Eitem Rhaglen

Ceisiadau'n Codi

7.1   DEM.2019/2 – Bryn Glas Close, Caergybi

 

7.2   DEM/2019/3 – Bryn Glas Close, Caergybi

 

7.3   DEM/2019/4 -  Ffordd Corn Hir & Pennant, Llangefni

 

7.4   DEM/2019/5 – Ffordd Lligwy, Moelfre

 

7.5   DEM/2019/6 – Craig y Don, Amlwch

 

7.6   DEM/2019/7 – Hampton Way, Llanfaes

 

7.7   DEM/2019/8 – Maes Llwyn, Amlwch

 

7.8   DEM/2019/9 – Maes Hyfryd, Llangefni

 

7.9   DEM/2019/10 – New Street, Biwmares

 

7.10 DEM/2019/11 – Pencraig, Llangefni

 

7.11  DEM/2019/12 – Tan yr Efail, Caergybi

 

7.12  DEM/2019/13 – Thomas Close, Biwmares

 

7.13  DEM/2019/15 – Maes yr Haf, Caergybi

 

7.14  DEM/2019/16 – Pencraig Mansion, Llangefni

 

7.15  FPL/2019/249 – Y Bedol, Tyn Rhos, Penysarn

Cofnodion:

7.1 DEM / 2019/2 - Cais i benderfynu a oes angen caniatâd ymlaen llaw i ddymchwel garejis ar dir yn Bryn Glas Close, Caergybi

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y Pwyllgor, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Rhagfyr, 2019, wedi penderfynu gohirio penderfynu ar y cais er mwyn caniatáu ymgynghoriad lleol ar y cynigion i ddymchwel. Mae'r cais bellach wedi'i dynnu'n ôl hyd nes i'r broses honno ddod i ben.

 

Dywedodd y Swyddog fod ceisiadau 7.2 i 7.14 ar y rhaglen hefyd wedi'u tynnu'n ôl am yr un rheswm.

 

Nodwyd bod y cais bellach wedi ei dynnu’n ôl.

 

7.2 DEM / 2019/3 - Cais i benderfynu a oes angen caniatâd ymlaen llaw i ddymchwel garejis yn Bryn Glas Close, Caergybi

 

Adroddwyd fod y cais bellach wedi'i dynnu'n ôl, a nodwyd hynny gan y Pwyllgor.

 

7.3 DEM / 2019/4 - Cais i benderfynu a oes angen caniatâd ymlaen llaw i ddymchwel garejis (tri bloc ar wahân) yn Ffordd Corn Hir a Pennant, Llangefni

 

Adroddwyd fod y cais bellach wedi'i dynnu'n ôl, a nodwyd hynny gan y Pwyllgor.

 

7.4 DEM / 209/5 - Cais i benderfynu a oes angen caniatâd ymlaen llaw i ddymchwel garejis yn Ffordd Llugwy, Moelfre

 

Adroddwyd fod y cais bellach wedi'i dynnu'n ôl, a nodwyd hynny gan y Pwyllgor.

 

7.5 DEM / 2019/6 - Cais i benderfynu a oes angen caniatâd ymlaen llaw i ddymchwel garejis yn Craig y Don, Amlwch

 

Adroddwyd fod y cais bellach wedi'i dynnu'n ôl, a nodwyd hynny gan y Pwyllgor.

 

7.6 DEM / 2019/7 - Cais i benderfynu a oes angen caniatâd ymlaen llaw i ddymchwel garejis yn Hampton Way, Llanfaes

 

Adroddwyd fod y cais bellach wedi'i dynnu'n ôl, a nodwyd hynny gan y Pwyllgor.

 

7.7 DEM / 2019/8 - Cais i benderfynu a oes angen caniatâd ymlaen llaw i ddymchwel garejis ym Maes Llwyn, Amlwch

 

Adroddwyd fod y cais bellach wedi'i dynnu'n ôl, a nodwyd hynny gan y Pwyllgor.

 

7.8 DEM / 2019/9 - Cais i benderfynu a oes angen caniatâd ymlaen llaw i ddymchwel garejis ym Maes Hyfryd, Llangefni

 

Adroddwyd fod y cais bellach wedi'i dynnu'n ôl, a nodwyd hynny gan y Pwyllgor.

 

7.9 DEM / 2019/10 - Cais i benderfynu a oes angen caniatâd ymlaen llaw i ddymchwel garejis yn New Street, Biwmares

 

Adroddwyd fod y cais bellach wedi'i dynnu'n ôl, a nodwyd hynny gan y Pwyllgor.

 

7.10 DEM / 2019/11 - Cais i benderfynu a oes angen caniatâd ymlaen llaw i ddymchwel garejis yn Pencraig, Llangefni

 

Adroddwyd fod y cais bellach wedi'i dynnu'n ôl, a nodwyd hynny gan y Pwyllgor.

 

7.11 DEM / 2019/12 - Cais i benderfynu a oes angen caniatâd ymlaen llaw i ddymchwel garejis yn Tan yr Efail, Caergybi

 

Adroddwyd fod y cais bellach wedi'i dynnu'n ôl, a nodwyd hynny gan y Pwyllgor.

 

7.12 DEM / 2019/13 - Cais i benderfynu a oes angen caniatâd ymlaen llaw i ddymchwel garejis yn Thomas Close, Biwmares

 

Adroddwyd fod y cais bellach wedi'i dynnu'n ôl, a nodwyd hynny gan y Pwyllgor.

 

7.13 DEM / 2019/15 - Cais i benderfynu a oes angen caniatâd ymlaen llaw i ddymchwel garejis ym Maes yr Haf, Caergybi

 

Adroddwyd fod y cais bellach wedi'i dynnu'n ôl, a nodwyd hynny gan y Pwyllgor.

 

7.14 DEM / 2019/16 - Cais i benderfynu a oes angen caniatâd ymlaen llaw i ddymchwel garejis yn Pencraig Mansions, Llangefni

 

Adroddwyd fod y cais bellach wedi'i dynnu'n ôl, a nodwyd hynny gan y Pwyllgor.

 

7.15 FPL / 2019/249 - Cais llawn i ddymchwel hen dafarn, codi 14 annedd gan gynnwys 2 annedd fforddiadwy, addasiadau i fynedfeydd, creu ffordd fynediad fewnol, lle parcio cysylltiedig, gosod tanc LPG ynghyd â thirlunio meddal a chaled yn Y Bedol, Tyn Rhos, Penysarn

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar ôl iddo gael ei gyfeirio i sylw’r  Pwyllgor gan Aelod Lleol. Yn ei gyfarfod ar 4 Rhagfyr, 2019, penderfynodd y Pwyllgor ymweld â safle'r cais cyn penderfynu ar y cais. Ymwelwyd â’r safle ar 18 Rhagfyr, 2019.

 

Siaradwr Cyhoeddus

 

Siaradodd Mr Rhys Davies, Cadnant Planning o blaid y cynnig a dywedodd, er gwaethaf ymdrechion marchnata, fod Tafarn Y Bedol wedi cau ers 2010. O dan y cynnig, byddai 12 o'r unedau arfaethedig yn cael eu gwerthu fel anheddau marchnad agored sydd ar gael i'w prynu o dan Gynllun Cymorth i Brynu Cymru, gyda 2 uned yn anheddau fforddiadwy wedi'u sicrhau gan gytundeb Adran 106. Mae'r Gwasanaeth Tai wedi cadarnhau bod angen am yr anheddau fforddiadwy ac mae'r Uned Strategaeth Tai wedi cadarnhau yn yr un modd bod y cymysgedd tai arfaethedig yn dderbyniol. Gwneir cyfraniad hefyd tuag at ddarparu man chwarae anffurfiol i blant ynghyd â llecyn chwarae gyda chyfarpar i blant. Gan gyfeirio at bryderon a godwyd gan yr Aelod Lleol a'r Cyngor Cymuned mewn perthynas â gorddatblygu a thraffig, mae dwysedd y datblygiad arfaethedig yn uwch na'r isafswm o 30 o unedau tai fesul hectar a fynnir gan y polisi ac mae ar safle cynaliadwy ac yn dderbyniol gan yr Uned Polisi Cynllunio. Mae adroddiad y Swyddog hefyd yn cadarnhau bod y cynnig yn cwrdd â'r canllawiau perthnasol mewn perthynas â phellteroedd rhwng anheddau. Bydd y mynediad presennol o stad Tyn Rhos yn cael ei newid er mwyn gwasanaethau’r datblygiad arfaethedig a bydd y mynediad llai  o Stryd y Capel yn cau. Darperir troedffordd newydd i gerddwyr. Mae'r Awdurdod Priffyrdd o'r farn bod y cynnig yn dderbyniol gydag amodau. Rheolir traffig yn ystod y  cyfnod adeiladu yn unol â manylion Cynllun Rheoli Adeiladu y bydd raid ei gyflwyno i’r  Awdurdod Cynllunio Lleol i’w gymeradwyo ganddo, a hynny er mwyn sicrhau bod traffig adeiladu trwm yn cael ei reoli'n briodol ac nad yw'n effeithio ar fwynderau trigolion Tyn Rhos yn ystod y cyfnod adeiladu.

 

Er nad oedd yn gwrthwynebu datblygu cartrefi fforddiadwy a chartrefi i'r gymuned, amlinellodd y Cynghorydd Aled Morris Jones, Aelod Lleol, bryderon lleol mewn perthynas â'r cynnig a oedd yn ymwneud yn bennaf ag effaith y bwriad i gau’r fynedfa o Stryd y Capel gan olygu mai’r ffordd fynediad bresennol o stad Tyn Rhos fyddai’r unig fynediad i'r datblygiad newydd, yn ogystal â phryderon ynghylch gorddatblygu a materion draenio. Ymhelaethodd yr Aelod Lleol ar y pryderon hynny trwy egluro y byddai sianelu'r holl draffig trwy stad Tyn Rhos yn gwaethygu'r problemau traffig ar y stad ac y byddai sicrhau bod dwy ffordd fynediad trwy gadw'r mynediad o Stryd y Capel yn helpu i reoli'r traffig a gynhyrchid gan y stad newydd. Gan gyfeirio at bryderon ynghylch gorddatblygu, tynnodd yr Aelod Lleol sylw at y ffaith fod anheddau marchnad ar werth ym Mhenysarn ar hyn o bryd ac o ran materion draenio, gofynnodd am i amodau gael eu gosod ar unrhyw ganiatâd cynllunio er mwyn rheoli materion draenio.

 

Holodd y Pwyllgor a fyddai cadw'r ddau fynediad yn debygol o greu "llwybr tarw” gan greu mwy o broblemau o ran diogelwch ar y ffyrdd. Nid oedd y Cynghorydd Aled Morris Jones yn credu y byddai hynny'n digwydd; ond bydd cau’r mynediad o Stryd y Capel yn golygu y byddai’r holl draffig yn crynhoi wrth y mynediad i stad Tyn Rhos sydd eisoes yn gwasanaethu 30 eiddo.

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cynnig o fewn ffin ddatblygu Penysarn; mae'n dderbyniol gan yr Uned Polisi Cynllunio oherwydd iddo gael ei asesu yn erbyn y cyflenwad tai yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ac, yn yr un modd, mae'n cwrdd â gofynion polisi o ran y ddarpariaeth tai fforddiadwy a’r cymysgedd tai ar ôl iddo gael ei newid i gynyddu nifer yr unedau 3 ystafell wely o 2 i 4 a gostwng nifer yr unedau 3 ystafell wely o 12 i 10 er mwyn adlewyrchu anghenion lleol. Mae dwysedd y datblygiad oddeutu 41 uned yr hectar sy'n cydymffurfio â gofynion polisi ac mae wedi'i leoli ar safle tir llwyd. Ystyrir bod y cynnig yn dderbyniol yn ei gyd-destun os gosodir amodau ac na fydd yn effeithio'n niweidiol ar y mwynderau a fwynheir gan ddeiliaid eiddo cyfagos ar hyn o bryd. Er bod y Gwasanaeth Dysgu wedi cadarnhau nad oes angen unrhyw gyfraniad addysg, gwneir cyfraniad tuag at ddarparu man agored. O ran mynediad i'r datblygiad arfaethedig, nid oes modd cadw'r fynedfa o Stryd y Capel o dan y cynllun fel y cafodd ei gyflwyno gan y byddai'n golygu cael gwared ar rai o'r unedau yn y cynllun. Mae'r Gwasanaeth Priffyrdd yn fodlon â'r cynnig yn dilyn diwygio'r cais i gynnwys troedffordd 1.8 metr o led i gerddwyr. Mae adroddiad Hyfywedd Tafarn a gyflwynwyd gyda’r cais yn cadarnhau bod tafarn Y Bedol wedi methu â gweithredu’n fasnachol fel busnes sy'n ariannol hyfyw ac na fyddai'r cynnig felly'n arwain at golli cyfleuster cymunedol. Er bod gwrthwynebiadau i'r cynllun yn lleol - yn benodol ar sail pryderon priffyrdd - nid ystyrir bod achos i wrthod y cais nac i gadw'r ddau fynediad. Er bod yr ymgyngoreion wedi casglu bod yr asesiad draenio yn dderbyniol, er mwyn lleddfu pryderon lleol cryf ynghylch gallu'r system ddraenio i ddarparu ar gyfer y datblygiad newydd a'i gynnal, byddai modd gosod amod ar y caniatâd bod raid gweithredu cynllun draenio cynaliadwy wrth i bob uned gael ei hadaeiladu er mwyn sicrhau bod system ar waith wrth i bob annedd ddod ar gael.

 

Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad gan y Gwasanaeth Priffyrdd ynghylch a fyddai unrhyw fanteision o gadw'r ddau fynediad er mwyn lliniaru traffig yn stad Tyn Rhos. Holodd y Pwyllgor hefyd a oes trothwy dwysedd uchaf yn ogystal ag isafswn dwysedd.

 

Cadarnhaodd y Peiriannydd Rheoli Datblygu fod y Gwasanaeth Priffyrdd yn fodlon â'r cynnig fel y'i cyflwynwyd ac nad yw colli'r mynediad o Stryd y Capel yn golygu colled o ran diogelwch priffyrdd; nid ystyrir bod unrhyw fanteision penodol o gadw'r ail fynediad ar wahân i gyfleustra.

 

Eglurodd y Rheolwr Rheoli Datblygu, er bod y polisi’n dweud bod rhaid cael dwyster o 30 o unedau tai fesul hectar ar y lleiaf, nid oes dwysedd uchaf wedi ei bennu yn y polisi.  Mae'r Gwasanaeth Cynllunio yn asesu pob cais yn ôl ei rinweddau, gan ystyried yr effeithiau ar fwynderau lleol fel y mae'r adroddiad yn ei adlewyrchu; mae'r cais yn gais i ailddatblygu safle tir llwyd lle mae disgwyl y darperir tai a lle mae'r angen am dai fforddiadwy wedi'i gadarnhau. Felly yn y cyd-destun hwn mae'r cynnig yn dderbyniol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams, gyda’r Cynghorydd Richard Owain Jones yn eilio, y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda'r amod ychwanegol mewn perthynas â draenio fel yr amlinellwyd.

Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog a chyda’r amodau a nodir ynddo, ynghyd ag amod ychwanegol mewn perthynas â draenio, a hefyd yn amodol ar gytundeb Adran 106 mewn perthynas â thai fforddiadwy a chyfraniad ariannol tuag at fan agored.

 

Dogfennau ategol: