Eitem Rhaglen

Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru

Derbyn cyflwyniad gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Mr Arfon Jones, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru a’r Uwcharolygydd Richie Green (Gwynedd ac Ynys Môn) i’r cyfarfod.

 

Siaradodd Mr Arfon Jones am rôl y Comisiynydd Heddlu a Throsedd. Yn dilyn ei ethol yn Gomisiynydd Heddlu a Throsedd yn 2012, dywedodd bod dyletswydd arno i gynhyrchu Cynllun Heddlu a Throsedd o fewn 12 mis o gychwyn yn y swydd. Mae’r Cynllun yn amlinellu cyfeiriad strategol Heddlu Gogledd Cymru yn ystod ei gyfnod fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd. Dywedodd ei fod wedi nodi pump o flaenoriaethau yn y Cynllun Heddlu a Throsedd ar gyfer 2017-2021 fel a ganlyn :-

 

·      Cam-drin Domestig

 

  • Bob dydd mae Heddlu Gogledd Cymru yn cofnodi 26 o ddigwyddiadau domestig ar gyfartaledd. Yn ystod y saith mlynedd ddiwethaf, cafodd 936 o ferched eu lladd gan ddynion yng Nghymru a Lloegr;
  • Cam-drin domestig yw’r risg mwyaf sy’n wynebu Heddlu Gogledd Cymru oherwydd yr effaith eang ar y dioddefwr (corfforol, ffisiolegol ac ariannol), y nifer o droseddau a gofnodir ac am fod achosion yn cynyddu.

 

·      Caethwasiaeth Fodern

 

·        Term a ddefnyddir i gyfeirio at ecsploetio pobl fregus drwy weithgareddau megis masnachu pobl a llafur dan orfodaeth yw Caethwasiaeth Fodern. Yn aml mae hwn yn drosedd gudd, ac mae dioddefwyr yn gyndyn o fynd at yr heddlu oherwydd eu bod yn cael eu rheoli ac yn byw mewn ofn.

·        Mae angen sicrhau bod dioddefwyr yn cael eu cydnabod fel dioddefwyr ac nad ydynt yn cael eu cyhuddo o droseddau eraill megis mewnfudo anghyfreithlon, puteindra neu ddwyn;

·        Mae Gogledd Cymru yn ardal allweddol ar gyfer Caethwasiaeth Fodern yn y DU oherwydd Porthladd Caergybi.

 

Troseddu Difrifol a Threfnedig

 

·        Mae’r Llywodraeth yn ystyried bod troseddu difrifol a threfnedig yn un o’r bygythiadau mwyaf i ddiogelwch cenedlaethol y DU ac mae’r gost i’r DU dros £24 biliwn y flwyddyn. Mae’r Strategaeth Genedlaethol Troseddu Difrifol a Threfnedig yn seiliedig ar y fframwaith a ddefnyddir ar gyfer gwrthderfysgaeth ac mae’n amlinellu'r camau fydd yn cael eu cymryd i atal pobl rhag ymwneud â throsedd difrifol a threfnedig, cryfhau mesurau amddiffyn yn ei erbyn a’r ymateb iddo, ac erlid y troseddwyr;

·        Ymchwiliwyd i nifer o achosion o droseddau difrifol a threfnedig ym Mhorthladd Caergybi ac ar draws Gogledd Cymru.

 

·      Cam-drin Rhywiol (gan gynnwys cam-fanteisio’n rhywiol ar blant)

 

·           Mae llawer iawn o achosion o drais ac ymosodiadau rhyw difrifol yn cael eu hadrodd i’r heddlu ac yn aml mae’r troseddwr yn bartner i’r dioddefwr neu’n berson y maent yn eu hadnabod. Fodd bynnag, mae angen annog dioddefwyr i roi gwybod am y digwyddiadau hyn.

·           Sefydlwyd Tîm gan Heddlu Gogledd Cymru i daclo camfanteisio’n rhywiol ar blant. Mae’r heddlu yn cydweithio gyda sefydliadau eraill hefyd i sicrhau bod popeth y gellir ei wneud i ddiogelu’r plant hyn yn cael blaenoriaeth deilwng. Yn ogystal, bu cynnydd yn nifer y digwyddiadau o ‘feithrin perthynas amhriodol ar-lein’ (online grooming) ar draws y wlad.

 

·      Darparu Cymunedau Mwy Diogel

 

  • Mae presenoldeb gweledol yr heddlu yn atal troseddau sy’n digwydd mewn mannau cyhoeddus ac yn rhoi tawelwch meddwl i’r mwyafrif o’r cyhoedd ac yn atgyfnerthu eu cysylltiadau â’r heddlu;
  • Cafwyd ymgyrch lwyddiannus yng Nghaergybi yn dilyn achos o bobl ifanc yn tarfu ar ardal gerllaw siop prydau cyflym. Derbyniodd Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu wobr am gynorthwyo’r bobl ifanc i fynychu gweithgareddau lleol yn hytrach na chreu niwsans i drigolion lleol yng nghyffiniau’r siop prydau cyflym.

 

Ychwanegodd Mr Jones ei fod yn dymuno amlygu’r gwaith partneriaeth rhwng Heddlu Gogledd Cymru a’r Cyngor Sir, y mae parch mawr iddo, a chyfeiriwyd hefyd at y rhaglen ‘Camau Cynnar gyda’n Gilydd’. Mae’r rhwydwaith ddysgu Camau Cynnar gyda’n Gilydd ar gyfer profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol i’r cyhoedd, gweithwyr proffesiynol a’r heddlu mewn perthynas â Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod. Y nod yw rhannu gwybodaeth ddefnyddiol ac ymchwil ynghylch y profiadau hyn yn ogystal ag arfer orau ac adnoddau. Mae’r rhaglen wedi lleihau nifer yr atgyfeiriadau diogelu i Adran Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor Sir.

Fel Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, dywedodd Mr Jones mai ei weledigaeth yw atal troseddwyr rhag aildroseddu. Cyfeiriodd at y rhaglen ‘Checkpoint’ Cymru sydd â’r nod o gadw mân droseddwyr allan a drwbl ac allan o’r llysoedd. Yn bennaf, problemau cyffuriau ac iechyd meddwl sydd gan rai troseddwyr ac mae’r rhaglen ‘Checkpoint’ yn ceisio darparu cyrsiau i gynorthwyo a chefnogi pobl yn eu cymunedau.

Amlygodd yr Uwcharolygydd Richie Green faterion lleol ar Ynys Môn. Cyfeiriodd at waith partneriaeth rhwng Heddlu Gogledd Cymru a’r Awdurdod Lleol i ymateb i broblemau ymddygiad gwrthgymdeithasol a’r rhesymau pam fod pobl yn troseddu. Ychwanegodd bod cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda’r Awdurdod Iechyd lleol yn holl bwysig i waith yr Heddlu mewn perthynas â throseddu ymysg pobl fregus oherwydd problemau’n ymwneud â chyffuriau a phroblemau iechyd meddwl.

Diolchodd y Cadeirydd i Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru a’r Uwcharolygydd Richie Green am eu cyflwyniad i’r Pwyllgor.  Ystyriodd y Pwyllgor y wybodaeth a gyflwynwyd a gwnaed y pwyntiau canlynol:-

 

·      Cyfeiriwyd at y gwaith partneriaeth gyda’r Awdurdod Iechyd lleol mewn perthynas â phobl ifanc fregus sydd â phroblemau iechyd meddwl. Gofynnwyd a oedd yr Awdurdod Iechyd ac asiantaethau eraill yn cyfrannu at waith ataliol mewn perthynas â phobl fregus a all fod mewn perygl o aildroseddu. Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru bod y sefyllfa wedi gwella yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mewn perthynas â’r gefnogaeth a roddir i bobl fregus pan fyddant yn y ddalfa. Mae Swyddogion y Ddalfa a Staff Ystafelloedd Rheoli wedi derbyn hyfforddiant ynglŷn â sut i ddelio gyda phobl â phroblemau iechyd meddwl a dengys ystadegau bod yr ymateb i bobl mewn argyfwng wedi gwella. Dywedodd yr Uwcharolygydd Richie Green bod y gefnogaeth i bobl fregus sydd â phroblemau iechyd meddwl wedi gwella’n sylweddol oherwydd bod asiantaethau partner yn cyfarfod yn rheolaidd;

·      Nodwyd bod aelodau etholedig yn derbyn cwynion rheolaidd gan drigolion lleol ynghylch y rhif ffôn 101 ar gyfer achosion nad ydynt yn rhai brys. Cytunodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru bod problem gyda’r rhif 101 ar gyfer digwyddiadau nad ydynt yn rhai brys. Dywedodd bod angen gweithredu system ar-lein er mwyn rhyddhau staff yn y Ganolfan Reoli i ddelio â galwadau brys.

·   Nodwyd y bu gostyngiad yn y ffigyrau ar gyfer ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ddiweddar. Cyfeiriodd Aelod at ddigwyddiadau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ardal Llangefni yn ddiweddar a gofynnodd faint o Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu (SCCH) sy’n cael eu cyflogi yn yr ardal. Dywedodd yr Uwcharolygydd Richie Green y bu gostyngiad yn nifer y SCCH ar yr Ynys ond bod 5 o Swyddogion Heddlu ychwanegol wedi cael eu cyflogi er mis Hydref 2019. Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru y rhagwelir y bydd 200 o Swyddogion Heddlu ychwanegol yn cael eu cyflogi yn ystod y 3 mlynedd nesaf ond pwysleisiwyd mai dim ond Swyddogion Heddlu y gellir eu cyflogi drwy’r broses recriwtio, nid Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu;

·   Dywedodd Aelodau bod cynnydd amlwg yn y defnydd o’r cyffur cocên yn hytrach na heroin. Dywedodd yr Uwcharolygydd Richie Green y daeth i’r amlwg yn ystod yr ymgyrch ‘yfed a gyrru’ dros y Nadolig bod defnyddwyr tro cyntaf yn defnyddio mwy o’r cyffur cocên yn hytrach na chanabis, at ddefnydd hamdden. Nododd bod hyn yn fater o bryder gan ei fod ynghlwm â phroblem ‘county lines’ yng Ngogledd Cymru.

·   Gofynnwyd a yw Heddlu Gogledd Cymru’n delio gyda thwyll ‘ar-lein’ ac ar y ffôn. Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru ei fod yn bwriadu sefydlu Tîm i ymchwilio i dwyll yn erbyn pobl fregus, fel rhan o’r Cynllun Heddlu a Throsedd. Dywedodd fod achosion niferus lle mae pobl wedi colli swm sylweddol o arian oherwydd twyll ‘ar-lein’ ac ar y ffôn. Erbyn hyn mae banciau’n gweithio gyda’r Heddlu i atal trafodion amheus o gyfrifon banc.

Diolchodd y Cadeirydd i Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru a’r Uwcharolygydd Richie Green am fynychu’r cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.

 

GWEITHREDU : Dim