Eitem Rhaglen

Ceisiadau yn Codi

7.1  - OP/2019/5 – Huws Gray, Stryd y Bont, Llangefni

7.2   - FPL/2019/226 – Fronwen, Newborugh

Cofnodion:

7.1 OP/2019/5 - Cais amlinellol ar gyfer dymchwel yr adeiladau presennol ynghyd â chodi 52 annedd fforddiadwy gyda datblygiadau cysylltiedig ynghyd â manylion llawn am y fynedfa i gerbydau ar dir ger Huws Gray, Stryd y Bont, Llangefni

 

Roedd y Cadeirydd, y Cynghorydd Nicola Roberts, wedi datgan diddordeb personol a rhagfarnus yn y cais ond siaradodd fel Aelod Lleol. Gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais a ddilynodd. Cadeiriwyd y cyfarfod gan yr Is-gadeirydd yn ystod yr eitem hon.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod safle’r cais wedi’i leoli ar dir ym mherchnogaeth y Cyngor. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Hydref 2019, penderfynwyd cynnal ymweliad safle ac yn dilyn hynny ymwelwyd â’r safle ar 16 Hydref 2019.

 

Dywedodd y Cynghorydd Nicola Roberts, Aelod Lleol, bod y tri aelod lleol wedi cynnal trafodaethau gyda phreswylwyr lleol a’r datblygwr ynghylch y cais hwn. Dywedodd fod cytundeb ynghylch yr angen am dai fforddiadwy yn yr ardal a gwnaethpwyd cytundeb llafar (gyda chadarnhad ysgrifenedig i ddilyn) y bydd y fynedfa i’r safle o Stryd y Bont ac na fydd mynedfa i’r safle drwy Stad Tan Capel. Bydd mynediad i gefn yr anheddau yn Stad Tan Capel yn cael ei gadw a chafwyd sicrwydd y bydd y cais cynllunio llawn, pan y’i cyflwynir i’r Awdurdod Cynllunio, yn cynnwys tai ger yr anheddau yn Stad Tan Capel ac nid fflatiau.

 

Siaradwr Cyhoeddus

 

Dywedodd Mr Jamie Brandshaw (o blaid y cais) fod y cais am 52 o anheddau fforddiadwy gyda 36 o dai a 16 o fflatiau ar dir segur o fewn ffin ddatblygu Llangefni a’i fod mewn lleoliad hynod o hygyrch. Nododd, er bod y Swyddogion Cynllunio’n cefnogi’r cais, mynegwyd pryderon yn lleol ynghylch diogelwch y briffordd. Fodd bynnag, roedd o’r farn bod mynediad digonol i’r safle o’r briffordd a chynigir gwneud gwelliannau i’r rhwydwaith priffyrdd lleol (cyflwynwyd tystiolaeth fanwl fel rhan o’r cais), ac mae’r Awdurdod Priffyrdd yn fodlon gyda’r rhwydwaith priffyrdd a gynigir. Codwyd pryderon hefyd ynghylch materion edrych drosodd a allai gael effaith ar fwynderau preswylwyr lleol, ond mae’n amlwg o’r cynlluniau a gyflwynwyd bod digon o bellter i liniaru’r effaith andwyol ar breifatrwydd ac ni fyddai’r gweithgarwch ar y safle yn cael effaith andwyol ar eiddo cyfagos. Cynhaliwyd Astudiaeth Ecoleg fanwl ar y safle a ddaeth i’r casgliad na fyddai unrhyw effaith niweidiol ar rywogaethau a warchodir ac y gellir rhoi sylw i unrhyw effaith ar rywogaethau eraill drwy gryfhau mesurau lliniaru. Dywedodd y byddai datblygu’r safle yn gwella’r tir segur; bydd cynllun plannu coed wedi’i ddylunio’n ofalus yn gwella’r safle. Mae’r Swyddog Ecoleg a CNC yn fodlon â’r cynllun. Cyfeiriodd at yr effaith yn ystod cyfnod adeiladu’r datblygiad a nododd fod adroddiad y Swyddog yn cynnwys amod ynghylch yr amseroedd pryd y caniateir gwneud gwaith adeiladu a defnyddio peiriannau ar y safle. Ychwanegodd Mr Bradshaw fod y datblygwr wedi ceisio ymgysylltu gyda thrigolion lleol cyn ac ar ôl cyflwyno’r cais ac ystyrir bod hynny’n effeithiol ac yn deg. Mae’r datblygiad ar gyfer tai fforddiadwy ac mae prinder ohonynt yn yr ardal.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Roberts nad oedd y cefnogwr wedi rhoi sylw i bryderon preswylwyr y dylai mynediad i’r safle fod o Stryd y Bont yn unig ac y dylid lleoli’r tai yn hytrach na’r fflatiau ger y tai yn stad Tan Capel.

 

Cadarnhaodd Mr Bradshaw bod y fynedfa yn rhan o’r cais ac y bydd y fynedfa i’r safle o Stryd y Bont fel y cafodd ei gyflwyno a’i gymeradwyo pan gyflwynwyd y cais amlinellol i’r Pwyllgor. Nid oedd darparu mynediad i gefn y tai yn stad Tan Capel yn broblem i’r datblygwr. Dywedodd hefyd nad oedd unrhyw gynlluniau i symud y fflatiau a’u lleoli ger y tai yn Tan Capel.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio’r cais i’r Pwyllgor a dywedodd fod rhan o’r safle wedi cael ei nodi yn y CDLl ar y Cyd fel safle datblygu dan bolisi T18 – tir a ddynodwyd fel safle tai yn y Cynllun. Nodwyd hefyd bod rhan o’r safle arfaethedig wedi’i leoli mewn ardal C11, sef Prif Safle Cyflogaeth i’w Warchod ar Ynys Môn. Cyfeiriodd at bryderon lleol mewn perthynas â’r cais a nodwyd yn adroddiad y Swyddog i’r Pwyllgor hwn. Mae’r broses ymgynghori wedi nodi’r angen am gyfraniad ariannol tuag at ddarpariaeth addysg o £24,514 ynghyd â chyfraniad o £25k tuag at groesfan i gerddwyr ger Hafan Cefni. Mae llecyn agored (darpariaeth chwarae) yn cael ei ddarparu ar y safle hefyd er mwyn cydymffurfio â Pholisi ISA 5. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio, er bod hwn yn gais amlinellol, bod modd dylunio’r cynlluniau arfaethedig i ddiogelu mwynderau preswylwyr lleol. Mae’r ymgyngoreion statudol yn fodlon gyda’r cynnig. Mae’r Awdurdod Priffyrdd wedi ystyried y rhwydwaith priffyrdd yn yr ardal oherwydd gwelededd o’r safle ac mae’n fodlon gyda’r cynnig. Mae manylion y system ddraenio gynaliadwy yn dderbyniol, mewn egwyddor, felly bydd modd defnyddio amod 24 yn adroddiad y Swyddog. Ychwanegodd bod asesiad sŵn wedi’i gynnal o dir cyfagos ac awgrymwyd mesurau lliniaru i warchod mwynderau eiddo cyfagos. Mae Gwasanaeth Cynllunio Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd wedi asesu’r cais hefyd ac nid ydynt yn gwrthwynebu’r datblygiad.

 

Hefyd, cyfeiriodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio at y rhan o’r datblygiad sydd wedi’i leoli o fewn y Safle Cyflogaeth i’w Warchod C11, ond mae Polisi CYF5 yn caniatáu defnydd arall o safleoedd cyflogaeth dynodedig lle mae’r meini prawf yn caniatáu hynny a’i bod yn annhebygol y byddai gweddill y safle’n cael ei ddefnyddio at ddibenion cyflogaeth. O ganlyniad, derbynnir bod y safle yn dderbyniol ar gyfer datblygu tai. Ychwanegodd, fel newid i adroddiad y Swyddog, bod yr asiant wedi cynnig newid Amod 19 i sicrhau fod y lleoedd  parcio yn cael eu cwblhau cyn i unrhyw un symud i fyw i’r unedau unigol perthnasol. Cyfeiriwyd at newidiadau i Amod 11 sy’n cyfeirio at gynigion tirlunio – cynigir bod rhai o’r coed yn cael eu cadw ar y safle a bydd yr amod yn cael ei newid i gydymffurfio â’r adroddiad coed a gyflwynwyd. Cyfeiriwyd at y llwybr troed y tu ôl i’r tai yn Tan Capel, fydd yn cael ei gadw gan nad oes mynediad arall i’r safle.

 

Gan fod y tir datblygu ym mherchnogaeth y Cyngor Sir, esboniodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio nad oes modd i’r Cyngor Sir wneud cytundeb cyfreithiol A106 gydag ef ei hun. Bydd y Cyngor angen ffurf arall o gytundeb cyfreithiol pan fydd y tir yn cael ei werthu i’r datblygwr. Mae’r datblygwr wedi cynnig cytundeb rhwymedigaeth unochrog drafft a bydd trafodaethau’n cael eu cynnal i ymrwymo i gwrdd â’r gofynion mewn perthynas â chyfraniadau ariannol fydd yn cael ei wneud ar ddyddiad prynu’r tir. Awgrymwyd dirprwyo i Swyddogion i roi’r hawl iddynt ryddhau’r caniatâd unwaith bod mecanwaith (cytundeb cyfreithiol/taliadau/cyfuniad o’r ddau) mewn lle i sicrhau y bydd modd cael y taliadau sy’n ofynnol dan ymrwymiad cynllunio cyn rhyddhau’r caniatâd cynllunio.

 

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Owen bod problemau hanesyddol ar y safle hwn gyda draeniau wedi blocio; gofynnodd a oedd y datblygwr yn gallu rhoi sicrwydd na fydd problemau draenio yn broblem yn yr ardal hon yn y dyfodol. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod Dŵr Cymru wedi argymell amodau i sicrhau mai dŵr budr yn unig fydd yn cael ei ollwng i’r system garthffosiaeth gyhoeddus. Paratowyd Strategaeth Draenio fel rhan o’r cais ac mae amod 24 yn adroddiad y Swyddog yn nodi na fydd unrhyw waith datblygu’n cael ei wneud hyd oni fydd manylion am weithredu, cynnal a chadw a rheoli system ddraenio gynaliadwy wedi cael eu cyflwyno i’r awdurdod cynllunio lleol a’u cymeradwyo ganddo ar bapur.

 

Cynigiodd y Cynghorydd K P Hughes bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliodd y Cynghorydd Dafydd Roberts y cynnig.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac i ddirprwyo i Swyddogion yr hawl i ryddhau’r penderfyniad unwaith bod mecanwaith (cytundeb cyfreithiol/taliadau/cyfuniad o’r ddau) mewn lle i sicrhau y bydd modd cael y taliadau sy’n ofynnol dan ymrwymiad cynllunio cyn rhyddhau’r caniatâd cynllunio.

 

7.2 FPL/2019/226 - Cais llawn ar gyfer codi 3 chaban gwyliau, creu trac mynediad newydd, diwygio mynedfa bresennol ynghyd â gosod gwaith paced ar gyfer trin carthffosiaeth ar dir yn Fronwen, Niwbwrch.

 

Roedd y Cynghorydd Bryan Owen wedi datgan diddordeb personol a diddordeb sy’n rhagfarnu yn y cais ond siaradodd fel Aelod Lleol.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am fod Aelod Lleol wedi ei alw i mewn. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Hydref 2019, penderfynwyd cynnal ymweliad safle ac yn dilyn hynny, cynhaliwyd ymweliad safle ar 16 Hydref 2019. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Tachwedd 2019 penderfynodd y Pwyllgor gymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog, gan yr ystyriwyd bod y datblygiad yn un o ansawdd uchel a’i fod wedi’i leoli mewn lleoliad cynaliadwy.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio’r cais i’r Pwyllgor a chyfeiriodd at adroddiad y Swyddog sy’n datgan nad yw’r datblygiad arfaethedig wedi’i leoli’n dda nac yn ddatblygiad o ansawdd uchel mewn termau cynllunio. Mae’r safle wedi’i osod ar ffurf linellol ond yn fwy elfennol, mae mewn lleoliad anghysbell yng nghefn gwlad nad yw’n cydymffurfio â’r diffiniad o ddatblygiad o ansawdd uchel o dan ddarpariaethau Polisi TWR3. Byddai unrhyw un a fyddai’n byw yn y datblygiad arfaethedig yn ddibynnol ar gerbydau modur preifat ac nid yw hynny’n cydymffurfio â darpariaethau’r polisi cynllunio. Gwrthodwyd cais blaenorol i osod tri chaban gwyliau ac i greu trac mynediad newydd yn y lleoliad hwn ym mis Mehefin 2019 ar y sail nad oedd y datblygiad yn cydymffurfio â Pholisi TWR3 a Pholisi PS4 oherwydd yr ystyriwyd nad oedd y lleoliad yn gynaliadwy gan ei fod mewn lleoliad anghysbell yn y cefn gwlad agored a hefyd oherwydd yr ystyriwyd nad oedd yn ddatblygiad wedi’i leoli’n dda nac o ansawdd uchel. Yn ychwanegol, ystyriwyd nad oedd llain welededd y fynedfa arfaethedig yn y cais gwreiddiol yn ddigonol ac nad oedd yn cydymffurfio â gofynion y polisi. Mae’r rhesymau dros wrthod y cais blaenorol yn dal i sefyll a’r argymhelliad oedd gwrthod y cais.

 

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Owen, a oedd yn siarad fel Aelod Lleol, bod a yw’r datblygiad yn dderbyniol o dan ddarpariaethau’r polisi ai peidio yn ddibynnol ar sut y dehonglir y polisïau hynny. Dywedodd bod y safle ar y prif lwybr bws o Bentre Berw i Niwbwrch a bod llwybr beicio o fewn milltir i’r safle. Ychwanegodd y Cynghorydd Owen y bydd y datblygiad hwn yn hyrwyddo twristiaeth yn yr ardal gan nad oes cyfleusterau o’r fath ar gael yn lleol.

 

Dywedodd y Cynghorydd K P Hughes ei fod yn ystyried bod y cais yn rhesymol, fel y datganwyd yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn, a chynigiodd bod y penderfyniad blaenorol i ganiatáu’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog yn cael ei ail-gadarnhau. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Dafydd Roberts.

 

Cynigiodd y Cynghorydd R O Jones fod y cais yn cael ei wrthod yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Eiliodd y Cynghorydd Nicola Roberts y cynnig i wrthod.

 

Yn dilyn y bleidlais:-

 

PENDERFYNWYD ailgadarnhau’r penderfyniad i gymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog.

 

 

Dogfennau ategol: