Eitem Rhaglen

Gosod Cyllideb 2020/21 - Cynigion Cychwynnol ar gyfer y Gyllideb Refeniw

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd i'w ystyried gan y Pwyllgor, adroddiad y Rheolwr Sgriwtini yn amlinellu'r cyd-destun i’r broses ar gyfer gosod cyllideb 2020/21. ‘Roedd Atodiad 1 yn cynnwys adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 ynghylch y cynigion cychwynnol ar gyfer Cyllideb Refeniw 2020/21 a'r ffactorau sy'n cael effaith arni.

 

Eglurodd y Cadeirydd fod y broses o osod cyllideb ar gyfer 2020/21 wedi ei gohirio oherwydd yr Etholiad Cyffredinol ym mis Rhagfyr, 2019 ac o ganlyniad, y cyhoeddiad hwyrach nag arfer am y setliad dros dro i lywodraeth leol.

 

Crynhowyd y sefyllfa gan yr Aelod Portffolio Cyllid trwy ddweud bod y sefyllfa gyllidebol ar gyfer 2020/21 yn well na'r disgwyl oherwydd y setliad dros dro uwch a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 16 Rhagfyr 2019, a bod hynny i'w groesawu, ond er gwaethaf y setliad uwch, mae'r amgylchiadau ariannol yn gyffredinol yn parhau i fod yn heriol . Mae cronfeydd wrth gefn y Cyngor wedi gostwng ar ôl cael eu defnyddio i gwrdd â phwysau costau mewn meysydd lle mae’r galw’n parhau i gynyddu, gan gynnwys Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol i Oedolion ac Addysg, sy’n awgrymu y gallai bod angen adolygu a / neu ailalinio cyllidebau sylfaenol y gwasanaethau hynny. Mae Llywodraeth Cymru yn rhagdybio cynnydd o 7.1% yn lefelau’r Dreth Gyngor, ac er bod y setliad yn well, nid yw ond cymaint â’r cymorth ariannol a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru yn ôl yn 2012/13 mewn termau real. Dywedodd yr Aelod Portffolio ei fod felly’n cynghori cymryd agwedd ddarbodus o ran gwneud argymhellion mewn perthynas â Chyllideb Refeniw 2020/21.

 

Aeth y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 â’r Pwyllgor trwy bob un o'r adrannau yn yr adroddiad yn Atodiad 1 ar y gyllideb refeniw arfaethedig ar gyfer 2020 / 21. Amlygwyd ac ymhelaethwyd ar y prif bwyntiau canlynol –

 

           Y prif ragdybiaethau yn y Cynllun Ariannol Tymor Canol a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Gwaith ym mis Medi, 2019. Mae'r rhain wedi'u cymryd i ystyriaeth wrth gyfrifo'r gyllideb ddisymud ar gyfer 2020/21.

           Cyfrifo cyllideb ddisymud ar gyfer 2020/21 fel man cychwyn ar gyfer y broses gosod cyllideb. Mae'r gyllideb ddisymud yn gyllideb sy'n darparu adnoddau i ddarparu   gwasanaethau ar lefelau 2019/20 ond sydd wedi'i diweddaru i adlewyrchu unrhyw newidiadau y gwyddys amdanynt sydd y tu hwnt i reolaeth y gwasanaethau (newidiadau yr ymrwymwyd iddynt) ac i adlewyrchu'r costau yn 2020/21.

           Y newidiadau yr ymrwymwyd iddynt a'u heffaith o ran addasiadau a wnaed i'r gyllideb fel y nodir ym mharagraffau 3.1 i 3.10 o'r adroddiad.

           Newidiadau a wnaed i gyllidebau wrth gefn (a adeiladwyd i mewn i’r gyllideb i gwrdd â chostau tymor penodol, risgiau posib neu ddigwyddiadau annisgwyl) fel y dangosir yn Nhabl 1 Atodiad 1. Mae'r sefyllfa ariannol well yn 2020/21 yn caniatáu i'r Cyngor ostwng y Gronfa Wrth Gefn ar gyfer Cyflogau a Graddio gan na ddisgwylir y bydd yn rhaid gwneud gostyngiadau sylweddol i niferoedd staff yn 2020/21.

           Costau staffio a'u heffeithiau ar y gyllideb. Mae ansicrwydd ynghylch y dyfarniad cyflog o fis Ebrill, 2020 i staff nad ydynt yn athrawon ac i staff addysgu o fis Medi, 2020 yn risg i'r gyllideb. Mae cyllideb y Cyngor ar gyfer staff nad ydynt yn athrawon oddeutu £45m y flwyddyn gan gynnwys costau Yswiriant Gwladol a chyfraniadau pensiwn - mae pob cynnydd o 1% yn y dyfarniad cyflog felly'n cyfateb i £ 450k o gostau ychwanegol.

           Pwysau cyllidebol a gwasanaethau a arweinir gan y galw. Mae galw cynyddol am Ofal Cymdeithasol i Oedolion yn golygu bod disgwyl i'r gwasanaeth wario £1.21m yn fwy na’r gyllideb yn 2019/20. At ddibenion cyllideb 2020/21 mae £980k wedi'i gynnwys yng nghyllideb y gwasanaeth fel cyllid ychwanegol, ond efallai na fydd yn ddigon i gwrdd â’r galw cynyddol am wasanaethau, yn enwedig yng ngoleuni'r ansicrwydd ynghylch cyllid grant yn y dyfodol, yn benodol y Grant Gweithlu Gofal Cymdeithasol a Phwysau Cynaliadwyedd (wedi'i gadarnhau ar gyfer 2020/21) a'r Grant Pwysau’r Gaeaf (nad yw wedi ei gadarnhau ar gyfer 2020/21).

           Y Gyllideb a Ddirprwywyd i Ysgolion. Fel rhan o gyllideb 2019/20 cynlluniwyd gostyngiad o £800k i'r gyllideb hon ond gohiriwyd gwneud y gostyngiad hwnnw am flwyddyn a phenderfynwyd ei ariannu o'r grant Tâl Athrawon ychwanegol a thrwy ddefnyddio 50% o'r Grant Pensiynau Athrawon. Gan fod y grantiau hyn bellach wedi'u trosglwyddo i'r setliad, mae’n agored i’r Pwyllgor Gwaith ddewis wrthdroi’r penderfyniad i leihau’r gyllideb.

           Y Gyllideb Ddisymud. Yn seiliedig ar yr holl addasiadau a’r holl dybiaethau a wnaed, y gyllideb ddisymud ar gyfer 2020/21 yw £142.203m, sef cynnydd o £6.993m ar gyllideb derfynol 2019/20. Cyfanswm dros dro’r Cyllid Allanol Cyfun ar gyfer 2020/21 yw £101.005m, sy’n gadael £41.198m i'w ariannu o'r Dreth Gyngor. Cyllideb Treth Gyngor 2019/20 ar ôl ei haddasu ar gyfer y newid yn y sylfaen dreth yw £39.370m. Mae hyn yn golygu bod diffyg o £1.828m cyn cynnydd yn y Dreth Gyngor.

           Effaith lefelau gwahanol godiadau yn y Dreth Gyngor ar y tâl Band D ac ar gwrdd â’r   diffyg fel y dangosir yn Nhabl 4 yr adroddiad. Byddai cynnydd o 4.64% yn y Dreth Gyngor yn cwrdd â'r gofyniad cyllideb ar gyfer 2020/21.

           Y cynigion ar gyfer arbedion a gyflwynwyd gan y gwasanaethau ac y gellir eu gweithredu yn 2020/21 heb gael effaith na ellir ei rheoli ar wasanaethau, sef cyfanswm o £343k (a restrir yn Atodiad 4 i'r adroddiad). Er bod y setliad gwell na’r disgwyl wedi lleihau’r angen i weithredu’r arbedion hynny, mae gweithredu rhywfaint o’r arbedion neu’r cyfan ohonynt yn darparu rhywfaint o hyblygrwydd o ran yr opsiynau a fyddai ar gael pe baent yn cael eu gweithredu e.e. cynyddu cyllidebau gwasanaethau sydd dan bwysau; cynyddu lefel y balansau cyffredinol; cyfrannu tuag at ariannu gwariant cyfalaf 2020/21; lleihau'r cynnydd yn y Dreth Gyngor.

           Yr ansicrwydd sy’n parhau ynghylch y sefyllfa ariannol yn 2021/22 a thu hwnt. Mae'r adroddiad yn nodi bod dychwelyd i’r cyfnod llymder a'r angen i wneud arbedion pellach yn parhau i fod yn bosibilrwydd.  Byddai gwneud yr arbedion a defnyddio'r cyllid i gynyddu lefel y balansau cyffredinol i ariannu gwariant cyfalaf yn 2020/21 yn gadael y Cyngor mewn sefyllfa ariannol well yn 2021/22 ac ni fyddai'n cynyddu'r gyllideb refeniw yn barhaol nac yn lleihau'r cyllid sydd ar gael.

 

Adroddodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, Cadeirydd y Panel Sgriwtini Cyllid o gyfarfod y Panel ar 9 Ionawr, 2020 lle rhoddwyd ystyriaeth fanwl i’r cynigion cychwynnol ar gyfer cyllideb refeniw 2020/21. Roedd y Panel wedi -

 

           Nodi nad yw’r setliad gwell ond yn mynd â'r Cyngor yn ôl i lefelau cyllido 2012/13 mewn gwirionedd;

           Cydnabod y risgiau yng nghyllideb 2020/2021 yn enwedig mewn perthynas â'r galw ar wasanaethau – rhywbeth sy’n anodd ei ragweld neu ei feintioli.

           Cydnabod yr angen i gynyddu a chynnal cronfeydd wrth gefn y Cyngor ar lefel briodol.

           Argymell na ddylid gweithredu'r gostyngiad arfaethedig o £800k yn y gyllideb a ddirprwywyd i’r ysgolion ac a ohiriwyd o 2019/20.

           Argymell na ddylid cynyddu’r Dreth Gyngor fwy na 5%.

           Argymell y dylid gweithredu'r arbedion o £343k yn llawn ar wahân i'r cynnig i gynyddu  ffioedd parcio, sef mewn ardaloedd trefol yn benodol, am y rheswm na ddylai ffioedd parcio rwystro pobl rhag ymweld â chanol trefi. (Eglurodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 mai cyfanswm yr arbedion posib y gellir eu gwneud trwy gynyddu ffioedd meysydd parcio yw £83k, sef £ 57k o gynyddu'r ffi mewn safleoedd trefol a £26k o gynyddu'r ffi mewn mannau eraill)

           Cydnabod yr ansicrwydd ynghylch cyllid y blynyddoedd i ddod a’r angen i broses gosod cyllideb 2020/21 ymgorffori elfen o hyblygrwydd felly.

 

Wrth ystyried yr adroddiad a'r cynigion ynddo yn ogystal â'r atborth gan y Panel Sgriwtini Cyllid, ‘roedd y Pwyllgor  wedi -

 

           Nodi, er bod y setliad dros dro yn well nag yn y blynyddoedd blaenorol ac yn well na'r disgwyl, mewn termau real, nid yw'r Cyngor ond ychydig yn well ei fyd yn ariannol  nag yr oedd yn 2012/13.

           Trafod y gostyngiad arfaethedig yn y gyllideb ddinesig gan nodi bod y cyllid hwn ymhlith pethau eraill, yn cefnogi gwaith a gwelededd Cadeirydd y Cyngor yn y gymuned. Eglurodd y Cynghorydd Dafydd Roberts y bydd oddeutu £6k yn dal i fod ar gael i’r gyllideb ddinesig a’i fod yn teimlo ei bod yn anoddach cyfiawnhau elfennau o’r gwasanaeth hwn o’i gymharu â rhai gwasanaethau eraill a hefyd wrth feincnodi yn erbyn gweithgareddau dinesig Cynghorau eraill.

           Cydnabod, os yw'r Cyngor am gyflawni un o'i amcanion strategol allweddol o godi safonau yn y maes addysg, fod rhaid rhoi sefydlogrwydd i ysgolion er mwyn caniatáu iddynt fynd i'r afael â heriau fel cyflwyno'r Cwricwlwm newydd er enghraifft. Gallai gweithredu gostyngiad o £800k yn y gyllideb a ddirprwyir i ysgolion eu hansefydlogi  ac felly danseilio'r gwaith o wella safonau.

           Nodi bod angen deall ac ystyried yn well sut mae penderfyniad y Cyngor i gynyddu ffioedd a thaliadau ar draws gwasanaethau yn effeithio ar y cyhoedd yng nghyd-destun gosod cyllideb refeniw 2020/21 a phenderfynu ar y cynnydd yn y Dreth Gyngor.

           Wrth gydnabod bod yr ansicrwydd mewn cysylltiad â chyllidebau a arweinir gan y galw - yn benodol yn y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol i Oedolion ac Addysg - yn risg i'r gyllideb, cwestiynodd a yw cyfyngu'r cynnydd yn y Dreth Gyngor i ddim mwy na 5% (fel yr argymhellwyd gan y Panel Sgriwtini Cyllid) yn ddigon i gwrdd â gofynion. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 y dylai'r dyraniad ychwanegol o £980k ar gyfer y gyllideb Gofal Cymdeithasol i Oedolion ar gyfer 2020/21, ynghyd â'r cynnydd a gyhoeddwyd yn y Grant Gweithlu Gofal Cymdeithasol a Phwysau Cynaliadwyedd fod yn ddigon i gwrdd â’r gorwariant cyfredol yn y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol i Oedolion. Fodd bynnag, mae'n ansicr sut y bydd y galw am wasanaethau yn newid yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod a beth fydd yr effaith o ganlyniad ar gyllideb y gwasanaeth. Eglurodd y Swyddog ymhellach y byddai cynnydd o 4.64% yn y Dreth Gyngor yn cydbwyso'r gyllideb; byddai cynnydd o 4.9% yn cynhyrchu £ 101k ychwanegol a fyddai, ynghyd â'r arbedion o £343k, yn dod i £ 444k a gellid cadw’r arian wrth gefn i ymateb i unrhyw gynnydd yn y galw am wasanaethau yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod.

           Nodi nad oes unrhyw ffigyrau cyllidol dangosol ar gael y tu hwnt i 2020/21 ond y gall y sefyllfa mewn perthynas â chyllideb Llywodraeth Cymru ddod yn gliriach pan gyhoeddir cyllideb Llywodraeth y DU ym mis Mawrth, 2020. Mae angen i’r gyllideb ar gyfer 2020/21 gymryd yr ansicrwydd hwn i ystyriaeth ac felly ymgorffori elfen o hyblygrwydd i allu ymateb i beth bynnag a ddaw yn sgil y setliadau ar gyfer y ddwy flynedd ariannol ganlynol.

           Gofyn am wybodaeth am y sefyllfa mewn perthynas â chronfeydd wrth gefn y Cyngor hefyd fel rhan o'r adroddiad ar osod y gyllideb yn y dyfodol.  Eglurodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth Gorfforaethol (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 y bydd adroddiad ar gronfeydd wrth gefn a balansau'r Cyngor a'r defnydd ohonynt yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith ar yr un pryd â'r cynigion terfynol ar gyfer y gyllideb ar ddechrau mis Mawrth, 2020.

           Cydnabod a diolch i'r Panel Sgriwtini Cyllid am ei waith manwl ar gynigion cyllideb refeniw cychwynnol 2020/21.

 

Ar ôl ystyried y wybodaeth a gyflwynwyd yn yr adroddiad ac ar lafar yn y cyfarfod, a chan ystyried y risgiau o amgylch cyllideb refeniw 2020/21 mewn perthynas â chostau'r gweithlu a’r galw am wasanaethau, yn ogystal â'r ansicrwydd ynghylch cyllido i’r dyfodol, penderfynodd y Pwyllgor argymell i'r Pwyllgor Gwaith -

 

           Na ddylai'r cynnydd yn y Dreth Gyngor ar gyfer 2020/21 fod yn fwy na 5%

           Bod yr arbedion o £343k a nodwyd gan wasanaethau fel yr amlinellwyd yn Atodiad 4 yr adroddiad yn cael eu gweithredu'n llawn ar wahân i gynyddu ffioedd meysydd parcio mewn ardaloedd trefol sy’n fater y dylid ei ystyried ymhellach.

           Na ddylid gweithredu'r gostyngiad o £800k a ohiriwyd o 2019/20 i’r gyllideb a ddirprwyir i ysgolion

 

GWEITHREDU YCHWANEGOL – Bod gwybodaeth am gronfeydd wrth gefn a balansau'r Cyngor yn cael ei chynnwys yn yr adroddiadau ar osod y gyllideb yn y dyfodol.

Dogfennau ategol: