Eitem Rhaglen

Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-2024

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/ Swyddog Monitro sy'n cynnwys y Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar gyfer y cyfnod 2020-2024 i'r Pwyllgor Gwaith ei ystyried a gwneud sylwadau arno.

 

Adroddodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol fel Swyddog Arweiniol ei bod yn statudol ofynnol i bob awdurdod lleol gyhoeddi Cynllun Cydraddoldeb Strategol sy'n cynnwys amcanion cydraddoldeb ar gyfer pob un o'r nodweddion gwarchodedigoedran, anabledd, ailbennu rhywedd, rhyw, beichiogrwydd a mamolaeth, cyfeiriadedd rhywiol, hil, crefydd/cred, priodas a phartneriaethau sifil. Rhaid adolygu'r Cynllun a'i amcanion o leiaf bob pedair blynedd. Mae cynllun cyfredol yr Awdurdod sy'n cwmpasu'r cyfnod o 2016 i 2020 yn dod i ben ar 31 Mawrth, 2020 ac erbyn hynny mae'n rhaid cyhoeddi cynllun newydd ar gyfer y cyfnod 2020-2024. Diben y Cynllun yw nodi'r camau y mae'r Cyngor yn eu cymryd i gyflawni ei ddyletswyddau cydraddoldeb penodol.

 

Ymhelaethodd y Rheolwr Polisi a Strategaeth ar amcanion y Cynllun sy'n seiliedig ar adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a hawliau dynol A yw Cymru’n Decach? 2018. Mae'r adroddiad hwn yn cydnabod yr heriau y mae angen mynd i'r afael â nhw ar sail Cymru gyfan ac yn diffinio'r uchelgais hirdymor y bydd y Cyngor yn gweithio tuag at ei gyflawni. Yn ystod 2011/12, datblygodd Rhwydwaith Cydraddoldeb Sector Cyhoeddus Gogledd Cymru gyfres o amcanion rhanbarthol a rennir a adolygwyd i gyd-fynd â’r gwaith o baratoi Cynlluniau Cydraddoldeb Strategol ar gyfer 2016-20; mae'r gwaith o gyflawni'r amcanion hyn yn parhau. Hefyd, datblygwyd amcanion lleol gyda chefnogaeth Rhwydwaith Ymgysylltu Lles Medrwn Môn. Er bod nifer o amcanion, maent yn seiliedig ar anghenion a nodwyd ac maent wedi'u rhannu i wasanaethau mewn ffordd gytbwys sy'n golygu bod gan bawb, gan gynnwys Aelodau Etholedig, gyfraniad i'w wneud i sicrhau eu bod yn cael eu gwireddu. Y nod yn y pen draw yw sicrhau bod cydraddoldeb yn cael ei brif ffrydio i waith y Cyngor o ddydd i ddydd ac nad yw'n cael ei weld fel rhywbeth ar wahân gan sicrhau hefyd bod y Cyngor yn cydymffurfio â'i ddyletswydd i beidio â gwahaniaethu. Bydd adroddiad blynyddol ar y cynnydd o ran bodloni'r blaenoriaethau/amcanion yn cael ei baratoi gyda golwg ar y Pwyllgor Sgriwtini perthnasol yn craffu arno.

 

Adroddodd y Cynghorydd G. O. Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Partneriaeth ac Adfywio o gyfarfod y Pwyllgor ar 4 Chwefror, 2020, y cyflwynwyd y Cynllun Cydraddoldeb Strategol iddo. Wrth ystyried yr adroddiad, roedd y Pwyllgor wedi nodi'r disgwyliadau statudol ar y Cyngor o ran cyhoeddi amcanion cydraddoldeb a sut y cynigiwyd y byddent yn cael eu bodloni yn y Cynllun Strategol 4 blynedd nesaf. Cafodd y Pwyllgor wybod am y tair elfen y seiliwyd y Cynllun arnyntsef yr adroddiad "A yw Cymru'n decach?"; cyfres o amcanion rhanbarthol, ac amcanion lleol, a bod y blaenoriaethau drafft wedi’u nodi o dan bob amcan yn seiliedig ar anghenion lleol sydd hefyd yn cyd-fynd â Chynllun Corfforaethol y Cyngor. Roedd y Pwyllgor hefyd yn ymwybodol o weithdrefnau'r Cyngor ar gyfer addysgu staff i sicrhau nad ydynt yn gwahaniaethu. Roedd y Pwyllgor wedi nodi ymhellach, gan eu bod yn seiliedig ar anghenion y boblogaeth, y bydd y cynlluniau cydraddoldeb yn amrywio o sir i sir. Cyfeiriwyd yn ystod trafodaeth y Pwyllgor at y prosesau ar gyfer diwallu unrhyw anghenion newydd a nodir. Ar ôl trafod y mater, roedd y Pwyllgor wedi penderfynu argymell y Cynllun Strategol Cydraddoldeb ar gyfer 2020/24 i'w gymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith ac roedd hefyd wedi argymell bod trefniadau'n cael eu rhoi ar waith i alluogi'r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio i fonitro cynnydd ar gydraddoldeb bob blwyddyn.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Pwyllgor Sgriwtini am ei adborth.

 

Penderfynwyd argymell i’r Cyngor Sir –

 

           Ei fod yn cymeradwyo Cynllun Cydraddoldeb drafft y Cyngor ar gyfer 2020-2024, ac awdurododi Swyddogion mewn ymgynghoriad â’r Deilydd Portffolio i gwblhau’r Cynllun a’i gyhoeddi erbyn 31 Mawrth, 2020.

           Bod trefniadau yn cael eu rhoi mewn lle i’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio fonitro fel mater o drefn yn flynyddol y cynnydd o ran cydraddoldeb.

Dogfennau ategol: