Eitem Rhaglen

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus - Trefniadau Llywodraethu

Cyflwyno adroddiad gan Reolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Rheolwr Rhaglen, Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn wedi ei sefydlu yn 2016 yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015. Nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Er mwyn pennu'r blaenoriaethau ar gyfer y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, cynhaliwyd asesiad llesiant ar draws meysydd llesiant yng Ngwynedd ac Ynys Môn a arweiniodd at gyfres o sesiynau ymgysylltu ac ymgynghori. Mae'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cytuno ar feysydd blaenoriaeth i gyflawni'r amcanion fel y nodwyd yn yr adroddiad. Mae'r Is-grwpiau canlynol hefyd wedi'u sefydlu o dan Amcan 1 - Cymunedau sy'n ffynnu ac sy'n llewyrchus yn y tymor hir:-

 

·           Is-grŵp Iaith Gymraeg - Mae'r is-grŵp wedi penderfynu canolbwyntio'n bennaf ar brosiect penodol o’r enw 'Arfer' sy'n edrych ar newidiadau ymddygiad yn y gweithle ac a all arwain at fwy o ddefnydd o'r Gymraeg gan yr unigolion hynny nad ydyn nhw'n teimlo'n hyderus i ddefnyddio’r Iaith. Disgwylir i’r prosiect ‘Arfer’ redeg am 12 mis yn y lle cyntaf;

·           Is-grŵp Newid Hinsawdd - Mae'r is-grŵp wedi canolbwyntio ar ddeall y data a'r dystiolaeth sydd ar gael gan sefydliadau sy’n aelodau o’r grŵp fel y gellir ei ddefnyddio i siapio rhagolygon a modelau newid hinsawdd. Bydd yr is-grŵp hwn hefyd yn canolbwyntio ar y cymunedau a’r asedau sydd fwyaf mewn perygl o lifogydd yng Ngwynedd ac Ynys Môn. Mae’r is-grŵp hefyd wedi defnyddio ‘Fairbourne’ fel achos o arfer da ac er mwyn dysgu gwersi ar agweddau fel ymgysylltu a gwell cydweithredu er lles cymunedau;

·           Cartrefi i bobl leol - Ar hyn o bryd mae Cynghorau Gwynedd ac Ynys Môn yn bwriadu datblygu tai arloesol. Mae'r is-grŵp yn cynnig dwyn ynghyd gynlluniau cyrff cyhoeddus a rhoi trefniadau ar waith i weithio gyda'i gilydd i ystyried nifer llai o fodelau arloesol. Penodwyd Swyddog Rheoli Prosiect, ar sail rhan-amser, i yrru'r gwaith yn ei flaen;

·           Tlodi - Mae tlodi yn parhau i fod yn flaenoriaeth i'r Bwrdd ond nid oes is-grŵp yn arwain ar y gwaith ar hyn o bryd. Cytunwyd bod cyfle trwy'r Bwrdd i fynd i'r afael â'r gwaith sydd eisoes wedi cychwyn yn y ddau awdurdod cyn ystyried opsiynau i'r Bwrdd weithio mewn ffordd fwy integredig a chydlynol.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor ymhellach fod Grŵp Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gyfer y Gorllewin wedi'i sefydlu o fewn Amcan 2. Mae'r is-grŵp yn cadw trosolwg ac yn sicrhau y cyflwynir y datblygiadau a'r newidiadau y mae gofyn eu gwneud. Mae’r is-grŵp hefyd yn darparu’r arweinyddiaeth a’r llywodraethiant ar gyfer yr is-grwpiau sy’n gysylltiedig â’r gwaith sef plant, oedolion, anabledd dysgu iechyd meddwl a thrawsnewid cymunedol. Nododd fod y Bwrdd wedi derbyn cyllid o  gyllideb drawsnewid ‘Cymru Iachach’. Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor hefyd at waith a wnaed, o ganlyniad i'r cyllid, mewn Ward yn Ysbyty Gwynedd i nodi'r problemau a'r heriau sy'n bodoli yn yr Ysbyty. Mae'r Bwrdd hefyd yn y broses o sefydlu Timau Integredig i weithio yng nghymunedau'r ddau awdurdod.

Adroddwyd bod Pwyllgorau Sgriwtini Gwynedd ac Ynys Môn yn craffu ar y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a phan sefydlwyd y Bwrdd cytunwyd y dylid ystyried sefydlu panel sgriwtini ar y cyd i wneud y gwaith. Mae Swyddogion Sgriwtini o'r ddau Awdurdod wedi gwerthuso'r ddau opsiwn, sef parhau â'r trefniadau sgriwtini  presennol neu sefydlu panel sgriwtini ar y cyd. Daethpwyd i'r casgliad bod y drefn gyfredol o adrodd i bwyllgorau sgriwtini’r ddau awdurdod yn drefniant gwell ac y dylid canolbwyntio ar alinio amserlenni a chysondeb y trefniadau sgriwtini ar draws y ddwy sir.

Gan gyfeirio at adnoddau'r Bwrdd, adroddwyd bod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cytuno i gydariannu adnodd ar gyfer cefnogi gwaith un o'r is-grwpiau a rhagwelir y bydd yr angen am adnoddau yn parhau wrth i'r is-grwpiau aeddfedu a datblygu.

Mae'r Bwrdd hefyd yn rheoli risgiau mewn perthynas â phrosiectau a gwaith yr is-grwpiau er mwyn sicrhau eu bod yn gweithredu yn unol â'r cynllun llesiant a'r amserlen arfaethedig. Bydd cofrestr risg ddrafft yn cael ei chyflwyno i'r Bwrdd i'w chymeradwyo ym mis Rhagfyr 2019.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod Swyddfa Archwilio Cymru wedi cynnal adolygiad o’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ar ran y 19 o Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru ym mis Hydref 2019 er mwyn edrych ar sut mae’r Byrddau’n gweithredu. Paratowyd adroddiad yn amlinellu crynodeb o'r prif argymhellion a chynigion ar sut gallai Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn ymateb iddynt, ac fe’i cyflwynir i'r Bwrdd yn ei gyfarfod nesaf ym mis Rhagfyr 2019. Bydd y papur yn cael ei rannu gyda Phwyllgorau Sgriwtini’r ddau Gyngor wedi hynny.

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a'r cwestiynau sgriwtini yn yr adroddiad a chododd y materion a ganlyn: -

 

·      Gofynnwyd am eglurhad ynghylch a oes gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus gylch gorchwyl y cytunwyd arno. Ymatebodd Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn fod gan y Bwrdd gylch gorchwyl a'i fod yn eitem sefydlog ar raglen y Bwrdd ac y bydd ar wefan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (www.llesiantwgwyneddamon.org);

·      Cyfeiriwyd at y ffaith bod gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych Banel Sgriwtini ar y cyd i graffu ar waith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Ymatebodd Arweinydd y Cyngor trwy ddweud y bu opsiwn, yn y cyfnod pan oedd y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn cael eu sefydlu ledled Cymru, i’r awdurdodau lleol sefydlu Byrddau ar y cyd neu i gydweithio; cytunodd Gwynedd ac Ynys Môn i gydweithio. Dywedodd Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn, er bod y model sgriwtini cyfredol yn gweithio'n dda ar hyn o bryd, fod y Bwrdd yn bwriadu  ailedrych ar y model o weithio yn y dyfodol;

·      Cyfeiriwyd nad oes is-grŵp ar hyn o bryd yn delio â thlodi. Awgrymodd yr aelodau fod angen rhoi mwy o ffocws i dlodi cyn i'r sefyllfa waethygu ac yn enwedig wrth i Gredyd Cynhwysol gael ei weithredu ar yr Ynys. Ymatebodd Rheolwr Rhaglen, Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn fod gan y Bwrdd Is-grŵp Tlodi ac nad oedd yr is-grŵp wedi cytuno ar ffrydiau gwaith a allai ychwanegu gwerth at y gwaith a wneir eisoes gan bartneriaid y Bwrdd mewn perthynas â thlodi. ‘Roedd risg ychwanegol hefyd yn yr ystyr nad oedd gan yr is-grŵp aelod o'r Bwrdd sy’n arwain y gwaith ar hyn o bryd. Dywedodd fod y Bwrdd wedi cytuno i gadw llygad ar y cynnydd a wnaed gan awdurdodau lleol o ran mynd i'r afael â thlodi ac wedi hynny bydd y Bwrdd yn cytuno ble i ganolbwyntio ei adnoddau i ychwanegu gwerth at y gwaith a wneir gan yr awdurdodau lleol;

·      Gofynnwyd a oes gwersi i'w dysgu o'r adolygiad a gynhaliwyd mewn perthynas â'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a gynhaliwyd yn ddiweddar. Ymatebodd Rheolwr Rhaglen Gwynedd ac Ynys Môn fod yr argymhellion yn adolygiad y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cael y sylw dyledus. Dywedodd mai un o’r argymhellion yw bod angen i Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn gyhoeddi papurau’r Bwrdd a diweddaru gwefan y Bwrdd a sicrhau bod trigolion y ddwy Sir yn cymryd rhan ac yn ymgysylltu â gwaith y Bwrdd. Dywedodd y Rheolwr Rhaglen ymhellach y bydd angen i'r Bwrdd adolygu a diweddaru ei asesiadau llesiant bob pum mlynedd;

·      Gofynnwyd am eglurhad ynghylch pa sicrwydd a roddir y bydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn cyflawni cerrig milltir allweddol mewn modd amserol. Ymatebodd Rheolwr Rhaglen Gwynedd ac Ynys Môn fod pob is-grŵp wedi nodi cerrig milltir allweddol yng ngwaith yr is-grwpiau a bod y  Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn bwriadu herio ffocws yr is-grwpiau. Bydd yr Is-grwpiau'n parhau i gyflwyno adroddiadau cynnydd i'r Bwrdd ac i sicrhau bod cynnydd yn cael ei wneud;

·      Cyfeiriwyd at y cynllun 'Cartrefi i Bobl Leol' a bod cynllun prosiect drafft wedi'i ddatblygu i'w gyhoeddi ym mis Gorffennaf 2020. Gofynnwyd a fyddai effaith ar y cynllun oherwydd bod gan yr Awdurdod hwn ei stoc dai ei hun a bod Cyngor Gwynedd wedi trosglwyddo ei stoc dai i Adra (Cartrefi Cymunedol Gwynedd). Gofynnwyd ymhellach a fyddai’r cynllun ‘Cartrefi i Bobl Leol’ yn cydymffurfio â pholisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Ymatebodd Arweinydd y Cyngor fod anghenion tai yn y ddau awdurdod yn debyg. Nododd fod cymdeithasau tai eraill yn aelodau o’r Is-grŵp ‘Cartrefi i Bobl Leol’; cynhelir trafodaethau hefyd gyda'r Bwrdd Iechyd ynghylch argaeledd tir ar gyfer cynlluniau tai o'r fath. Dywedodd y bydd yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd yn gweithio'n agos o ran y cynllun hwn. Dywedodd y Prif Weithredwr fod angen i’r cynllun ‘Cartrefi i Bobl Leol’ ychwanegu gwerth gan fod angen dybryd am gartrefi i bobl ifanc leol.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnydd gwaith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar y cyd.

 

GWEITHREDU: Fel y nodir uchod.

 

Dogfennau ategol: