Eitem Rhaglen

Datganiad o'r Cyfrifon Drafft 2019/20

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 oedd yn ymgorffori Datganiad cyn-archwiliad drafft y Cyfrifon am flwyddyn ariannol 2019/20 ynghyd â'r Datganiad Llywodraethu drafft am 2019/20, i’r Pwyllgor eu hystyried.

 

Cyn cyflwyno’r Datganiad Cyfrifon draft, diolchodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 i dîm Cyfrifon y Gwasanaeth Cyllid am eu gwaith yn cwblhau'r cyfrifon drafft yn llwyddiannus, yn unol â'r dyddiad cau statudol a ddygwyd ymlaen, ers y llynedd, i’r 15fed o Fehefin. Roedd tasg eleni yn arbennig o anodd oherwydd amgylchiadau gyda mwyafrif y staff yn gweithio o bell o'u cartrefi oherwydd y pandemig, yn ogystal â chyfrannu at ymateb argyfwng Covid-19. Roedd y Datganiad Cyfrifon wedi'i baratoi a'i nodi yn unol â rheoliadau ac arferion cyfrifyddu ac fe'i cynhyrchid yn flynyddol i roi gwybodaeth am gyllid y Cyngor a sut roedd yn gwario arian cyhoeddus i etholwyr, trethdalwyr lleol, Aelodau'r Cyngor, gweithwyr a phartïon eraill â diddordeb. Roedd y Datganiad yn ddogfen hir a chymhleth, yn nodi gwybodaeth am berfformiad ariannol y Cyngor mewn ffordd a ragnodid gan reoliadau cyfrifyddu ac, er gwaethaf tynnu sylw CIPFA at y ffaith bod angen ei symleiddio, roedd y fformat wedi aros yr un fath â'r llynedd.

 

Cyfeiriodd y Swyddog at yr Adroddiad Naratif Esboniadol a gyflwynai wybodaeth gefndirol am Gyngor Sir Ynys Môn a gosod ei berfformiad ariannol yng nghyd-destun cyflawniadau, materion, heriau a risgiau allweddol y flwyddyn. Yn 2019/20, nododd y Cyngor danwariant o £0.308k yn erbyn gweithgaredd a gynlluniwyd o £135.210m (cyllideb net) a chyflawnodd £2.205m o arbedion. Roedd y tabl yn 3.4.1 yn adlewyrchu'r gyllideb derfynol ar gyfer 2019/20 ac incwm a gwariant gwirioneddol yn ei herbyn. Golygodd effaith y tanwariant bod y Cyngor wedi cynyddu ei gronfeydd wrth gefn cyffredinol o £0.308k i £7.060m sef 4.9% o'i gyllideb refeniw net am 2020/21. Tanwariodd y Gyllideb Gyfalaf yn ystod y flwyddyn gyda chyfanswm y gwariant yn £30.015m yn erbyn cyfanswm y Gyllideb Gyfalaf o £43.907m ar gyfer 2019/20. Mae'r prif ddatganiadau ariannol dilynol yn cynnwys yr isod –

 

           Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr (tudalen 21 y cyfrifon) - yn dangos cost darparu gwasanaethau'r Awdurdod yn ystod y flwyddyn, yn unol ag arferion cyfrifyddu yn hytrach na'r swm i'w ariannu o drethiant, a dyna pam y ffigur - gwarged o £ 28.161m. Roedd y swm y gellid ei godi ar y dreth gyngor yn gofyn am nifer o addasiadau a eglurid yn Nodyn 1a (Nodyn ar Ddadansoddiad Gwariant a Chyllid 2019/20) a Nodyn 7 (Addasiadau rhwng sail cyfrifyddu a sail ariannu dan reoliadau). Roedd CIES hefyd yn dangos enillion neu golledion o ran asedau a rhwymedigaethau'r awdurdod, gan gynnwys atebolrwydd pensiwn a newidiadau o ganlyniad i ailbrisio asedau.

           Crynodeb o'r Symudiadau yng Nghronfeydd wrth Gefn y Cyngor (tudalen 23 y cyfrifon) – oedd yn dangos y symudiad yn y flwyddyn ar y gwahanol gronfeydd wrth gefn oedd gan y Cyngor ac a ddadansoddwyd rhwng cronfeydd wrth gefn y gellid eu defnyddio ac na ellid eu defnyddio. Roedd Balans Cronfa Gyffredinol y Cyngor yn £7.06m ar ddiwedd y flwyddyn; Balans y Gronfa Wrth Gefn oedd wedi’i Glustnodi oedd £8.76m; Balans y Cyfrif Refeniw Tai oedd £8.697m; £1.33m oedd y Gronfa Derbyniadau Cyfalaf a £197k oedd y Balansau Ysgol. Ar 31 Mawrth, 2020, roedd cyfanswm cronfeydd wrth gefn y gellid eu defnyddio £1.1m yn uwch na chyfanswm y flwyddyn flaenorol, sef £25.944m.

           Y Fantolen (Tudalen 24 y cyfrifon) - yn dangos gwerth yr asedau a'r rhwymedigaethau (yr hyn yr oedd y Cyngor yn berchen arno a'r hyn oedd yn ddyledus ganddo, ac eithrio priffyrdd a phontydd) yr oedd y Cyngor yn ei gydnabod ar ddyddiad y Fantolen, sef 31 Mawrth, 2020. Roedd y Fantolen yn adlewyrchu sefyllfa ariannol dda ar ddiwedd y flwyddyn gan roi gwerth net o £190.618m i'r Cyngor, oedd yn gynnydd o £28.162m ar y flwyddyn flaenorol. Roedd y Fantolen hefyd yn cynnwys y ffigur ar gyfer atebolrwydd pensiwn oedd yn atebolrwydd yr oedd yr Awdurdod wedi'i ysgwyddo ac y byddai’n rhaid ei ariannu yn y tymor hir, er nad oedd yn dod allan o gyllideb y flwyddyn honno.

           Y Datganiad Llif Arian – oedd yn dangos y newidiadau yn arian parod y Cyngor a’r hyn oedd gyfwerth ag arian parod y Cyngor yn ystod y flwyddyn ariannol, wedi'i rannu'n weithgareddau gweithredu, buddsoddi ac ariannu.

           Nodiadau i'r Datganiadau Ariannol craidd - roeddynt yn rhoi gwybodaeth ychwanegol ac yn egluro'r ffigurau yn y prif ddatganiadau ariannol. Yr hyn oedd â’r budd mwyaf i'r trethdalwr oedd Nodyn 8 - cronfeydd wrth gefn wedi'u clustnodi a'u pwrpas; Nodyn 9 - safle balansau'r ysgol; Nodyn 15 - asedau nad oeddynt yn gyfredol - eiddo, peiriannau ac offer; Nodyn 16 - ymrwymiadau cyfalaf sylweddol; Nodyn 17 - asedau treftadaeth; Nodyn 24 - Dyledwyr; Nodyn 26 - Credydwyr; Nodyn 27 - Darpariaethau; Nodyn 33 - Lwfansau aelodau; Nodyn 34 - Tâl swyddogion; Nodyn 41- Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol; Nodyn 48 – Y Dreth Gyngor a Nodyn 49 - Trethi Annomestig.

           Datganiad Llywodraethu Blynyddol – roedd yn rhoi trosolwg o'r fframwaith llywodraethu oedd wedi bod ar waith yn y Cyngor am y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth, 2020, ynghyd â chrynodeb o adroddiadau ac adolygiadau a roes sylwadau ar faterion llywodraethu a pherfformiad yn ymwneud â'r Cyngor.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Rhaglenni, Cynllunio Busnes a Pherfformiad at y Datganiad Llywodraethu Blynyddol drafft oedd ar ddiwedd y datganiadau ariannol ac eglurodd fod y  Datganiad yn ddogfen statudol a'i bwrpas oedd dangos bod trefniadau llywodraethu'r Cyngor yn cydymffurfio â'r egwyddorion craidd a chefnogol a gynhwysid o fewn Fframwaith CIPFA / SOLACE ar gyfer Cyflawni Llywodraethu Da mewn Llywodraeth Leol. Nod y Cyngor oedd cyflawni safonau llywodraethu da trwy lynu wrth y saith egwyddor graidd yn Fframwaith CIPFA / SOLACE. Roedd tystiolaeth bod y Cyngor wedi llwyddo i lynu wrth yr egwyddorion hynny ac roedd hyn, yn ei dro, yn rhoi sicrwydd o effeithiolrwydd trefniadau llywodraethu'r Cyngor. Serch hynny, roedd y Datganiad yn nodi meysydd lle gellid gwneud gwelliannau yn unol ag ymrwymiad y Cyngor i welliant parhaus - yn eu plith, llunio cynllun gweithredu newid yn yr hinsawdd ac ailgwmpasu cyfeiriad strategol y Cyngor am y 18 mis nesaf. Roedd, hefyd, yn rhoi’r sefyllfa ddiweddaraf o ran y cynnydd a wnaed ar faterion llywodraethu a nodwyd yn 2018/19. Dylid nodi y daeth yr Adroddiad Blynyddol Archwilio Mewnol am 2019/20 i'r casgliad nad oedd unrhyw faterion o risg nac effaith sylweddol uchel oedd yn cyfiawnhau eu cynnwys yn y Datganiad Llywodraethu Blynyddol.

 

Wrth drafod y datganiadau ariannol a'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol, cododd y Pwyllgor y pwyntiau a ganlyn –

 

           Hyd a lled effaith yr adolygiad o strwythur budd-daliadau'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol ar y Cyngor yn wyneb dyfarniad McCloud a ddyfarnodd fod gwarchodaeth oedd yn berthnasol i Gynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân, fel rhan o waith diwygio'r sector cyhoeddus, yn anghyfreithlon oherwydd ei bod yn gwahaniaethu ar sail oedran.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 gefndir y dyfarniad ar achos a gyflwynwyd gan aelod o'r Gwasanaeth Diffoddwyr Tân ar y sail bod gwarchodaeth, a gyflwynir gan Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth hwnnw i aelodau dros oedran penodol a gymerodd ymddeoliad cynnar, yn anghyfreithlon oherwydd ei bod yn gwahaniaethu ar sail oedran. Rhoddir gwarchodaeth debyg gan y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol i aelodau cymwys o'r cynllun dan y rheol 85 mlynedd. Yno, roedd buddion pobl oedd yn ymddeol yn gynnar ac oedd yn dibynnu ar pryd y dechreuont eu gwasanaeth, neu’r cyfan o’r buddion, yn cael eu gwarchod rhag gostyngiadau. Câi effaith dyfarniad McCloud ei deimlo mewn rhwymedigaethau pensiwn uwch oherwydd efallai y byddai’n rhaid i'r Gronfa Bensiwn ymestyn y warchodaeth i nifer fwy o aelodau. Rhoes Hymans Robertson LLP, fel Ymgynghorwyr Actiwaraidd Cronfa Bensiwn Gwynedd, ystyriaeth i’r dyfarniad wrth iddynt ailbrisio’r Gronfa yn 2019 - ailbrisiad yr oedd cyfraddau cyfraniadau pob cyflogwr Cronfa Bensiwn Gwynedd o 1 Ebrill, 2020 yn seiliedig arno. Barn yr Actiwari oedd na fyddai effaith y dyfarniad ar ddiffyg cronfa’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol gymaint â'r hyn a ragwelwyd gan ei fod wedi’i ystyried yn eu hasesiad ac, at hyn, ni fyddai angen cyfraniadau uwch gan y cyflogwyr. Cynhelid adolygiad yn ystod ailbrisiad teirblwydd nesaf y Gronfa yn 2022 ac er y byddai rhywfaint o effaith ar ddiffyg y Gronfa Bensiwn, roedd hyn yn debygol o gael mwy o effaith ar y cyflogwyr hynny yn y Gronfa yr oedd eu staff yn iau.

 

           A fydd gorfod cau ysgolion oherwydd y pandemig yn cael effaith ar sefyllfa balansau ysgolion ac a yw'n arwain at leihau cyfraniad y Cyngor i CBAC, o gofio nad oes unrhyw arholiadau wedi'u cynnal.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 fod balansau ysgolion wedi gostwng dros y blynyddoedd diwethaf o ganlyniad i sefyllfa ariannol y Cyngor a thynhau cyllidebau, er bod elfen o ddiogelwch rhag toriadau cyllidebol wedi'i rhoi i ysgolion. Yn gyffredinol, roedd y sector cynradd mewn gwell sefyllfa ariannol na'r sector uwchradd lle'r oedd dwy ysgol mewn diffyg - fel oedd yn ofynnol, roedd yr ysgolion hynny wedi llunio cynlluniau i wyrdroi'r diffyg. Roedd yn debyg bod y ffaith bod ysgolion wedi cau wedi helpu eu cyllid gan nad oedd yr Awdurdod wedi dal unrhyw ran o'r cyllid datganoledig i ysgolion yn ôl oherwydd eu cau. Nid oedd ysgolion, ‘chwaith, wedi ysgwyddo costau oedd yn gysylltiedig ag arholiadau, fel y byddent wedi’i wneud pe byddent wedi bod ar agor, yn ôl yr arfer, yn ystod tymor yr haf. Dywedodd y Swyddog nad oedd yn ymwybodol o unrhyw drafodaethau ynghylch y CBAC na'r disgwyliadau o ran awdurdodau lleol mewn perthynas ag ef.

 

           A ddylid adolygu'r tanwariant cylchol ar y gyllideb gyfalaf o ran ei effaith ar reoli’r trysorlys.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 fod y rhan fwyaf o gynghorau’n tanwario ar eu rhaglenni cyfalaf oherwydd, gyda phrosiectau cyfalaf mawr, gallai materion godi naill ai cyn dechrau gweithredu cynlluniau a all gael effaith ar amserlen eu cwblhau neu yn ystod eu gweithredu. Yn achos y Cyngor, roedd y tanwariant ar raglen gyfalaf 2019/20 i'w briodoli i raddau helaeth i'r penderfyniad a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith i ailystyried y rhaglen moderneiddio ysgolion yn ardal Llangefni a, thrwy hynny, ohirio'r cynlluniau a gynlluniwyd ar gyfer yr ardal. Sicrhawyd y cyllid ar gyfer y prosiectau hynny yr oedd eu hamserlen wedi llithro a byddai’r cyllid yn cario drosodd gyda nhw i 2020 / 21.  Gyda’r rhaglen gyfalaf yn tanwario, yr effaith ar reoli’r trysorlys oedd benthyca llai a olygai, yn ei dro, bod y gost i’r gyllideb refeniw o wasanaethu'r ddyled trwy'r Isafswm Darpariaeth Refeniw yn llai.

 

           Lefel y gwariant a dynnwyd gan y Cyngor wrth ymrwymo i bartneriaeth ar ffatri newydd ailgylchu gwastraff Parc Adfer a Chynnig Twf y Gogledd ac a yw’r Cyngor yn cael gwerth ei arian o fod yn cymryd rhan yn y cynlluniau hyn.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 fod cyfleuster Parc Adfer wedi'i adeiladu dan bartneriaeth rhwng pum awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru, yn cynnwys Ynys Môn, gyda chefnogaeth cyllid Llywodraeth Cymru. Câi ei redeg gan gwmni preifat. Roedd y pum awdurdod lleol oedd yn bartneriaid yn talu ffi giât am y tunelledd yr oedd y cyfleuster yn cael gwared â hi ac, i ddechrau, roedd y ffi yn uwch i Ynys Môn na'r ffi a dalwyd dan y contract gwaredu gwastraff blaenorol. Unwaith y byddai’r gwaith wedi'i sefydlu ac yn gweithredu wrth fodd Llywodraeth Cymru, byddai’r Llywodraeth yn talu grant i'r cwmni a redai’r safle a byddai’r ffi giât yn gostwng i lefel is na chostau blaenorol y Cyngor a, thrwy hynny, yn creu arbedion refeniw i'r Cyngor. Roedd Cais Twf y Gogledd yn dal i fynd rhagddo o ran y gwaith sefydlu gyda'r partneriaid dan sylw. Roedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn rhoi cyllid o £120m dros y 15 mlynedd, gyda Llywodraeth Cymru yn rhoi arian cyfatebol tuag ato. Ceid cyfraniadau gan y sector preifat hefyd. Gan y câi’r cyllid ei dalu mewn rhandaliadau dros y 15 mlynedd a bod gwariant y prosiect yn debygol o ddigwydd yn ystod yr ychydig flynyddoedd cyntaf, yna efallai y byddai’n rhaid i'r partneriaid lleol dalu cost gychwynnol benthyca i ariannu'r costau cychwyn, er bod trafodaethau ar hyn yn parhau. Ar hyn o bryd, câi cost rhedeg Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ei ariannu gan y partneriaid, yn cynnwys yr awdurdodau lleol, y Brifysgol a cholegau gyda phob partner yn cyfrannu £50k. Byddai’r trefniadau cyllido tymor hir a sut y caent eu rhannu yn rhan o'r cytundeb terfynol rhwng y partneriaid.

 

           P’run a ellid gwneud y Datganiad Llywodraethu Blynyddol yn haws ei ddarllen ac a ellid egluro'r mesurau a ddefnyddir gan y Cyngor i werthuso effeithiolrwydd ei drefniadau llywodraethu a'r ffynonellau oedd yn llywio'r casgliad sicrwydd ar gyfer pob egwyddor yn Natganiad Llywodraethu Blynyddol 2019/20 gan y nodwyd nad oedd y Datganiad yn annhebyg, o ran cynnwys, i Ddatganiad y flwyddyn flaenorol.

 

Esboniodd y Rheolwr Rhaglenni, Cynllunio Busnes a Pherfformiad fod y gwaith ar Ddatganiad Llywodraethu Blynyddol 2019/20 wedi'i wneud ar adeg pan oedd aelodau o'r tîm, oedd yn gyfrifol am y dasg, hefyd yn cymryd rhan yn ymateb Covid-19, gan olygu bod gwaith drafftio'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol yn ysgafnach na'r arfer. Yn 2012, mabwysiadodd y Cyngor Gôd Llywodraethu Lleol a ddefnyddid fel sail i adolygu’r gwaith llywodraethu’n flynyddol o ran sicrhau y câi gofynion CIPFA eu bodloni a, hefyd, fel sail i'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol oedd yn deillio o hynny. Mewn ymateb i sylw am wella'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol, rhoes y Swyddog sicrwydd bod y Cyngor bob amser yn ceisio gwella ei Ddatganiad Llywodraethu Blynyddol, o ran cyflwyniad a pha mor hawdd oedd ei ddeall.

 

Cododd yr Is-gadeirydd fater y sesiynau briffio misol i aelodau y cyfeiriwyd atynt yn y Datganiad Llywodraethu Blynyddol ac a gynhaliwyd i hysbysu aelodau etholedig am ddatblygiadau, strategaethau a chynigion cyllidebol mawr a gofynnodd am i Aelodau Lleyg y Pwyllgor gael gwahoddiad i'r sesiynau hyn i'w helpu i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau mawr yn y Cyngor. Dywedodd y Rheolwr Rhaglenni, Cynllunio Busnes a Pherfformiad y byddai'n cyfeirio'r mater i’r Prif Weithredwr / yr Uwch-dîm Arweinyddiaeth ei ystyried.

 

Ar ôl ystyried yr adroddiad, penderfynwyd nodi’r prif ddatganiadau ariannol nad oedd wedi’u harchwilio ar gyfer 2019/20.

 

CAMAU YCHWANEGOL A GYNIGIR:

 

           Cyflwyno’r Cod Llywodraethu Lleol i'r Pwyllgor maes o law cyn iddo gael ei adolygu a'i ddiweddaru.

           Bod y Rheolwr Rhaglenni, Cynllunio Busnes a Pherfformiad yn gofyn i'r Prif Weithredwr / yr Uwch-dîm Arweinyddiaeth ystyried priodoldeb gwahodd dau Aelod Lleyg y Pwyllgor i'r sesiynau briffio misol i bob aelod ar ddatblygiadau mawr.   

Dogfennau ategol: