Eitem Rhaglen

Alldro Cyfalaf 2019/20

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol y gyllideb gyfalaf ar gyfer blwyddyn ariannol 2019/20 .

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod crynodeb o wariant cyfalaf hyd at 31 Mawrth, 2020 i'w weld yn y tabl ym mharagraff 2.1 o'r adroddiad. 'Roedd y gyllideb ar gyfer y Gronfa Gyffredinol yn £29.790m a gwariwyd £18.203m erbyn 31 Mawrth, 2020, sy'n cyfateb i 61% o'r gyllideb. Mae'r ffaith bod  llai o gynnydd na'r disgwyl wedi ei wneud gyda phrosiectau mawr a ariennir gan grant fel y'u rhestrir ym mharagraff 2.2 yr adroddiad ymhlith y resymau am y tanwariant, ac mae'r argyfwng Covid-19 yn un ffactor yn yr oedi. Bydd y prosiectau hyn yn llithro i 2020/21 ynghyd â'r cyllid grant ar eu cyfer.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) nad yw lefel y tanwario, er ei fod yn sylweddol (32% o'r cyllid sydd ar gael) yn annisgwyl wrth ddelio â nifer o brosiectau cymhleth mawr y gall ystod o ffactorau effeithio ar eu cynnydd, gan gynnwys materion annisgwyl sy'n yn gallu codi ar ôl i'r gwaith ddechrau ar y safle. Darperir manylion am statws a chynnydd y cynlluniau grant cyfalaf cyfredol yn adran 3 yr adroddiad. Ym mhob achos, sicrhawyd y cyllid ar gyfer y prosiectau a bydd yn cael ei ddwyn ymlaen i 2020/21, heb i’r Cyngor golli adnoddau. Cafodd elfen o lithriad ei hadeiladu i mewn i gyllideb 2020/21 - mae'r adroddiad hwn yn diweddaru'r ffigyrau hynny.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, gofynnodd y Pwyllgor Gwaith am sicrwydd pellach ynghylch argaeledd cyllid grant yng ngoleuni'r llithriad ar y rhaglen gyfalaf a holodd hefyd a yw argyfwng Covid-19 yn peri rsg i brosiectau cyfalaf y Cyngor yn sgil cyflwyno mesurau arbennig a'r costau uwch y gallai hyn ei olygu.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 fod y grant mwyaf yn ymwneud â  rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif ac er bod cynlluniau ym Mand A a Band B y rhaglen a'r cyllid grant ar eu cyfer wedi'i gadarnhau ac yn ddiogel ar hyn o bryd,  pe na bai cynnydd yn cael ei wneud efallai y bydd yn rhaid diwygio'r cynlluniau hynny a gallai hynny, yn ei dro, effeithio ar lefel y cyllid grant gan Lywodraeth Cymru. Fel arall, bydd cyllid ar gyfer prosiectau sydd wedi llithro i 2020/21 yn cael ei gario drosodd gyda nhw. O ran effaith argyfwng Covid-19 ar brosiectau cyfalaf, ar gyfer y cynlluniau hynny lle cytunwyd ar y contract a lle mae'r gwaith wedi cychwyn, bydd raid edrych ar unrhyw gostau ychwanegol y gallai contractwyr eu hawlio oherwydd yr angen i weithredu mesurau arbennig o ganlyniad i Covid-19 yng nghyd-destun telerau'r contract. O ran contractau newydd sydd heb eu dyfarnu eto, bydd tendrau ar gyfer y gwaith hwnnw'n adlewyrchu costau'r ffyrdd newydd o weithio oherwydd argyfwng Covid-19; bryd hynny bydd y Cyngor yn gwerthuso'r effaith ar y gyllideb gyfalaf ac yn ceisio sefydlu faint o'r costau ychwanegol y gellir eu hawlio trwy grant, os o gwbl. Amser a ddengys a fydd cyrff cyllido grantiau yn cydnabod effaith Covid-19 ar gostau ac ar y prosiectau a gyflwynwyd eisoes ac y cadarnhawyd cyllid grant ar eu cyfer.

 

Penderfynwyd

 

           Nodi sefyllfa alldro drafft Rhaglen Gyfalaf 2019/20 sy’n destun archwiliad, a

           Cymeradwyo cario £12.109m drosodd i 2020/21 ar gyfer tanwariant ar y rhaglen oherwydd llithriad. Bydd y cyllid ar gyfer hyn hefyd yn cario drosodd i 2020/21. Y gyllideb gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2020/21 yw £41.368m.

Dogfennau ategol: