Eitem Rhaglen

Sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer 2020/21

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. 

 

Cofnodion:

 Cyflwynwyd, i’r Pwllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 mewn perthynas â chyfrifo sylfaen y dreth ar gyfer 2020/21.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod cyfanswm y sylfaen ar gyfer 2020/21, at ddiben pennu’r dreth, yn 31,532,53. Mae hyn yn cymharu â 31,571.46 am 2019/20 ac yn ostyngiad o 0.12%. Mae hyn o ganlyniad i nifer o ffactorau gan gynnwys y canlynol

 

           Disgowntiau ychwanegol ar gyfer pobl sengl a disgowntiau ac eithriadau ychwanegol ar gyfer amhariad iechyd meddwl difrifol. Yn achos yr olaf, os yw’r eithriad ar gyfer amhariad iechyd meddwl difrifol yn berthnasol i aelwyd lle mae cwpl yn byw, yna dim ond un person fydd yn gorfod talu Treth Gyngor ac o dan yr amgylchiadau hyn, byddant yn derbyn y disgownt person sengl.

           Gostyngiad o thua 130 yn nifer y tai gwag hirdymor lle’r oedd y premiwm yn berthnasol, sydd yn dangos bod y premiwm yn effeithiol o ran cyrraedd ei nod o ddod â thai gwag yn ôl i ddefnydd. Mae tua 40 eiddo gwag hirdymor newydd ond nid yw’r premiwm yn berthnasol iddynt ar hyn o bryd.

           Trosglwyddo eiddo domestig/ail gartrefi o sylfaen y Dreth Gyngor i drethi busnes os gellir dangos bod yr eiddo’n cael eu gosod yn fasnachol am 70 niwrnod mewn cyfnod o 12 mis. Er nad yw hon yn broblem neilltuol yn Ynys Môn o gymharu â rhai awdurdodau eraill yng Ngogledd Cymru, teimlir y dylai Llywodraeth Cymru ystyried cymryd camau i gau’r bwlch cyfreithiol sy’n caniatáu i hyn ddigwydd.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 bod ffigyrau ar gyfer sylfaen y Dreth Gyngor yn 2020/21 wedi cael eu hanfon at Lywodraeth Cymru a byddant yn eu defnyddio i gyfrifo’r Grant Cynnal Refeniw ar gyfer 2020/21 (ac eithrio addasiadau ar gyfer premiymau ac, ar gyfer 2020/21 ymlaen, y gostyngiadau a roddir gan rai awdurdodau - ond nid Ynys Môn - mewn perthynas ag eiddo dosbarthiadau A, B a C). Bydd yn cael ei adlewyrchu yn y setliad dros dro cychwynnol gan olygu, yn ôl y tebyg, y bydd llai o amrywiaeth rhwng y setliad cychwynnol a’r setliad terfynol.

 

Nododd y Pwyllgor Gwaith y wybodaeth a gofynnodd, yn yr achosion hynny lle mae eiddo wedi cael eu trosglwyddo i drethi busnes, a oes trefniadau i fonitro a gwirio eu bod yn parhau i gwrdd â’r meini prawf cymhwyso ar gyfer trethi busnes.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 bod hyn yn fater i Asiantaeth y Swyddfa Brisio; yn y gorffennol gofynnwyd a oes gan yr Asiantaeth ddigon o gapasiti i wneud gwaith monitro parhaus i sicrhau cydymffurfiaeth. Mae Cyngor Gwynedd wedi arwain o ran cyflwyno achos i Lywodraeth Cymru dros gynyddu adnoddau Asiantaeth y Swyddfa Brisio er mwyn caniatáu iddi ymgymryd â’r swyddogaeth hon; mae Ynys Môn mewn cysylltiad â Chyngor Gwynedd ynghylch datblygiad y trafodaethau hynny.

 

Penderfynwyd

 

           Nodi cyfrifiad sylfaen y Dreth Gyngor gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 fydd yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cyfrifo’r Grant Cynnal Refeniw i Gyngor Sir Ynys Môn am y flwyddyn 2020/21, sef 30,927.17 (Rhan E6 o Atodiad A i’r adroddiad).

           Cymeradwyo’r cyfrifiad at ddiben pennu Sylfaen y Dreth Gyngor gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 am y cyfan o’r ardal ac am rannau ohoni dros y flwyddyn 2020/21 (Rhan E5 o Atodiad A i’r adroddiad)

           Yn unol â Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Gyngor (Cymru) 1995  (SI19956/2561) fel y cawsant eu diwygio gan SI1999/2935 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Gyngor) a’r Dreth Gyngor (Dosbarthiadau Rhagnodedig o Anheddau) (Cymru) (Diwygiad) 2004 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Gyngor (Cymru) (Diwygiad) 2016, y cyfansymiau mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi eu cyfrif fel Sylfaen y Dreth am 2020/21 fydd 31,532.53, ac fel a nodir yn nhabl 3 yr adroddiad am y rhannau hynny o’r ardal a restrir ynddo.

 

Dogfennau ategol: