Eitem Rhaglen

Adroddiad Cynnydd Panel Adolygu Cynnydd Ysgolion

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc ar y cynnydd a wnaed hyd yma mewn perthynas â gwaith y Panel Adolygu Cynnydd Ysgolion.

 

Adroddodd y Cadeirydd fod eleni wedi bod yn gyfnod heriol iawn i’r ysgolion, gan y bu’n rhaid iddynt newid eu ffordd o weithio ac addasu i fod yn Ganolfannau Gofal ar gyfer plant bregus. Pwysleisiwyd nad oedd yr un ysgol wedi cau yn ystod y cyfnod clo, a bod y Gwasanaeth Dysgu, Prifathrawon ysgolion Ynys Môn a’r Fforymau Penaethiaid Ysgolion Cynradd ac Uwchradd wedi cyflawni canlyniadau llwyddiannus rhyngddynt.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod gwaith y Panel o fonitro safonau mewn ysgolion unigol a chynnal cyfarfodydd wedi cael ei ohirio yn ystod y cyfnod clo. Nodwyd fod cyfarfodydd y Panel wedi ailddechrau ar 24 Medi 2020.

 

Adroddodd y Cadeirydd ei bod yn amlwg y bu cydweithio rhwng y Gwasanaeth Dysgu, GwE ac ysgolion yn llwyddiannus. Cyfeiriodd at gyflwyniad ardderchog gan Ysgol Gynradd y Fali ar Teams a gafodd dderbyniad da. Defnyddiodd Ysgol Gynradd y Fali dechnoleg Teams i gynnal sesiynau wyneb yn wyneb yn ystod y cyfnod clo, mewn ymgais i ganfod unrhyw bryderon posib neu faterion diogelu, ac fel dull o gadw mewn cysylltiad â disgyblion yn rheolaidd ac i gefnogi eu llesiant yn ystod y cyfnod heriol hwn. Derbyniwyd adborth cadarnhaol gan rieni ac athrawon, ac roedd y sesiynau’n cynnig cyfle i gymdeithasu. Ychwanegwyd y gwelwyd dirywiad cyffredinol mewn sgiliau iaith a rhifedd ers y cyfnod clo, a allai gael effaith ar y plant yn y dyfodol.  

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc at y cydweithio llwyddiannus hwn fel ‘Tîm Môn’, lle mae’r holl grwpiau perthnasol yn tynnu gyda’i gilydd ac yn rhannu arfer da er mwyn darparu addysg o’r safonau orau bosib i’r disgyblion.

 

Mewn ymateb i un o gwestiynau allweddol y panel ar feysydd i graffu arnynt, gofynnodd aelod o’r Pwyllgor sut mae’r fformiwla ariannu ysgolion uwchradd yn cael ei bennu? Dywedodd y Prif Weithredwr fod agweddau allweddol yn penderfynu ar y fformiwla i bob ysgol e.e. mae ysgol yn derbyn oddeutu £3,500 y disgybl yng Nghyfnod Allweddol 3 ac mae’r swm yn cynyddu yng Nghyfnod Allweddol 4. Daw arian ar gyfer y chweched dosbarth gan Lywodraeth Cymru. Nodwyd fod arian ychwanegol ar gael ar gyfer plant sydd ag anghenion ychwanegol.

           

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod pob ysgol yn derbyn copi o’r fformiwla bob blwyddyn. Dywedodd fod rhaid i’r fformiwla fod yn deg i bob ysgol, er bod rhai Penaethiaid yn dadlau efallai nad yw elfennau o’r fformiwla’n deg i’w hysgolion unigol, os nad yw’r arian yn cwrdd â’u disgwyliadau. Nodwyd nad y fformiwla yw’r broblem ond cyfanswm yr arian sydd ar gael. Yn Ynys Môn, mae’r fformiwla’n rhannu’r arian sydd ar gael rhwng y bum ysgol uwchradd.

           

Codwyd y pwyntiau a ganlyn gan aelodau yn ystod y drafodaeth:-

 

·        Mae Penaethiaid wedi canmol y gefnogaeth a roddwyd i ysgolion gan y Panel yn ystod y pandemig Covid-19.  

·        Mae’r rhan fwyaf o athrawon yn gwneud gwaith ardderchog. Mynegwyd pryder fod rhai athrawon medrus yn llai hyderus wrth ddysgu o bell ac efallai fod angen cymorth arnynt.

·        Amlygwyd fod problemau technegol a TGCh yn bodoli mewn ysgolion ar hyn o bryd y mae angen eu datrys.

·        Cyfeiriodd aelod o’r Panel at rôl hanfodol rhieni a disgyblion fel 'Tîm Môn', oherwydd eu cefnogaeth a’u cymorth i ysgolion yn ystod y cyfnod ansicr hwn drwy gydymffurfio â’r rheoliadau newydd.

·        Gofynnwyd a fyddai modd i’r Cyngor fanteisio ar adnoddau dysgu o du allan i’r sefydliad. Nodwyd fod y Gwasanaeth Dysgu’n gweithio’n agos â GwE, Estyn ayb, sy’n darparu hyfforddiant ac arweiniad.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod gan bob ysgol eu cryfderau ond bod lle i wella ym mhob ysgol hefyd. Dywedodd fod y Gwasanaeth Dysgu wedi gweithio ag ysgolion arweiniol ym maes TGCh i ddatblygu Model Môn ar draws yr Ynys. Ychwanegodd eu bod wedi paratoi canllawiau ac enghreifftiau o arfer da i helpu ysgolion eraill i godi safonau wrth ddefnyddio technoleg. Mewn perthynas â dysgu o bell, ceir pencampwyr digidol ym mhob dalgylch. Nodwyd fod ysgolion wedi newid eu ffordd o weithio ar gychwyn y cyfnod clo, a’u bod wedi canolbwyntio ar les a datblygu sgiliau staff a disgyblion o ran defnyddio llwyfannau digidol a thechnoleg yn gyffredinol. Mewn perthynas â phlant difreintiedig, mae’r Gwasanaeth wedi darparu cyfrifiaduron Chromebook a dyfeisiau i ganiatáu iddynt gymryd rhan mewn dysgu o bell, ac mae’r gwasanaeth yn gweithio gyda’r Gwasanaethau Plant a’r Adran Gyllid i gyflawni ei amcanion.

 

Mae’r Pwyllgor Sgriwtini yn fodlon â gwaith craffu’r Panel hyd yma. Mae’r Panel wedi canolbwyntio’n llwyddiannus ar feysydd allweddol o ymateb y Gwasanaeth Dysgu i Covid-19 ac wedi nodi gwersi i’w dysgu mewn perthynas â’r canlynol:-

 

·         Mae’r Gwasanaeth Dysgu a GwE wedi darparu hyfforddiant cynhwysfawr i ysgolion;

·         Rhoddwyd trefniadau dysgu o bell ar waith;

·         Gwnaed cynnydd mewn perthynas â thechnoleg a gwersi rhithwir, a dosbarthwyd gliniaduron i ddisgyblion;

·         Bydd y Panel yn craffu ar Adroddiad Blynyddol GwE, yn unol â blynyddoedd blaenorol;

·         Mae wedi dod i’r amlwg fod sgiliau llythrennedd a rhifedd rhai disgyblion wedi dirywio;

·         Amlygwyd cryfderau rhai athrawon mewn perthynas â dysgu o bell a thechnoleg;

·         Nodwyd y bydd y Panel yn parhau i gyfarfod yn fisol.

 

Mae’r Panel yn sicr fod mesurau cadarn mewn lle i ymateb i unrhyw gyfnod clo yn y dyfodol, a fyddai’n golygu cau ysgolion. Er y gwnaed gwaith effeithiol, dysgwyd gwersi o ganlyniad i’r profiad y bydd modd eu defnyddio yn ôl y gofyn.

 

PENDERFYNWYD:-

·        Nodi’r cynnydd hyd yma gyda gwaith y Panel Adolygu Cynnydd Ysgolion o safbwynt cyflawni ei raglen waith sy’n cynnwys herio cadarn o berfformiad ysgolion unigol.

·        Nodi’r meysydd gwaith y rhoddwyd sylw iddynt drwy’r trefniadau newydd yn sgil y pandemig Covid-19.

·        Bod y Pwyllgor yn fodlon â chadernid gwaith monitro’r Panel hyd yma.

 

 

 

Dogfennau ategol: