Eitem Rhaglen

Rhybydd o Gynnig yn Unol â Rheol 4.1.13.1 y Cyfansoddiad

·           Cyflwyno - y Rhybudd o Gynigiad isod gan y Cynghorydd J Arwel Roberts:-

 

Ym mis Ebrill 2019, cyhoeddodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, Lesley Griffiths AC, argyfwng hinsawdd yng Nghymru.

Mae Cyngor Gwynedd eisoes wedi dilyn Llywodraeth Cymru ac wedi datgan argyfwng hinsawdd, ac mae awdurdodau eraill yn bwriadu cymryd camau cyffelyb.

 

Galwaf ar y Cyngor hwn i ddilyn yr un esiampl ac i gefnogi ymrwymiad i gyflawni Sector Cyhoeddus Carbon Niwtral erbyn 2030. Mae’n rhaid i ni gydnabod nad oes modd i’r cyngor hwn barhau â busnes fel arfer ac mae angen paratoi cynllun gweithredu y gellir ei fonitro a’i weithredu.

 

 Mae’n rhaid i ni roi’r gorau i fuddsoddi mewn tanwydd ffosil, mae angen i ni ddefnyddio ein polisïau cynllunio i gyflawni datblygiadau a chymunedau sero net yn gyflymach.

 

Rydym mewn sefyllfa i wneud gwahaniaeth er budd cenedlaethau’r dyfodol ac mae dyletswydd foesol arnom i weithredu.”

 

·           Cyflwyno - y Rhybudd o Gynigiad isod gan y Cynghorydd Robert Ll Jones:-

 

“Mae canol ein trefi yma ar Ynys Môn bellach yn cael eu rhoi o dan straen aruthrol wrth i bobl ddewis siopa ar-lein am eu cynnyrch boed hynny’n ddillad, cyflenwadau bwyd, esgidiau a’r rhan fwyaf o bethau eraill. Mae mwy a mwy o siopau gwag ac mae busnesau mawr ac eiddo busnes yn cael eu troi yn llety hunangynhaliol un ystafell wely. Mae hyn wedi digwydd mewn trefi eraill yng Ngogledd Cymru ac wedi arwain at ddirywiad y trefi cyfan. 

 

Rydw i bellach yn gofyn  am i’n Cynllun Datblygu ar y Cyd gael ei ail edrych arno ac i’r ddeddfwriaeth gael ei chryfhau er mwyn rhoi’r gefnogaeth sydd ei hangen ar ddatblygwyr er mwyn iddynt allu prynu’r eiddo hyn a’u troi yn gartrefi o safon a fydd ar gael i deuluoedd ifanc neu’r henoed sy’n dymuno byw mewn eiddo llai, fel dewis amgen i’r datblygiadau un stafell sy’n beryg o ddod yn ‘norm’ yn ein trefi. Fe allai arwain at weledigaeth o ran rôl bresennol trefi a’u rôl ar gyfer y dyfodol ac y bydd adeiladau newydd ac arloesol yn dod yn lle ein siopau Fictorianaidd sydd wedi gweld dyddiau gwell fel y gwelir mewn trefi ledled Gogledd Cymru. Mae twristiaeth ar gynnydd ymhobman ac mae angen i ni elwa o hynny drwy fod yn lle deniadol i ymweld ag ef tra’n gwneud ein Sir yn rhywle y gallwn ni gyd fod yn falch ohoni. 

 

Oes gennym ni’r ewyllys i gymryd hyn ymlaen fel Awdurdod a chymryd y camau cyntaf er mwyn gwneud hyn yn realiti neu a fyddwn yn parhau i bydru ymlaen a gweld ein hamgylchedd trefol yn parhau i ddirywio.

 

DWI’N GOFYN AM AGWEDD AR Y CYD GAN HOLL AWDURDODAU GOGLEDD CYMRU ER MWYN ARCHWILIO BETH SY’N DIGWYDD A GWNEUD RHYWBETH AMDANO.”

 

Cofnodion:

·           Cyflwynwyd – y Rhybudd o Gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd J Arwel Roberts:-

 

“Ym mis Ebrill 2019, cyhoeddodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, Lesley Griffiths AC, argyfwng hinsawdd yng Nghymru.

 

Mae Cyngor Gwynedd eisoes wedi dilyn Llywodraeth Cymru ac wedi datgan argyfwng hinsawdd, ac mae awdurdodau eraill yn bwriadu cymryd camau cyffelyb.

 

“ Galwaf ar y Cyngor hwn i ddilyn yr un esiampl ac i gefnogi ymrwymiad i gyflawni Sector Cyhoeddus Carbon Niwtral erbyn 2030. Mae’n rhaid i ni gydnabod nad oes modd i’r cyngor hwn barhau â busnes fel arfer ac mae angen paratoi cynllun gweithredu y gellir ei fonitro a’i weithredu.

 

Mae’n rhaid i ni roi’r gorau i fuddsoddi mewn tanwydd ffosil, mae angen i ni ddefnyddio ein polisïau cynllunio i gyflawni datblygiadau a chymunedau sero net yn gyflymach.

 

Rydym mewn sefyllfa i wneud gwahaniaeth er budd cenedlaethau’r dyfodol ac mae dyletswydd foesol arnom i weithredu.” 

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod y Rhybudd o Gynnig wedi cael ei gyflwyno i gyfarfod y Cyngor llawn ym mis Mawrth a gofynnwyd i Swyddogion baratoi Cynllun Gweithredu llawn ar ddisgwyliadau carbon niwtral yn y Cyngor. Fodd bynnag, ni fu modd gweithio ar y strategaeth oherwydd y pandemig Covid-19. Dywedodd ei bod yn cytuno fod angen i’r Cyngor ymrwymo i gyflawni Sector Cyhoeddus Carbon Niwtral erbyn 2030.

 

Eiliwyd y Cynnig gan Arweinydd y Cyngor.

 

Mewn ymateb, dywedodd y Cynghorydd J Arwel Roberts, er bod y Cyngor wedi canolbwyntio ar y pandemig Covid-19 yn ystod y misoedd diwethaf, y bydd newid hinsawdd yn argyfwng yn y dyfodol. Mae mwy o CO2 yn yr amgylchedd yn awr nag a fu erioed yn ein hanes. Canfu astudiaeth ddiweddar gan y Swyddfa Dywydd i’r 10 mlynedd poethaf ym Mhrydain ddigwydd ers 2002 a bod y 5 mlynedd poethaf wedi digwydd ers 2014. Os na reolir lefelau CO2 erbyn 2070, bydd cynnydd o sawl gradd yn y tymheredd a byddai hynny’n cael effaith ar lefelau’r môr, cyflenwadau bwyd, iechyd pobl a bioamrywiaeth. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi argyfwng newid hinsawdd ac mae angen rhoi cynllun gweithredu cadarn mewn lle.

 

Cynhaliodd y Cadeirydd bleidlais ar y Cynnig ac roedd y mwyafrif o’i blaid.

 

Derbyniwyd y cynnig.

 

·     Cyflwynwyd y Rhybudd o Gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Robert Ll Jones:-

 

“Mae canol ein trefi yma ar Ynys Môn bellach yn cael eu rhoi o dan straen aruthrol wrth i bobl ddewis siopa ar-lein am eu cynnyrch boed hynny’n ddillad, cyflenwadau bwyd, esgidiau a’r rhan fwyaf o bethau eraill. Mae mwy a mwy o siopau gwag ac mae busnesau mawr ac eiddo busnes yn cael eu troi yn llety hunangynhaliol un ystafell wely. Mae hyn wedi digwydd mewn trefi eraill yng Ngogledd Cymru ac wedi arwain at ddirywiad y trefi cyfan.

 

Rydw i bellach yn gofyn am ailedrych ar y Cynllun Datblygu ar y Cyd ac i’r ddeddfwriaeth gael ei chryfhau er mwyn rhoi’r gefnogaeth sydd ei hangen ar ddatblygwyr er mwyn iddynt allu prynu’r eiddo hyn a’u troi yn gartrefi o safon a fydd ar gael i deuluoedd ifanc neu’r henoed sy’n dymuno byw mewn eiddo llai, fel dewis amgen i’r datblygiadau un stafell sy’n beryg o ddod yn ‘norm’ yn ein trefi. Fe allai arwain at weledigaeth o ran rôl bresennol trefi a’u rôl ar gyfer y dyfodol ac y bydd adeiladau newydd ac arloesol yn dod yn lle ein siopau Fictoraidd sydd wedi gweld dyddiau gwell fel y gwelir mewn trefi ledled Gogledd Cymru. Mae twristiaeth ar gynnydd ymhobman ac mae angen i ni elwa o hynny drwy fod yn lle deniadol i ymweld ag ef tra’n gwneud ein Sir yn rhywle y gallwn ni gyd fod yn falch ohoni.

 

Oes gennym ni’r ewyllys i gymryd hyn ymlaen fel Awdurdod a chymryd y camau cyntaf er mwyn gwneud hyn yn realiti neu a fyddwn yn parhau i bydru ymlaen a gweld ein hamgylchedd trefol yn parhau i ddirywio.

 

DWI’N GOFYN AM AGWEDD AR Y CYD GAN HOLL AWDURDODAU GOGLEDD CYMRU ER MWYN ARCHWILIO BETH SY’N DIGWYDD A GWNEUD RHYWBETH AMDANO.”

 

Eiliwyd y Cynnig gan y Cynghorydd Bryan Owen.

 

Dywedodd y Cynghorydd Richard A Dew, Aelod Portffolio (Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd) ei fod yn dymuno gweld canol trefni’n cael eu hadfywio ac i hynny gael ei ystyried yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Mae dyletswydd statudol i adolygu’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd bob pedair blynedd, o’r dyddiad y cafodd ei weithredu, sef mis Gorffennaf 2017. Felly, bydd y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd yn cael ei adolygu ym mis Gorffennaf 2021 a bydd rhaid ystyried yr adroddiad diweddaru. Mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu cyhoeddi Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn gynnar yn 2021 a gallai hwnnw gael effaith ar y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.

 

Nodwyd fod yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd yn paratoi Adroddiad Monitro ar gyfer 2019/20 ar hyn o bryd.

Ychwanegodd y Cynghorydd Dew nad oedd yn cefnogi’r Rhybudd o Gynnig gan ei fod o’r farn y byddai’n briodol disgwyl am yr Adroddiad Monitro ar gyfer 2019/20 ac adolygiad y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd yn 2021. Dywedodd y bydd yr adroddiadau hyn yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgorau Sgriwtini maes o law.

 

Dywedodd y Cynghorydd A M Jones ei fod o’r farn ei bod yn briodol ystyried cefnogi’r Rhybudd o Gynnig gan fod angen hyrwyddo economi’r Ynys a bod disgwyl cyhoeddiadau ynghylch prosiect Wylfa Newydd. Mae’n briodol hefyd oherwydd yr effaith mae’r pandemig wedi’i gael ar yr economi. Roedd y Cynghorydd Jones o’r farn bod angen ystyried adolygu’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd yn awr yn hytrach na disgwyl tan fis Gorffennaf 2021.

 

Dywedodd y Cynghorydd Robert Ll Jones fod swm sylweddol o arian grant wedi cael ei wario i wella canol tref Caergybi ond nid oedd yn ystyried fod hynny wedi gwneud gwahaniaeth o ran denu pobl i’r dref. Dywedodd fod angen i’r Awdurdod edrych ar yr hyn mae awdurdodau lleol eraill wedi’i gyflawni wrth wella canol trefydd ac y dylid ennyn cefnogaeth Cynghorau Tref er mwyn helpu i wella canol trefi.

 

Cynhaliodd y Cadeirydd bleidlais ar y Cynnig ond nid oedd y mwyafrif o’i blaid.

 

  Ni dderbyniwyd y cynnig.