Eitem Rhaglen

Archwilio Allanol: Asesiad o Gynaliadwyedd Ariannol - Cyngor Sir Ynys Môn

Cyflwyno adroddiad Archwilio Allanol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad yr Archwiliad Allanol a oedd yn ceisio asesu cynaliadwyedd sefyllfa ariannol tymor byr i ganolig y Cyngor fel rhan o astudiaeth eang o gynaliadwyedd ariannol pob un o'r 22 cyngor yng Nghymru i'r Pwyllgor ei ystyried. Canolbwyntiodd yr adroddiad ar strategaeth ariannol pob cyngor yn ogystal ag adolygu dangosyddion ariannol o sefyllfa ariannol pob cyngor mewn perthynas â pherfformiad yn erbyn y gyllideb; cyflawni cynlluniau arbedion; defnyddio cronfeydd wrth gefn, treth y cyngor a benthyca.

 

Cydnabu Mr Alan Hughes, Arweinydd Archwilio, wrth gyflwyno'r adroddiad, er iddo gael ei effeithio gan ddigwyddiadau a bod pandemig Covid-19 wedi achosi iddo gael ei ohirio, fod cynnwys yr adroddiad yn parhau'n berthnasol o safbwynt nodi egwyddorion sylfaenol rheolaeth ariannol gyhoeddus dda. Cyfeiriodd at gasgliadau cyffredinol yr adroddiad fel y nodir isod ac arweiniodd y Pwyllgor drwy gorff yr adroddiad manwl gan amlygu’r canfyddiadau a oedd yn sail i'r casgliadau hynny 

 

           Yn gyffredinol, canfuwyd nad yw parhau i gyllido arbedion heb eu gwireddu a gorwariant ar ddiwedd y flwyddyn o gronfeydd cyffredinol wrth gefn yn gynaliadwy; mae angen i'r Cyngor ddatblygu strategaeth ariannol fwy cynaliadwy i ddarparu gwasanaethau o fewn y cyllid sydd ar gael gan adeiladu cronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio i wella ei wydnwch. Daethpwyd i'r casgliad hwn oherwydd -

           Fod y Cyngor wedi wynebu gorwariant cyffredinol yn ystod y blynyddoedd diwethaf a’i fod yn neilltuo adnoddau ychwanegol sylweddol i ariannu'r pwysau cynyddol mewn gwasanaethau allweddol.

           Mae gan y Cyngor hanes o gyflawni elfen sylweddol o arbedion wedi’u cynllunio, ond mae arbedion heb eu cyflawni yn creu pwysau ariannol ychwanegol; mae'r Cyngor yn debygol o ganfod bod adnabod a chyflawni arbedion yn her gynyddol yn y dyfodol.

           Nid yw defnydd parhaus y Cyngor o gronfeydd wrth gefn i ariannu diffygion ar ddiwedd y flwyddyn a gwariant refeniw wedi’i gynllunio yn gynaliadwy.

           Mae cyfraddau casglu Treth y Cyngor wedi aros yn sefydlog ac mae treth y cyngor fel cyfran o incwm y Cyngor wedi cynyddu dros y degawd diwethaf; ac

           Nid oes gan y Cyngor unrhyw brosiectau â ffocws masnachol llwyr a bydd lefelau benthyca ar y cyfan yn cynyddu.

 

Ymatebodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 15 i ganfyddiadau'r adroddiad gan dynnu sylw at y ffaith bod newidiadau'n digwydd mewn blwyddyn arferol ond bod graddau’r newidiadau a achoswyd gan Covid 19 wedi cael effaith sylweddol ar gyllid y Cyngor. Er gwaethaf hynny, ni fu angen defnyddio cronfeydd wrth gefn y Cyngor i gydbwyso cyllideb 2019/20 ac o ganlyniad, mae lefel y balansau cyffredinol bellach yn agosáu at y targed o 5% o'r gyllideb refeniw net fel y cytunwyd arni gan y Cyngor. Mae'n anodd rhagweld sut y bydd blwyddyn ariannol 2020/21 yn datblygu - gyda llai o incwm a chostau ychwanegol gallai'r Awdurdod wynebu gorwariant o £2m i £3m yn dibynnu ar ba mor gyflym y codir cyfyngiadau a graddau'r cymorth ariannol ychwanegol y gall Llywodraeth Cymru ei ddarparu. Yn y tymor hir, bydd sefyllfa ariannol y Cyngor yn cael ei dylanwadu gan bryd yn union y caiff mesurau cadw pellter cymdeithasol eu codi a thrwy hynny alluogi adnoddau fel canolfannau hamdden i weithredu'n agosach at gapasiti arferol. Wrth dderbyn nad yw'r Cyngor bob amser yn llwyddo i gyflawni ei raglen arbedion yn llawn, dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/ Swyddog Adran 151 fod y Cyngor, mewn amgylchiadau o'r fath, fod y Cyngor yn adolygu ac yn addasu ei gyllidebau yn unol â hynny; neu, gellir gwireddu arbedion dros gyfnod hirach na'r flwyddyn ariannol y cawsant eu cynllunio ar ei gyfer neu gellir nodi tanwariant mewn un maes y gellir ei ddefnyddio ar gyfer diffyg mewn maes arall fel bod y Cyngor yn cymryd camau i liniaru'r bwlch arbedion. Mae'r syniad o gynllunio ar gyfer lefel uwch o arbedion yn ychwanegol at yr hyn sydd ei angen mewn gwirionedd yn un a dderbynnir ac yr edrychir arno os bydd yn rhaid dod o hyd i arbedion ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Roedd cyllideb 2020/21 yn cynnwys arbedion gwerth £300k; ar y cyfan roedd y rhain yn syml i'w nodi ac maent wedi cael eu gweithredu'n llawn. O ran casglu Treth y Cyngor, roedd perfformiad y Cyngor ar gyfer blynyddoedd ariannol 2018/19 a 2019/20 yn golygu ei fod yn y chwartel uchaf gyda chyfradd gasglu flynyddol o 97.3% (tua 99.3% dros 3 blynedd). Fodd bynnag, mae pandemig Covid 19 wedi effeithio ar gasglu Treth y Cyngor yn ystod y chwe mis diwethaf a gohiriwyd y broses o adfer Treth y Cyngor o ganlyniad i hynny. O ran incwm masnachol, mae'r cyfleoedd i'r Cyngor ymgymryd â buddsoddiad masnachol yn gyfyngedig a gan edrych yn ôl mae'n ffodus nad yw’n dibynnu ar ffynonellau incwm masnachol gan fod y pandemig wedi effeithio'n arbennig ar y rheini gyda chynghorau sydd wedi ymrwymo fel hyn wedi cael eu heffeithio'n sylweddol gan golli incwm.

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Archwilio a Risg yn ôl at yr adroddiad Archwilio Mewnol ar Wydnwch Ariannol a oedd yn rhan o'r gwaith sicrwydd a gwblhawyd yn 2019/20 a wnaed i feincnodi'r Cyngor yn erbyn Cod Ariannol newydd CIPFA a gyhoeddwyd yn 2019. Cadarnhaodd y byddai copi o adroddiad yr adolygiad archwilio a luniodd farn Sicrwydd Rhesymol yn cael ei anfon at aelodau'r Pwyllgor unwaith y byddai wedi'i gyfieithu.

 

Wrth ystyried adroddiad yr Archwiliad Allanol cododd y Pwyllgor y pwyntiau canlynol –

 

           Wrth gydnabod bod yr adroddiad wedi'i effeithio gan ddigwyddiadau, credai'r Pwyllgor y dylid ei ddiwygio a'i ddiweddaru i adlewyrchu sefyllfa wirioneddol y Cyngor yn enwedig yr alldro refeniw cadarnhaol ar gyfer 2019/20 a’r gwelliant yn sefyllfa cronfeydd wrth gefn.

 

Cadarnhaodd Mr Alan Hughes fod cynnwys yr adroddiad wedi'i gytuno gyda Swyddogion y Cyngor fel rhan o'r dilysiad ffeithiol o'r drafft yn ystod Chwefror/Mawrth 2020 ar sail y wybodaeth a oedd ar gael ar y pryd. Ni chyhoeddwyd y fersiwn derfynol tan yn llawer diweddarach oherwydd Covid-19. Yr arwyddion ar ddechrau'r flwyddyn galendr oedd y byddai'r Cyngor unwaith eto'n gorwario ei gyllideb gan olygu y byddai'n rhaid iddo wneud defnydd pellach o’i gronfeydd wrth gefn cyffredinol er mwyn gwneud iawn am y diffyg; pe bai hyn wedi digwydd byddai'r Gronfa Gyffredinol wedi gostwng i tua £4.6m ar ddiwedd 2019/20 islaw'r trothwy cronfeydd wrth gefn y cytunwyd arno gan y Cyngor gan barhau â phatrwm sy'n anghynaliadwy yn y tymor hir a rhoi'r Cyngor mewn mwy o berygl ariannol. Fel y digwyddodd, ar ôl buddsoddi adnoddau ychwanegol yn y gwasanaethau a oedd o dan bwysau, tanwariodd y Cyngor ar ei gyllideb refeniw ar ddiwedd y flwyddyn ariannol a helpodd hyn i wella sefyllfa ei gronfeydd wrth gefn. Fodd bynnag, wrth wynebu gostyngiad yn y cronfeydd wrth gefn, mae’r Cyngor wedi mynd ati i ailgyflenwi'r cronfeydd wrth gefn drwy danwariant ad hoc yn hytrach na thrwy gyfraniadau arfaethedig o'r gyllideb sylfaenol.

 

Wrth gadarnhau bod ystyriaeth wedi'i rhoi i adeiladu'r cronfeydd wrth gefn ar sail gynlluniedig a bod hyn wedi cael ei drafod gyda'r Pwyllgor Gwaith, eglurodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, yng ngoleuni sefyllfa ariannol y Cyngor ar y pryd, cynnydd sylweddol yn Nhreth y Cyngor dros 2 flynedd a buddsoddiad ychwanegol mewn gwasanaethau dan bwysau, bod y Pwyllgor Gwaith wedi penderfynu peidio â chynyddu'r balansau drwy gyllideb sy'n tanwario yn fwriadol, ond cydnabu hefyd fod hwn yn opsiwn pe bai lefel cronfeydd wrth gefn y Cyngor yn parhau i ostwng.

 

           Perfformiad y Cyngor o ran sicrhau arbedion o'i feincnodi yn erbyn perfformiad cynghorau eraill o faint a strwythur tebyg.

 

Eglurodd Mr Alan Hughes, er i'r Cyngor sicrhau 82% o'r arbedion arfaethedig yn 2018/19, ei fod yn golygu na chyflawnwyd arbedion gwerth £400k; yr her i bob cyngor o beidio â chyflawni eu cynilion arfaethedig yw bod yr arbedion heb eu cyflawni wedyn yn cael eu dwyn ymlaen i'r flwyddyn ganlynol gan roi pwysau ychwanegol ar y cynghorau hynny a'u Swyddogion i gyflawni'r arbedion cronnol sydd eu hangen, gan arwain at orwario posibl a defnyddio cronfeydd wrth gefn i bontio'r bwlch. Os yw arbedion yn rhan sylweddol o bennu cyllidebau yna efallai y byddai'n ddoeth anelu at or-gyflawni'r targed arbedion, yn enwedig os oes elfen o risg yn perthyn i’r arbedion.

 

           Credai Mr Dilwyn Evans, Aelod Lleyg fod cyllidebu ar sail sero yn ddull gwell o weithredu'n effeithlon ac y dylai'r Cyngor anelu at gadw ei gronfeydd arian parod cyn belled ag y bo modd yn hytrach na'u defnyddio at ddibenion cyfalaf yn enwedig pan fo cost benthyca yn isel iawn.

 

Penderfynwyd derbyn Adroddiad Asesu Cynaliadwyedd Ariannol yr Archwiliad Allanol mewn perthynas â Chyngor Sir Ynys Môn a nodi ei gynnwys.

 

CAMAU YCHWANEGOL – Bod y Pennaeth Archwilio a Risg yn dosbarthu adroddiad yr adolygiad Archwilio Mewnol ar Wydnwch Ariannol unwaith y bydd y cyfieithiad wedi'i gwblhau.

 

Ar y pwynt hwn tynnodd y Cadeirydd sylw at y ffaith bod y Pwyllgor wedi bod yn trafod ers tair awr, ac o dan ddarpariaethau paragraff 4.1.10 o Gyfansoddiad y Cyngor, fod angen penderfyniad gan fwyafrif aelodau’r Pwyllgor a oedd yn bresennol i gytuno i barhau â'r cyfarfod. Penderfynwyd y dylai'r cyfarfod barhau.

   

Dogfennau ategol: