Eitem Rhaglen

Gweddill y Ceisiadau

12.1  FPL/2019/300 – 15/16 Coedwig Terrace, Penmon

 

12.2  DEM/2019/17 – Ysgol Parch. Thomas Ellis, Ffordd Maes Hyfryd, Caergybi

 

12.3  DEM/2019/18 – Llyfrgell Caergybi, Stryd Newry, Caergybi

 

12.4  DEM/2019/19 – Ysgol Gynradd y Parc, Maes Yr Haf, Caergybi

 

12.5  22C197E/VAR – Tan y Coed, Biwmares

 

12.6  FPL/2019/258 – Beaumaris Social Club, Steeple Lane, Biwmares

 

12.7  FPL/2019/299 – Ysgol Y Tywyn, Ffordd Minffordd, Caergeiliog

Cofnodion:

12.1    FPL/2019/300 – Cais llawn am addasiadau ac estyniadau ynghyd â chreu man parcio newydd yn 15/16 Coedwig Terrace, Penmon

 

Adroddwyd ar y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn gais gan Wasanaeth Tai'r Cyngor ac mae ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor.

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu mai cynnig yw hwn i ddymchwel yr estyniadau unllawr yng nghefn rhifau 15 ac 16 Coedwig Terrace, ynghyd â chodi estyniadau deulawr yn eu lle yng nghefn y ddau eiddo. Mae'r safle o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Arfordir Ynys Môn. Bydd cynllun mewnol y ddau eiddo yn cael ei newid i wneud gwell defnydd o'r gofod ac i ddarparu annedd dwy ystafell wely yr un. O dan y cynllun, bydd yr holl agweddau ar y gorffeniadau allanol yn cael eu newid am rai modern sy'n golygu y bydd y datblygiad arfaethedig yn adlewyrchiad gwell o sut mae’r stryd yn edrych ac yn integreiddio’n well â’r stryd oherwydd bod y rhan fwyaf ohoni eisoes wedi'i huwchraddio i ddeunyddiau modern. Nid ystyrir y bydd y cynllun yn arwain at unrhyw effaith annerbyniol ar fwynderau deiliaid eiddo cyfagos. Ers hynny mae'r Gwasanaeth Priffyrdd wedi cadarnhau ei fod yn fodlon â'r cynnig yn ddarostyngedig i amodau safonol sy'n ychwanegol at y rhai a nodir yn yr adroddiad.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Dafydd Roberts y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog gyda’r amodau a gynhwysir ynddo ac amodau safonol ychwanegol mewn perthynas â phriffyrdd.

 

12.2    DEM/2019/17 – Cais i benderfynu a oes angen caniatâd ymlaen llaw i ddymchwel yr hen Ysgol Parch.Thomas Ellis, Ffordd Maes Hyfryd, Caergybi

 

Adroddwyd ar y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion fel y cafodd ei gyflwyno gan y Cyngor Sir ac mae ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu, o dan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995, nad oes angen caniatâd cynllunio i ddymchwel adeiladau ar yr amod bod y datblygwr yn gwneud cais yn gyntaf i'r Awdurdod Cynllunio Lleol i gadarnhau a oes angen ei gymeradwyaeth ymlaen llaw ar gyfer y dull dymchwel ac unrhyw waith adfer ar y safle. Mae dau o'r Aelodau Lleol wedi cadarnhau nad oes ganddynt wrthwynebiadau i'r cynnig; nid oes gan y Cyngor Tref unrhyw wrthwynebiadau ychwaith ar yr amod bod y cae chwarae yn cael ei gadw at ddefnydd y gymuned a bod y safle'n cael ei ystyried i'w ddefnyddio yn y dyfodol fel canolfan feddygol newydd. Fodd bynnag, o dan ddarpariaethau'r Gorchymyn, dim ond y dull o ddymchwel ac adfer y safle y gellir eu hystyried, nid yw cadw'r safle a'r defnydd a wneir ohono yn y dyfodol yn ystyriaethau wrth benderfynu ar y cais. Yn unol â'r broses hon, rhoddwyd cyfnod o 28 diwrnod i'r Awdurdod Cynllunio Lleol ystyried y gwaith dymchwel arfaethedig a chadarnhaodd yn ystod y cyfnod hwnnw y byddai angen cymeradwyaeth ymlaen llaw er mwyn cael Cynllun Rheoli Amgylcheddol ar gyfer Gwaith Dymchwel (CRhAGD) sy'n rhoi manylion am fesurau rheoli i leihau effeithiau gwaith dymchwel yr adeilad, gan gynnwys yr effaith ar fwynderau preswyl, a Chynllun Rheoli Traffig Gwaith Dymchwel (CRhTGD) sy'n rhoi manylion am fesurau rheoli i leihau’r effeithiau traffig wrth ddymchwel yr adeilad. Disgwylir am y cynlluniau hynny ac ar yr amod bod y manylion yn y cynlluniau’n  foddhaol, ystyrir bod y dull dymchwel arfaethedig a’r gwaith adfer wedi hynny yn dderbyniol ac argymhellir cymeradwyo'r cais.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes am i'r gwaith dymchwel gael ei wneud cyn gynted â phosib er mwyn atal fandaliaeth ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ar hen safle'r ysgol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Bryan Owen, ac eiliwyd ef gan y Cynghorydd Robin Williams, y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

Penderfynwyd bod yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn rhoi cymeradwyaeth ymlaen llaw yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog a chyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig a hefyd yn amodol ar dderbyn  Cynllun Rheoli Amgylcheddol derbyniol ar gyfer y Gwaith Dymchwel (CRhAGD) a Chynllun Rheoli Traffig Gwaith Dymchwel derbyniol (CRhTGD).

 

12.3    DEM/2019/18 – Cais i benderfynu a oes angen caniatâd ymlaen llaw i ddymchwel hen Lyfrgell Caergybi, Stryd y Newry, Caergybi

 

Adroddwyd ar y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn cael ei gyflwyno gan y Cyngor Sir ac oherwydd ei fod ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor.

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu, fel gyda’r cais blaenorol, bod dymchwel adeiladau yn cael ei ystyried yn waith datblygu a ganiateir ar yr amod bod y datblygwr yn gwneud cais yn gyntaf i'r Awdurdod Cynllunio Lleol i gadarnhau a oes angen ei ganiatâd  ymlaen llaw ar gyfer y dull dymchwel ac unrhyw waith adfer ar y safle. Yn unol â'r broses hon, rhoddwyd cyfnod o 28 diwrnod i'r Awdurdod Cynllunio Lleol ystyried y gwaith dymchwel arfaethedig a chadarnhaodd yn ystod y cyfnod hwnnw y byddai angen cymeradwyaeth ymlaen llaw er mwyn cael Cynllun Rheoli Amgylcheddol ar gyfer Gwaith Dymchwel (CRhAGD) sy'n rhoi manylion am fesurau rheoli i leihau effeithiau gwaith dymchwel yr adeilad, gan gynnwys yr effaith ar fwynderau preswyl, a Chynllun Rheoli Traffig Gwaith Dymchwel (CRhTGD) sy'n rhoi manylion am fesurau rheoli i leihau’r effeithiau traffig wrth ddymchwel yr adeilad. Disgwylir am y cynlluniau hynny a bydd yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn ystyried pa mor dderbyniol ydynt pan ddônt i law. Mae asesiad ecolegol wedi'i ddarparu ac mae'n dderbyniol gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol. Yn ogystal, gan fod safle’r cais yn agos at ardal gadwraeth Caergybi, mae’r cynigion ar gyfer gwaith i adfer y safle ar ôl dymchwel yr adeilad yn cael eu trafod ar hyn o bryd gydag Ymgynghorydd Treftadaeth y Cyngor. Mae goblygiadau'r gwaith dymchwel o ran y  coed sydd yn y maes parcio ger y Llyfrgell ac sydd o fewn yr ardal gadwraeth hefyd yn cael eu hystyried ar adeg ysgrifennu'r adroddiad. Yn amodol ar dderbyn CRhAGD a CRhGT derbyniol, a chadarnhau’r cynigion ar gyfer gwaith adfer a chadw'r coed ger y safle fel rhan o'r broses ddymchwel, ystyrir bod y dull dymchwel arfaethedig yn dderbyniol. Yr argymhelliad felly yw y dylid cymeradwyo'r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Bryan Owen y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

Penderfynwyd bod yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn rhoi cymeradwyaeth ymlaen llaw yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog a chyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys ynddo a hefyd yn amodol ar dderbyn  Cynllun Rheoli Amgylcheddol derbyniol ar gyfer Gwaith Dymchwel (CRhAGD) a Chynllun Rheoli Traffig Gwaith Dymchwel derbyniol (CRhTGD).

 

12.4    DEM/2019/19 – Cais i benderfynu a oes angen caniatâd ymlaen llaw i ddymchwel hen Ysgol Y Parc, Maes yr Haf, Caergybi

 

Adroddir ar y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn cael ei gyflwyno gan y Cyngor Sir ac ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor.

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu, fel gyda cheisiadau 12.2 a 12.3, fod dymchwel adeiladau yn cael ei ystyried yn waith datblygu a ganiateir ar yr amod bod y datblygwr yn gwneud cais yn gyntaf i'r Awdurdod Cynllunio Lleol i gadarnhau a oes angen ei gymeradwyaeth ymlaen llaw ar gyfer y dull dymchwel ac unrhyw waith adfer ar y safle. Yn unol â'r broses hon, rhoddwyd cyfnod o 28 diwrnod i'r Awdurdod Cynllunio Lleol ystyried y gwaith dymchwel arfaethedig a chadarnhaodd yn ystod y cyfnod hwnnw y byddai angen cymeradwyaeth ymlaen llaw er mwyn cael Cynllun Rheoli Amgylcheddol ar gyfer Gwaith Dymchwel (CRhAGD) sy'n rhoi manylion am fesurau rheoli i leihau effeithiau gwaith dymchwel yr adeilad, gan gynnwys yr effaith ar fwynderau preswyl, a Chynllun Rheoli Traffig Gwaith Dymchwel (CRhTGD) sy'n rhoi manylion am fesurau rheoli i leihau’r effeithiau traffig wrth ddymchwel yr adeilad. Mae asesiad ecolegol wedi'i ddarparu ac mae'n dderbyniol gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol. Gan fod safle’r cais yn agos at ardal gadwraeth Caergybi, mae’r cynigion ar gyfer adfer y safle ar ôl  dymchwel yr adeilad yn cael eu trafod ar hyn o bryd gydag Ymgynghorydd Treftadaeth y Cyngor.  Yn amodol ar dderbyn CRhAGD a CRhTGD derbyniol, a chadarnhau’r cynigion ar gyfer gwaith adfer, ystyrir bod y dull dymchwel arfaethedig yn dderbyniol. Yr argymhelliad felly yw y dylid cymeradwyo'r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes, ac eiliwyd ef gan y Cynghorydd Eric Jones, y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

Penderfynwyd bod yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn rhoi cymeradwyaeth ymlaen llaw yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog a chyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig a hefyd yn amodol ar dderbyn  Cynllun Rheoli Amgylcheddol derbyniol ar gyfer Gwaith Dymchwel (CRhAGD) a Chynllun Rheoli Traffig Gwaith Dymchwel derbyniol (CRhTGD).

 

12.5    22C197E/VAR – Cais o dan Adran 73 i amrywio amod (01) er mwyn ymestyn y terfyn amser i ddechrau gweithio ynghyd â chyflwyno manylion i ddileu amodau (05) (deunyddiau arfaethedig), (07) (cynllun tirlunio ), (09) (lefelau slabiau), (10) (archeoleg), (12) (cynllun draenio), (14) (triniaeth ffiniau), (15) (arwynebau caled), a (17) (goleuadau allanol) o ganiatâd cynllunio cyfeirnod 22C197B (Codi 21 caban pren at ddefnydd gwyliau) yn Tan y Coed, Biwmares.

 

Adroddwyd ar y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod wedi cael ei alw i mewn gan Aelod Lleol i’r Pwyllgor benderfynu arno.

 

Siaradwr Cyhoeddus

 

Siaradodd Mr Jamie Bradshaw o blaid y cais gan egluro nad oedd hwn yn gais newydd ar gyfer 21 o gabanau coed ond yn hytrach yn gais i ddileu amodau o ganiatâd a roddwyd yn flaenorol a hefyd i ganiatáu amser i ddechrau gweithio ar y safle. Mae gan y safle dystysgrif defnydd cyfreithlon eisoes ar gyfer 14 o garafanau gwyliau parhaol ac roedd safle ar gyfer clwb gwersylla carafanau teithiol hefyd i 5 carafán a 10 pabell trwy'r Clwb Gwersylla Carafanau. Byddai'r ddau ddefnydd hyn yn cael eu dileu trwy gytundeb adran 106 sy'n ystyriaeth allweddol o blaid y cynllun. Gan gyfeirio at bryderon lleol, dywedodd Mr Bradshaw yr ymdrinnir â’r rhain yn adroddiad y Swyddog. Aethpwyd i'r afael â’r mater diogelwch priffyrdd trwy gynllun teithio a datganiad traffig a baratowyd gan ymgynghorwyr traffig a pheirianneg SCP. Roedd hwn yn fater a godwyd mewn apêl a theimlai'r arolygydd cynllunio nad oedd achos i'w ateb yn hyn o beth. Nid oes gan Awdurdod Priffyrdd y Cyngor ychwaith unrhyw wrthwynebiad i'r cynllun. Nid yw Ymgynghorydd Tirwedd y Cyngor wedi mynegi unrhyw wrthwynebiadau i’r cynllun ar ôl gwerthuso’r Asesiad o’r Effaith ar Dirwedd a’r Effaith Weledol, ynghyd â’r cynllun tirlunio manwl a gyflwynwyd fel rhan o’r cais. At hynny, ni chodwyd unrhyw wrthwynebiadau gan swyddogion nac ymgyngoreion allanol mewn perthynas ag ecoleg, llwybrau cyhoeddus, archeoleg, treftadaeth, polisi cynllunio, draenio neu risg llifogydd. Mae adroddiad y Swyddog yn ei gwneud yn glir bod yr hyn sy’n cael ei gynnig yn fwy ffafriol o ran tirwedd ac effaith na’r hyn a ganiateir eisoes ar y safle ac y byddai’n ddatblygiad o ansawdd uwch na’r datblygiad defnydd cyfreithlon. Mae'r datblygiad eisoes wedi bod trwy'r broses apêl lle nad oedd unrhyw wrthwynebiadau ar sail egwyddor i gynnig o ansawdd uchel o’r fath. Gofynnodd Mr Bradshaw i'r Pwyllgor gefnogi'r cais yn unol â chyngor y Swyddog.

 

Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad gan Mr Bradshaw ynghylch pam nad oedd gwaith ar y datblygiad wedi cychwyn o fewn yr amserlen 5 mlynedd ar ôl cymeradwyo'r cais gwreiddiol am 21 o gabanau coed yn 2013. Eglurodd Mr Bradshaw fod hynny’n ymwneud â sicrhau cyllid ar gyfer y datblygiad a chadarnhaodd fod y cais fel y'i cyflwynwyd wedi'i wneud cyn i'r caniatâd ddod i ben ac yr ymgynghorwyd yn helaeth â swyddogion i sicrhau bod y cynllun yn cael ei gyflwyno yn ei ffurf derfynol er mwyn rhoi'r wybodaeth angenrheidiol i’r Pwyllgor fedru symud ymlaen i roi sylw i’r cais.

 

Eglurodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cynnig a gyflwynwyd yn ymestyn dros 2.5 hectar sy'n cynnwys dau gae (nid tri fel y dangosir ar y cynlluniau yn y rhaglen) a dywedodd y bu nifer o wrthwynebiadau i'r cynllun yn lleol fel y crynhoir yn adroddiad y Swyddog. Cyfeiriodd at hanes cynllunio'r safle ac yn benodol at gais cynllunio 22C197 a oedd yn wreiddiol ar gyfer 38 uned dros ardal o 9 hectar. Wrth roi sylw i’r cais, gostyngwyd hyn i 21 uned dros ardal lai o 4.9 hectar. Gwrthodwyd y cais gan yr Awdurdod Cynllunio leol ar sail cynaliadwyedd, tirwedd a’r rhwydwaith priffyrdd. Gwrthodwyd apêl yn erbyn y penderfyniad hwn gan yr Arolygiaeth Gynllunio ond dim ond ar sail ystyriaethau tirwedd. Yn dilyn hynny, cyflwynwyd cais pellach am 21 uned ar ardal a ostyngwyd o 4.9 hectar i 2.5 hectar ac fe ganiatawyd y cais hwnnw gan yr Awdurdod Lleol. Cyflwynwyd a chymeradwywyd cais i ddileu  amodau 11 ac 16 ond roedd sawl amod yn parhau i fod ar ôl. ‘Roedd y caniatâd cynllunio y mae'r ymgeisydd bellach yn ceisio ei adnewyddu yn destun cytundeb cyfreithiol sy’n sicrhau bod y dystysgrif defnydd cyfreithlon yn cael ei hildio ac nad oes unrhyw garafanau teithiol yn cael eu lleoli ar y tir sy’n gysylltiedig â'r Clwb Gwersylla a Charafanau. Mewn gwirionedd, mae'r cynnig yn gyfystyr â chynnydd o 7 uned o gymharu â’r datblygiad defnydd cyfreithlon o 14 o garafanau parhaol. Oherwydd ildio'r defnydd cyfreithlon ‘roedd yr Arolygydd o'r farn nad oedd y cynnydd o 7 uned yn golygu ei fod yn brosiect mawr o ran ei gynaliadwyedd a’i nodweddion, ac nid oedd yn debygol ychwaith o arwain at gynnydd sylweddol mewn traffig yn enwedig oherwydd bod gwelliannau ar ffurf lleoedd pasio ychwanegol wedi eu cynnig fel rhan o'r datblygiad.

 

Wrth ystyried ymestyn y terfynau amser i ddechrau’r gwaith datblygu, mae angen rhoi sylw hefyd i unrhyw newidiadau o bwys sydd wedi digwydd ers gwneud y penderfyniad gwreiddiol - yn yr achos hwn newidiadau polisi yn sgil gweithredu’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd - ac yng ngoleuni'r ffaith y cyflwynwyd y cais cyfredol y diwrnod cyn yr oedd cais 22C197B i fod i ddod i ben. Asesir y cais yn ôl ei rinweddau heb  unrhyw sefyllfa wrth gefn. Fodd bynnag, mae'r caniatâd sy'n bodoli ar gyfer 14 o garafanau parhaol yn sefyllfa wrth gefn y mae'n rhaid ei hystyried.

 

Mae Polisi TWR3 o'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd yn nodi y bydd cynigion ar gyfer datblygu carafanau statig newydd, cabanau gwyliau neu lety gwersylla amgen parhaol yn cael eu gwrthod o fewn AHNE Arfordir Ynys Môn a'r Ardal Tirwedd Arbennig. Fodd bynnag, dylid rhoi pwys ar benderfyniad yr Arolygydd a'r defnydd cyfreithlon o'r safle.  Ystyrir hefyd fod y datblygiad arfaethedig gan gynnwys y gwelliannau i'r briffordd, y cynllun tirlunio a'r gwelliannau ecoleg sy'n rhan o'r cynnig yn welliant ar y datblygiad defnydd cyfreithlon. Mae'r manylion a gyflwynwyd i ddileu’r amodau wedi'u hasesu ac  ystyrir eu bod yn dderbyniol. Mae cynllun archeoleg wedi'i gyflwyno a disgwylir am sylwadau Gwasanaethau Cynllunio Archeolegol Gwynedd arno. Yn amodol ar dderbyn y sylwadau hynny ac yn ddarostyngedig i amodau a chytundeb cyfreithiol i sicrhau y bydd y dystysgrif defnydd cyfreithlon yn cael ei hildio ac nad oes unrhyw garafanau teithiol yn cael eu lleoli mewn cysylltiad â'r Clwb Gwersylla a Charafanau, ystyrir bod y cynnig yn dderbyniol ar ôl pwyso a mesur ac felly argymhellir cymeradwyo’r cais.

 

Wrth gynnig cymeradwyo’r cais, cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes hefyd, er mwyn sicrhau diogelwch cerddwyr a modurwyr fel ei gilydd, fod amod ychwanegol yn cael ei osod gyda’r caniatâd bod raid creu chwe lle pasio ychwanegol fel rhan o'r datblygiad  cyn dechrau'r gwaith ar y datblygiad. Dywedodd y Cynghorydd Hughes, gan gyfeirio at gais yn ei ward etholiadol a gymeradwywyd yn amodol ar greu lleoedd pasio, nad oedd y lleoedd pasio wedi cael eu gwneud am flynyddoedd wedi hynny.

 

Eiliwyd y cais gan y Cynghorydd Bryan Owen.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog gyda’r amodau a gynhwysir ynddo, ynghyd ag amod ychwanegol mewn perthynas â lleoedd pasio, cytundeb adran 106, ac yr amod hefyd y derbynnir sylwadau gan Wasanaethau Cynllunio Archeolegol Gwynedd mewn perthynas â’r  Cynllun Archeoleg.

 

12.6    FPL/2019/258 – Cais llawn i ddymchwel yr adeilad presennol ynghyd â chodi chwe fflat un ystafell wely yn ei le yng Nghlwb Cymdeithasol Beaumaris, Steeple Lane, Biwmares

 

Adroddwyd ar y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd ei fod yn cael ei gyflwyno ar ran y Cyngor Sir.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu y bydd safle'r cais yn cael ei wasanaethu o'r mynediad cyfredol o Margaret Street. Bydd yr adeilad arfaethedig yn dri llawr a bydd y rhan fwyaf ohono ar ôl-troed yr adeilad presennol. Cynigir lleoedd parcio ynghyd â man mwynderau cymunedol a llecyn ar gyfer gwastraff yn y cefn. Mae'r safle o fewn ffin ddatblygu Biwmares, Ardal Gadwraeth Biwmares a’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Mae'r safle hefyd o fewn lleoliad Safle Treftadaeth y Byd ac mae'n ffinio â dau adeilad rhestredig.

 

Yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, nodir Biwmares fel Canolfan Wasanaeth Leol o dan Bolisi TAI 5. Dan y cyfryw bolisi mae disgwyl y bydd unedau preswyl newydd ar gael i'r farchnad dai leol ac y dylai bod cyfraniad tuag at dai fforddiadwy. Gan mai'r Awdurdod Lleol yw'r ymgeisydd yn yr achos hwn, bydd amodau ynghlwm wrth unrhyw ganiatâd i sicrhau bod yr unedau arfaethedig yn cydymffurfio â gofynion y Cynllun Datblygu Lleol yn hyn o beth.

Mae'r Awdurdod Priffyrdd Lleol wedi asesu'r cais ac wedi cadarnhau nad yw'r sefyllfa yn ddelfrydol mewn perthynas â'r mynediad preifat y tu ôl i safle'r cais lle mae'r cyfleusterau parcio wedi'u lleoli. Fodd bynnag, ar ôl ystyried y defnydd a ganiateir o'r safle ar hyn o bryd a'r traffig y gallai’r datblygiad ei gynhyrchu ynghyd â'r cerbydau a’r cerddwyr sydd eisoes yn mynd i'r garejis, ynghyd â’r anheddau sydd ar hyd y llwybr hwn, mae'r Awdurdod Priffyrdd Lleol wedi dod i'r casgliad, os gosodir amodau priodol, na fydd y cynnig yn arwain at gynnydd sylweddol mewn traffig i’r graddau y byddai’n cael effaith niweidiol ar ddiogelwch y briffordd. Ar adeg ysgrifennu'r adroddiad, roedd chwe llythyr gyda sylwadau wedi dod i law yn codi materion fel y'u crynhoir yn yr adroddiad. O ran effeithiau ar fwynderau eiddo cyfagos, mae pellter o oddeutu 5 metr rhwng y datblygiad arfaethedig a'r eiddo gyferbyn â Steeple Lane; mae'r ardal barcio arfaethedig a fydd yn gwasanaethu deiliaid y datblygiad yn ffinio â chwrtiliau eiddo cyfagos ac mae'r adeilad sy’n destun y cais hefyd ynghlwm wrth eiddo masnachol a phreswyl. O ystyried y defnydd cyfredol o'r tir fel clwb cymdeithasol, nid ystyrir y byddai effaith y defnydd preswyl arfaethedig yn waeth ar fwynderau'r eiddo cyfagos nag effaith y caniatâd sydd eisoes wedi ei roi. Yn ogystal, mae'r adeilad sy’n destun y cais wedi mynd â’i ben iddo  ac yn ddolur llygad yn yr Ardal Gadwraeth. Mae ymgyngoreion gan gynnwys CADW wedi cadarnhau na fydd y cynnig yn cael effaith ar Ardal Gadwraeth Biwmares, yr AHNE, y safle Treftadaeth y Byd nac ar yr Henebion Rhestredig. Ystyrir bod y cynnig yn gwella mwynderau gweledol yr ardal yn sylweddol a’i fod yn gwneud defnydd buddiol o adeilad sydd wedi bod yn sefyll yn wag ers blynyddoedd lawer. Yr argymhelliad felly yw cymeradwyo'r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Vaughan Hughes, ac eiliwyd ef gan y Cynghorydd Dafydd Roberts, y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog a chyda’r amodau a gynhwysir ynddo.

 

12.7  FPL/2019/299 – Cais llawn i godi ystafell ddosbarth symudol a chreu maes parcio a man chwarae yn Ysgol Y Tywyn, Ffordd Minffordd, Caergeiliog

 

Adroddwyd ar y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn cael ei gyflwyno gan y Cyngor Sir ac ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cynnig yn cynnwys codi ystafell ddosbarth symudol ar ran o dir yr ysgol ar yr ochr ddwyreiniol iddi, ynghyd ag ardal barcio y tu ôl i'r ystafell ddosbarth ac ardal chwarae meddal newydd o’i blaen. Yn dilyn pryderon a godwyd gan yr Ymgynghorydd Ecolegol ynghylch cael gwared â gwrych bach, mae cynlluniau diwygiedig wedi'u cyflwyno sy'n manylu ar gynllun plannu newydd i wneud iawn am golli'r gwrych. Mae'r datblygiad arfaethedig yn cydweddu â'r ardal gyfagos ac ni fydd yn effeithio ar unrhyw eiddo cyfagos ac felly ystyrir ei fod yn dderbyniol. Gan fod y system garthffosiaeth leol y bydd y cynnig yn cysylltu â hi yn system breifat, mae rhybudd wedi'i gyflwyno i'r Weinyddiaeth Amddiffyn ac, ar adeg ysgrifennu'r adroddiad, disgwylir ei sylwadau. Yn amodol ar dderbyn y sylwadau hynny, argymhellir cymeradwyo'r cynnig.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams, ac eiliwyd ef gan y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes, y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig ac yn amodol hefyd ar dderbyn sylwadau’r Weinyddiaeth Amddiffyn.

Dogfennau ategol: