Eitem Rhaglen

Arferion Rheoli'r Trysorlys

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i'w ystyried gan y Pwyllgor, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth

(Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn cynnwys datganiad ar Arferion Rheoli Trysorlys yr Awdurdod yn unol â Chod Ymarfer CIPFA ar Reoli'r Trysorlys (2017).

 

Dywedodd y Rheolwr Cyllid fod yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i sicrhau bod y Cyngor yn gweithredu arfer gorau yn unol â Chod Ymarfer CIPFA ar gyfer Rheoli'r Trysorlys. Mae'r Cod yn argymell bod y Cyngor yn cofnodi ei weithdrefnau rheoli’r trysorlys fel Arferion Rheoli’r Trysorlys (TMPs). Mae adran 7 ac Atodlen 2 y Cod yn cynnwys awgrymiadau ar yr hyn y dylid ei gynnwys mewn TMPs awdurdodau. Cwblhawyd a chymeradwywyd TMPs presennol y Cyngor yn 2016. Mae'r rhain wedi cael eu hadolygu a'u diweddaru ac maent yn cymeradwyo nifer o'r awgrymiadau a ddarparwyd gan God CIPFA yn ogystal â chynnwys adran (TMP13) ar fuddsoddiadau sydd ym meddiant y Cyngor nad ydynt yn fuddsoddiadau rheoli trysorlys, yn unol â gofynion Cod Rheoli Trysorlys diwygiedig CIPFA. Buddsoddiadau nad ydynt yn fuddsoddiadau rheoli trysorlys y Cyngor yw’r eiddo buddsoddi y mae’r Gwasanaethau Eiddo yn eu rheoli.

 

Rhoddodd y swyddog drosolwg cryno o'r 13 TMP a restrwyd a chyfeiriodd at TMP13 sydd newydd gael ei ychwanegu at Fuddsoddiadau nad ydynt yn Fuddsoddiadau Rheoli Trysorlys    gan esbonio beth mae'r arfer hwn yn cyfeirio ato, a thynnodd sylw at sut y mae'r TMPs eraill - TMP 1, 2, 5, 6 a 10 yw’r rhai mwyaf perthnasol - yn berthnasol i fuddsoddiadau nad ydynt yn fuddsoddiadau rheoli trysorlys. Mae Datganiad Cyfrifon 2018/19 yn dangos bod portffolio buddsoddi'r Cyngor yn werth £6m sy'n unedau diwydiannol yn bennaf. Yn 2017/18 a 2018/19, roedd ffrwd incwm net o bortffolio buddsoddi'r Cyngor.

 

Mewn ymateb i gwestiynau yn codi ar yr adroddiad, dywedodd y Pwyllgor–

 

           Yn wahanol i Loegr lle mae gan awdurdodau lleol bŵer cymhwysedd cyffredinol sy'n caniatáu iddynt fuddsoddi'n ariannol mewn asedau fel canolfannau siopa, gwestai a sinemâu y tu mewn a thu allan i ardal eu hawdurdod, nid oes gan gynghorau yng Nghymru bwerau o'r fath a byddai'n rhaid iddynt ddefnyddio pwerau datblygu economaidd eraill pe baent yn bwriadu gwneud buddsoddiadau a fyddai, beth bynnag, wedi’u cyfyngu i’w hardaloedd eu hunain. Mae portffolio eiddo buddsoddi’r Cyngor yn cynnwys unedau masnachol a diwydiannol yn ogystal ag ambell eiddo manwerthu ond    nid yw wedi buddsoddi mewn unrhyw asedau manwerthu mwy.

           Nad oes gan y Cyngor gyfleuster gorddrafft cymeradwy gyda'i fanc ar hyn o bryd. Mae'r Cyngor yn adolygu ac yn rheoli ei ofynion o ran llif arian yn rheolaidd rhag bod mewn dyled. Hefyd, mae trefniadau bancio wedi'u gweithredu fel bod yr holl gyfrifon banc o dan y contract corfforaethol gyda NatWest yn cael eu hystyried wrth benderfynu ar falans y Cyngor. Felly, os bydd gormod o arian wedi cael ei godi o unrhyw gyfrif a hynny’n creu dyled, bydd y swm cyfatebol yn cael ei gymryd o gyfrifon eraill sydd mewn credyd gan olygu na fydd y cyngor â gorddrafft. Hefyd, pe bai angen, gall yr Awdurdod fenthyca ar fyr rybudd gyda'r PWLB – byddai benthyciad o'r fath, p’ un ai a fyddai’n un tymor byr neu dymor hwy yn costio llai na gorddrafft. Cafodd y Pwyllgor sicrwydd gan y ffaith bod cofnod llif arian dyddiol o symudiadau a balansau yn cael ei gadw a'i ddiweddaru yn y bore a'r prynhawn.

           O ran meini prawf gwrth-barti (TMP1, 1.1.) nid yw awdurdodau lleol y DU yn cael gradd credyd yn yr un modd â sefydliadau bancio. Pe bai'r Awdurdod yn bwriadu buddsoddi yn y tymor byr gydag awdurdod lleol arall, yna byddai'n gwneud y gwiriadau angenrheidiol o’r awdurdod y mae'n buddsoddi gydag ef. Mae awdurdodau lleol yn cael eu hystyried yn gyffredinol fel buddsoddiad risg isel; mae diogelwch ac addasrwydd i dderbyn credyd ariannol yn y blynyddoedd diwethaf wedi dod yn flaenoriaethau i awdurdodau lleol wrth wneud penderfyniadau buddsoddi.

           Bod Gwasanaeth Ymgynghorol/Ymgynghorwyr Arbenigol Rheoli'r Trysorlys yn cael ei ddarparu gan Link Asset Services (Capita Asset Services gynt); roedd eu contract yn mynd o 1 Ebrill 2016 i 31 Mawrth 2019 ond gydag opsiwn i'w ymestyn am hyd at 2 flynedd. Cytunwyd ar estyniad i'r contract ac mae'n weithredol.

 

Penderfynwyd–

 

           Nodi cynnwys y blaen adroddiad.

           Cymeradwyo’r Arferion Rheoli’r Trysorlys diwygiedig yn Atodiad 1 a’u hanfon ymlaen i'r Pwyllgor Gwaith heb wneud sylw pellach.

 

NI CHYNIGIWYD UNRHYW GAMAU YCHWANEGOL

Dogfennau ategol: