Eitem Rhaglen

Adroddiad Blynyddol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus 2019/20

Cyflwyno adroddiad gan Reolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Rheolwr Rhaglen, Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn.

 

Adroddodd y Rheolwr Rhaglen, Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn, bod yr adroddiad wedi’i strwythuro i gyfeirio at gynnydd gwaith Is-grwpiau’r Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus a sefydlwyd. Mae gan y Bwrdd bedwar Is-grŵp fel a ganlyn:-

 

·      Is-grŵp Newid Hinsawdd

 

Sefydlwyd yr Is-grŵp i annog cydweithio rhwng cyrff cyhoeddus a chymunedau lleol ar sut i ymdrin â bygythiadau i’n cymunedau yn sgil newidiadau hinsawdd yn y dyfodol. Nodwyd fod cyfres o weithdai wedi cael eu trefnu ond, oherwydd y pandemig Covid-19, ni fu modd eu cynnal. Mae’r Is-grŵp wedi nodi bod gwaith rhanbarthol yn cael ei wneud mewn perthynas â newid hinsawdd ac mae’r is-grŵp yn ymwybodol fod angen osgoi dyblygu gwaith a bod cyfle i ddysgu gan y naill a’r llall.

 

·      Is-grŵp yr Iaith Gymraeg

 

Mae’r Is-grŵp wedi canolbwyntio’n bennaf ar gydweithio i gynyddu’r defnydd o’r Iaith Gymraeg o fewn cyrff cyhoeddus yng Ngwynedd ac Ynys Môn. Yn benodol, mae hyn yn ymwneud â hyrwyddo’r iaith Gymraeg fel iaith ddewisol ar gyfer cyfathrebu’n fewnol yn y cyrff cyhoeddus, ac ar gyfer cyfathrebu â’r cyhoedd. Mae’r prosiect ‘Arfer’, dan arweinyddiaeth Prifysgol Bangor, yn edrych ar ddeall arferion siaradwyr sydd ddim mor hyderus neu gyfforddus yn defnyddio’r Gymraeg yn y gwaith. Mae’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ar draws y rhanbarth yn derbyn grant gan Lywodraeth Cymru bob blwyddyn. Cynhaliwyd trafodaethau ynghylch defnyddio’r grant i ariannu astudiaeth a fyddai’n archwilio sut i ddefnyddio derbynfeydd mewn sefydliadau cyhoeddus i annog mwy o bobl i ddefnyddio’r iaith Gymraeg ac i hyrwyddo hynny. Yn anffodus, oherwydd y pandemig Covid-19, mae’r grant wedi cael ei dynnu’n ôl.

 

 

·      Is-grŵp Cartrefi ar gyfer Pobl Leol

 

Mae gwaith yr Is-grŵp wedi parhau yn ystod y pandemig Covid-19 a’i gamau nesaf arfaethedig fydd gwerthuso’n llawn hyfywedd ariannol y datblygiadau ynghlwm â’r safleoedd dan sylw, cyn cadarnhau sut orau i ariannu’r datblygiadau a’r amserlen ar gyfer cychwyn y gwaith. Bu’r Is-grŵp yn trafod ei gynlluniau gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau ei fod yn cyd-fynd â gweledigaeth y Llywodraeth ar gyfer tai arloesol a fforddiadwy. Cyflwynir adroddiad cynnydd yng nghyfarfod nesaf y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

·      Is-grŵp Iechyd a Gofal

 

Cyfrifoldeb yr Is-grŵp yw goruchwylio’r ffrydiau gwaith/prosiectau canlynol: Oedolion, Plant, Anableddau Dysgu, Iechyd Meddwl a Thrawsnewid Cymunedol. Mae’r ffrydiau gwaith hyn yn cyd-fynd â meysydd blaenoriaeth y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ar gyfer integreiddio. Adroddwyd y cynhaliwyd cyfarfod o’r Is-grŵp ar 7 Gorffennaf. Pwrpas y cyfarfod oedd adolygu cylch gorchwyl y grŵp, yn dilyn Covid-19, a chytunwyd bod blaenoriaethau’r is-grŵp wrth adfer yn dilyn y pandemig wedi newid. Cynhaliwyd gweithdy gan yr Is-grŵp Iechyd a Gofal ar 16 Medi i roi sylw i Gynllun Gaeaf Ardal y Gorllewin a’r ffrydiau gwaith sy’n codi o’r Grŵp Iechyd a Gofal rhanbarthol.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a gwnaed y pwyntiau a ganlyn:-

 

·      Gofynnwyd i ba raddau y mae ffrydiau gwaith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cyfrannu at lesiant trigolion Ynys Môn a pha effaith mae’r gwaith wedi’i gael ar gymunedau lleol. Dywedodd y Rheolwr Rhaglen fod cynnydd yr Is-grwpiau yn amrywio, ond hyd yn hyn mae’r Is-grwpiau wedi cyfrannu’n dda at lesiant trigolion yn y cymunedau lleol. Efallai bod rhai o’r canlyniadau presennol yn rhai meddal, ond mae eu hangen er mwyn gosod y sylfeini ar gyfer cyfrannu at lesiant hirdymor ein trigolion. Dywedodd y Prif Weithredwr fod y gwaith a wnaed gan Is-grŵp yr Iaith Gymraeg wedi canolbwyntio ar ymddygiad ieithyddol staff sydd ddim yn dymuno defnyddio’r iaith Gymraeg yn y gweithle, neu ddim digon hyderus i wneud hynny, a chynhaliwyd prosiect yn yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol i fynd i’r afael â’r mater hwn;

·      Gofynnwyd pa wersi a ddysgwyd gan y Bwrdd yn sgil y cynnydd a wnaed hyd yn hyn a sut mae’r Bwrdd yn bwriadu defnyddio unrhyw wersi a ddysgwyd yn y dyfodol. Dywedodd y Rheolwr Rhaglen fod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn dysgu gwersi’n barhaus. Cynhaliwyd gweithdy'r wythnos ddiwethaf a chafodd y cyrff cyhoeddus gyfle i adrodd ar wersi a ddysgwyd yn sgil y pandemig. Dywedodd y Prif Weithredwr fod y gweithdy a gynhaliwyd yr wythnos ddiwethaf wedi ystyried dadansoddiad o’r sefyllfa a anfonwyd at sefydliadau partner ac a oedd wedi amlygu 40 o faterion sy’n bwysig i’n cymunedau. Roedd rhaid i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus drafod pob mater a phenderfynu a oedd rôl i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wrth ymateb iddynt. Nododd ei bod yn bwysig sicrhau nad yw’r awdurdodau lleol a’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn dyblygu gwasanaethau a bod angen pwyso a mesur pa gymorth ychwanegol all y Bwrdd ei gynnig i gymunedau lleol;

·      Gofynnwyd pa mor effeithiol yw trefniadau monitro’r Bwrdd o ran sicrhau bod amcanion yn cael eu gweithredu o fewn yr amserlenni. Dywedodd y Rheolwr Rhaglen fod Cadeiryddion yr Is-grwpiau’n adrodd yn chwarterol i’r Bwrdd. Felly, gall y Bwrdd fonitro gwaith yr Is-grwpiau yn unol â’r amcanion a’r amserlenni. Ychwanegodd mai diffyg adnoddau oedd y prif rwystr o ran gwneud cynnydd;

·      Cyfeiriwyd at ail don bosib o’r pandemig a phroffwydoliaeth ddychrynllyd arbenigwyr iechyd sy’n cynghori Gweinidogion y Llywodraeth y gallai’r DU o bosib weld 50,000 y dydd o gleifion Covid-19 yn ystod y 4 i 6 wythnos nesaf. Gofynnwyd beth fyddai rôl y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus pe gwireddwyd y broffwydoliaeth honno. Dywedodd Arweinydd y cyngor y cynhaliwyd gweithdy'r wythnos ddiwethaf (y cyfeiriwyd ato’n barod) lle trafodwyd yr ymateb i’r holiadur ynghylch rôl y Bwrdd mewn perthynas â gofynion cymunedau lleol pe gwelir ail don o’r pandemig yn digwydd;

·      Dywedodd y Pwyllgor y byddent wedi dymuno gweld rhestr o gyflawniadau'r Is-grwpiau yn yr Adroddiad Blynyddol;

·      Gofynnwyd beth fydd blaenoriaethau’r Bwrdd ar gyfer 2021/22. Dywedodd y Rheolwr Rhaglen fod amcanion y Bwrdd a’r meysydd blaenoriaeth yn parhau i fod yn berthnasol;

·      Dywedodd un o’r Aelodau fod Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a’i fod o’r farn y dylai’r blaenoriaethau a nodir yng nghylch gorchwyl y cyfryw fyrddau fod yn swyddogaethau i bob awdurdod lleol. Dywedodd Arweinydd y Cyngor ei bod yn derbyn fod y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn sefydlu eu hunain ar hyn o bryd, ond oherwydd bodolaeth y byrddau hyn mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn rhoi pwysau ar Awdurdodau Iechyd i weithio ar lefel ranbarthol a gweithio’n agosach ag awdurdodau lleol. Dywedodd hefyd fod y Bwrdd wedi caniatáu i sefydliadau partner nodi tir datblygu posib sydd yn eu meddiant ar gyfer tai cymdeithasol. Dywedodd y Prif Weithredwr, oni bai am y gwaith rhanbarthol y mae’r Bwrdd wedi’i wneud mewn perthynas â’r Iaith Gymraeg (drwy’r rhaglen ‘Adfer’ ar y cyd â Phrifysgol Bangor), a blaenoriaethau tai o fewn cymunedau lleol, ni fyddai’r materion hynny wedi cael sylw teilwng. Dywedodd y byddai cyflawniadau yn cael eu cynnwys yn adroddiad nesaf y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

Dogfennau ategol: