Eitem Rhaglen

Gwasanaeth Cynllunio Argyfwng Rhanbarthol Gogledd Cymru

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Mr Neil Culff, Rheolwr Rhanbarthol, Cynllunio Argyfwng Rhanbarthol Gogledd Cymru a Mr Gwyn Hughes, Swyddog Cynllunio Argyfwng, I’r cyfarfod.

 

Cyflwynwyd – diweddariad ar y cyd gan y Rheolwr Rhanbarthol a’r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar faterion Cynllunio Argyfwng. 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd mai pwrpas yr adroddiad oedd er mwyn darparu diweddariad ar y rhaglen o waith rhanbarthol ar gyfer cynllunio ac ymateb i argyfwng a’r rhai hynny o fewn y Cyngor ei hun. Nododd bod angen profi gwytnwch trefniadau cynllunio argyfwng a threfniadau parhad busnes drwy ymarferion. Bydd ymarferion argyfwng yn cael ei hymgymryd â nhw er mwyn gweld pa mor barod yw’r awdurdod i ddelio â phethau megis tywydd garw er enghraifft.    

 

Rhoddodd y Rheolwr Rhanbarthol, Gwasanaeth Cynllunio Argyfwng Rhanbarthol Gogledd Cymru gyflwyniad ac fe adroddodd bod y Cyngor yn cyflawni ei rwymedigaethau trwy gydweithio ag awdurdodau lleol eraill Gogledd Cymru trwy’r Gwasanaeth Cynllunio Argyfwng Rhanbarthol Cynghorau Gogledd Cymru (NWC-REPS), sy’n cael ei arwain gan Gyngor Sir y Fflint. Nodwyd fod NWC-REPS yn adrodd i Fwrdd Gweithredol, sy’n cynnwys swyddog o bob un o’r Awdurdodau Lleol sy’n bartneriaid i’r gwasanaeth. Mae’r Bwrdd yn derbyn adroddiadau am raglenni gwaith rhanbarthol ac yn eu monitro. Nodwyd fod gan Gyngor Sir Ynys Môn ddyletswyddau mewn perthynas â chynllunio argyfwng ac ymateb i argyfyngau dan Ddeddf Argyfyngau Sifil 2004, Rheoliadau Ymbelydredd (Parodrwydd ar gyfer Argyfyngau a Gwybodaeth Gyhoeddus) 2001, a Rheoliadau Diogelwch Piblinellau 1996. Nododd y cafodd y cafodd y Rheoliadau Ymbelydredd (Parodrwydd ar gyfer Argyfyngau a Gwybodaeth Gyhoeddus) eu hadolygu yn 2019. Roedd dyletswydd ar yr Awdurdod I baratoi cynllun oddi ar y safle ar gyfer Gorsaf Bŵer Wylfa ond nad oedd hyn bellach yn ofyniad. 

 

Adroddodd y Rheolwr Rhanbarthol ar y ffrydiau gwaith y mae’r Gwasanaeth Cynllunio Argyfwng yn ymgymryd â nhw:-

 

  • Pandemig Ffliw – mae gwaith yn cael ei ymgymryd ag ef ar draws y rhanbarth ar y cyd â’r Gwasanaeth iechyd ac awdurdodau lleol mewn perthynas â threfniadau parodrwydd ar gyfer pandemig ffliw y mae’r posibilrwydd yn cael ei ystyried yn ‘uchel iawn’ ar y Gofrestr Risg Genedlaethol a Chymunedol. 
  • Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth – Grŵp ‘4x4 Response Wales mae gwaith o fewn y trydydd sector yn darparu cludiant wrth gefn ar gyfer cyfnodau o dywydd garw. 
  • Cynllun Argyfwng Ffordd Glandwr, Llangefni – gwaith wedi’i ymgymryd ag ef gyda CNC er mwyn paratoi cynllun argyfwng penodol;
  • Prosiect EXODUS (rhannu gwybodaeth am bobl fregus) – adnabod pobl fregus mewn ardaloedd lle mae risg o lifogydd petai angen gwagio’r ardal oherwydd llifogydd. 

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd at y gweithgareddau cynllunio argyfwng diweddar a gyflawnwyd o fewn yr Awdurdod fel a ganlyn:- 

 

·      Profi Cynlluniau Rheoli Parhad Busnes – Ymarfer Synergedd, Ebrill

2019

·      Cynlluniau Rheoli Parhad Busnes Gwasanaeth diweddaru yn flynyddol;

·      Adroddiad Archwilio Mewnol - Parhad Busnes Gwasanaeth - a oedd wedi’i adrodd i’r Pwyllgor Cynllunio ar 18 Chwefror, 2020.

·      Wylfa  - ymarfer bwrdd gwaith aml-asiantaeth wedi’i gynnal ym Medi 2020;

·      Hyfforddiant Staff Fforwm Cymru Gydnerth Leol yn trefnu hyfforddiant ar gyfer staff y Cyngor bob blwyddyn.  

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Rhanbarthol at y gweithgareddau a gynhelir yn y dyfodol fel â

ganlyn:-

 

·      Dilysu’r Cynllun – bydd angen i gynllun newydd neu ddiwygiedig gael ei ddilysu;

·      Cynllun Llygredd Arfordirol Cynghorau Gogledd Cymru – cymryd ystyriaeth o’r gwersi a ddysgwyd yn dilyn digwyddiad marina Caergybi yn 2018;

·      Cynllunio adferiad – canolbwyntio ar gynlluniau ar gyfer y broses adfer yn dilyn digwyddiadau mawr.

 

Ystyriodd y Pwyllgor y wybodaeth a gyflwynwyd a gwnaed y pwyntiau canlynol:-

 

·      Cyfeiriwyd at y sylw diweddar ar y Coronafeirws a holwyd a fyddai’r awdurdod yn barod petai achosion o’r fath yn cyrraedd Ynys Môn. Nodwyd fod nifer i longau pleser yn ymweld ag Ynys Môn. Ymatebodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd drwy ddweud y byddai’r awdurdod yn gweithio â Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru ac yn dilyn y canllawiau angenrheidiol ar gyfer delio â sefyllfa o’r fath. 

·      Cyfeiriwyd at y ffaith bod llygredd arfordirol i’w ddelio ag ef o fewn cynllun tair blynedd y Gwasanaeth Cynllunio Argyfwng Rhanbarthol. Ystyriwyd fod llifogydd arfordirol yn risg a bod risg i ardaloedd penodol. Ymatebodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ei fod yn cydnabod fod rhannau o Ynys Môn lle mae mwy o berygl o lifogydd nag eraill. Roedd trefniadau aml-asiantaeth yn eu lle mewn achos o dywydd garw, gan ddibynnu ar ddifrifoldeb y sefyllfa.  

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Rheolwr Rhanbarthol a’r Swyddog Cynllunio Argyfwng o’r Gwasanaeth Cynllunio Argyfwng Rhanbarthol Gogledd Cymru am fynychu’r cyfarfod.  

 

PENDERFYNWYD i’r Pwyllgor dderbyn adroddiadau yn y dyfodol ar barodrwydd y Cyngor i gynllunio ar gyfer argyfyngau ac adroddiadau dilynol ar unrhyw achosion argyfwng rhanbarthol neu leol y mae’n rhaid i’r Cyngor ymateb iddynt. 

 

GWEITHRED: Fel y nodwyd uchod.

 

 

Dogfennau ategol: