Eitem Rhaglen

Partneriaeth Diogelwch Cymunedol: Adroddiad Blynyddol 2019/20

Cyflwyno adroddiad gan yr Uwch Swyddog Gweithredol Diogelwch Cymunedol ar gyfer Gwynedd a Môn

 

 

 

 

 

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai – adroddiad gan yr Uwch Swyddog Gweithredol Diogelwch Cymunedol ar gyfer Ynys Môn a Gwynedd ar weithgareddau’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol yn ystod 2019/20.

 

Adroddodd Arweinydd y Cyngor fod y Bartneriaeth yn bartneriaeth statudol rhwng Ynys Môn a  Gwynedd. Atgoffodd y Pwyllgor am y toriadau ariannol y mae’r Bartneriaeth wedi eu hwynebu. Dywedodd fod y strwythurau diogelwch cymunedol yn cael eu gosod yn rhanbarthol erbyn hyn, ac yr ymdrechir i sicrhau nad oes unrhyw ddyblygu. Cynhaliwyd gweithdai gyda swyddogion tai i roi sylw i’r mater hwn ac i symud ymlaen o fewn y Bartneriaeth.

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai fod partneriaeth statudol wedi bodoli rhwng Ynys Môn a Gwynedd am 22 mlynedd. Mae ymrwymiad ac ymgysylltiad y Bartneriaeth yn amlwg o’r presenoldeb llawn mewn cyfarfodydd. Dywedodd fod y gwaith yn parhau i ddatblygu er bod y Bartneriaeth wedi colli nifer o grantiau a swyddi cydlynwyr lleol.

 

Mae’r Bartneriaeth yn gweithio tuag at y blaenoriaethau a ganlyn:-

 

·         Lleihau troseddau a chanddynt ddioddefwyr;

·         Lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol;

·         Cefnogi pobl fregus i’w hatal rhag dod yn ddioddefwyr trosedd;

·         Codi hyder i adrodd am ddigwyddiadau o gam-drin domestig;

·         Codi hyder i adrodd am gam-drin rhywiol;

·         Mynd i’r afael â chamddefnyddio sylweddau yn yr ardal;

·         Lleihau aildroseddu.

 

Nodwyd fod y Swyddfa Gartref yn cymharu troseddau ac yn eu mesur yn ôl ardaloedd demograffig, a chyflwynir y canlyniadau i’r Bartneriaeth bob chwarter. Yn ystod y cyfnod clo, cyflwynwyd ffigyrau i’r Bartneriaeth bob 2-3 wythnos i sicrhau fod gwybodaeth gyfredol ar gael.  

 

Nodwyd hefyd fod gostyngiad o 29% yn nifer y troseddau y rhoddwyd gwybod i’r Heddlu amdanynt yng Ngogledd Cymru, a gostyngiad o 24.6% yn Ynys Môn a Gwynedd rhwng mis Mawrth a mis Mai eleni. Gwelwyd cynnydd yn nifer y troseddau y rhoddwyd gwybod amdanynt ym mis Mehefin a Gorffennaf ac erbyn mis Medi roedd nifer y troseddau a gyflawnwyd yn debyg i’r niferoedd a welwyd mewn blynyddoedd blaenorol. Cofnodwyd cynnydd mewn troseddau stelcian ac aflonyddu a throseddau casineb, gyda’r olaf yn arwain at gam-drin geiriol.  

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai fod y Bartneriaeth yn edrych ar baratoi ymgyrch codi ymwybyddiaeth ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol. Dywedodd mai’r brif her a wynebwn heddiw yw newidiadau yn y math o droseddau a welir yn ein cymunedau. Erbyn hyn mae troseddu yn llawer mwy pellgyrhaeddol a chymhleth ac mae technoleg yn caniatáu troseddau ymelwa. Gwelwyd cynnydd yn nifer yr achosion o gam-drin domestig a chafwyd dwy lofruddiaeth yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.          

 

Tynnwyd sylw at y ffaith y rhoddwyd blaenoriaeth i ddinasyddion digartref yn ystod y cyfnod clo ac o’r herwydd bu cynnydd yn nifer y cyfarfodydd a gynhaliwyd rhwng yr Adran Dai a’r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Canolbwyntiodd y drafodaeth ar y canlynol:-

 

·        Gofynnwyd sut mae’r Bartneriaeth Statudol yn cefnogi ac yn cyfrannu at effeithiolrwydd y Bartneriaeth? Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai fod ymrwymiad y Bartneriaeth yn gadarn a bod cydweithio ardderchog yn digwydd o fewn y Bartneriaeth. Mae hyn yn amlwg o’r ceisiadau ariannol a gyflwynwyd gan y Cyngor yn ddiweddar, yn ogystal â’r ymatebion a gafwyd i faterion gwrthgymdeithasol.

·        Codwyd pryderon ynghylch a wnaed unrhyw gynnydd wrth frwydro yn erbyn Llinellau Sirol (County Lines). Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai fod y Bartneriaeth yn defnyddio strwythurau sydd mewn lle ac yn rhannu gwybodaeth i atal troseddau. Nodwyd fod yr holl gyfarfodydd wythnosol rhwng y Bartneriaeth a’r Heddlu’n cael eu cynnal.

·         Cyfeiriwyd at broblem gynyddol troseddau sy’n gysylltiedig â chyllyll. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai fod y Cyngor yn awyddus i weithio mewn partneriaeth â’r Heddlu ac i ddefnyddio pwerau Deddf yr Heddlu a Chyfiawnder 2006. Nodwyd nad oes ystadegau ar droseddau cyllyll ar gael ar hyn o bryd, ond mae nifer cyffredinol y troseddau yn sefydlog.

·         Gofynnwyd am eglurhad ynghylch y cynnydd mewn troseddau a gyflawnwyd dros y ffôn a thwyll ar-lein. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai fod y Bartneriaeth yn defnyddio technoleg i dynnu sylw at droseddau o’r fath, a pha mor hawdd yw cyflawni’r troseddau hyn o bell. Nodwyd fod adran Safonau Masnach y Cyngor wedi nodi achosion o droseddau seibr ac wedi codi ymwybyddiaeth yn eu cylch, ac fe’i rhannwyd â’r Bartneriaeth.

·         Gofynnwyd a fu’n rhaid newid blaenoriaethau’r Bartneriaeth yn ystod y misoedd diwethaf? Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai nad oedd neb yn gwybod am yr effaith y byddai Covid-19 yn ei gael pan osodwyd y blaenoriaethau, ac y bu’n rhaid i’r Bartneriaeth addasu ei ddulliau gweithio. Mae’r Bartneriaeth wedi blaenoriaethu a delio gyda sefyllfaoedd wrth iddynt godi yn ystod y cyfnod clo ac wedi cynnal gweithdai i drafod materion pwysig. Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr fod y Bartneriaeth wedi defnyddio data gan yr Heddlu a gwybodaeth o ‘du ôl i ddrysau caeedig’, e.e. trais yn y cartref. Dywedodd fod adnoddau o’r ddau awdurdod a’r Heddlu wedi cael eu dwyn ynghyd drwy’r Bartneriaeth er mwyn ymateb i’r heriau sy’n bodoli, gan fod yr angen wedi cynyddu. Mae’r ffocws wedi newid oherwydd natur y troseddau a chafodd ei addasu oherwydd Covid-19.

·        Codwyd pryderon ynghylch cynnydd mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol gan blant iau, oedran ysgol gynradd ers y cyfnod clo. Nodwydd fod pobl ofn rhoi gwybod i’r Heddlu am droseddau o’r fath oherwydd eu bod ofn dial. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc ei bod yn bwysig symud ymlaen a chodi ymwybyddiaeth mewn ysgolion. Nodwyd fod swyddogion yn gweithio â phlant penodol, ac yn eu targedau, a bod athrawon yn hyrwyddo ymddygiad da.

·         Gofynnwyd a gafodd tensiynau mewn perthynas ag ymwelwyr â’r ardal yn ystod y cyfnod clo eu monitro ac a gymerwyd camau i ddelio â nhw? Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai fod cyfarfodydd wedi eu cynnal rhwng y Cyngor a’r Heddlu ar ddechrau’r cyfnod clo i ddelio gyda thensiynau pan godwyd nifer o faterion ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol a bod Cynghorau lleol wedi ymateb. Dywedodd mai’r ffordd ymlaen yw nodi’r tensiynau yn gynnar, a chymryd camau mewn perthynas â phob sefyllfa cyn iddi ddatblygu’n broblem. Wedi profi cyfnod clo, mae gweithdrefnau mewn lle yn awr i ddelio â’r problemau hyn wrth iddynt godi, ac mae trefniadau mewn lle i gynnal cyfarfodydd rheolaidd.

·        Gofynnwyd am eglurder ynghylch sefyllfa bresennol y banciau bwyd. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai fod pedwar banc bwyd yn gweithredu ar draws yr ynys yn ystod y cyfnod clo - yng Nghaergybi, Llangefni, Amlwch a Phorthaethwy. Dywedodd fod y banc bwyd ym Mhorthaethwy wedi cau yn awr a bod y tri banc bwyd arall yn gwasanaethu’r ynys gyfan. Nododd fod y sefyllfa’n sefydlog iawn ar hyn o bryd, ac mae digon o gyflenwadau bwyd ac arian wrth gefn pe byddem yn wynebu ail don o Covid-19.

·        Gofynnwyd cwestiwn ynghylch oblygiadau ariannol Covid-19 ar y Bartneriaeth. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai nad oedd y manylion ariannol wrth law ond y byddai’n edrych ar y sefyllfa.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·        Nodi cynnwys yr adroddiad a’r atodiadau. 

·        Cefnogi’r blaenoriaethau a chyfeiriad y gwaith i’r dyfodol.

·         Y Pennaeth Gwasanaethau Tai i edrych ar sefyllfa ariannol bresennol y Bartneriaeth ac adrodd yn ôl i’r Pwyllgor maes o law.

 

Dogfennau ategol: