Eitem Rhaglen

Tir ar Stad Ddiwydiannol Mona - Cais gan Gymdeithas Amaethyddol Ynys Môn i ddiwygio amodau’r brydles

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth (Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo) yn nodi cais gan Gymdeithas Amaethyddol Ynys Môn i amrywio elfennau o gytundeb prydles gyda Chyngor Sir Ynys Môn ar gyfer defnyddio tir yn Stad Ddiwydiannol Mona.

 

Cyflwynodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo yr adroddiad trwy egluro bod Cymdeithas Amaethyddol Ynys Môn wedi bod yn defnyddio tir y Cyngor ar Stad Ddiwydiannol Mona yn llwyddiannus fel cyfleuster parcio a theithio ar gyfer Sioe Môn bob blwyddyn. Mae'r ddarpariaeth hon wedi'i galluogi trwy amrywiol gytundebau prydles a thrwyddedau tymor byr ers 2012. Yng nghyd-destun paratoi ar gyfer Brexit dim cytundeb mae'r safle wedi'i nodi gan Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru a Llywodraeth Cymru fel lleoliad addas ar gyfer gwaith prosesu brys tymor byr ynghylch Cerbydau Nwyddau Trwm er mwyn gwirio / prosesu gwaith papur mewnforio ac allforio heb amharu ar y rhwydwaith ffyrdd a'r cyfleusterau porthladd yng Nghaergybi. Gwnaed rhywfaint o waith galluogi ym mis Hydref 2019 gan Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru ond ni chafwyd unrhyw gyswllt pellach nes i Lywodraeth Cymru gysylltu â'r Cyngor ddechrau Ebrill 2020 i ailddechrau'r drafodaeth.

 

Ym mis Mehefin 2020 derbyniodd y Cyngor ohebiaeth gan Adain Eiddo Adran Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, yn mynegi diddordeb yn y tir ar Stad Ddiwydiannol Mona er mwyn darparu cyfleuster ar gyfer 100 o gerbydau HGV ynghyd â rhai adeiladau ategol dros dro yn barod ar gyfer gadael yr UE yn derfynol; yn benodol ar gyfer ei ddefnyddio i ddibenion tollau. Byddai angen defnyddio’r safle ym Mona am gyfnod o 5 mlynedd. Anfonwyd ymateb yn amlinellu safbwynt y Cyngor mewn perthynas â’r tir ac yn awgrymu y dylid ystyried opsiynau amgen.

 

Ers hynny, daeth i sylw'r Cyngor bod trafodaethau wedi datblygu'n sylweddol rhwng Adran Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi a Chymdeithas Amaethyddol Ynys Môn i'r Gymdeithas is-osod ei fudd yn safle Mona. Amlinellodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol, ar wahoddiad yr Aelod Portffolio, delerau perthnasol y cytundeb presennol rhwng y Cyngor a Chymdeithas Amaethyddol Ynys Môn (fel y crynhoir yn yr adroddiad) gan gyfeirio'n benodol at y gwaharddiad ar is-osod a rhannu defnydd.

 

Daeth yr Aelod Portffolio ar gyfer Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo i'r casgliad, nid yn unig nad oes rheidrwydd cyfreithiol ar y Cyngor i gydsynio i unrhyw un o'r ceisiadau a wneir gan y Gymdeithas, nid oes gan y Cyngor rym i ganiatáu datblygiad arfaethedig Adran Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi oherwydd y cyfyngiadau a osodwyd gan y Weinyddiaeth Amddiffyn (y prynodd y Cyngor y tir ym Mona ganddi'n wreiddiol)  ar deitl rhydd-ddaliad y Cyngor. Yn ogystal, ystyrir y byddai defnyddio Mona at y diben hwn yn cael effaith sylweddol ar gymunedau Gwalchmai a Rhostrehwfa ac, o bosib, bentrefi eraill hefyd, a gallai’r cynnydd yn y traffig gynyddu'r risg o ddamweiniau pellach ar y B4422 a'r A5. Yn dilyn arfarniad ar wahân o safleoedd amgen ar hyd coridor yr A55, nodwyd lleoliadau sy’n fwy addas na Mona.

 

Cefnogwyd barn yr Aelod Portffolio ar gyfer Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo gan y Pwyllgor Gwaith ynghylch anaddasrwydd safle Mona ar gyfer y cyfleuster a gynigiwyd gan Adran Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi ac roeddent yn anfodlon â'r diffyg parodrwydd ar gyfer Brexit yn benodol mewn perthynas â phorthladd Caergybi. 'Roedd o'r farn y dylai'r mater fod wedi ei godi'n llawer cynt  er mwyn caniatáu cynnal trafodaethau ystyrlon a gwneud cynlluniau priodol gan ystyried budd gorau'r Ynys. Pwysleisiodd y Pwyllgor Gwaith na ddylai unrhyw gynllun terfynol gael effaith negyddol ar drigolion yr Ynys ac y dylid gallu ei reoli mewn ffordd synhwyrol.

 

Eglurodd y Dirprwy Brif Weithredwr y bu ymgysylltiad o bryd i'w gilydd â Swyddogion y Llywodraeth dros y flwyddyn ddiwethaf ac roedd hyn wedi digwydd yn amlach ers mis Awst a chadarnhaodd fod y Cyngor yn cydweithredu â Llywodraethau Cymru a'r DU i nodi safle addas a fydd nid yn unig yn cwrdd â gofynion mynediad / ymadael ar ôl Brexit ond hefyd ddisgwyliadau'r Ynys o ran iechyd a diogelwch a rheoli'r effeithiau sy'n deillio o hynny. Mae'r trafodaethau'n parhau gyda'r nod o nodi safle cyn gynted ag y bo modd fel y gellir canolbwyntio ymdrechion ar sicrhau ei fod yn barod mewn pryd. Mewn ymateb i gwestiynau ynghylch a gynhaliwyd unrhyw ymweliadau safle, esboniodd y Dirprwy Brif Weithredwr fod Swyddogion yn gweithio mewn ffordd wahanol oherwydd y pandemig ac mai dim ond teithiau hanfodol a wneir; fodd bynnag, gwnaed cryn dipyn o ymdrech dros yr ychydig fisoedd diwethaf ar adlewyrchu gwybodaeth a dealltwriaeth leol nid yn unig am  safleoedd penodol ond am gymunedau a'u seilwaith sydd yr un mor bwysig o ran bod y penderfyniad terfynol yn cymryd i ystyriaeth bod raid i leoliad y cyfleuster weithio i'r Ynys.

 

Penderfynwyd gwrthod y cais i ddiwygio’r cytundeb prydles cyfredol gyda Chymdeithas Amaethyddol Ynys Môn am y rhesymau a ddisgrifir yn yr adroddiad (Ni wnaeth y Councillor R.G. Parry, OBE, FRAgS bleidleisio ar y mater).

Dogfennau ategol: