Eitem Rhaglen

Gweddill y Ceisiadau

12.1  LBC/2019/45 – Mynwent Isaf, Sant Cybi, Ffordd Victoria, Caergybi

12.2  OP/2019/16 – Beecroft, Ffordd yr Orsaf, Y Fali

12.3  FPL/2019/253 – Penfor, Porth Swtan

12.4  FPL/2019/275 – 14 Maes William Williams, Amlwch

12.5  FPL/2019/278 – Ysgol Gynradd Llanfachraeth

12.6  FPL/2019/337 – Stad Ddiwydiannol Mona, Gwalchmai

Cofnodion:

 12.1  LBC/2019/45 - Caniatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer gwaith i giât yr eglwys ym Mynwent Isaf St Cybi's Lower Church Yard, Ffordd Victoria Road, Caergybi.

 

Cyfeiriwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais wedi’i gyflwyno gan y Cyngor ar dir preifat.   

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais hwn yn gais am ganiatâd

adeilad rhestredig i symud y giatiau haearn bwrw i weithdy arbenigol am

gyfnod dros dro er mwyn trin rhwd ac atgyweirio ac adfer nodweddion.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.

 

            PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y           Swyddog a chyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.2  OP/2019/16 - Cais amlinellol ar gyfer dymchwel annedd presennol ynghyd â chodi 4 annedd yn ei le (un fforddiadwy) sydd yn cynnwys manylion llawn am y fynedfa a'r gosodiad yn Beecroft, Ffordd yr Orsaf/Station Road, Y Fali.

 

            Adroddwyd fod y cais hwn wedi ei dynnu’n ôl.

 

12.3  FPL/2019/253 - Cais llawn ar gyfer trosi adeiladau allanol i ddwy uned wyliau sydd yn cynnwys addasu ac ehangu ynghyd â gosod pecyn trin carthffosiaeth yn Penfor, Porth Swtan.

 

Cyfeiriwyd y cais hwn at y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.  

 

Dywedodd y Cynghorydd K P Hughes, gan mai ef oedd wedi cyfeirio’r cais at y Pwyllgor, ei fod yn cynnig y dylid cynnal ymweliad safle er mwyn gadael i Aelodau’r Pwyllgor weld y safle o ganlyniad i bryderon lleol sy’n bodoli mewn perthynas ag edrych drosodd a chyflwr y ffordd tuag at safle’r cais. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd John Griffith.    

 

PENDERFYNWYD ymweld â’r safle ar gais yr Aelod Lleol ac yn unol â’r rhesymau a roddwyd.

 

 

12.4  FPL/2019/275 - Cais llawn ar gyfer codi 4 annedd newydd ynghyd â chreu mynedfa i gerbydau ar dir ger 14 Maes William Williams, Amlwch.

 

Cyfeiriwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais wedi’i gyflwyno gan yr Awdurdod Lleol ar dir sy’n berchen i’r Cyngor.   

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y datblygiad arfaethedig yn cynnwys anheddau un llawr sy’n cynnwys dau floc o ddau annedd. Darperir yr holl anheddau â mannau parcio dynodedig a mannau amwynder preifat a gellir cael mynediad i’r safle o ffordd bresennol y Stad. Adroddodd, er ei bod yn cael ei dderbyn fod y cais yn cael ei gyflwyno gan yr Awdurdod Lleol am lety fforddiadwy, bydd angen gosod amodau ychwanegol ar gyfer y ddarpariaeth o dai fforddiadwy ynghyd ag amod am gynnal a chadw ffordd y stad yn y dyfodol. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd R O Jones y dylid cymeradwyo’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Eric W Jones.

 

            PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y           Swyddog a chyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ac amodau ychwanegol mewn perthynas â chynnal a chadw ffordd y stad yn y dyfodol a’r ddarpariaeth o dai fforddiadwy.

 

12.5  FPL/2019/278 Cais llawn ar gyfer dymchwel adeiladau ysgol presennol a chodi 8 annedd ynghyd â chreu mynedfa i gerbydau ar dir yn Ysgol Gynradd Llanfachraeth, Llanfachraeth, Caergybi.

 

Cyfeiriwyd y cais at y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais wedi’i gyflwyno gan yr Awdurdod Lleol ar dir sy’n berchen i’r Cyngor.    

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais yn un ar gyfer dymchwel yr adeilad ysgol sydd ar y safle a datblygu wyth tŷ, gan gynnwys pedwar byngalo (2 gydag 1 ystafell wely a 2 gyda 2 ystafell wely) ar flaen y datblygiad a phedwar tŷ 2 ystafell wely yng nghefn y datblygiad. Bwriedir creu mynedfa newydd o’r A5025 yn arwain i ffordd fynediad fewnol i wasanaethu cefn y byngalos a blaen yr eiddo dau lawr arfaethedig yng nghefn y safle. Nododd fod y gymysgedd o anheddau ar gyfer eu datblygu yn cael eu hystyried yn dderbyniol a’i fod yn sicrhau darpariaeth fforddiadwy ym mhentref Llanfachraeth. Mae pryderon wedi eu mynegi yn lleol am ddyluniad yr anheddau arfaethedig a mewn perthynas â’r AHNE gyferbyn â’r safle ond mae cynlluniau diwygiedig wedi eu cyflwyno ac mae’r Swyddog Cadwraeth yn fodlon â’r cynlluniau diwygiedig gan eu bod yn cymryd y cyd-destun lleol a’r defnydd o waith cerrig a thoeau llechi i ystyriaeth. Cafwyd llythyr pellach yn gwrthwynebu dymchwel yr adeilad ond nid yw’r Swyddog Cadwraeth yn ystyried y dylid cofrestru’r adeilad fel Adeilad Rhestredig. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio hefyd fod Gwasanaeth Archeolegol Gwynedd wedi argymell y dylid gosod amod y sicrhau arolwg ffotograffig o’r safle cyn iddo gael ei ddymchwel ac mae’r Adran Iechyd yr Amgylchedd wedi cynnig cynnwys amod tir halogedig ar unrhyw ganiatâd a roddir i’r cais. Dywedodd fod yr Awdurdod Priffyrdd wedi dweud y bydd y fynedfa i’r safle yn welliant sylweddol i’r fynedfa bresennol i’r safle. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio hefyd nad yw’r cyfnod ymgynghori cyhoeddus yn dod i ben tan 13 Chwefror, 2020 a gofynnodd am i’r Swyddog gael y pŵer i weithredu ar ôl i’r cyfnod ymgynghori ddod i ben os nad oedd unrhyw sylwadau wedi eu derbyn.   

 

Dywedodd y Cynghorydd K P Hughes y cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus yn ardal Llanfachraeth yn 2018 er mwyn canfod anghenion llety yn yr ardal. Cadarnhawyd fod diffyg anheddau fforddiadwy ac anheddau i’r henoed yn y pentref ac fel Aelod Lleol roedd yn falch bod yr awdurdod lleol wedi gwrando ar y trigolion lleol wrth gyflwyno’r cais hwn. Nododd nad oedd yn ymwybodol o unrhyw wrthwynebiadau i ddymchwel yr ysgol a cynigiodd y dylai’r cais gael ei ganiatáu, eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd John Griffith. 

 

            PENDERFYNWYD:-

  • cymeradwyo’r cais a rhoi’r pŵer i Swyddogion weithredu ar ôl i’r cyfnod ymgynghori statudol ddod i ben;

·      bod amodau ychwanegol yn cael eu cysylltu i’r caniatâd o’r cais o ran y dylid sicrhau arolwg ffotograffig o’r adeilad ac amod tir halogedig.

 

12.6  FPL/2019/337 - Cais ôl-weithredol ar gyfer creu lôn mynediad yn Stad Diwydiannol Mona, Gwalchmai.

 

Cyfeiriwyd y cais hwn i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais wedi’i leoli ar dir sy’n berchen i’r Cyngor.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais ôl-weithredol yn cynnwys adeiladu ffordd fynediad barhaol a llwybr i gerddwyr (oddeutu 42 metr o hyd) o gangen hen gylchfan gyfagos ar Stad Ddiwydiannol Mona i hen lwybrau glanio ger Maes Awyr Mona. Byddai'r trac mynediad yn hwyluso'r defnydd o'r llwybrau glanio fel arwynebau solet ar gyfer parcio yn ystod digwyddiadau lleol (fel Sioe Ynys Môn) a gall Cerbydau Nwyddau Trwm barcio yno mewn tywydd garw sy'n effeithio ar eu gallu i groesi Pont Britannia i gyfeiriad y dwyrain. Nodwyd hefyd, mewn achos o ‘Brexit heb gytundeb’, byddai cyfleuster parcio loriau HGV yn cael ei ddarparu ar y llain galed er mwyn lliniaru traffig ar yr A55. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio, mewn ymateb i gyngor gan yr Ymgynghorydd Ecolegol ac Amgylcheddol, ei fod yn cael ei argymell bod tir y safle yn cael adael i ail dyfu’n naturiol ac na ddylid gorfodi plannu unrhyw goed ar y safle er mwyn lliniaru effeithiau ar y maes awyr o ddenu adar i’r safle. Nododd ymhellach nad yw’r cyfnod ymgynghori yn dod i ben tan 5 Chwefror 2020 a gofynnodd am i’r Swyddogion gael y grym i weithredu yn dilyn diwedd y cyfnod ymgynghori os nad oedd unrhyw gynrychioliadau wedi eu derbyn. 

 

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais a rhoi’r grym i Swyddogion weithredu ar ôl i’r cyfnod ymgynghori cyhoeddus statudol ddod i ben.

 

 

Dogfennau ategol: