Eitem Rhaglen

Diweddariad o’r Panel Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Dros Dro.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd i'w ystyried, adroddiad y Cyfarwyddwr Dros Dro ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol yn diweddaru'r Pwyllgor Gwaith ar gynnydd yn y Gwasanaethau Cymdeithasol. 'Roedd yr adroddiad yn crynhoi datblygiadau diweddar o fewn y Gwasanaethau Plant ac Oedolion ac yn cyfeirio hefyd at effaith pandemig Covid 19 ac ymateb y Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystod y cyfnod clo.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd a’r Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol at gynnydd a'r hyn a gyflawnwyd yn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ac Oedolion yn eu tro o dan y penawdau canlynol ac ymhelaethodd ar y gweithgareddau, y datblygiadau a’r llwyddiannau o dan bob pennawd

 

           Cynyddu nifer y Gofalwyr Maeth Awdurdod Lleol

          Agor y Cartref Clyd cyntaf a fydd yn golygu y gall plant o Ynys Môn sy'n derbyn gofal dderbyn y gofal hwnnw ar yr Ynys

          Agor fflat hyfforddi i bobl ifanc sy'n gadael gofal i'w cefnogi i fyw'n annibynnol am y tro cyntaf

          Parhau gyda'r gwaith cynllunio ar gyfer darpariaeth tai gofal ychwanegol newydd yn ne'r Ynys

          Datblygu'r Rhaglen Cysylltu Bywydau i gefnogi pobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr yn ogystal â dylunio Strategaeth Ddementia yn unol â Chynllun Dementia Llywodraeth Cymru

          Datblygu cyfleoedd i bobl ag anghenion iechyd meddwl gymryd rhan mewn gweithgareddau grŵp yn y gymuned

          Cynyddu lefelau cyfranogi yn y modelau hybiau cymunedol trwy hyrwyddo a datblygu'r hybiau ar draws yr Ynys; gweithio i sefydlu 3 thîm adnoddau cymunedol yn Amlwch, Ysbyty Penrhos Stanley a Llanfairpwll

          Ymgysylltu ac ymgynghori â defnyddwyr ar y Strategaeth Cyfleon Dydd i Oedolion yn y maes Anabledd Dysgu er mwyn creu ystod ehangach o gyfleon dydd o ansawdd uchel i unigolion yn eu cymunedau.

           Cyflawni'r holl ddyletswyddau statudol yn ystod cyfnod clo Covid-19

 

Gan gyfeirio at y pandemig Covid-19, dywedodd y Cyfarwyddwr Dros Dro ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol fod y Gwasanaethau Cymdeithasol yn benderfynol o ddyfalbarhau â mentrau datblygu yn ystod y cyfnod argyfwng gan ddod o hyd i brosesau amgen ar gyfer eu gyrru ymlaen tra hefyd yn cwrdd â chyfrifoldebau statudol y Gwasanaeth yn ystod y cyfnod hwnnw. Amlygodd fod y pecyn budd-daliadau a gyflwynwyd i ddenu darpar ofalwyr maeth i Wasanaethau Maethu’r Cyngor wedi helpu i recriwtio 7 gofalwr maeth sy’n cynnig 13 o leoliadau maeth newydd i blant a phobl ifanc Ynys Môn sy’n ganlyniad i’w groesawu;  mae'r pecyn hwn, ynghyd â'r enw da y mae'r Tîm Maethu wedi bod yn ei adeiladu dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf wrth i'r gwasanaeth barhau i ddatblygu, yn ffactorau pwysig o ran denu gofalwyr maeth newydd

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Aled Morris Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol wrth adrodd o gyfarfod y Pwyllgor ar 22 Medi a oedd yn ystyried yr adroddiad cynnydd, fod y Pwyllgor Sgriwtini  Corfforaethol yn fodlon â chyflymder y cynnydd yn y Gwasanaethau Cymdeithasol fel y gwelwyd yn yr adroddiad ac roedd yn hapus i argymell yr adroddiad i'w gymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Croesawodd y Pwyllgor Gwaith yr adroddiad a’r cynnydd parhaus yr oedd yn ei adlewyrchu ac a gyflawnwyd mewn amgylchiadau arbennig o heriol a diolchodd i Reolwyr a staff y Gwasanaethau Cymdeithasol am sicrhau parhad gwasanaethau hanfodol yn ystod y cyfnod clo. Roedd recriwtio Gofalwyr Maeth ychwanegol ac agor y cartref teuluol cyntaf (Cartref Clyd) a fyddai'n darparu gofal i blant o Ynys Môn ar yr Ynys yn hytrach nag mewn lleoliadau y tu allan i'r sir yn faterion a dderbyniwyd gyda gwerthfawrogiad arbennig

 

Penderfynwyd cadarnhau bod y Pwyllgor Gwaith yn fodlon â chyflymder y cynnydd a’r gwelliannau a wnaed hyd yma yn y Gwasanaethau Oedolion a’r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd.

Dogfennau ategol: