Eitem Rhaglen

Gwaith Cynllunio Cynnar ar gyfer Adfer yn dilyn yr haint Coronafeirws

Cyflwyno adroddiad gan y Dirprwy Brif Weithredwr.

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr ar y dull cychwynnol o gynllunio adferiad cynnar.

 

Adroddodd y Cadeirydd fod penderfyniadau wedi'u gwneud yn ddiweddar i lacio mesurau’r cyfyngiadau symud ac i ddechrau ailagor cymdeithas. Bellach roedd yn ddyletswydd statudol ar y Cyngor i arwain adferiad yr Ynys ac roedd wedi ymrwymo i gynllunio ar gyfer y rôl hon a'i chyflawni'n llawn wrth barhau i gydweithredu'n effeithiol gyda'i phartneriaid rhanbarthol. O'r herwydd, byddai’r Cyngor yn canolbwyntio ar anghenion lleol ac yn defnyddio’i lais i ddylanwadu ar y broses adfer ranbarthol mewn ffordd oedd yn diwallu'r anghenion hynny. Yn yr adroddiad a gyflwynwyd, amlinellwyd y strwythurau rhanbarthol oedd yn eu lle i gynllunio ar gyfer y cam adfer ynghyd â'r strwythurau lleol a mewnol a'r trefniadau ar gyfer adrodd ac atebolrwydd. Roedd y raddfa, yr ansicrwydd parhaus a'r heriau oedd yn gysylltiedig â'r argyfwng coronafeirws wedi arwain at ddull cyfochrog oedd yn golygu bod cynllunio ymateb ac adfer, ar hyn o bryd, yn gweithredu law yn llaw ar lefelau rhanbarthol a lleol yn yr hyn y gellid ei ddisgrifio fel cyfnod trosiannol.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at anferthwch a chymhlethdod y cyfnod adfer a wnaed yn fwy heriol gan yr ansicrwydd a chan risg o gynnydd sylweddol yn nifer yr achosion o coronafeirws. Roedd Grŵp Cydlynu Adferiad rhanbarthol wedi'i sefydlu i weithio ochr yn ochr â'r Grŵp Cydlynu Strategol rhanbarthol. Roedd y grŵp hwn wedi bod yn gyfrifol am y cyfnod ymateb brys yng Ngogledd Cymru i sicrhau dull rhanbarthol strategol oedd yn gyson ac yn gydlynol o ran cynllunio adferiad a adlewyrcha hynny yn ystod cyfnod yr argyfwng. Roedd cynllunio gwaith cynnar ar gyfer adfer y Grŵp Cydlynu Adferiad yn troi o amgylch tri maes thematig - adferiad Iechyd a Gofal; adferiad Economaidd ac adferiad Gwydnwch Cymunedol, pob un gyda'i grŵp ymroddedig. Ceid gwaith goruchwyliaeth a chydlynu gan strwythurau rhanbarthol a lleol presennol. Ychwanegwyd Profi, Olrhain a Diogelu yn ddiweddar fel maes thematig.

 

Yn lleol, cynigiwyd bod y strwythurau a'r berthynas waith a sefydlwyd gyda Menter Môn a Medrwn Môn, gyda darpariaeth gymunedol leol a rhwydweithiau gwirfoddol cryf, yn cael eu hatgyfnerthu a'u cynnal lle bo hynny'n bosibl ar gyfer y cyfnod adfer. Canlyniad cadarnhaol yn sgil yr argyfwng fu ymateb y gymuned a rhoddwyd diolch arbennig i'r holl wirfoddolwyr oedd wedi cefnogi'r Cyngor yn ystod yr amser anodd hwn. Cydnabuwyd bod adferiad economaidd pob sector yn arbennig o bwysig a byddai angen i'r Cyngor benderfynu sut gallai ddarparu gwasanaethau’n wahanol er mwyn datblygu’r economi a chreu swyddi ac, yr un pryd, chwarae ei ran mewn “adferiad gwyrdd”. Nid oedd modd tanbrisio pwysigrwydd a gwerth y sector twristiaeth a lletygarwch a byddai’r Cyngor yn ceisio cynyddu'r cyfleoedd oedd yn bodoli fel rhan o'r normal newydd i ailddyfeisio'r Ynys fel cyrchfan i dwristiaid. Byddai’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn parhau i ddiogelu dinasyddion Ynys Môn yn y gymuned ac mewn lleoliadau preswyl. O ganlyniad, byddai rhaid ystyried a rheoli gwytnwch gwaith staffio’r Gwasanaethau Cymdeithasol er mwyn sicrhau parhad busnes.

 

O ran strwythurau mewnol a threfniadau llywodraethu, roedd cysondeb a chyd-fynd â'r strwythurau cydgysylltu rhanbarthol yn bwysig, gan sicrhau hefyd y câi cynlluniau cyflenwi lleol eu sefydlu, eu blaenoriaethu a'u defnyddio. Byddai’r Uwch-dîm Arweinyddiaeth (UDA) yn gyfrifol am gynllunio a chyflawni adferiad, gyda'r Pwyllgor Gwaith yn goruchwylio’r gwaith cynllunio adferiad a darparu a gwneud penderfyniadau ar ddyrannu adnoddau a / neu ailgyfeirio, fel sy'n briodol. Byddai’r UDA yn ymgysylltu ac yn defnyddio'r ddau Fwrdd Rhaglen (a ehangwyd yn ddiweddar i gynnwys y pedwar arweinydd grŵp gwleidyddol) i ddylanwadu ar hynt gwaith cynllunio adferiad a’i lywio. Wrth i'r grwpiau gwleidyddol a'r Pwyllgorau Craffu ddychwelyd i fusnes, byddai angen iddynt ystyried y cynlluniau adfer. Câi’r  gwaith adfer ei gyflwyno'n raddol wrth i'r Cyngor lacio’r cyfyngiadau symud yn ddiogel.

 

Wrth roi gwybod am sylwedd manwl yr adroddiad, amlygodd y Dirprwy Brif Weithredwr y pwyntiau a ganlyn -

 

           Er bod y rhagolygon o ran symud tuag at adferiad wedi ymddangos yn addawol, roedd modd i’r sefyllfa newid yn sydyn ac yn gyflym. Rhaid oedd i'r Cyngor fod yn barod ar gyfer senario o'r fath a bod yn barod i gymryd cam yn ôl a diwygio cynlluniau lle bo angen.

           Roedd gwaith lleol, o ran sefydlu lle roedd y Cyngor ar hyn o bryd a'r cyfeiriad yr oedd am fynd iddo, wedi cychwyn rai wythnosau yn ôl ac, er y byddai rhai elfennau o adferiad o fewn rheolaeth y Cyngor, byddai’r rhan fwyaf o agweddau'n dibynnu ar ymyriadau adnoddau a pholisi Llywodraeth Cymru ac, i raddau llai, y Llywodraeth Ganolog. Wrth lunio ei gynlluniau adfer felly, byddai’r Cyngor yn ceisio sefydlu’n gynnar y meysydd lle gallai weithredu ei hun, naill ai trwy wariant neu drwy wneud pethau'n wahanol, a'r meysydd hynny lle roedd y penderfyniadau'n dod o fewn maes llywodraethau cenedlaethol neu ganolog. Byddai cydweithredu rhanbarthol yn allweddol er mwyn sicrhau y dylanwadir yn llwyddiannus ar yr ymyraethau i sicrhau eu bod yn amserol ac yn diwallu anghenion yr Ynys.

           Un o'r negeseuon allweddol o'r argyfwng oedd pan gâi penderfyniadau eu gwneud yn amserol a, lle roedd ganddo rôl i'w chwarae, y caent eu gwneud ar y cyd â llywodraeth leol, yna bu’n bosibl mynd i'r afael â'r heriau oedd yn bodoli, boed o fewn y gymuned, yr economi neu yn rhywle arall.

           Am nawr, byddai’r Cyngor yn parhau i ganolbwyntio ar ymdrin â'r argyfwng wrth gadw llygad ar y broses adfer. Er cydnabod y byddai adfer yr argyfwng yn peri sawl her, roedd y broses adfer hefyd yn cynnig cyfleoedd oedd yn deillio o'r arferion da a ddatblygwyd yn ystod y cyfnod argyfwng, er enghraifft gweithio ar y cyd â phartneriaid a gwirfoddolwyr, gweithio o bell a defnyddio offer digidol a, thrwy hynny, arbed amser ac adnoddau a lleihau carbon. Byddai angen i'r Cyngor adolygu'r cyfleoedd oedd ar gael iddo ac asesu sut y gallai weithredu orau ar y cyfleoedd hynny er mwyn gweithio'n fwy effeithiol ac effeithlon yn y dyfodol.

           Byddai’n rhaid i'r Cyngor flaenoriaethu'r defnydd a wneid o amser ac adnoddau oedd yn gyfyngedig, a byddai hyn yn heriol. Hefyd, ni ddylid ystyried bod y broses adfer yn rhywbeth ar wahân neu ar ei ben ei hun ond bod angen ei chynnwys ac iddi ddod yn rhan naturiol o gynlluniau gwasanaethau a gwaith o ddydd i ddydd yn ystod y deunaw mis nesaf, yn union yr un ffordd ag yr oedd technoleg gwybodaeth, cydraddoldeb a gofynion y Gymraeg wedi gwreiddio ym musnes beunyddiol y Cyngor dros amser.

           Roedd adferiad hefyd yn ymwneud cymaint â sut oedd y Cyngor yn gwneud busnes ag â'r hyn yr oedd yn ei wneud ac yn rhoi cyfle i ddatblygu'r Cyngor a chyflwyno a chyflymu newidiadau a gynlluniwyd o ran gwneud y Cyngor yn fwy ynni a charbon effeithlon er enghraifft. Trwy gydol hyn, byddid yn parhau i ganolbwyntio ar y lleol, ac er bod y Cyngor wedi ymrwymo i gydweithio ac i weithio ochr yn ochr â'i bartneriaid yn y rhanbarth, byddid yn blaenoriaethu'r Ynys ac yn ceisio gwneud gwahaniaeth lle gallai.

 

          Croesawodd y Pwyllgor Gwaith yr adroddiad fel un addysgiadol ac amlygu’r egwyddorion allweddol oedd yn llywio'r dull cychwynnol a amlinellwyd yn yr adroddiad - gan gymryd agwedd bwyllog a chymesur tuag at waith thematig; gweithio'n hyblyg ond nid yn slafaidd, o fewn strategaeth adfer y Llywodraeth; defnyddio'r fframweithiau partneriaeth rhanbarthol presennol i'r eithaf; cydbwyso rhanbartholiaeth a lleoliaeth wrth gynllunio a gweithredu; osgoi creu peiriannau biwrocrataidd a grymuso arweinwyr rhanbarthol i roi cyfeiriad strategol gwleidyddol - fel rhai a lywiai’r broses adfer yn gadarn a synhwyrol.

 

Cyfeiriodd aelodau'r Pwyllgor Gwaith at y canlynol fel negeseuon allweddol yr oeddent wedi'u cymryd o'r ymateb i'r argyfwng pandemig hyd yn hyn -

 

           Pwysigrwydd cynnal ac adeiladu ar ymateb rhagorol y gymuned a gwirfoddolwyr i'r argyfwng oedd wedi rhoi cefnogaeth werthfawr i ymdrechion y Cyngor ei hun i ymateb i’r gymuned ac i’r argyfwng.

           Pwysigrwydd gwneud mwy o ddefnydd o ddulliau democratiaeth ddigidol - cyfarfodydd rhithwir a gweithio o bell - i arbed amser ac adnoddau ac i leihau ôl troed carbon y Cyngor. Byddai hyn yn gofyn am fuddsoddi mewn gwasanaethau TG.

           Pwysigrwydd defnyddio gallu'r Cyngor i addasu i risgiau, heriau a gofynion newydd fel y dangoswyd gan ei ymateb i'r argyfwng, i weithredu gwelliannau parhaol i wasanaethau a phrosesau.

   Pwysigrwydd cydweithredu'n rhanbarthol er mwyn dylanwadu ar ymyraethau San Steffan a Llywodraeth Cymru i sicrhau y câi anghenion y rhanbarth ac, yn arbennig, anghenion Ynys Môn eu diwallu.

 

Nododd yr Is-gadeirydd y bwriad i ailddyfeisio'r Ynys fel cyrchfan a gofynnodd am adroddiad ar sut gellid cyflawni'r dyhead hwn. Wrth gadarnhau bod papur o'r fath eisoes ar y gweill, dywedodd y Prif Weithredwr mai’r bwriad hefyd oedd datblygu cynlluniau gweithredu pendant dan bob pennawd thematig i roi cyhoeddusrwydd i'r hyn a fyddai’n digwydd yn ymarferol dan bob thema. Byddid yn gwneud adroddiad cynnydd pellach i gyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith ym mis Awst a fyddai’n nodi'r cynlluniau hynny'n llawnach. Adleisiodd sylwadau’r Dirprwy Brif Weithredwr am yr heriau oedd o’u blaenau gan gytuno y ceid hefyd gyfleoedd i’r Cyngor yn sgil yr arferion da a ddefnyddiwyd fel rhan o’r ymateb brys. Byddai’r Cyngor yn manteisio ar y ffyrdd newydd o weithio a ddatblygwyd yn ystod yr argyfwng wrth hefyd gadw llawer o'r prosesau sefydledig.

 

Penderfynwyd cymeradwyo ymagwedd y Cyngor o ran gwaith cynllunio ar gyfer adfer gan flaenoriaethu a chanolbwyntio ar gyflenwi’n lleol a chyflawni canlyniadau cadarnhaol.

Dogfennau ategol: