Eitem Rhaglen

Diweddariad o ymateb y Cyngor hyd yma i’r argyfwng COVID -19

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Prif Weithredwr yn amlinellu ymateb y Cyngor hyd yma i'r argyfwng Covid-19 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynodd y Cadeirydd ac Arweinydd y Cyngor yr eitem trwy ddiolch i staff y Cyngor am eu gwaith hyd yn hyn, gan ychwanegu bod llawer ohonynt wedi mynd y tu hwnt i'w dyletswyddau arferol i gefnogi ymateb y Cyngor i'r heriau yn sgil yr achosion Covid-19 ac i warchod Gwasanaethau hollbwysig y Cyngor a chadw trigolion yr Ynys yn ddiogel.

 

Yna rhoddodd pob Aelod Portffolio drosolwg o'r camau a gymerwyd yn eu portffolios gwasanaeth i ymateb yn benodol i'r argyfwng a hefyd i sicrhau bod gwasanaethau allweddol yn parhau i gael eu darparu (a amlinellwyd yn Atodiad 1 i'r adroddiad). Mynegodd pawb eu gwerthfawrogiad o ymdrechion staff eu gwasanaethau wrth iddynt ddelio â'r amgylchiadau heriol iawn a achosir gan yr argyfwng tra’n sicrhau ar yr un pryd bod gwaith dydd i ddydd y Cyngor yn parhau a bod busnes arferol yn cael ei gynnal cyn belled ag y bo modd.

 

Roedd y themâu o feysydd gwasanaeth unigol ar hyn o bryd  ac wrth symud ymlaen yn cynnwys y canlynol -

 

           Adnoddau - Gwnaed taliadau grant i 1,518 o fusnesau ar yr Ynys a oedd yn werth cyfanswm o £17.7m; prosesu Taliadau Uniongyrchol ar gyfer Prydau Ysgol Am Ddim gyda chyfartaledd wythnosol o 1,489 o blant ac yn werth £29,035 ; darparu pecynnau bwyd ar gyfer nifer fach o blant; parhau â'r gwaith arferol ar ffurf taliadau treth gyngor ac ati; monitro sefyllfa ariannol a balansau'r Cyngor yn barhaus.

           Addysgsefydlu canolfannau gofal ar gyfer plant gweithwyr allweddol a phlant bregus; darparu a danfon pecynnau cinio i blant sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim; darparu addysg o bell gan ddefnyddio amrywiaeth o lwyfannau digidol; cydweithio a'r Timau ADY a Chynhwysiant a'r Gwasanaethau Plant i gadw mewn cyswllt rheolaidd â phlant bregus; cynllunio ar gyfer ailagor ysgolion; sicrhau pwyslais parhaus ar les plant a phobl ifanc a lles cyffredinol y gweithlu.

           Tai a’r Gymunedcefnogi unigolion bregus yn y gymuned trwy fanciau bwyd, darparu gwasanaeth siopa a phresgripsiwn ar gyfer unigolion sy'n cysgodi; cefnogi pobl ddigartref, cynnal diogelwch cymunedol, ailddechrau gwaith cynnal a chadw brys ar dai yn unol â chanllawiau cenedlaethol.

           Priffyrdd, Trafnidiaeth ac Eiddoblaenoriaethu'r gwasanaethau gwastraff pwysicaf mewn ymgynghoriad â Biffa; cynllunio ar gyfer ailagor Canolfan Ailgylchu Penhesgyn a’i weithredu; ailddechrau gwaith cynnal a chadw hanfodol ar briffyrdd, cau meysydd parcio arfordirol, llwybrau arfordirol, parciau a thraethau.

           Busnes y Cyngor a Chyfreithiol - creu Llyfrgell o Ganllawiau a Rheoliadau Covid-19; creu strategaeth cyfarfodydd Pwyllgor; darparu canllawiau ar gyfarfodydd o bell, cofnodi a thracio gweithredoedd o gyfarfodydd dyddiol y Tîm Rheoli Ymateb i Argyfyngau a chyfarfodydd brys eraill.

           Adnoddau Dynol, Trawsnewid, Cyfathrebu a TGgwaith rhagweithiol yn cynhyrchu datganiadau i'r wasg yn rheolaidd, gwneud y defnydd mwyaf o gyfryngau cymdeithasol y Cyngor i drosglwyddo negeseuon allweddol a rhannu gwybodaeth ar Môn FM; casglu data staff yn ddyddiol i bwrpas cynllunio'r gweithlu ac adleoli staff i sicrhau parhad gwasanaethau rheng flaen; casglu data ar agweddau ar Covid-19 a datblygu dangosfwrdd at y diben; hwyluso a chefnogi staff y Cyngor i weithio o bell; datblygu system archebu ar-lein ar gyfer mynediad i Ganolfan Ailgylchu Penhesgyn; diweddaru hen gliniaduron y Cyngor i helpu plant nad oes ganddynt fynediad at offer TG gyda'u gwaith ysgol.

           Rheoleiddio, Datblygu Economaidd a Gwarchod y Cyhoeddymgysylltu â busnesau lleol i gynnig cefnogaeth ac arweiniad mewn perthynas â'r materion a'r heriau a wynebir; cefnogi busnesau sydd ar gau; gweithio i sicrhau cydnabyddiaeth i Borthladd Caergybi ac i geisio pecyn cymorth priodol gan y Llywodraeth; cydweithredu â'r Bwrdd Iechyd a'r Ysbyty Maes; cymryd rhan mewn ymdrechion lleol a rhanbarthol i sefydlu tîm olrhain cyswllt; cynyddu capasiti'r  Gwasanaeth Cofrestryddion; sicrhau cydymffurfiaeth â chanllawiau a rheoliadau newydd yn sgil y Ddeddf Coronafeirws; monitro achosion mewn cartrefi preswyl a darparu hyfforddiant ar reoli heintiau; cyfrannu at ddatblygu cynllun rhanbarthol ar gyfer trefniadau ynghylch marwolaethau ychwanegol..

           Gwasanaethau Cymdeithasoldelio â heriau sicrhau a chynnal lefelau digonol o Gyfarpar Diogelu Personol; profi; lliniaru'r risg o fethu â staffio cartrefi gofal yn ddigonol; olrhain ac ymateb i lythyrau cysgodi; cefnogi teuluoedd bregus; parhau i gyflawni'r holl ddyletswyddau statudol a dangosyddion perfformiad a data.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Cyllid ymhellach, er ei bod yn anodd asesu effeithiau tymor hir y pandemig ar gyllid y Cyngor, yn y tymor byr mae'r Cyngor wedi cael costau ychwanegol wrth ddelio â'r argyfwng (£52k ym mis Mawrth a £279K ym mis Ebrill) gan gynnwys costau TG; PPE; lletya pobl ddigartref, darparu cefnogaeth gymunedol, sefydlu canolfannau gofal ysgol, talu am brydau ysgol am ddim a chostau glanhau uwch. Er y bydd y costau hyn yn cael eu talu gan Lywodraeth Cymru, disgwylir y bydd costau'n parhau i godi ym mis Mai a mis Mehefin. Er bod cau gwasanaethau wedi golygu tua £100k yn llai o wariant gan y Cyngor ym mis Ebrill mae hefyd wedi gostwng lefelau incwm y Cyngor a chollwyd £360k ym mis Ebrill a disgwylir i'r ffigwr godi i  400k y mis yn ystod misoedd yr haf. Os na fydd gwasanaethau'n dychwelyd i normal yn 2020/21, yna bydd yr incwm a gollwyd yn filiynau o bunnau. Wrth edrych i'r dyfodol,  mae'n amlwg bod y pandemig wedi cael effaith ar yr economi a bydd yn arwain at fwy o ddiweithdra sy'n debygol o olygu mwy o geisiadau trwy'r Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor, yn enwedig pan ddaw'r cynllun ffyrlo i ben. Oherwydd ei fod wedi mynd ati'n fwriadol dros y blynyddoedd i gynllunio a chynnal lefel o falansau cyffredinol, mae'r Cyngor yn ffodus ei fod nawr yn gallu defnyddio'r  cyllid hwn i'w helpu i oroesi'r storm yn y tymor byr.

 

Adroddodd y Prif Weithredwr ar y trefniadau llywodraethu a sefydlwyd ar lefelau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol i ymateb i'r pandemig ac amlinellodd y strwythurau yr oedd y Cyngor wedi'u rhoi ar waith i hwyluso ei ymateb ei hun i'r heriau lleol a grëwyd gan yr argyfwng. Mae rhannu gwybodaeth wedi bod yn elfen allweddol wrth ddiweddaru'r  cyhoedd am ddatblygiadau a'r cymorth sydd ar gael ac mae'r Cyngor wedi defnyddio ystod o fesurau i sicrhau llif gwybodaeth. Yn y tymor byr bydd y Cyngor yn parhau i ganolbwyntio ar reoli effaith y pandemig Covid-19; ar wneud ei orau i barhau gyda busnes fel arfer ac ar reoli'r cyfnod clo a pharatoi a gweithredu cynlluniau adfer. Yn ei ymateb i'r pandemig mae'r Cyngor wedi derbyn cefnogaeth gan lawer o bobl  eraill a rhaid diolch i'r Aelodau Etholedig; cynghorau tref a chymuned, holl bartneriaid y Cyngor, gwirfoddolwyr a thrigolion yr Ynys am y ffordd y maent wedi ymateb i'r argyfwng.

 

Penderfynwyd

 

           Derbyn yr adroddiad ac ymateb y Cyngor i’r argyfwng hyd yma.

           Cadarnhau y dylai’r UDA adrodd ar gynnydd ar faterion llacio’r datgloi a’r gwaith Adfer i’r ddau Fwrdd Rhaglen sefydlog. Yn ogystal, ymestyn aelodaeth y byrddau i gynnwys y 4 arweinydd grwp.

           Awdurdodi Swyddogion i baratoi diweddariad ar y paratoadau a’r gwaith Adfer i’w gyflwyno i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Gwaith.

Dogfennau ategol: