Eitem Rhaglen

Adroddiad Blynyddol ar Reoli'r Trysorlys 2019/20

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 15 yn ymgorffori'r Adolygiad ar Reoli’r Trysorlys am 2019/20, i'r Pwyllgor ei ystyried. Rhoes yr adolygiad grynodeb o weithgareddau trysorlys y Cyngor yn ystod blwyddyn ariannol 2019/20 gan gynnwys ei ddull o fenthyca a buddsoddi.

 

Tynnodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 sylw at yr isod –

 

           Y cyd-destun allanol a'r ffactorau ehangach oedd wedi dylanwadu ar benderfyniadau o ran rheoli’r trysorlys, gan gynnwys cyflwr economi'r Deyrnas Unedig; perfformiad cyfradd llog yn ystod y flwyddyn; yr ansicrwydd parhaus ynghylch Brexit - yn enwedig Brexit heb gytundeb - ac effaith Covid-19.

           Roedd y ffactorau mewnol fel a ganlyn:

 

           Perfformiad gwariant cyfalaf - roedd y tabl yn 3.1 yn dangos y gwir wariant cyfalaf a sut yr ariannwyd hyn. Roedd gwariant cyfalaf gwirioneddol y Gronfa Gyffredinol a ariannwyd trwy fenthyca yn £2m yn erbyn rhagamcan o £7m ar ddechrau'r flwyddyn. Y prif reswm am y tanwariant oedd y tanwariant mawr ar y prosiectau fel y'u rhestrwyd ac, yn benodol, y £4.547m a danwariwyd ar raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif gafodd ei ohirio yn sgil rhagor o ymgynghori ar y cynlluniau yn ardal Llangefni.

           Cronfeydd wrth gefn a balansau arian parod - roedd balansau arian parod y Cyngor yn cynnwys adnoddau refeniw a chyfalaf ac arian y llif arian. Nodwyd adnoddau arian craidd y Cyngor yn y tabl yn 3.2 yr adroddiad ac roeddynt yn cynnwys Cronfa Wrth Gefn Gyffredinol y Cyngor a gynyddodd o £5.912m ar 31 Mawrth, 2019 i £7.060m ar 31 Mawrth, 2020. Cyfanswm cronfeydd wrth gefn a darpariaethau defnyddiadwy'r Cyngor oedd £31.124m ar 31 Mawrth, 2020 (o'i gymharu â £ 30.078m ar 31 Mawrth, 2019).

           Benthyciadau a gymerodd y Cyngor - ym mis Mawrth, 2020, cymerodd y Cyngor un benthyciad tymor byr gyda'r Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus i ariannu gwariant cyfalaf a gynlluniwyd hyd ddiwedd y flwyddyn ariannol. Ar 18 Mawrth, 2020, cymerodd y Cyngor fenthyciad o £10m (heb ei gynllunio ar ddechrau'r flwyddyn) gyda chyfradd llog o 2.05% i sicrhau bod ganddo ddigon o arian parod yn y banc yn mynd i mewn i argyfwng Covid 19, yn wyneb yr ansicrwydd ynghylch y cyfnod hwnnw.

           Benthyca gros a'r Gofyniad Cyllido Cyfalaf (GCC) – roedd y benthyciad gros o £139.2m ar 31 Mawrth, 2020, yn uwch na'r GCC ar 31 Mawrth, 2019 ond roedd o fewn y GCC a ragwelwyd am y ddwy flynedd ganlynol (cyfeirir at hyn yn nhabl 3.3.1). Roedd y sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn wedi rhagori ar y GCC oherwydd y benthyciad o £10m a gymerwyd ym mis Mawrth, 2020. Hefyd, roedd y pandemig byd-eang wedi golygu bod gwariant cyfalaf ym mis olaf y flwyddyn yn llai na'r disgwyl gan arwain at fenthyciad allanol oedd yn fwy na'r CGG. Roedd hyn am y tymor byr gan y byddai lefel y benthyca allanol yn syrthio’n is na'r CGG yn 2020/21, wrth i fenthyciadau allanol gael eu had-dalu a mynd i wariant cyfalaf.

           Benthyca mewnol - ar ddechrau'r flwyddyn, £6.2m oedd y sefyllfa fenthyca fewnol lle'r oedd y Cyngor yn defnyddio’i gronfeydd arian wrth gefn ei hun i ariannu gwariant cyfalaf. Trwy gymryd benthyciad newydd gwerth £10m y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus, gostyngwyd y sefyllfa fenthyca fewnol ar 31 Mawrth, 2020 a, thrwy hynny, roi'r Cyngor mewn sefyllfa lle'r oedd ganddo ormod o arian y CGG, a olygodd bod ganddo £2.3m o fenthyca cyfalaf nad oedd wedi’i ddefnyddio.

           Benthyciadau eraill - ni chymerodd y Cyngor unrhyw fenthyciadau tymor byr eraill. Derbyniwyd benthyciad di-log gan Lywodraeth Cymru o £1.878m yn ystod 2019/20 i ariannu gwariant cyfalaf ar brosiectau arbed ynni a byddid yn ei ad-dalu mewn rhandaliadau blynyddol.

           Ad-daliadau dyledion - aeddfedodd benthyciad am £5m gan y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus yn ystod y flwyddyn ar 20 Mai, 2019.

           Buddsoddiadau - roedd gweithgaredd buddsoddi yn ystod y flwyddyn yn cydymffurfio â'r strategaeth gymeradwy a roddai ddiogelwch cyfalaf yn gyntaf, yna hylifedd ac yna arenillion. Câi’r rhan fwyaf o adneuon y Cyngor eu dal mewn cyfrifon adneuo dim rhybudd, tra bod dau fenthyciad i awdurdodau lleol eraill. Y strategaeth ar fuddsoddi arian dros ben fyddai benthyciadau tymor byr gydag awdurdodau lleol eraill fel ffordd ddiogel o sicrhau'r enillion mwyaf.

           Dangosyddion Darbodus Rheoli'r Trysorlys – roedd dadansoddiad o'r gwahaniaeth rhwng y Dangosyddion Darbodus gwirioneddol a'r rhai a ragwelwyd am 2019/20, fel y'u cymeradwywyd yn y Datganiad Strategaeth ar Reoli’r Trysorlys am 2019/20, i’w weld yn adran 6 yr adroddiad. Roedd y data allweddol ar gyfer dangosyddion darbodus a gwirioneddol y trysorlys, oedd yn manylu ar effaith gweithgareddau gwariant cyfalaf yn ystod y flwyddyn, wedi'u cynnwys yn y tabl yn 6.1 yr adroddiad. Yn ystod 2019/20 cydymffurfiodd y Cyngor â'i ofynion deddfwriaethol a rheoliadol.

           Roedd perfformiad rheoli trysorlys y Cyngor yn ystod y flwyddyn yn unol â'r strategaeth o risg isel, enillion isel ar fuddsoddiadau a dull cynlluniedig o ran benthyca i leihau taliadau llog. Roedd perfformiad yn erbyn y strategaeth yn ystyried ffactorau economaidd allanol ac fe'i hadolygid yn rheolaidd i sicrhau mai'r strategaeth oedd yr un fwyaf priodol o hyd.

           Wrth symud ymlaen i 2020/21, roedd cryn ansicrwydd ynghylch sut y byddai effaith ariannol pandemig Covid-19 yn datblygu dros amser. Roedd y Cyngor wedi ceisio cadw balansau ei arian parod ar lefel weddol uchel o rhwng £45m a £55m yn ystod yr argyfwng. Roedd wedi derbyn cyllid y Grant Cyllid Ardrethi (RSG) ymlaen llaw ac wedi parhau i gasglu Treth Gyngor gan y rhai oedd yn gallu talu, gan olygu bod ei lif arian mewn sefyllfa iach. Byddid nawr yn rhoi ystyriaeth i ba enillion y gellid eu cael o fuddsoddi unrhyw arian dros ben wrth sicrhau diogelwch y cyfalaf a fuddsoddwyd.

 

Mewn ymateb i bwyntiau a godwyd gan y Pwyllgor, eglurodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 ymhellach –

 

           O ran pwysigrwydd buddsoddi mewn busnes i roi anogaeth i bobl ac i nodi ein bod wedi troi cornel mewn perthynas â'r pandemig, wrth i'r wlad symud ymlaen i'r cyfnod adfer, byddai gan sefydliadau, yn cynnwys llywodraeth leol, rôl hanfodol yn cyflawni dyheadau a chynlluniau gwariant y Llywodraeth ar gyfer prosiectau seilwaith i roi hwb i'r economi ar ôl cyfnod y cyfyngiadau symud. Roedd, hefyd, yn debygol y byddai grantiau ychwanegol a gwariant cyfalaf ar gael yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf.

           O ran priodoldeb y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus fel prif ffynhonnell cyllid y Cyngor, o gofio bod ei gyfradd gyfartalog yn 4.5% o'i chymharu â Chyfradd gyfartalog y Banc ar 0.1%, roedd y gyfradd gyfartalog yn seiliedig ar holl fenthyciadau'r Cyngor oedd yn ddyledus dros nifer o flynyddoedd, yn dyddio'n ôl i gyfnod pan oedd cyfraddau llog yn sylweddol uwch. Roedd y gyfradd gyfredol ar gyfer benthyciadau’r Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus oddeutu 2.2% ac fe'i codwyd 1% yn hwyr y llynedd. Nid oedd y Cyngor wedi cymryd benthyciad, ac eithrio'r £10m gyda’r Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus ym mis Mawrth oedd ar sail tymor byr hyd at fis Mawrth, 2021. Pe byddai'r Cyngor yn dymuno cymryd benthyciad tymor hir, yna byddai'n ymgynghori â'i Gynghorwyr Trysorlys i sefydlu ai’r Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus oedd yr opsiwn gorau dan yr amgylchiadau hynny.

           O ran bod y Cyngor mewn sefyllfa fwy manteisiol oherwydd nad oedd yn ddibynnol ar incwm masnachol am ei iechyd ariannol, roedd cyfleoedd y Cyngor am fuddsoddiad masnachol yn llai na'r rhai ar gyfer cynghorau trefol. Fodd bynnag, roedd cynghorau oedd wedi buddsoddi'n helaeth mewn adeiladau masnachol fel theatrau, datblygiadau manwerthu a meysydd awyr ac oedd yn dibynnu arnynt am incwm, bellach yn debygol o fod yn wynebu mwy o galedi oherwydd bod yr incwm o'r ffynonellau hynny wedi lleihau'n sylweddol, gan eu bod wedi peidio â gweithredu yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud. Er bod Ynys Môn wedi gweld colli incwm oherwydd yr argyfwng, roedd hyn i raddau llai na chyfran y cynghorau mwy yng Nghymru a châi hyn ei gynnwys yn rhannol gan ei gyfran o'r £78m yr oedd Llywodraeth Cymru wedi'i neilltuo i ddigolledu cynghorau am yr incwm a gollwyd.

           O ran casglu’r Dreth Gyngor, roedd y gyfradd casglu 1.5% yn is ym mis Mai, 2020 o'i chymharu â'r gyfradd am fis Mai, 2019, oherwydd bod trethdalwyr yn cael gohirio talu taliad rhandaliad cyntaf y Dreth Gyngor rhwng Mai a Mehefin eleni ac oherwydd nad oedd y Cyngor wedi gweithredu unrhyw gamau adfer hyd yn hyn. At hyn, roedd costau uwch Cynllun Lleihau’r Dreth Gyngor wrth i nifer yr hawlwyr godi. Nid oedd yn debygol y teimlid gwir effaith y pandemig ar refeniw'r Dreth Gyngor hyd nes y rhoddid ystyriaeth i ddileu dyledion.

 

Penderfynwyd –

 

           Nodi y bydd y ffigurau alldro yn yr adroddiad yn parhau i fod yn rhai dros dro nes bod gwaith archwilio Datganiad Cyfrifon 2019/20 wedi'i gwblhau a'i lofnodi. Byddir yn nodi, fel y bo'n briodol, unrhyw addasiadau sylweddol sy'n deillio o'r ffigurau a gynhwysir yn yr adroddiad.

           Nodi dangosyddion darbodus dros dro a rhai’r trysorlys am 2019/20 yn yr adroddiad.

           Derbyn adroddiad yr Adolygiad Blynyddol ar Reoli'r Trysorlys am 2019/20, a'i argymell i'r Pwyllgor Gwaith heb wneud sylw.

Dogfennau ategol: