarnhaodd hefyd fod yr Adain Ddraenio wedi cyflwyno sylwadau safonol ers hynny ynghylch y system ddraenio ar y safle. Er na dderbyniwyd unrhyw sylwadau hyd yma, nid yw'r cyfnod ar gyfer derbyn sylwadau yn dod i ben tan 6 Tachwedd; felly ar yr amod na dderbynnir unrhyw sylwadau sy'n codi materion newydd cyn i'r cyfnod cyhoeddusrwydd ddod i ben, yr argymhelliad yw cymeradwyo'r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams, ac eiliodd y Cynghorydd Eric Jones, y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog a chyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad a chyhyd na dderbynnir sylwadau sy'n codi materion newydd cyn i'r cyfnod cyhoeddusrwydd ddod i ben.

 

12.2 DEM / 2019/14 - Cais i benderfynu a oes angen caniatâd ymlaen llaw i ddymchwel yr ysgol bresennol yn Ysgol Gynradd Llaingoch, Ffordd Ynys Lawd, Caergybi.

 

Adroddwyd ar y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn ymwneud â thir sy'n eiddo i'r Cyngor.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu, o dan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu a Ganiateir yn Gyffredinol) 1995, nad oes angen caniatâd cynllunio i ddymchwel adeiladau ar yr amod bod y datblygwr yn gwneud cais yn gyntaf i'r Awdurdod Cynllunio Lleol i gadarnhau a oes angen ei gymeradwyaeth ymlaen llaw ar gyfer y dull dymchwel ac unrhyw waith adfer ar y safle. Yn unol â'r broses hon, rhoddwyd cyfnod o 28 diwrnod i'r Awdurdod Cynllunio Lleol ystyried y gwaith dymchwel arfaethedig a chadarnhaodd yn ystod y cyfnod hwnnw y byddai angen caniatâd ymlaen llaw er mwyn cael Cynllun Rheoli Amgylcheddol ar gyfer y Gwaith Dymchwel (CRhAGD) sy'n manylu ar fesurau rheoli i leihau effeithiau’r gwaith dymchwel gan gynnwys ar fwynderau preswyl, a Chynllun Rheoli Amgylcheddol ar gyfer Trafnidiaeth Gwaith Dymchwel (CRhATGD) sy'n rhoi manylion am y mesurau rheoli i leihau effeithiau trafnidiaeth wrth ddymchwel yr adeilad. Mae'r cynlluniau hyn bellach wedi dod i law ac yn cael sylw. Darparwyd asesiad ecolegol fel rhan o'r cais sy'n cynnwys datganiad dull a chamau lliniaru ar gyfer dymchwel yr adeilad ar sail ragofalus rhag ofn bod ystlumod ar y safle. Mae'r manylion a gyflwynwyd yn yr asesiad yn dderbyniol gan yr Awdurdod Cynllunio. Felly argymhelliad y Swyddog yw cymeradwyo ar yr amod bod y cynlluniau uchod yn foddhaol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Vaughan Hughes, ac eiliwyd ef gan y Cynghorydd Robin Williams, y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

Penderfynwyd bod yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn rhoi caniatâd ymlaen llaw yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog a'r amodau ynddo ac ar yr amod bod y  manylion yn y Cynllun Rheoli Amgylcheddol ar gyfer y Gwaith Dymchwel a'r Cynllun Rheoli Amgylcheddol ar gyfer Trafnidiaeth Gwaith Dymchwel yn dderbyniol gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol.

 

12.3 FPL/2019/207 - Cais llawn i godi 15 annedd gan gynnwys 8 annedd fforddiadwy ynghyd â chreu mynediad newydd a datblygiadau cysylltiedig ar hen safle Tafarn y Marquis, Rhosybol.

 

Adroddwyd ar y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd iddo gael ei gyflwyno ar ran yr Awdurdod Lleol.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu y byddai 8 uned (1 fforddiadwy) ar y rhan o'r safle sydd o fewn ffin ddatblygu Rhosybol ac y byddai 7 uned (pob un yn fforddiadwy) ar y rhan  o'r safle sydd y tu allan i'r ffin fel safle eithrio o dan Bolisi TAI 16. Mae'r Gwasanaeth Tai wedi cadarnhau bod angen tai o'r fath yn lleol ac fel sy'n ofynnol gan Bolisi TAI 16, mae'r ymgeisydd (yn ogystal â'r adran bolisi) wedi darparu manylion i ddangos nad oes modd darparu tai fforddiadwy o fewn amserlen resymol ar safle marchnad y tu mewn i'r ffin ddatblygu. Ni ddarparwyd unrhyw unedau tai fforddiadwy yn yr anheddiad ers 2011 ac nid oedd yr un yn y banc tir tai ym mis Ebrill, 2018. Ni neilltuwyd unrhyw safle ar gyfer tai yn Rhosybol a dim ond un eiddo yn yr ardal a oedd ar werth am bris y gellid ei ystyried yn fforddiadwy ar adeg yr arolwg felly mae’r egwyddor wedi ei sefydlu o ddatblygu’r safle eithrio i gwrdd â’r angen a nodwyd yn anheddiad Rhosybol. O ran cymeriad yr ardal, mae’r Swyddog o’r farn bod yr anheddau arfaethedig yn dderbyniol o ran eu heffaith ar y drefwedd a'u bod yn integreiddio'n briodol i'r ardal gyfagos. Ni chredir ‘chwaith y bydd y cynnig yn effeithio'n annerbyniol ar fwynderau unrhyw eiddo cyfagos, ac er budd preifatrwydd, cynigir ffens 1.8m o uchder ar hyd ffiniau gogleddol a deheuol y datblygiad. Ni chodwyd unrhyw wrthwynebiadau yn lleol i'r cynnig.

 

Adroddodd y Swyddog ymhellach, pe bai’r cais yn cael ei gymeradwyo, o dan Bolisi ISA 1  byddai Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes y Cyngor yn ceisio cyfraniad o £36,771 tuag at gyfleusterau addysgol yn Ysgol Rhosybol. Hefyd, mae Polisi ISA 5 yn ei gwneud yn ofynnol bod cynigion am dai newydd o 10 annedd neu fwy yn gwneud darpariaeth addas ar gyfer mannau agored os na all y man agored sydd yno ar hyn o bryd gwrdd ag anghenion y datblygiad tai arfaethedig. Yn yr achos hwn, fodd bynnag, oherwydd bod grŵp lleol wedi llwyddo i sicrhau cyllid i ddarparu man chwarae yn y pentref oherwydd nad oedd un yno o’r blaen, gwneir cais am gyfraniad ariannol oddeutu £1,500 i gynnal a chadw'r cyfleuster yn lle darpariaeth uniongyrchol ac fe ymgorfforir hynny o fewn cytundeb cyfreithiol.

 

Cafodd y Pwyllgor ddiweddariad gan y Swyddog ar newidiadau / diwygiadau i'r adroddiad fel a ganlyn -

 

           Mae Cynllun Rheoli Traffig Adeiladu bellach wedi dod i law sy'n dderbyniol gan yr  Adran Briffyrdd. Mae'r cynllun yn nodi'r oriau gweithredu sy'n golygu y gellir dileu amod (03).

           Bydd angen aileirio Amod (08) i nodi y dylid cyflawni'r cynllun yn unol â manylion y Cynllun Rheoli Traffig Adeiladu fel y cyflwynwyd ef.

           Mae'r cynlluniau'n dangos y bydd llwybr cyhoeddus i'r gogledd o'r safle datblygu yn cael ei wyro trwy'r safle. Bydd angen atodi nodyn gydag unrhyw ganiatâd i nodi bod gweithredu'r gwyriad yn destun proses gymeradwyo ar wahân.

           Ar y cychwyn ‘roedd yr Adran Briffyrdd yn erbyn y bwriad o gynnwys mynedfeydd i gerddwyr o flaen y safle ar y sail y gallai hynny arwain at barcio ar y stryd a thrwy hynny rwystro traffig yn gyffredinol. Mae'r cynnig bellach yn cynnwys lleoedd parcio i ymwelwyr ar y safle ac mae hynny felly’n datrys y gwrthwynebiad.

           Mae angen amod ychwanegol bod raid cwblhau rhaglen o waith archeolegol cyn i unrhyw waith datblygu ddigwydd.

 

Cadarnhaodd y Swyddog, yn amodol ar wneud y diwygiadau uchod, mai'r argymhelliad yw cymeradwyo'r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Richard Owain Jones, ac eiliwyd ef gan y Cynghorydd Bryan Owen, y dylid cymeradwyo'r cais.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog a chyda’r amodau ynddo a'r newidiadau a amlinellwyd yn y cyfarfod, ac ar yr amod hefyd y bydd cytundeb Adran 106 mewn perthynas â chyfraniad i isadeilededd, tai fforddiadwy a gofynion man agored.

Dogfennau ategol: