Eitem Rhaglen

Y Sefyllfa Ddiweddaraf ar Gynllunio a Chyflawni Adferiad o’r Coronafeirws

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr yn nodi'r cynnydd hyd yma o ran cynllunio a chyflawni adferiad lleol i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor Gwaith am gynnydd o ran adferiad lleol a rhanbarthol a nododd, yn dilyn cymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 13 Gorffennaf o'r strwythurau a'r cyfrifoldebau mewnol i oruchwylio datblygiad ac adferiad pellach y Cyngor Sir a'r Ynys yn sgil argyfwng y Coronafeirws, fod y flaenoriaeth a'r ffocws wedi parhau ar lacio ymhellach y cyfyngiadau, cynnal diogelwch swyddogion a thrigolion a sicrhau canlyniadau cadarnhaol gan gydweithio'n ystyrlon â phartneriaid a rhanddeiliaid perthnasol.

 

Arweiniodd y Dirprwy Brif Weithredwr y Pwyllgor Gwaith drwy brif bwyntiau'r adroddiad fel a ganlyn –

 

           Dywedodd ei fod yn parhau i fod yn gyfnod heriol ac ansicr i drigolion, cymunedau a busnesau gyda newidiadau sy'n effeithio ar adferiad yr Ynys yn economaidd ac o ran y gymuned bob wythnos. Mae gan y Cyngor rôl i'w chwarae i arwain ar gamau tuag at adferiad ac mae'r adroddiad yn rhoi trosolwg o'r cynnydd a wnaed hyd yma a'r camau i'w cymryd wrth i'r adferiad fynd rhagddo.

           Amlinellodd y newidiadau cenedlaethol a wnaed gan Lywodraeth Cymru yn ystod mis Gorffennaf a mis Awst i lacio’r cyfyngiadau ynghyd â'r penderfyniadau lleol a wnaed gan y Cyngor i sicrhau cydymffurfiaeth a galluogi'r sefydliad, swyddogion, trigolion a busnesau lleol i symud i'r "normal nesaf" yn ddiogel a phwysleisiodd fod Swyddogion yn gwneud llawer iawn o waith yn y cefndir cyn i bob penderfyniad gael ei weithredu.

           Cyfeiriodd at gynnydd o ran adferiad rhanbarthol a'r rhan a chwaraeir gan y Cyngor mewn ymdrechion cydweithredol. Tynnodd sylw at y ffaith, er bod blaenoriaethau a ffocws y Cyngor yn parhau ar alluogi a hwyluso adferiad lleol, ei fod yn ceisio gwneud hynny mewn partneriaeth a dysgu o'r hyn y mae awdurdodau a sefydliadau eraill yn ei wneud o ran dulliau gweithio ac ymarfer. Mae'r rôl ranbarthol yn datblygu i fod yn un sy’n cydgysylltu a chynllunio ar gyfer y tymor canolig i'r hirdymor gyda chamau gweithredu a phenderfyniadau uniongyrchol o ddydd i ddydd yn digwydd ar lefel leol.

           Manylodd ar wahanol elfennau'r broses adfer leol gan gadarnhau bod gwaith wedi dechrau ar baratoi 4 cynllun adfer lleol yn seiliedig ar yr Economi; Gwasanaethau Twristiaeth a Chyrchfannau sy'n cynnwys agweddau cymunedol ac amgylcheddol; Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymunedol a Dylunio a Diwylliant Sefydliadol (Gweithio'n Wahanol).

           Pwysleisiodd bwysigrwydd cynlluniau cyfalaf i adferiad economaidd. Mae'r awdurdodau yng Ngogledd Cymru wedi ceisio tynnu sylw at rôl hollbwysig awdurdodau lleol wrth hyrwyddo prosiectau cyfalaf gydag amserlen o gynlluniau posibl wedi'u paratoi yn barod ar gyfer rhyddhau cyllid cyfalaf ychwanegol. Fodd bynnag, er mwyn manteisio'n llawn, mae angen datblygu cynlluniau'n llawn ac 'yn barod i’w gweithredu" felly argymhellir yn yr adroddiad y dylid rhyddhau cyllid i ddatblygu cynlluniau cyfalaf â blaenoriaeth.

           Cyfeiriodd at gydweithrediad parhaus y Cyngor a chyflawni'r Strategaeth Profi, Olrhain a Diogelu leol sy'n hanfodol wrth reoli achosion lleol ochr yn ochr â gwaith gwerthfawr y tîm bach o weithwyr iechyd yr amgylchedd proffesiynol sydd wedi ymgymryd â chyfuniad o fesurau rhagweithiol ac adweithiol (gorfodi) i gynnal iechyd y cyhoedd, hyder a chydymffurfiaeth yn ystod yr achosion yn ffatri Llangefni ac er mwyn lleihau'r risg o achosion pellach yn y dyfodol.

           Tynnodd sylw at bwysigrwydd y Cyngor yn gweithio'n wahanol fel sefydliad o ganlyniad i'r profiadau a gafwyd wrth ymateb i'r pandemig, ac at gynnwys newidiadau cadarnhaol yn ei brosesau, ei ymddygiadau a'i werthoedd yn seiliedig ar y themâu allweddol sy'n dod i'r amlwg ynghylch cyfleoedd Technoleg Gwybodaeth; sicrhau manteision amgylcheddol, hinsawdd a datgarboneiddio; gweithio thematig; gwell effeithlonrwydd drwy amseroedd teithio llai a phrosesau swyddfa â llaw; gwell cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref; datblygu newid ac addasu galluoedd, a chynnal a gwella cydraddoldeb, hygyrchedd gwasanaethau a gofal cwsmeriaid.

           Esboniodd fod angen i Ynys Môn, fel awdurdod llai o faint, flaenoriaethu ei adnoddau a'i gapasiti'n ddoeth wrth ymateb i'r her o gydbwyso camau gweithredu presennol yn erbyn cynllunio hirdymor gan nodi hefyd na fydd yn bosibl i'r Awdurdod arwain ar bob maes o’r gwaith adfer lleol heb adnoddau ychwanegol. Bydd pob cynllun adfer nid yn unig yn nodi'r hyn y gall y Cyngor ei hun ei gyflawni ar hyn o bryd ynghyd â'r amserlenni a'r canlyniadau arfaethedig, ond bydd pob un hefyd yn nodi'r hyn sy'n ofynnol o safbwynt Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU o ran cymorth, penderfyniadau ac adnoddau i alluogi'r Ynys i adfer yn gyflym, yn llawn ac yn effeithiol.

           Cynigiwyd addasu model gweithredu blaen tŷ presennol y Cyngor - Cyswllt Môn - fel rhan o'r newid yn y dull o ddiogelu'r gweithlu, y trigolion a'r gwasanaethau a ddarperir. Y nod fydd cynnal mynediad cyfartal, safonau gofal cwsmeriaid, cynhwysiant a lleihau teithio. Bydd ar ffurf treialu trefniadau cyswllt aml-sianel, gan ddefnyddio cyfleusterau yn y gymuned gan gynnwys llyfrgelloedd ar gyfer cyswllt rhithiol â Thîm Cyswllt Môn, hybu sianelau digidol a sicrhau mynediad i bawb.

           Cynigiwyd y dylid gostwng Cyllidebau Teithio a Chynhaliaeth 2020/21 25% i adlewyrchu'r tanwariant ar y cyllidebau hyn o ganlyniad i roi'r gorau i bob ymweliad/taith nad yw'n hanfodol yn sgil y pandemig a chynnal lefel o wasanaethau dros y ffôn, dulliau fideo a rhithiol, gyda'r arian a geir yn cael ei ailddyrannu i weithgarwch adfer arall.

 

Ymatebodd y Pwyllgor Gwaith i'r wybodaeth a gyflwynwyd fel a ganlyn –

 

           Diolchodd holl Aelodau'r Pwyllgor Gwaith i Swyddogion y Cyngor am eu gwaith caled drwy gydol y cyfnod anodd hwn a chydnabu eu hymrwymiad a'u proffesiynoldeb yn y ffordd yr oeddent wedi ymateb i'r argyfwng uniongyrchol ac wrth gynllunio ar gyfer adferiad.

           Wrth ymhelaethu ar y cymorth ariannol ac fel arall a roddwyd i fusnesau lleol i'w helpu drwy'r cyfnod heriol hwn, tynnodd y Cynghorydd Carwyn Jones, yr Aelod Portffolio dros Ddatblygu Economaidd sylw at y newidiadau yr oedd Covid-19 wedi'u gwneud i'r amgylchedd busnes o ran llai o wariant mewn siopau oherwydd y cyfyngiadau a’r pwyslais ar weithio gartref, gyda newid sylweddol i wariant ar-lein, gan ei gwneud yn glir hefyd y byddai angen cymorth ar fusnesau i addasu a delio â'r ansicrwydd parhaus ynglŷn ag ail don o’r feirws yn ogystal â dirwasgiad economaidd a Brexit.

           Wrth groesawu'r cynlluniau ar gyfer adfer canol trefi, gwnaed pwynt ynghylch peidio ag anghofio pentrefi mwy yr Ynys sy’n haeddu’r un gefnogaeth fel cyfranwyr pwysig i'r economi twristiaeth a busnes leol.

           Cyfeiriodd yr Is-gadeirydd at brif gyfrifoldebau'r Cyngor fel darparwr gwasanaethau cyhoeddus a theimlai y dylai'r Awdurdod ganolbwyntio ar adfer ei holl wasanaethau i'r safon uchel o ddarpariaeth cyn dechrau'r pandemig gan fanteisio ar y profiadau a gafwyd wrth ddelio â'r argyfwng i wella prosesau busnes.

           Cydnabu holl aelodau'r Pwyllgor Gwaith fod yr argyfwng wedi newid y ffordd y mae'r Cyngor yn cynnal sawl agwedd ar ei fusnes a bod nifer o'r newidiadau hynny er gwell o ran dod yn sefydliad mwy effeithlon. Dylid ei atgyfnerthu ac adeiladu ar hyn wrth gynllunio ar gyfer normal newydd a thu hwnt, yn enwedig o ran cyfarfod o bell, lleihau amser teithio a gwneud mwy ar-lein gan fod yn ymwybodol hefyd o'r angen i sicrhau mynediad at wasanaethau i bob dinesydd.

           Croesawodd Cynghorydd Richard Dew, yr Aelod Portffolio dros Gynllunio a Diogelu'r Cyhoedd hyn ac fe'i calonogwyd gan gynlluniau i wella'r broses o reoli, monitro ac adrodd ar gontractau yn arbennig o ran sicrhau bod mwy o fanteision lleol yn cael eu sicrhau drwy gontractau.

           Cydnabu’r Pwyllgor Gwaith rôl bwysig Tîm Cyfathrebu'r Cyngor drwy gydol yr argyfwng a'i ddefnydd o lwyfannau cyfryngau cymdeithasol i gyfleu negeseuon clir.

           Cytunwyd ynglŷn â’r angen i ganolbwyntio ar ôl y pandemig ar ganlyniadau ac ar y gwersi a ddysgwyd o ran yr hyn y gellir ei wneud yn wahanol er mwyn gwneud gwahaniaeth.

 

Penderfynwyd –

 

           Rhyddhau £200,000 o’r Cyfraniadau Refeniw sydd ar gael i’r Gronfa wrth Gefn a glustnodwyd (balans cyfredol £842,917) er mwyn ariannu cost datblygu cynlluniau cyfalaf â blaenoriaeth a gweithio tuag at sicrhau cyllid grant cyfalaf ychwanegol i roi’r cynlluniau hynny ar waith.

           Dad-neilltuo 25% o gyllideb teithio a chynhaliaeth 2020/21 (£115,420) a’i ail-neilltuo i waith adfer brys:-

 

      Arbrawf rhithiol Cyswllt Môn yn holl lyfrgelloedd yr Ynys.

      Galluogi trawsnewid prosesau busnes cyn gynted â phosibl.

      Cyflwyno system ddigidol a phecyn hyfforddi newydd i wella a mireinio’r broses o fonitro gwaith rheoli contractau, adrodd arnynt a sicrhau manteision.

Dogfennau ategol: