Eitem Rhaglen

Datganiad o'r Cyfrifon 2019/20 ac Adroddiad ISA 260

·        Cyflwyno Datganiad o’r Cyfrifon 2019/20.

 

·        Cyflwyno adroddiad Archwilio Allanol ar y Datagniadau Ariannol (Adroddiad ISA 260)

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn amlygu’r prif faterion yn codi ers cyflwyno’r Datganiad Cyfrifon drafft i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu ar 1 Medi 2020. Nodir y prif ddiwygiadau i’r cyfrifon drafft yn Adroddiad yr Archwiliwr (Atodiad 3 yn yr adroddiad). Proseswyd yr holl ddiwygiadau y cytunwyd bod angen eu hailddatgan gan Deloitte ac maent wedi eu cynnwys yn y Datganiad o’r Cyfrifon. Adroddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y Datganiad o’r Cyfrifon wedi cael ei gyflwyno i’r cyfarfod ym mis Gorffennaf ac yna ym mis Medi ac na wnaed unrhyw newidiadau sylweddol i’r Datganiad o’r Cyfrifon.

 

Gofynnodd Aelodau’r Pwyllgor gwestiynau fel a ganlyn:-

 

           Gofynnwyd am eglurhad ynghylch Nodyn 34 – Cydnabyddiaeth Ariannol i Swyddogion yn y Datganiad o’r Cyfrifon ar dudalen 58. Mae’n dangos fod gweithiwr yn y categori cyflog dros £120k, o gymharu ag uchafswm o £85k yn y Cyfrifon y llynedd. Dywedodd Mr Ian Howse, Deloitte, fod y mater yn ymwneud â phecyn diswyddo ar gyfer Pennaeth ysgol.

           Nodwyd fod y llog a gafwyd wedi cynyddu £37k o gymharu â’r swm yn y Datganiad o’r Cyfrifon drafft, a gofynnwyd a fyddai hynny’n cael effaith ar y tabl incwm a gwariant cynhwysfawr neu ar y tanwariant a ddatganwyd. Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 y gallai’r newid fod yn gamgymeriad yn Nodyn 44d ac efallai nad yw wedi’i gynnwys yn y Datganiad Cyfrifon ei hun. Nododd y byddai’n rhoi sylw i’r anghysondeb maes o law.

           Gofynnwyd a rannwyd arian o Ymddiriedolaeth Elusennol David Hughes i gynorthwyo pobl ifanc yn yr ysgolion uwchradd. Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth er bod cyfeiriad at Ymddiriedolaeth Elusennol David Hughes yn y Datganiad o’r Cyfrifon, bydd adroddiad llawn ar Gyfrifon Ymddiriedolaeth Elusennol David Hughes yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith ym mis Tachwedd. Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod swm o £276,400 wedi’i drosglwyddo i ysgolion yn 2019 tuag at gostau anogwyr dysgu a bod pob ysgol uwchradd wedi derbyn swm o £8,560 tuag at grantiau i ddisgyblion.

 

Roedd Mr Ian Howse, Deloitte, yn dymuno llongyfarch y Cyngor ar gyflawni’r amserlen statudol wreiddiol ar gyfer cyhoeddi’r cyfrifon drafft ac am wneud gwaith o safon uchel iawn yn ystod cyfnod anodd oherwydd y pandemig Covid-19. Nododd y bydd mân gamgymeriadau teipio’n cael eu cywiro cyn cyflwyno’r adroddiad i Gyngor Llawn yr Awdurdod. Dywedodd Mr Howse fod y lefelperthnaseddwedi ei osod ar £3.7m sy’n berthnasol i unrhyw awdurdodau lleol yng Nghymru ac yn seiliedig ar wariant blynyddol. Nododd fod rhywfaint o waith angen ei gwblhau, y cyfeirir ato ym mharagraff 5 yr adroddiad, a dywedodd y byddai gwaith ar y Rhwymedigaethau Pensiwn yn cael ei gwblhau a’i adolygu ar ôl derbyn sicrwydd SCR19 gan yr Archwiliwr y Gronfa Bensiwn yn ogystal â chasgliad mewn perthynas ag achosion McCloud a Goodwin. Dywedodd Mr Howse y byddai’r gwaith sydd angen ei orffen yn cael ei gwblhau cyn i’r Cyfrifon llawn gael eu cyflwyno i’r Cyngor llawn er mwyn eu derbyn.

 

Gofynnodd Aelodau’r Pwyllgor gwestiynau fel a ganlyn:-

 

           Cyfeirir at reolaethauCyflogresyn yr adroddiad a nodir y byddai’r Pwyllgor yn derbyn adroddiad ar y mater. Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod yr awdurdod wedi wynebu anawsterau dros nifer o flynyddoedd mewn perthynas â gwahanu dyletswyddau yn briodol o fewn y tîm cyflogau oherwydd cyfyngiadau o ran lefelau staffio. Ailstrwythurwyd y tîm y llynedd a chyflogwyd aelod ychwanegol fel Gweinyddwr System sydd â’r swyddogaeth o osod lefelau mynediad i’r system gyflogau ac i gynhyrchu adroddiad eithriadau cyn awdurdodi pob cyflogres. Mae’r adroddiad eithriadau’n darparu rhestr fanwl o aelodau staff newydd a staff sy’n gadael a thaliadau sy’n uwch na therfynau penodol a bennir ymlaen llaw. Mae’r Archwilwyr Mewnol wedi adolygu’r system a roddwyd mewn lle ac wedi nodi fod y lefel sicrwydd yn foddhaol. Bydd yr adroddiad eithriadau yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor yn ystod y cyfarfod nesaf.

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 ei fod yn dymuno diolch i Mr Ian Howse a’i dîm gan mai hwn fydd yr Adroddiad Archwilio Allanol olaf gan Deloitte. Nododd y bydd Swyddfa Archwilio Cymru yn gyfrifol am yr archwiliad ariannol o’r flwyddyn nesaf ymlaen.

 

PENDERFYNWYD:-

 

           Argymell i’r Cyngor Sir ei fod yn cadarnhau derbyn y Datganiad Cyfrifon ar gyfer 2019/20;

           Cymeradwyo’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol a chyfeirio’r ddogfen at Arweinydd y Cyngor a’r Prif Weithredwr i’w llofnodi.

 

Dogfennau ategol: