Eitem Rhaglen

Gweddill y Ceisiadau

12.1 – VAR/2020/37 -  Clwb a Siop, Canolfan Hamdden Cae Annar, Ffordd Kingsland, Caergybi

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000MgBnKUAV/var202037?language=cy

 

12.2 – VAR/2020/24 - A5025 rhwng y Gyffordd ar yr A5 i’r Dwyrain o’r Fali i’r Orsaf Bwer yng Nghemaes

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000IwgyiUAB/var202024?language=cy

 

12.3 – FPL/2020/29 – 24 – 99 Maes Llwyn, Amlwch

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000M6rh9UAB/fpl202029?language=cy

 

 

 

Cofnodion:

12.1   VAR/2020/37 - Cais dan Adran 73 i amrywio amod (01) o ganiatâd cynllunio rhif 19C845J/VAR (lleoli clwb a siop dros dro) ar gyfer adnewyddu’r caniatâd am 5 mlynedd arall yn y Tŷ Clwb a Siop y Clwb, Canolfan Hamdden Cae Annar, Ffordd Kingsland, Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y tir yn eiddo i’r Awdurdod Lleol.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais ar gyfer ymestyn y caniatâd ar gyfer lleoli’r portacabin a gymeradwywyd eisoes am 5 mlynedd arall. Mae’r caban presennol wedi’i leoli ar dir y clwb pêl droed. O dan y caniatâd cynllunio presennol bydd rhaid symud y caban oddi ar y safle erbyn 31 Gorffennaf, 2021. Ystyrir bod y cais yn cydymffurfio â gofynion Polisi ISA2 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, sydd yn annog cyfleusterau cymunedol. Ychwanegodd y dylai cywiriad i ddyddiad amod (01) yn yr adroddiad ysgrifenedig ddarllen ‘adfer y tir i’w gyflwr blaenorol erbyn 30/9/2025’.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams fod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Bryan Owen.

 

PENDERFYNWYD caniatau’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau sydd wedi’u rhestru yn yr adroddiad, ynghyd â chywiriad i’r dyddiad yn amod (01) a ddylai ddarllen ‘adfer y tir i’w gyflwr blaenorol erbyn 30/9/2025).

 

12.2  VAR/2020/24 – Cais dan Adran 73 i amrywio amod (01) (Terfyn Amser) o gais 27C106E/FR/ECON (Cais llawn i wella’r briffordd gyfredol (yr A5025) rhwng y gyffordd ar yr A5 i’r dwyrain o’r Fali i’r Gyffordd wrth y Ffordd Fynediad i’r Orsaf Bŵer arfaethedig mewn wyth o leoliadau ar wahân ynghyd ag ailadeiladu a lledu’r pafin presennol a’r gorffenwaith ar yr arwynebedd mewn mannau, gweithredu compownd adeiladu dros dro gan gynnwys cyfleuster dros dro ar gyfer ailgylchu pafinau, creu dau bwll teneuo a mynedfa ar gyfer cynnal a chadw, creu llwybrau beicio a gwyro rhai eraill am gyfnod dros dro, creu cyfleusterau parcio eraill yn sgil colli culfan ,ynghyd â gwaith cysylltiedig arall gan gynnwys draenio, trin ffiniau, plannu, gosod arwyddion newydd a marciau ffordd) er mwyn ymestyn cyfnod gweithredu’r datblygiad am dair blynedd arall (hyd at 13 Gorffennaf 2023) ar hyd yr A5024 rhwng y Gyffordd ar yr A5 i’r Dwyrain o’r Fali i Orsaf Bŵer Cemaes.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn cynnwys tir y mae Cyngor Sir Ynys Môn yn berchen arno.

 

Adroddodd y Prif Swyddog Cynllunio fod y cynnig ar gyfer amrywio Amod (01) cais cynllunio 7C106E/FR/ECON i ymestyn cyfnod gweithredu’r datblygiad am 3 blynedd arall (hyd at 13 Gorffennaf, 2023). Gohiriwyd Prosiect Wylfa Newydd ar 17 Ionawr, 2019 ac o’r herwydd nid yw’r ymgeisydd wedi gallu gweithredu’r caniatâd cyn iddo ddod i ben ar 13 Gorffennaf 2020. Disgwylir i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol wneud penderfyniad ar Orchymyn Caniatâd Datblygu (DCO) Wylfa Newydd ar 30 Medi 2020. Os caniateir y DCO ar 30 Medi, 2020, bydd gan yr ymgeisydd 6 mlynedd i weithredu’r caniatâd. Mae Strategaeth Fesul Cyfnod y DCO, sy’n rhan o gyfres o Ddogfennau Rheoli’r DCO, yn cadarnhau y bydd rhaid gwneud y gwelliannau oddi ar lein i’r briffordd yn ystod 2 flynedd gyntaf y cyfnod gweithredu. Mae’r Datganiad Amgylcheddol ar gyfer y DCO yn seiliedig ar gwblhau’r gwaith ar-lein cyn gweithredu’r gwaith oddi ar-lein. Mae gwaith i wella priffordd yr A5025 yn hanfodol i liniaru’r cynnydd posib mewn traffig yn gysylltiedig â Phrosiect Wylfa Newydd, cyn ac yn ystod y cyfnod adeiladu. Bydd y gwelliannau i’r briffordd hefyd yn lliniaru problemau traffig sydd eisoes yn bodoli ar y rhwydwaith priffyrdd. Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio yr ymgynghorwyd ag ymgyngoreion statudol yn 2018 pan ganiatawyd y cais gwreiddiol a chynhaliwyd proses ymgynghori eang bellach gydag ymgyngoreion statudol, preswylwyr lleol a chymunedau lleol.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd John Griffiths at adroddiad y Rheolwr Polisi a Strategaeth sy’n amlygu pryderon y Cyngor Sir ynghylch y strategaeth liniaru ar gyfer yr Iaith Gymraeg; newidiwyd y geiriau a ddefnyddiwyd ac maent yn wannach gan eu bod yn sôn am ystyriaeth yn hytrach nac ymrwymiad. Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio fod rhagor o waith wedi cael ei wneud ers cymeradwyo’r cais yn 2018 a dywedodd fod y strategaeth yn cyfeirio at Brosiect Wylfa Newydd yn ei gyfanrwydd yn hytrach na chyfeirio’n benodol at y cais hwn. Mae’r ymgeisydd wedi gwneud gwaith ychwanegol ar y cais hwn mewn perthynas â’r iaith Gymraeg ac mae’r Uned Bolisi wedi derbyn cadarnhad y bydd y gwaith ychwanegol a wneir ganddynt yn diwallu’r gofynion yn y Canllawiau Cynllunio Atodol. Dywedodd y Swyddog Achos Arweiniol, Prosiectau Mawr (Amgylchedd) fod yr Uned Bolisi wedi nodi cyfres o amodau yn gysylltiedig â’r caniatâd a bydd angen i Bŵer Niwclear Horizon ddarparu gwybodaeth bellach ynglŷn â’r effaith ar yr iaith Gymraeg cyn y gellir cychwyn unrhyw waith ar y safle.

 

Dywedodd y Cynghorydd John Griffiths fod pryderon lleol y bydd lonydd cefn gwlad yn cael eu defnyddio i osgoi unrhyw waith ar yr A5025. Dywedodd y Cadeirydd fod caniatâd cynllunio eisoes wedi ei roi i’r cais a bod y cais hwn ar gyfer estyniad o 3 blynedd yng nghyfnod gweithredu’r datblygiad.

 

Cynigiodd y Cynghorydd K P Hughes fod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Bryan Owen.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.3  FPL/2020/29 – Cais llawn i newid defnydd o dir amwynder agored i fod yn llecyn chwarae i blant ynghyd â gosod cyfarpar chwarae ar dir ger 24 i 99 Maes Llwyn, Amlwch

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y Cyngor Sir yn berchen ar y tir.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais yn cael ei wneud i newid defnydd darn gwag o dir amwynder y mae’r Cyngor yn berchen arno yn llecyn chwarae ffurfiol i blant. Mae Polisi ISA 2 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd yn ymwneud â Chyfleusterau Cymunedol ac yn nodi y bydd y cynllun yn helpu i gynnal a gwella cyfleusterau cymunedol trwy ganiatáu datblygu cyfleusterau cymunedol. Ystyrir bod y datblygiad yn dderbyniol a’i fod yn cydymffurfio â pholisïau perthnasol yn y cynllun datblygu lleol ac nid ystyrir y byddai’r cynnig yn cael effaith andwyol sylweddol ar fwynderau eiddo cyfagos. Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiad i’r cais yn lleol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Eric W Jones fod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

Dogfennau ategol: