Eitem Rhaglen

Ceisiadau'n Gwyro

10.1  VAR/2019/84 – Rhos Bothan, Llanddaniel

10.2  VAR/2019/87 -  Isfryn, Glanrafon

Cofnodion:

10.1  VAR/2019/84 - Cais o dan Adran 73a i ddiwygio amod (02) (Dim gwaith             i'w wneud adeg tymor nythu), amod (03) (Dim datblygiad tan bod        mesurau lliniaru wedi cael eu cyflwyno a'u cymeradwyo) , amod          (04)(Dim datblygiad tan bod datganiad dull wedi cael ei gyflwyno) ac             amod (07) (Dim datblygiad tan bod cofnod ffotograffig wedi cael ei gyflwyno) o ganiatâd cynllunio 21C169 yn Rhos Bothan, Llanddaniel,    Gaerwen.

 

          Cyfeiriwyd y cais at y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn    wyriad oddi wrth y cynllun datblygu y mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn bwriadu ei ganiatáu.

 

          Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod gan y cais ganiatâd sydd eisoes yn bodoli er mwyn addasu adeilad presennol sydd wedi’i leoli mewn lleoliad cefn gwlad i fod yn un annedd ond nid yw amodau caniatâd y cais            wedi cael eu glynu atynt a cais yw hwn er mwyn ceisio caniatâd o dan yr amodau perthnasol sydd wedi eu nodi yn yr adroddiad. Dywedodd fod y datblygwr wedi cyflwyno manylion lliniaru er mwyn bodloni mesurau ecolegol rhywogaethau a warchodir ac mae cofnod ffotograffig o’r adeilad wedi’i gyflwyno er mwyn bodloni gofynion archeolegol. Fodd bynnag, mae’r Swyddog Ecoleg wedi gofyn am fanylion pellach o ran gwarchod rhywogaethau ar y safle. Adroddodd y Swyddog ymhellach ei bod yn ymddangos fod y fynedfa i’r safle i weld wedi ei hadeiladu yn unol â chaniatâd blaenorol y cais ond disgwylir sylwadau’r Awdurdod Priffyrdd mewn perthynas â manylion y fynedfa. Roedd yr argymhelliad yn un o ganiatáu yn amodol ar dderbyn manylion boddhaol.           

 

Cynigiodd y Cynghorydd Dafydd Roberts y dylid caniatáu’r cais ac fe eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Eric W Jones. 

 

          PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

10.2  VAR/2019/87 - Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (12) (Cynlluniau a gymeradwywyd) o ganiatâd cynllunio rhif 35C237D/VAR (Codi annedd) er mwyn diwygio’r dyluniad yn Isfryn, Glanrafon.

 

Cyfeiriwyd y cais at y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr argymhelliad yn un o ganiatáu, sy’n groes i Bolisi TAI 6 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.  

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod ardal Glanrafon bellach yn cael ei hadnabod fel Clwstwr o dan ddarpariaethau Polisi TAI 6 o fewn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, sydd ddim yn cefnogi’r ddarpariaeth o dai marchnad agored. Fodd bynnag, mae gan y safle ganiatâd cynllunio eisoes a’r cais gerbron y Pwyllgor hwn yw i newid dyluniad yr annedd ac mae’r cais wedi lleihau o ran maint. Ystyrir y cais yn dderbyniol o fewn ei gyd-destun ac o fewn yr ardal AHNE. Mae cais sgrinio wedi ei gyflwyno ar gyfer ei asesu. Dywedodd y Swyddog hefyd bod angen cysylltu amod ychwanegol â’r cais sy’n gwahardd gweithrediad y caniatâd blaenorol.    

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Eric W Jones. 

 

          PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig ac y dylid cynnwys amod ychwanegol sy’n gwahardd gweithrediad y caniatâd blaenorol.

 

Dogfennau ategol: