Eitem Rhaglen

Datganiad o'r Strategaeth Rheoli Trysorlys 2020/21

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Adran 151 yn cynnwys Datganiad Strategaeth Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2020/21 i’r Pwyllgor ei ystyried. Roedd yr adroddiad yn nodi dull arfaethedig y Cyngor o fuddsoddi a gweithgareddau benthyca yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf yng ngoleuni'r amodau economaidd presennol a'r rhai a ragwelwyd.

 

Wrth gadarnhau nad oes unrhyw ddiwygiadau arfaethedig i egwyddorion a pholisïau craidd Datganiad 2019/20, nododd y Rheolwr Cyllid fod prif bwyntiau Strategaeth Rheoli’r Trysorlys 2020/21 fel a ganlyn-

 

           Y cyd-destun ehangach i Strategaeth Rheoli'r Trysorlys. Ni ellir cyflawni'r strategaeth ar ei phen ei hun, a rhaid ystyried y sefyllfa economaidd gan fod hyn yn cael effaith ar gyfraddau buddsoddi, cost benthyca a chryfder ariannol y gwrth-bartïon. Rhoddir crynodeb llawn o'r rhagolygon economaidd yn Atodiad 3 i'r Datganiad a chrynhoir y prif bwyntiau yn adran 3.1. Mae'r ansicrwydd ynghylch Brexit a'i effaith ar economi'r DU ac ardal yr Ewro yn debygol o barhau ac mae disgwyl i adenillion buddsoddi aros yn isel yn ystod 2020/21 heb fawr o gynnydd yn y ddwy flynedd ganlynol.

           Sefyllfa fenthyca allanol bresennol y Cyngor fel y nodir yn Nhabl 2 o'r adroddiad sy'n rhoi crynodeb o fenthyciadau cyfredol dyledus y Cyngor.

           Rhaglen gyfalaf y Cyngor ar gyfer 2020/21 i 2022/23 fel y nodir yn Nhabl 3 o'r adroddiad a sut y caiff hyn ei ariannu. Ffactor pwysig i'w ystyried yw effaith benthyca ar Ofyniad Cyllid Cyfalaf y Cyngor sy'n cyfrifo angen sylfaenol y Cyngor i fenthyca er mwyn cyllido gwariant cyfalaf. Bydd gwariant cyfalaf yn cynyddu'r CFR ond dim ond ar sail y swm nad yw'n cael ei ariannu o grantiau cyfalaf, derbyniadau, cronfeydd wrth gefn neu refeniw. Bydd y CFR hefyd yn lleihau'n flynyddol yn ôl swm yr Isafswm Darpariaeth Refeniw (MRP) sy'n dâl a wneir i'r cyfrif refeniw bob blwyddyn er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn gallu ad-dalu dyled fel y mae'n dod yn ddyledus. Mae'r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor gymeradwyo Datganiad MRP cyn pob blwyddyn ariannol – mae'r polisi ar gyfer 2020/21 wedi ei nodi yn Atodiad 6 ac nid yw wedi newid ers 2019/20 yn dilyn adolygiad cynhwysfawr yn 2018. Dangosir effaith cynlluniau gwariant cyfalaf y Cyngor a'r tâl MRP ar y CFR a lefel y benthyca allanol a mewnol yn Nhabl 4 o’r adroddiad.

             Mae strategaeth fenthyca'r Cyngor a'r ffactorau sy'n effeithio arni wedi’u nodi yn adran 6 o'r Datganiad. Mae'r Cyngor yn parhau i gynnal sefyllfa o danfenthyca sy'n golygu nad yw CFR y Cyngor wedi'i ariannu'n llawn gyda dyledion benthyciadau fel arian i gefnogi cronfeydd wrth gefn y Cyngor. Defnyddiwyd balansau a llif arian fel mesur dros dro. Er bod hwn yn ddull darbodus gan fod adenillion buddsoddi yn isel a bod risg gwrth-bartion yn dal i fod yn fater i'w ystyried, mae'r gallu i fenthyca'n allanol i ad-dalu'r cronfeydd a'r balansau os oes angen, yn bwysig. Mae Tabl 4 o'r Datganiad yn dangos y gall fod angen benthyg £12.777m yn allanol os bydd angen ar frys, sef swm cronfeydd wrth gefn y Cyngor a balansau a ddefnyddiwyd yn y gorffennol i ariannu'r rhaglen gyfalaf yn hytrach na benthyca.

           Ni fydd y Cyngor yn benthyca cyn bod angen na mwy na sydd ei angen, yn unig er mwyn elwa ar fuddsoddiad y symiau ychwanegol a fenthycir. Wrth benderfynu a fydd yn benthyca cyn bod angen, rhoddir ystyriaeth i'r ffactorau a amlinellir ym mharagraff 6.4.2.

             Bydd y Cyngor yn cymryd agwedd hyblyg wrth ddewis rhwng benthyca mewnol ac allanol fel y nodir yn adran 6.3 o'r adroddiad. Mae'r Cyngor wedi bod yn gwneud defnydd o'i gronfeydd arian parod ei hun i ariannu gwariant cyfalaf er mwyn lleihau taliadau llog drwy ohirio'r angen i fenthyca'n allanol. Fodd bynnag, mae'r gallu i fenthyca'n allanol i ad-dalu'r cronfeydd wrth gefn a'r balansau os oes angen yn rhan bwysig o'r strategaeth. Mae'r cyfleoedd ar gyfer ail-amserlennu dyled neu ad-dalu'n gynnar yn debygol o barhau'n gyfyngedig ond byddant yn cael eu hystyried os ydynt yn bodloni'r meini prawf a nodir yn adran 6.5 o'r adroddiad.

           O ran blaenoriaethau buddsoddi, mae'r Cyngor yn parhau i roi blaenoriaeth i ddiogelu cyfalaf yn gyntaf, hylifedd yn ail ac elw ar fuddsoddiad yn drydydd. Mae polisi buddsoddi'r Cyngor yn ystyried canllawiau Llywodraeth Cymru a CIPFA sy'n rhoi blaenoriaeth uchel i reoli risg. Mae'r Cyngor wedi mabwysiadu dull darbodus o reoli risg ac yn ymdrin â risgiau drwy'r modd a nodir yn adran 7.2.3 yr adroddiad.

           Dangosyddion Darbodus a'r Trysorlys fel yr amlinellir yn Atodiad 11 o'r Datganiad; mae'r rhain yn cynnwys fforddiadwyedd a ffactorau darbodus ac yn nodi'r terfynau ar gyfer gwariant cyfalaf, dyledion allanol a strwythur y ddyled. Disgrifir diben pob dangosydd yn Atodiad 12.

 

Codwyd y materion canlynol gan y Pwyllgor wrth ystyried yr adroddiad–

 

           Cyfanswm benthyciadau’r Cyngor yw £126m a’r rhesymau dros y lefel hon o ddyled. Dywedwyd wrth y Pwyllgor gan Gyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) /Adran 151 fod llawer o'r ddyled yn hanesyddol ers sefydlu’r Cyngor yn 1996 gan etifeddu holl fenthyciadau dyledus ei ragflaenydd, y Cyngor Bwrdeistref yn ogystal â chyfran o'r benthyciadau gan yr hen Gyngor Sir Gwynedd. O ran benthyciadau'r Cyngor presennol, mae ei fenthyciadau mwyaf wedi bod yn £21m er mwyn dod allan o Gymhorthdal y Cyfrif Refeniw Tai; yn fwy diweddar mae'r Cyngor wedi cychwyn ar raglen moderneiddio ysgolion sydd hyd yma wedi golygu adeiladu tair ysgol gynradd newydd a ariennir drwy gyfuniad o grant Llywodraeth Cymru, a benthyca â chymorth a heb gymorth. Er bod y Cyngor wedi bod yn benthyca'n fewnol drwy ddefnyddio'r arian a ddelir ganddo i ariannu gwariant cyfalaf, gwnaed penderfyniad y llynedd i allanoli rhywfaint o'r benthyciad hwn er mwyn adennill arian parod a wariwyd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn pellach am briodoldeb benthyca hirdymor, cadarnhaodd y Swyddog fod y taliadau llog yn tueddu i fod yn uwch ar gyfer benthyca hirdymor oherwydd y cynnydd mewn risg sy'n gysylltiedig â nhw; ond ar y llaw arall, gan fod yn rhaid i'r Cyngor dalu taliadau llog o'i gyllideb refeniw, po hiraf yw cyfnod y benthyciad, y lleiaf yw'r tâl isafswm darpariaeth refeniw (MRP) sef y swm y mae'n rhaid i'r Cyngor ei neilltuo i ad-dalu prif swm ei ddyled allanol - gyda benthyciad tymor hir, mae'r tâl MRP yn cael ei ledaenu dros gyfnod hirach ac felly mae'n sylweddol is.

 

           P’un ai a yw’r Cyngor yn ceisio symud oddi wrth y PWLB fel ei ffynhonnell fenthyca o ganlyniad i gynnydd o 100 bps yng nghyfraddau PWLB ym mis Tachwedd, 2019. Dywedwyd wrth y Pwyllgor gan y Cyfarwyddwr Swyddogaethau (Adnoddau) / Adran 151, hyd yn oed gyda'r cynnydd, fod benthyciadau PWLB ar y cyfan yn parhau i fod yn rhatach na ffynonellau masnachol. Bydd yr Awdurdod yn trafod y mater gyda'i Gynghorwyr Rheoli Trysorlys ac os yw ei ofynion benthyca yn cynyddu, efallai y bydd yn rhaid iddo ystyried cymryd camau eraill i fenthyca gyda'r PWLB.

 

Mewn ymateb i sylwadau am bwysigrwydd gwireddu asedau nad oes eu hangen bellach er mwyn cael incwm, cadarnhaodd y Swyddog fod gan yr Awdurdod Bolisi Rheoli Asedau a'i fod yn ceisio cael gwared ar asedau sydd dros ben drwy sicrhau ei fod yn gwerthu ar yr adeg iawn er mwyn cael y pris gorau am yr ased y mae'n ei werthu.

 

Penderfynwyd nodi Datganiad Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2020/21 a'i gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith heb unrhyw sylw pellach.

 

NI CHYNIGIWYD UNRHYW GAMAU YCHWANEGOL

Dogfennau ategol: