Eitem Rhaglen

Y Cynllun Ariannol Tymor Canol a'r Gyllideb ar gyfer 2020/21

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn ceisio barn y Pwyllgor Gwaith ar Gyllideb Refeniw'r Cyngor a’r Dreth Gyngor ar gyfer 2020/21 yn deillio o hynny; y Strategaeth Ariannol Tymor Canol a ddiweddarwyd a defnyddio arian unwaith am byth i gefnogi’r gyllideb.

 

Ar yr adeg hon, datganodd yr Aelod Portffolio Cyllid ddiddordeb personol ond heb fod yn rhagfarnus mewn perthynas â Phremiwm y Dreth Gyngor.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid, er bod y Cyngor yn croesawu’r arian ychwanegol sydd ar gael fel rhan o’r setliad refeniw ar gyfer 2020/21, mae’r rhagolygon ariannol yn parhau i fod yn heriol. Yn ogystal, mae’n anodd dirnad sut y cafodd y fformiwla cyllido ei chymhwyso o ystyried bod cymaint o amrywiaeth yn lefel y cynnydd y mae cynghorau yng Nghymru wedi’i derbyn.

 

Mae cynnydd o 3.8% yn setliad Ynys Môn. Wrth gyfeirio at yr ymgynghoriad cyhoeddus ar gynigion drafft y gyllideb refeniw, a oedd yn fwy cyfyngedig eleni oherwydd bod yr amserlen wedi cael ei thocio, dywedodd yr Aelod Portffolio, er bod mwyafrif o blaid buddsoddi yn y Gwasanaethau Oedolion mewn ymateb i’r cynnydd yn y galw; diogelu cyllidebau ysgolion a gweithredu’r arbedion arfaethedig, roedd llai yn cefnogi cynnydd o rhwng 4.5% i 5% yn y Dreth Gyngor, gyda 69.88% o ymatebwyr yn gwrthwynebu’r fath gynnydd. Dywedodd yr Aelod Portffolio bod gofyn cyfreithiol ar yr Awdurdod i lunio cyllideb gytbwys.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 nad oedd gwahaniaeth rhwng y setliad ariannol terfynol a gadarnhawyd ar 25 Chwefror, 2020 a’r setliad dros dro o £101.005m ar gyfer Ynys Môn a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2019 ac yr adroddwyd arno i’r Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 13 Ionawr 2020. Fodd bynnag, roedd y setliad terfynol yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol a oedd yn ceisio egluro pam fod lefel y cynnydd yn y setliad yn wahanol o un awdurdod i’r llall. Ar ôl cymryd y setliad terfynol i ystyriaeth, byddai angen £41.172m o arian Treth Gyngor i gyllido gofynion cyllideb o £142.177m, sydd yn cyfateb i gynnydd o 4.58% yn y Dreth Gyngor.

 

Mae’r gyllideb arfaethedig yn cynnwys nifer o ragdybiaethau o ran lefelau incwm a gwariant tebygol yn ystod y blynyddoedd nesaf ac o ganlyniad mae nifer o risgiau cynhenid yn y gyllideb arfaethedig. Amlygir y risgiau hyn yn adran 5 yr adroddiad a’r prif risgiau yw dyfarniad cyflog staff a’r galw am wasanaethau. Cytunwyd ar ddyfarniad cyflog athrawon hyd at fis Medi 2020 ac mae’r swm angenrheidiol wedi’i gynnwys yn y cynigion ar gyfer y gyllideb. Fodd bynnag, ni chytunwyd ar ddyfarniad cyflog o fis Medi 2021 ymlaen ac er y caniatawyd ar gyfer cynnydd o 2%, mae’n bosib na fydd hyn yn ddigonol. Mae mwy o risg yn gysylltiedig â’r dyfarniad cyflog ar gyfer staff nad ydynt yn athrawon fydd yn cael ei weithredu o 1 Ebrill 2020 gan nad oes cytundeb yn ei gylch hyd yma. Mae’r Cyflogwyr wedi cynnig cynnydd o 2% ond mae’r Undebau’n gofyn am gynnydd o 10%. Mae arian ychwanegol wedi’i gynnwys yn y gyllideb ar gyfer cynnydd o 2% mewn cyflogau. Byddai pob 1% uwchlaw’r ffigwr hwn yn golygu cynnydd o £450k yn y costau blynyddol. Mae’r risg sylweddol arall yn ymwneud â galw, yn arbennig yn y Gwasanaethau Oedolion, y Gwasanaethau Plant ac anghenion dysgu ychwanegol. Mae’r gyllideb ddigyfnewid ar gyfer 2020/21 wedi cymryd i ystyriaeth y cynnydd yn y galw yn ystod 2019/20 ond ni fyddai unrhyw gynnydd pellach yn cael ei gyllido gan arwain at risg o orwariant pellach 2020/21.

 

Fel arfer, wrth osod y gyllideb, byddai’r Cynllun Ariannol Tymor canol yn cael ei ddiweddaru hefyd. Fodd bynnag, oherwydd yr ansicrwydd ynghylch ariannu yn y dyfodol, byddai diweddaru’r cynllun ar hyn o bryd yn dybiannol ar y gorau, a gallai gam-gyfleu’r gwir sefyllfa. Disgwylir i’r sefyllfa ddod yn gliriach yn ystod y misoedd nesaf a bydd y Pwyllgor Gwaith yn derbyn diweddariad ar sefyllfa ariannol y Cyngor ym mis Medi 2020.

 

Adroddodd y Cynghorydd Richard Owain Jones, Is-gadeirydd cyfarfod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 27 Chwefror 2020 ar drafodaethau’r Pwyllgor yn y cyfarfod hwnnw. Roedd y Pwyllgor wedi trafod cynigion terfynol y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2020/21 gan roi ystyriaeth i’r adborth o’r ymgynghoriad cyhoeddus a chyflwyniad llafar manwl gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 ar opsiynau’r gyllideb a’u heffaith posib ar y cynnydd yn y Dreth Gyngor. Wrth nodi’r setliad terfynol, a oedd yn gadarnhaol, roedd y Pwyllgor serch hynny wedi mynegi ei siom nad oedd Llywodraeth Cymru wedi gosod llawr ariannu a fyddai wedi golygu na fyddai’r un cyngor wedi derbyn cynnydd o lai na 4% (3.8% oedd cynnydd Ynys Môn). Roedd y Pwyllgor yn cefnogi’r buddsoddiad ychwanegol arfaethedig yn y Gwasanaethau Oedolion i gwrdd â’r cynnydd yn y galw ac yn cefnogi diogelu cyllidebau ysgolion drwy beidio â gweithredu toriad o £800k yng nghyllidebau datganoledig ysgolion a ohiriwyd o 2019/20. Roedd y Pwyllgor hefyd yn cefnogi gweithredu’r arbedion a nodwyd ac eithrio cynyddu ffioedd parcio canol tref (teimlwyd y byddai hynny’n wrthgynhyrchiol o safbwynt economaidd), er ei fod yn ffafrio dileu’r gyfradd 50c. Roedd y Pwyllgor yn cydnabod y risgiau i Gyllideb 2020/21, yn arbennig mewn perthynas â dyfarniad cyflog staff a’r galw am wasanaethau ac, ar y sail honno, argymhellodd gynnydd o 5% yn y Dreth Gyngor.

 

Ystyriodd y Pwyllgor Gwaith y wybodaeth a gyflwynwyd a’r adroddiad gan Sgriwtini. Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid, gan ei fod yn rhan o drafodaethau Sgriwtini yn y cyfarfod ar 27 Chwefror, roedd yn fodlon derbyn argymhellion Sgriwtini o ran peidio â chynyddu ffioedd parcio mewn meysydd parcio canol tref a dileu’r raddfa 50c, ond na allai gefnogi cynnydd o 5% yn y Dreth Gyngor oherwydd y credai y byddai’n hynny’n ormod i’w ofyn gan drigolion Ynys Môn, yn arbennig ar ôl cynnydd o 9.5% yn y Dreth Gyngor y llynedd. Felly, cynigiodd gyllideb refeniw net o £142.146m ar gyfer 2020/21 a chynnydd o 4.5% yn y Dreth Gyngor fyddai’n golygu cynyddu Treth Gyngor Band D i £1,304.73, sef cynnydd o £56.16. Wrth gefnogi’r cynnig, ychwanegodd y Pwyllgor Gwaith y byddai’n fuddiol petai Llywodraeth Cymru, yr Undebau a Chyflogwyr yn cynnal trafodaethau ynghylch tâl cyn i gyllidebau gael eu gosod fel bod cynghorau’n gwybod erbyn diwedd mis Ionawr bob blwyddyn beth fydd y dyfarniad cyflog a bod ganddynt fwy o sicrwydd wrth gynllunio ar gyfer cynnydd mewn cyflogau. Byddai hynny’n cael gwared â’r risg i’r gyllideb o ganlyniad i ddiffyg sicrwydd ynghylch y dyfarniad cyflog. Awgrymwyd hefyd, oherwydd y gofyn cyfreithiol ar gynghorau i lunio cyllideb gytbwys, y dylid gofyn i Lywodraeth Cymru ystyried ariannu ymrwymiadau/pwysau ar gostau ychwanegol y mae cynghorau’n gorfod eu hysgwyddo ond nad ydynt yn gallu dylanwadu arnynt.

 

Penderfynwyd –

 

           Nodi’r cyfarfodydd ymgynghori ffurfiol ar y gyllideb ac ystyried yr atborth a gafwyd ynddynt fel yr amlinellir yn Adran 2, Atodiad 1 ac yn Atodiad 2.

           Cytuno ar fanylion terfynol cyllideb arfaethedig y Cyngor gan gynnwys y cyllid diwygiedig mewn ymateb i’r pwysau ar y gyllideb a’r arbedion arfaethedig fel y dangosir nhw yn Adran 8, Atodiad 1 ac yn Atodiad 3 ac eithrio cynyddu ffioedd parcio ceir mewn safleoedd trefol a fydd yn aros yr un fath heblaw am y raddfa 50c a ddiddymir gan wneud isafswm cost o £1. 

           Nodi argymhelliad y Swyddog Adran 151 y dylai’r Cyngor fod yn gweithio i sicrhau bod o leiaf £7.1m yn y balansau cyffredinol.

           Nodi’r sylwadau a wnaed gan y Swyddog Adran 151 ar gadernid yr amcangyfrifon a wnaed fel y cânt eu hamlinellu yn Adran 6, Atodiad 1.

           Argymell cyllideb net ar gyfer y Cyngor Sir o £142.146m a chynnydd yn lefel y Dreth Gyngor felly o 4.5%, (£56.16 – Band D), gan nodi y bydd penderfyniad ffurfiol, yn cynnwys y Praeseptau i Heddlu Gogledd Cymru a’r Cynghorau Cymuned, yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor llawn ar 10 Mawrth, 2020.

           Awdurdodi’r Swyddog Adran 151 i wneud unrhyw newidiadau a all fod yn angenrheidiol cyn cyflwyno’r cynigion terfynol i’r Cyngor.

           Cytuno y bydd unrhyw bwysau annisgwyl ar gyllidebau a arweinir gan y galw yn ystod y flwyddyn ariannol yn gallu tynnu ar gyllid o’r gyllideb gyffredinol ar gyfer digwyddiadau annisgwyl.

           Gofyn i’r Cyngor awdurdodi’r Pwyllgor Gwaith i ryddhau hyd at £250k o’r balansau cyffredinol os bydd y gyllideb ar gyfer digwyddiadau annisgwyl wedi’i hymrwymo’n llawn yn ystod y flwyddyn.

           Dirprwyo i’r Swyddog Adran 151 y pŵer i ryddhau hyd at £50k o’r gronfa digwyddiadau annisgwyl ar gyfer unrhyw un eitem. Ni chaniateir cymeradwyo unrhyw eitem dros £50k heb gael caniatâd ymlaen llaw gan y Pwyllgor Gwaith.

           Cymeradwyo bod y Premiwm Treth Gyngor ar gyfer ail gartrefi yn parhau i fod yn 35% ac yn parhau i fod yn 100% ar gyfer tai gwag.

Dogfennau ategol: