Eitem Rhaglen

Adroddiad Cynnydd Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Dros Dro.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Dros Dro a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am gynnydd y Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer ei ystyried. Roedd yr adroddiad yn crynhoi datblygiadau diweddar yn y Gwasanaethau i Blant ac Oedolion gan gyfeirio hefyd at effaith pandemig Covid 19 ac ymateb y Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystod cyfnod y cyfyngiadau.

 

Darparodd yr Arweinydd ac Aelod Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol drosolwg o weithgarwch diweddar; adroddodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Dros Dro a Phennaeth Gwasanaethau Oedolion Dros Dro’n fanylach am y ddarpariaeth yn y Gwasanaethau i Blant a Theuluoedd a'r Gwasanaethau Oedolion yn y drefn honno o dan y penawdau canlynol

 

           Cynyddu nifer y Gofalwyr Maeth sydd gan yr Awdurdod Lleol

           Agor y Cartref Clyd cyntaf a fydd yn galluogi plant sy'n derbyn gofal o Ynys Môn i dderbyn gofal ar yr Ynys

           Agor fflat hyfforddi i bobl ifanc sy'n gadael gofal i'w cynorthwyo i fyw'n annibynnol am y tro cyntaf

           Parhau i weithio ar gynllunio ar gyfer darpariaeth tai gofal ychwanegol newydd yn Ne'r Ynys

           Datblygu'r rhaglen Cysylltu Bywydau i gefnogi pobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr yn ogystal â dylunio Strategaeth Dementia sy'n unol â Chynllun Dementia Llywodraeth Cymru

           Datblygu cyfleoedd i bobl ag anghenion iechyd meddwl gymryd rhan mewn gweithgareddau grŵp yn y gymuned

           Cynyddu lefelau cyfranogiad yn y modelau hyb cymunedol trwy hyrwyddo a datblygu'r hybiau ledled yr Ynys; gweithio i sefydlu 3 thîm adnoddau cymunedol yn Amlwch, Ysbyty Penrhos Stanley a Llanfairpwll

           Ymgysylltu ac ymgynghori â defnyddwyr ar y Strategaeth Cyfleoedd Dydd i Oedolion yn y maes Anabledd Dysgu fel ein bod yn creu ystod ehangach o gyfleoedd dydd o ansawdd uchel i unigolion yn eu cymunedau.

           Cyflawni'r holl ddyletswyddau statudol yn ystod cyfnod y cyfyngiadau

 

Rhoddodd y Cynghorydd Richard Griffiths, cynrychiolydd y Pwyllgor ar y Panel Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol, y wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau'r Panel o'i gyfarfod ar 10 Medi (gweler adran 2 o'r adroddiad) gan dynnu sylw at argymhelliad y Panel y gallai'r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol gyfeirio meysydd gwaith penodol at y Panel i graffu'n fanwl arnynt yng nghyd-destun ehangach rhaglen waith y rhiant-bwyllgor ar ymateb y Cyngor i Covid-19. Cyfeiriodd y Cynghorydd Griffiths ymhellach at y Panel Maethu a oedd hefyd wedi cyfarfod yn ddiweddar. Nododd y Pwyllgor y wybodaeth a diolchodd i'r Cynghorydd Richard Griffiths am ei darparu.

 

Ystyriodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf a thrafododd y materion canlynol

 

           Mae cynlluniau'r Gwasanaeth ar gyfer y tymor canolig a'r tymor hir yn ystyried effaith Covid 19. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Dros Dro ei bod yn anodd cynllunio ymlaen llaw mewn unrhyw ffordd ystyrlon oherwydd yr ansicrwydd ynghylch sut y bydd argyfwng Covid-19 yn parhau i esblygu a sut bydd yn effeithio ar gyllid llywodraeth leol y flwyddyn nesaf a thu hwnt. Eglurodd yr Arweinydd fod ffocws diweddar arweinwyr Awdurdodau Lleol yng Nghymru wedi bod ar sicrhau bod pwysau'n cael eu nodi'n gynt yn hytrach nag yn hwyrach fel y gellir lobïo Llywodraeth Cymru yn brydlon a hefyd ar sicrhau bod Gwasanaethau Cymdeithasol yn cael eu trin yn gyfartal ag Iechyd. Un flaenoriaeth arall fu dod i ddealltwriaeth gliriach ynghylch cyllid pwysau'r gaeaf ar gyfer y gaeaf nesaf ac argaeledd y Grant Pwysau’r Gaeaf. Yn y tymor byr yr amcan yw delio ag anghenion y gaeaf hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol hon; fodd bynnag, y gobaith yw y cydnabyddir rôl hollbwysig llywodraeth leol wrth ymateb i argyfwng Covid-19, gan arwain yn y tymor hir at ariannu teg i awdurdodau lleol.

           Gan gydnabod pwysigrwydd ymyrraeth gynnar i unigolion â dementia a'r gwaith sy'n cael ei wneud yn hyn o beth, gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad o'r broblem i gael mynediad at wasanaethau meddygon teulu yn y lle cyntaf ac wedi hynny i weld arbenigwr ar gyfer diagnosis amserol. Cytunodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion Dros Dro bod cael apwyntiad meddyg teulu bellach yn broses hirach ac yn cael ei gynnal yn fwyfwy fel apwyntiad rhithiol oherwydd Covid-19. Darperir diagnosis a chymorth drwy'r Clinig Cof sy'n gyfrifoldeb i'r Bwrdd Iechyd. Fel gyda materion iechyd eraill, mae'r Awdurdod yn gweithio'n agos gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar y mater hwn ac mae ganddo hefyd gysylltiad agos a pherthynas waith dda â sefydliadau cymorth ar gyfer darparwyr annibynnol ac Alzheimer sy'n gallu sylwi ar arwyddion cynnar dementia.

           Mae'r ddarpariaeth gofal ychwanegol arfaethedig yn Ne'r Ynys wedi'i gohirio ar hyn o bryd oherwydd y penderfyniad i ddiddymu'r penderfyniad blaenorol ar ddyfodol Ysgol Gynradd Biwmares. Holodd y Pwyllgor a yw'r lleoliad yn dal i ddiwallu'r angen am y math hwn o ddarpariaeth, a yw lleoliadau eraill yn Ne'r Ynys yn cael eu hystyried ac a oes risgiau yn y tymor canolig i'r hirdymor o beidio â bwrw ymlaen. Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion Dros Dro fod lleoliadau yn Ne’r Ynys yn cael eu harchwilio gan hefyd ystyried cyfleoedd i weithredu Gofal Ychwanegol Ysgafn yn seiliedig ar ddatblygu ac ymestyn tai gwarchod presennol ar y cyd â'r gofal sydd ar gael drwy ofal ychwanegol i ddarparu cymorth cymunedol. Fel arall, lle ceir tai gwarchod yn agos at gartref gofal, edrychir ar opsiynau gofal sy'n pontio'r ddwy ddarpariaeth ac sy'n caniatáu i unigolion aros yn eu cymuned. Mae Gofal Ychwanegol yn rhan o Strategaeth Byw'n Annibynnol y Gwasanaeth a'r nod yw cael amrywiaeth o ddarpariaeth er mwyn gallu diwallu gwahanol anghenion cymunedau'r Ynys a galluogi unigolion i aros gartref yn ddiogel am fwy o amser.

           Y risg y mae ail gyfnod posibl o gyfyngiadau yn ei beri i wireddu dyheadau a chynlluniau gwella'r Gwasanaeth yn y tymor byr. Gan gydnabod bod risg, dywedodd y Prif Weithredwr y gall ac y dylai gwaith cynllunio ac ymchwil barhau yn y cefndir fel rhan o'r broses o gynllunio ar gyfer adferiad a ffurf gwasanaethau mewn cymunedau yn y dyfodol.

           Mwy o gostau Iechyd Meddwl yn y Gwasanaethau i Blant a Theuluoedd a chais am ddadansoddiad o'r costau. Gan nad oedd gwybodaeth wrth law ar hyn o bryd, dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Dros Dro y byddai'n adrodd yn ôl i'r Panel Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol gan ddiweddaru’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn ei gyfarfod nesaf.

 

Penderfynwyd

 

           Cadarnhau bod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn fodlon â chyflymder y cynnydd a'r gwelliannau a wnaed hyd yma yn y Gwasanaethau Cymdeithasol ac

           Argymell i'r Pwyllgor Gwaith fod cynnydd a chyflymder y gwelliannau yn  y Gwasanaethau Cymdeithasol yn ddigonol.

 

GWEITHREDU: Bod y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Dros dro yn adrodd yn ôl i’r Panel Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol gyda manylion am y costau Iechyd Meddwl uwch yn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ac i ddiweddaru’r Pwyllgor yn ei gyfarfod nesaf.

 

Dogfennau ategol: