Eitem Rhaglen

Cerdyn Sgorio Corfforaethol – Chwarter 2, 2019/20

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn, AD a Thrawsnewid.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaith – adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid yn ymgorffori’r Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 2, 2019/20.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Busnes Corfforaethol, bod Mesurau Atebolrwydd Cyhoeddus (MAC) penodol pellach mewn perthynas â Rheoli Gwastraff wedi cael eu cyflwyno gan Data Cymru ers i’r Pwyllgor Gwaith ystyried yr adroddiad ar gyfer Chwarter 1 y Cerdyn Sgorio ym mis Medi, 2019. Mae’r rhain yn cadarnhau mai’r Awdurdod hwn unwaith eto sydd â’r cyfraddau ailgylchu uchaf yng Nghymru sy’n ei roi ymysg y goreuon yn y byd o ran lefel y gwastraff domestig y mae’n ei ailgylchu. Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio at bwyntiau allweddol eraill yn adroddiad Chwarter 2 fel a ganlyn -

           Mae 85% o’r dangosyddion perfformiad yn parhau i berfformio uwchlaw’r targed neu o fewn goddefgarwch 5% o’u targedau sy’n cymharu’n ffafriol â’r sefyllfa yn Chwarter 2, 2018/19. Mae 5 o ddangosyddion yn tan-berfformio (yn ymddangos yn GOCH neu’n AMBR ar y Cerdyn Sgorio) yn y Gwasanaethau Tai, Plant a Chynllunio – yn yr adroddiad, nodir y rhesymau pam fod agweddau o’r gwasanaethau hyn yn tan-berfformio ac amlinellir y mesurau gwella sy’n cael eu gweithredu er mwyn codi perfformiad yn y chwarter nesaf.

           Mae lefelau presenoldeb yn y gwaith ar eu huchaf ers Chwarter 2 2017/18 ac yn ymddangos yn WYRDD gyda pherfformiad o 3.96 o ddiwrnodau wedi eu colli fesul gweithiwr ALlC yn erbyn targed o 4.48 o ddiwrnodau wedi eu colli fesul gweithiwr ALlC.

           Mae’r strategaeth ddigidol wedi parhau i gael ei gwireddu yn ystod Chwarter 2 gyda nifer y defnyddwyr cofrestredig wedi mwy na dyblu o gymharu â’r 5,000 a welwyd ar ddiwedd Chwarter 2, 2018/19.

           O ran rheolaeth ariannol, yn seiliedig ar wybodaeth perfformiad Chwarter 2, rhagamcenir y bydd gorwariant o £1.935m ar gyllideb refeniw’r Cyngor ar gyfer y flwyddyn a ddaw i ben ym mis Mawrth 2020 a hynny’n bennaf oherwydd y gorwariant yn y Gwasanaethau Oedolion o ganlyniad i’r cynnydd yn y galw am y gwasanaeth sydd yn heriol ac yn anodd i’w ragweld. Ceir gwybodaeth fanylach am hyn yn yr adroddiad ar fonitro’r gyllideb.

           Ar y cyfan, mae’r adroddiad yn galonogol iawn ac yn adlewyrchu ymrwymiad y Cyngor i wella ei wasanaethau’n barhaus ac i gyflawni ei amcanion.

 

Roedd y Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a Pherfformiad yn cytuno â dadansoddiad yr Aelod Portffolio a dywedodd fod y Cyngor, oherwydd ei ymagwedd tuag at reoli perfformiad, yn gallu dangos i ddinasyddion Ynys Môn ei fod yn awdurdod sy’n cyflawni ac y ceir tystiolaeth benodol yn hyn o beth oherwydd mai’r awdurdod hwn sy’n perfformio orau yng Nghymru ac ym Mhrydain am ailgylchu.

 

Soniodd y Cynghorydd Dylan Rees, Is-gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol am y drafodaeth a gafwyd yn y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar 21 Tachwedd, 2019 ar Ch2 y Cerdyn Sgorio gan ddweud fod y Pwyllgor yn croesawu canlyniadau’r Mesurau Atebolrwydd Cyhoeddus gan Data Cymru mewn perthynas â Rheoli Gwastraff yn nodi eu bod, unwaith eto, yn rhoi Ynys Môn ar frig y gynghrair ailgylchu yng Nghymru ac ymhellach draw; roedd y Pwyllgor hefyd yn croesawu’r ffigyrau mewn perthynas â phresenoldeb yn y gwaith ar gyfer Chwarter 2; roedd y Pwyllgor wedi gofyn am ddadansoddiad pellach ynglŷn â’r agweddau sy’n tan-berfformio yn y gwasanaethau tai, plant a chynllunio a chafodd sicrwydd fod y materion hyn yn cael sylw. Roedd y Pwyllgor wedi nodi ymhellach fod cyllidebau’r Gwasanaethau Oedolion dan bwysau sylweddol oherwydd y galw cynyddol ac roedd yn fodlon y bydd y Panel Sgriwtini yn parhau i graffu perfformiad ariannol yn y maes hwn yn fanwl.   Wedi ystyried yr holl wybodaeth a gyflwynwyd, roedd y Pwyllgor wedi penderfynu argymell i’r Pwyllgor Gwaith ei fod yn derbyn y mesurau lliniaru fel y cânt eu hamlinellu yn yr adroddiad mewn perthynas ag agweddau perfformiad  yn y Gwasanaethau Tai, Plant a Chynllunio a’r craffu parhaus o berfformiad ariannol gyda phwyslais ar, a chefnogaeth ar gyfer y gwasanaethau hynny sydd dan bwysau.

 

Wrth nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd a’r darlun positif o berfformiad y mae’n ei adlewyrchu, mynegodd y Pwyllgor Gwaith ei werthfawrogiad o waith a pherfformiad dydd i ddydd staff y Cyngor a oedd yn sylfaen i’r canlyniadau calonogol yn Chwarter 2. Roedd y Pwyllgor Gwaith hefyd yn ddiolchgar i drigolion Ynys Môn am chwarae eu rhan i helpu’r Awdurdod gynnal ei statws fel y perfformiwr gorau o ran ailgylchu.

 

Penderfynwyd 

 

           Derbyn y Cerdyn Sgorio am Chwarter 2 2019/20 gan nodi’r meysydd  y mae’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn eu rheoli er mwyn sicrhau gwelliannau i’r dyfodol fel y’u crynhoir yn yr adroddiad, a

           Chefnogi’r mesurau lliniaru fel y’u hamlinellir yn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: