Eitem Rhaglen

Rhaglen Moderneiddio Ysgolion y Cyngor Sir - Ardal Llangefni : Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Dysgu, Sgiliau a Phobl Ifanc mewn perthynas ag Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor ei ystyried, adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc ynghylch y rhaglen moderneiddio ysgolion mewn perthynas ag ardal Llangefni. Roedd yr adroddiad yn gofyn am sylwadau’r Pwyllgor ar y cynnig i adleoli ac ehangu Ysgol Corn Hir ar safle newydd i gymryd disgyblion Ysgol Bodffordd, cau Ysgol Bodffordd ac adolygu dalgylchoedd Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir, er mwyn i’r Pwyllgor Gwaith eu hystyried cyn penderfynu pa un ai i dderbyn y cynnig ai peidio ac awdurdodi’r ymgynghoriad statudol angenrheidiol yn ei gylch.

 

Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio Addysg, Llyfrgelloedd, Diwylliant ac Ieuenctid at gais y Pwyllgor Gwaith ym mis Mai 2019 i Swyddogion edrych o’r newydd ar y materion amrywiol mewn perthynas â moderneiddio ysgolion a’r gofynion dan y Côd Trefniadaeth Ysgolion 2018 yn ardal Llangefni ac i ddod ag adroddiad priodol yn ôl i’r Pwyllgor Gwaith maes o law. Mae’r adroddiad uchod yn ymateb i’r cais hwnnw ac os yw’r Pwyllgor Gwaith yn penderfynu ymgynghori ar y cynnig yn yr adroddiad, ar ôl ystyried barn Sgriwtini, bydd proses ymgynghori statudol yn dilyn pan roddir cyfle i’r holl randdeiliaid ymateb i’r cynnig a chyflwyno sylwadau arno. Yna, byddai’r ymatebion i’r ymgynghoriad cyhoeddus yn cael eu hystyried wrth wneud penderfyniad terfynol ynghylch a ddylid symud ymlaen â’r cynnig ai peidio a chyhoeddi hysbysiadau statudol.

 

Arweiniodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc y Pwyllgor drwy’r papur cynnig ac amlinellodd y gyrwyr allweddol ar gyfer newid a nodir yn Strategaeth Moderneiddio Ysgolion y Cyngor, sy’n cael eu crynhoi yn adran 3 y papur cynnig. Wrth gymhwyso’r gyrwyr allweddol hyn i’r ddarpariaeth addysg yn ardal Llangefni, deuir i’r casgliad y byddai’n rhaid i unrhyw broses foderneiddio ysgolion roi sylw i set o feini prawf sy’n cynnwys safonau addysg; arweinyddiaeth a rheolaeth; adeilad ysgol; lleoedd ysgol digonol; darpariaeth addysg Gymraeg a defnydd cymunedol (adran 4). Rhoddwyd ystyriaeth i un ar ddeg opsiwn / opsiwn amgen rhesymol ar gyfer ardal Llangefni sydd yn cynnwys Ysgol Gyfun Llangefni, Ysgol Bodffordd, Ysgol Corn Hir, Ysgol Y Graig ac Ysgol Talwrn – ac fe’u nodir yn adran 5 y papur cynnig. Daeth dadansoddiad manwl o bob un o’r opsiynau amgen rhesymol i’r casgliad nad oes yr un datrysiad hyfyw ar gyfer ardal Llangefni gyfan. O ganlyniad, ac oherwydd eu hagosrwydd, canolbwyntiwyd ar ganfod datrysiad posib ar wahân ar gyfer dalgylchoedd Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir a dalgylchoedd Ysgol Y Graig ac Ysgol Talwrn (rhoddir sylw manwl i hyn dan eitem 3) a fyddai’n bodloni’r gyrwyr, ac yn rhoi ystyriaeth hefyd i’r heriau sy’n wynebu’r ysgolion hynny.

 

Rhoddodd y Swyddog grynodeb o’r broses ers mis Mehefin 2019, a oedd yn cynnwys ystyried opsiynau amgen ar gyfer ardal Llangefni gyfan. Oherwydd i’r broses hon ddod i’r casgliad nad oes datrysiad hyfyw ar gyfer ardal Llangefni gyfan, yn dilyn hynny canolbwyntiwyd ar nodi datrysiadau yn seiliedig ar ddalgylchoedd Ysgol Bodffordd/Ysgol Corn Hir ac Ysgol Y Graig/Ysgol Talwrn, gan roi ystyriaeth i’r prif yrwyr a’r heriau y mae’r ysgolion hynny’n eu hwynebu. Ystyriaeth allweddol oedd y rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig a nodir yng Nghôd Trefniadaeth Ysgolion 2018 ac, i sicrhau felly bod cymaint â phosib o opsiynau rhesymol yn cael eu harchwilio ar gyfer Ysgol Bodffordd ac Ysgol Talwrn, er nad yw’r olaf wedi’i dynodi’n ysgol wledig dan y Côd. Rhoddwyd ystyriaeth i dair ar ddeg o opsiynau amgen rhesymol (gan gynnwys y cynnig) ar gyfer Ysgol Bodffordd a deg opsiwn amgen rhesymol (gan gynnwys y cynnig) ar gyfer Ysgol Talwrn. Nid yw’r mwyafrif o’r opsiynau hyn yn bodloni’r gyrwyr ar gyfer ardal Llangefni ac nid ydynt yn ymarferol mewn perthynas â’r ddarpariaeth addysg yn y tymor hir yn yr ysgolion hyn. Cafwyd cyngor cyfreithiol ynghylch y broses a disgwyliadau’r Côd Trefniadaeth Ysgolion 2018.

 

Cyfeiriodd y Swyddog at yr heriau allweddol y mae Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir yn eu hwynebu (adran 6 y papur cynnig). Cafodd tair ar ddeg o opsiynau amgen rhesymol (gan gynnwys y cynnig) ar gyfer Ysgol Bodffordd ac un ar ddeg opsiwn amgen (gan gynnwys y cynnig) ar gyfer Ysgol Corn Hir eu hystyried a’u dadansoddi yn erbyn y gyrwyr allweddol ar gyfer moderneiddio ysgolion a’r meini prawf ar gyfer darpariaeth addysg yn ardal Llangefni (adran 7 a 9 y papur cynnig). Yn ogystal, cafodd pob opsiwn amgen rhesymol ar gyfer Ysgol Bodffordd eu hasesu mewn perthynas â’r effaith debygol ar safonau, y gymuned a threfniadau teithio disgyblion (adran 8). Dangosodd yr asesiad bod y cynnig a gyflwynwyd yn cael effaith gadarnhaol ar safonau, dim effaith ar y gymuned ac effaith negyddol ar drefniadau teithio rhai disgyblion. Arweiniodd at y casgliad hefyd y byddai angen i’r Cyngor liniaru effaith y posibilrwydd o gau Ysgol Bodffordd drwy weithio gyda’r gymuned i sicrhau bod y ganolfan gymuned bresennol yn parhau i fod yn hyfyw yn y tymor hir a thrwy ddarparu gwasanaeth bws o’r pentref i safle Ysgol Corn Hir newydd i ddisgyblion cymwys, yn unol â pholisi cludiant ysgol yr Awdurdod. Ar sail y dadansoddiad, mae’r Cyngor yn cyflwyno’r cynnig gerbron fel y datrysiad gorau sy’n mynd i’r afael â’r prif yrwyr ar gyfer darpariaeth addysg yn ardal Llangefni a’r heriau allweddol y mae Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir yn eu hwynebu. Yn ymarferol, byddai’n golygu adleoli Ysgol Corn Hir i safle newydd a byddai’r ysgol yn parhau i weithredu yn y dyfodol; byddai corff llywodraethu Ysgol Corn Hir yn llywodraethu’r ysgol newydd. Byddai’r Awdurdod yn ceisio sicrhau bod cynrychiolwyr o Ysgol Bodffordd ar y corff llywodraethu a byddai Ysgol Bodffordd yn cau.

 

Rhoddwyd cyfle i Mr Gareth Parry a Llinos Roberts gyflwyno sylwadau ar y papur cynnig o safbwynt Ysgol Bodffordd. Cyfeiriodd Mr Gareth Parry, a oedd yn siarad ar ran Cadeirydd Corff Llywodraethu Ysgol Bodffordd, a Llinos Roberts, a oedd yn siarad fel rhiant i blant yn yr ysgol, at bryderon mewn perthynas â’r –

 

           Ansicrwydd parhaus ynghylch dyfodol Ysgol Bodffordd o ganlyniad i ymgynghoriadau niferus am ei dyfodol a’r bygythiad parhaus o gau’r ysgol sydd yn peri pryder i staff a rhieni fel ei gilydd.

           Cysylltiadau cymunedol cryf Ysgol Bodffordd a’r effaith negyddol y byddai ei chau yn ei gael ar y gymuned a’r pentref.

           Effaith ar yr iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymreig lleol.

           Dibyniaeth y papur cynnig ar ddata ac adroddiadau sydd wedi dyddio wrth gloriannu safonau yn Ysgol Bodffordd.

           Triniaeth anghyfartal wrth ymdrin â’r ddwy ysgol a diffyg tegwch yn y gystadleuaeth am swyddi. Mae’r cynnig yn golygu y byddai Ysgol Corn Hir yn cael ei hadleoli i’r ysgol newydd yn ei chrynswth ond bydd Ysgol Bodffordd yn cau. Byddai’n decach cau’r ddwy ysgol ac adeiladu ysgol newydd a rhoi enw newydd arni.

 

Pwysleisiodd Mr Dafydd Jones, Cadeirydd Corff Llywodraethu Ysgol Corn Hir sefyllfa ddybryd Ysgol Corn Hir mewn perthynas â chyflwr yr ysgol, bod mwy o ddisgyblion nag o leoedd yn yr ysgol, diffyg lle ac effeithiau posib y diffygion hyn ar iechyd a diogelwch a safonau’r ysgol. Mae’n ysgol Gymraeg sy’n gwasanaethu cymuned Gymraeg ac yn perfformio i lefel uchel ac yn gosod disgwyliadau uchel iddi ei hun. Fodd bynnag, mae ei sefyllfa bresennol yn rhwystr o ran datblygu’r ysgol a gwireddu’r Cwricwlwm newydd. Mae’r ysgol yn haeddu gwell a gallai gyflawni cymaint mwy petai’n meddu ar yr adnoddau priodol. Mae Ysgol Corn Hir yn llwyr gefnogi’r cynnig ac o’r farn bod angen iddo gael ei weithredu heb ragor o oedi.

 

Esboniwyd bod y Côd Trefniadaeth Ysgolion yn ei gwneud yn ofynnol i roi ystyriaeth i arolygiadau Estyn ac y cynhaliwyd yr arolygiad mwyaf diweddar yn achos Ysgol Bodffordd yn 2015. Fodd bynnag, mae’r papur cynnig yn ceisio adlewyrchu’r gwaith a wnaed yn yr ysgol ers hynny ac mae’n cydnabod bod categori Ysgol Bodffordd wedi gwella, o Ambr (ysgol sydd angen cefnogaeth a monitro sylweddol) i Felyn (ysgol sydd angen cefnogaeth a monitro ysgafn).

 

Ystyriodd y Pwyllgor y papur cynnig a’r safbwyntiau a fynegwyd gan gynrychiolwyr y ddwy ysgol, a chodwyd y materion canlynol yn ystod y drafodaeth –

 

           Amser cynnal y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol. Dywedodd y Cynghorydd Nicola Roberts bod nifer o rieni wedi dweud wrthi eu bod yn dymuno bod yn bresennol yn y cyfarfod ond nad oedd modd iddynt wneud hynny am fod y cyfarfod yn cael ei gynnal yn ystod oriau gwaith.  Dywedodd y Cadeirydd ei fod bob amser yn ceisio sicrhau bod y rhai sydd eisiau mynychu cyfarfodydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn gallu gwneud hynny, yn arbennig o ystyried y diddordeb mewn materion moderneiddio ysgolion, a phe byddai’n gwybod am y pryderon hyn o flaen llaw byddai wedi ceisio rhoi sylw iddynt – y rheswm am gychwyn y cyfarfod mor gynnar yn y bore oedd natur y busnes i’w ystyried, gyda dwy eitem sylweddol o flaen y Pwyllgor. Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol, yn ddibynnol ar y materion i’w trafod, y byddai modd newid amser y Pwyllgor yn unol â hynny. Gofynnodd y Cynghorydd Nicola Roberts am gadarnhad ysgrifenedig ynghylch hynny.

           A fyddai modd i’r cyngor cyfreithiol a dderbyniodd yr Awdurdod mewn perthynas â'r papur cynnig gael ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor. Roedd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol yn cynghori yn erbyn hynny gan y byddai’n golygu colli’r fraint oedd ynghlwm â’r cyngor.

           Bod y Pwyllgor yn deall yn llwyr ac yn derbyn difrifoldeb sefyllfa Ysgol Corn Hir. Nid oedd yr Aelodau’n cwestiynu’r rhan o’r cynnig sy’n argymell adeiladu ysgol newydd ar gyfer Ysgol Corn Hir, ond gofynnodd rhai Aelodau a oedd rhaid aberthu Ysgol Bodffordd er mwyn darparu ysgol newydd ar gyfer Ysgol Corn Hir, a gofynnwyd ai dyma’r llwybr cywir i’w ddilyn.

           A yw’r cynnig yn deg ac yn darparu ateb cytbwys. Cynigiodd y Cynghorydd Dylan Rees (sydd hefyd yn Aelod Lleol) y byddai cau’r ddwy ysgol ac agor ysgol newydd yn ateb tecach – mae’r cynnig yn ei ffurf bresennol yn golygu, drwy ddarparu ysgol newydd, y byddai Ysgol Bodffordd yn dod yn rhan o Ysgol Corn Hir ac, o’r herwydd, nid yw’r ddwy ysgol yn gyfartal ac nid oes cyfle cyfartal i staff Ysgol Bodffordd.

           Sicrwydd ynghylch hirhoedledd yr ysgol newydd arfaethedig ac y byddai’n parhau i fod yn addas o gofio y byddai’r Awdurdod yn talu amdani dros gyfnod o 50 mlynedd ac o ystyried hefyd nad yw adeilad presennol Ysgol Corn Hir yn addas ar ôl cyfnod o 25 mlynedd yn unig.

           Bod angen sicrhau buddion gorau holl blant yr ardal. Dywedodd y Cynghorydd Nicola Roberts (sydd hefyd yn Aelod Lleol) mai’r ffordd orau o gyflawni hyn oedd drwy gael ysgol newydd sy’n diwallu anghenion pawb ac yn darparu adeilad ysgol a safonau addysg o’r ansawdd gorau. Er bod Ysgol Corn Hir wedi’i lleoli mewn tref, mae’n ysgol gymunedol a’r hyn y mae’r cynnig yn ceisio’i gyflawni yw ymestyn y gymuned honno a dod â hi’n agosach. Mae cymuned yn golygu’r bobl sy’n byw ynddi, nid adeiladau ysgol, a chyfrifoldeb y bobl hynny yw sicrhau bod y gymuned yn ffynnu. Nid yw’r adeiladau ysgol presennol yn addas ac nid yw adnoddau’n cael eu rhannu’n gyfartal ymysg yr ysgolion a’r plant. Rhaid canfod ateb drwy gyfrwng yr ymgynghoriad ac mae angen annog pawb i gyfleu eu safbwyntiau er mwyn llunio darlun cyflawn a chytbwys.

 

Wrth nodi’r pwyntiau a wnaed, rhoddodd Swyddogion sicrwydd, petai cymeradwyaeth yn cael ei sicrhau i gynnal ymgynghoriad, yna byddai’r holl randdeiliaid yn cael cyfle i leisio eu barn yn ystod y cyfnod ymgynghori; byddai’r Awdurdod yn paratoi ymateb manwl i’r ymgynghoriad a’r cyflwyniadau a dderbyniwyd yn ystod y cam hwnnw o’r broses.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Nicola Roberts, ac eiliodd y Cynghorydd J. Arwel Roberts y cynnig, bod y Pwyllgor yn argymell i’r Pwyllgor Gwaith ei fod yn derbyn y cynnig fel y’i cyflwynwyd ac yn symud ymlaen i gynnal yr ymgynghoriad cyhoeddus angenrheidiol.

 

Cynigodd y Cynghorydd Dylan Rees welliant, sef argymell i’r Pwyllgor Gwaith ei fod yn  cynnal ymgynghoriad statudol ar opsiwn 7.2 (adeiladu ysgol 21ain Ganrif newydd ar gyfer Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir a chau’r ddwy ysgol) ar y sail y byddai’n hynny’n sicrhau tegwch i’r ddwy ysgol fel rhan o’r broses ad-drefnu. Ni chafodd y cynnig ei eilio.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies welliant pellach, a eiliwyd gan y Cynghorydd Bryan Owen, sef argymell i’r Pwyllgor Gwaith ymgynghori ar ysgol newydd ar gyfer Ysgol Corn Hir a chadw Ysgol Gymuned Bodffordd ar agor ac ystyried ei ffedereiddio gydag ysgol arall.

 

Yn y bleidlais a ddilynodd, cariwyd y cynnig gwreiddiol (a wnaed gan y Cynghorydd Nicola Roberts) gan fwyafrif o aelodau’r Pwyllgor.

 

Ar ôl ystyried y wybodaeth a gyflwynwyd yn yr adroddiad ac ar lafar yn y cyfarfod, penderfynodd y Pwyllgor argymell i’r Pwyllgor Gwaith ei fod yn cymeradwyo’r cynnig i “adleoli ac ehangu Ysgol Corn Hir ar safle gwahanol i gymryd disgyblion Ysgol Bodffordd, cau Ysgol Bodffordd ac adolygu dalgylchoedd Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir” a’i fod yn symud ymlaen i gynnal yr ymgynghoriad cyhoeddus angenrheidiol ynghylch hynny.

Dogfennau ategol: