Eitem Rhaglen

Hyfforddiant a Datblygiad Aelodau

Adroddiad gan y Rheolwr Datblygu Adnoddau Dynol ar Hyfforddiant Aelodau.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad cynnydd gan y Swyddog Datblygu AD dan Hyfforddiant a’r Rheolwr Datblygu AD ar gyfleoedd datblygu a gynigiwyd i Aelodau ers yr adroddiad blaenorol a gyflwynwyd i’r Pwyllgor ar 17 Medi 2019.

 

Dywedodd y Swyddog Datblygu AD dan Hyfforddiant fod y Cynllun Hyfforddi a Datblygu Aelodau yn nodi’r sesiynau hyfforddi sydd ar gael i Aelodau ar hyn o bryd. Mae’r tîm AD yn gweithio’n agos â’r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ac uwch reolwyr i nodi hyfforddiant addas i Aelodau. Mae adborth gan Aelodau ar gyrsiau y maent wedi’u mynychu yn cael ei werthuso i ganfod a lwyddodd yr hyfforddiant i ddiwallu anghenion y gynulleidfa, ac i nodi unrhyw anghenion hyfforddiant ychwanegol ar gyfer unigolion. Nodwyd fod y Cynllun Datblygu (sy’n esblygu ac yn cael ei ddiweddaru’n rheolaidd) yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Safonau a’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd bob chwarter, er gwybodaeth.

 

Anogir Aelodau i ddefnyddio pecynnau E-ddysgu ac mae cefnogaeth ddigidol ar gael i Aelodau ar faterion TGCh. Mae canllawiau ar gael e.e. ar ddefnyddio iPads, mynediad i’r llwyfan E-ddysgu, ac mae’r tîm TGCh yn cynnal sesiynau ‘galw i mewn’ rheolaidd ar gyfer Aelodau.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu AD y gofynnir i Aelodau gwblhau ffurflenni arfarnu cyrsiau ar ôl iddynt dderbyn hyfforddiant. Dywedodd fod y ffurflenni’n cael eu dadansoddi er mwyn penderfynu ar anghenion hyfforddi pellach Aelodau unigol. Nodwyd fod staff AD yn asesu anghenion hyfforddi Aelodau drwy’r adborth a dderbynnir yn eu Cynlluniau Datblygu Personol.

 

Mynegwyd pryder nad oes cyfleusterau i aelodau lleyg gofnodi eu presenoldeb mewn cyfarfodydd ar-lein. Dywedodd y Swyddog Monitro fod y Pwyllgor Safonau wedi edrych ar yr opsiynau sydd ar gael gyda’r adran TGCh a’r Swyddog Adran 151 yn barod a daethpwyd i’r casgliad na fyddai’n gost effeithiol i’r Cyngor fabwysiadu’r cyfleusterau hyn. Adroddodd y Rheolwr Datblygu AD y byddai’n edrych ar y mater o gofnodi presenoldeb ar gyrsiau hyfforddiant yn ganolog ar y system AD ac yn adrodd yn ôl i’r Pwyllgor maes o law.

 

Roedd Mrs Sharon Warnes, aelod o’r Pwyllgor Safonau, wedi gofyn am gael cynnwys ‘Asesiad Risg’ yn y Rhaglen Datblygu Aelodau. Nid oedd y Pwyllgor Cytunodd y Pwyllgor y byddai’r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn gofyn am eglurhad ar y mater gan dîm Archwilio’r Cyngor.

 

Canolbwyntiodd y drafodaeth ar p’un ai yw ansawdd yr hyfforddiant a ddarperir yn fewnol yn cael ei arfarnu’n allanol. Nodwyd fod Adnoddau Dynol yn defnyddio ffurflenni arfarnu i gael adborth gan Aelodau ac aelodau cyfetholedig sy’n mynychu hyfforddiant. Yn ogystal, yn aml bydd aelodau o staff AD yn bresennol yn y sesiynau hyfforddi. Nodwyd hefyd y bydd swyddogion AD yn cysylltu ag awdurdodau eraill i drafod darparwyr hyfforddiant cyn cyflogi darparwyr allanol. Mae cyswllt â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) hefyd, er mwyn derbyn cyngor ac arweiniad ar ddarpariaeth hyfforddiant. Lle bynnag y bo’n bosib, ystyrir yr opsiwn o ddefnyddio swyddogion i ddarparu hyfforddiant.

 

Er yr anogir Aelodau i fynychu sesiynau hyfforddiant, atgoffodd y Cynghorydd J Arwel Roberts mai dim ond rhai cyrsiau sy’n orfodol. Os yw Aelodau’n gweithio’n llawn amser, dywedodd eu bod yn aml yn gorfod gwrthod gwahoddiadau i gyfarfodydd a sesiynau hyfforddi.

 

Os yw aelod yn gwrthod gwahoddiad i hyfforddiant, cofnodir hyn fel absenoldeb a chodwyd pryderon am hyn. Cyfeirir at hyn yn yr adroddiadau blynyddol. Wrth drefnu hyfforddiant, mae’r tîm AD yn hyblyg o ran amseriad sesiynau hyfforddi er mwyn cydnabod fod gan rai Aelodau Etholedig swyddi ac i gymryd ymrwymiadau Aelodau i ystyriaeth.

 

Adroddodd y Swyddog Monitro fod y Bil newydd yn datgan fod Arweinyddion Grwpiau’n gyfrifol am berfformiad eu Haelodau, gan gynnwys hyfforddiant. Dywedodd fod pob Aelod yn cael Adolygiad Datblygiad Personol yn flynyddol ac y dylai Arweinyddion Grwpiau dargedu’r hyn sy’n bwysig i Aelodau, a barnu eu perfformiad yn erbyn eu hanghenion.

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Nodi’r Cynllun Hyfforddi a Datblygu Aelodau a’r sylwadau a

   gyflwynwyd.

  Bod y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn cysylltu â thîm

   Archwilio’r Cyngor i ofyn am eglurhad ar y mater ‘Asesiad Risg’ a

   godwyd gan aelod o’r Pwyllgor Safonau.

 

Gweithredu:  Gweler y Penderfyniad uchod. 

Dogfennau ategol: