Eitem Rhaglen

Casglu Gwastraff Gardd Gwyrdd - Methodoleg Codi Tâl a Chynllun Gweithredu

Cyflwyno adroddiad ar y cyd gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a’r Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo ar gyflwyno gwasanaeth casglu Gwastraff Gardd Gwyrdd y codir tâl amdano o 1 Ebrill 2021.

 

Gofynnodd yr Aelod Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo i’r Pwyllgor ystyried yr opsiynau a gyflwynwyd a’r sylwadau ar y bwriad i godi tâl o £35 y flwyddyn am gasglu gwastraff gardd o’r bin olwynion cyntaf, a £30 y flwyddyn am gasglu o finiau olwynion ychwanegol. Dywedodd fod y cynnig yn cyd-fynd â Glasbrint Casglu Gwastraff Llywodraeth Cymru sy’n argymell y dylai awdurdodau lleol yng Nghymru godi tâl am gasglu gwastraff gwyrdd. Nodwyd fod pob Sir arall yng Ngogledd Cymru yn codi am y gwasanaeth casglu gwastraff gwyrdd. Mae’r Cyngor wedi penderfynu na chodir tâl ar fynwentydd, mannau addoli na neuaddau pentref/cymunedol. Bydd modd talu am y gwasanaeth dros y ffôn neu ar-lein. Bydd y ffi yn cyfrannu at gost darparu’r gwasanaeth a darperir sticer/label cyfeiriad i roi ar bob bin sy’n dangos y flwyddyn gyfredol arno.

 

Dywedodd y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo fod y Pwyllgor gwaith wedi cytuno ar yr egwyddor o godi tâl am y gwasanaeth bin gwyrdd ar 27 Ionawr 2020. Nodwyd na fydd pob cartref yn dymuno cofrestru ar gyfer y gwasanaeth, a bod y cynllun yn rhoi ystyriaeth i hynny. Mewn perthynas â threfniadau staffio, cyflogir dau aelod ychwanegol o staff i weinyddu’r taliadau.

 

Codwyd y materion a ganlyn gan Aelodau’r Pwyllgor:-

 

·         A yw unrhyw awdurdod arall yng Ngogledd Cymru wedi dod ar draws unrhyw effeithiau negyddol yn sgil codi tâl am gasglu gwastraff gardd ac a fu cynnydd mewn tipio anghyfreithlon ac achosion o bobl yn rhoi gwastraff gwyrdd mewn bagiau bin du oherwydd y taliadau? Dywedodd y Prif Swyddog Rheoli Gwastraff nad oes tystiolaeth fod tipio anghyfreithlon wedi cynyddu a bod pobl yn rhoi biniau du mewn biniau gwyrdd ar hyn o bryd. Dywedodd fod y sefyllfa’n anodd ei monitro heb wirio cynnwys pob bin unigol.

·         Gofynnwyd am linell ar wahân i wneud taliadau dros y ffôn ar gyfer y gwasanaeth fel bod modd gwneud y taliadau’n uniongyrchol. Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yr anogir y cyhoedd i dalu ar-lein, gan fod y dechnoleg i wneud hynny mewn lle a bod y system ar waith yn barod.

·         A fyddai modd seilio’r system dalu am gasglu biniau gwyrdd ar fandiau Treth Gyngor? Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 mai’r un fyddai’r gost i’r Cyngor ni waeth a yw’r bin yn llawn neu’n hanner llawn. Pe seiliwyd y taliadau ar fandiau Treth Gyngor, byddai angen system ar-lein i wirio band pob eiddo ac nid yw’r dechnoleg hon ar gael yn y Cyngor.

·         A fyddai’n bosib talu’n fisol am y gwasanaeth drwy ddebyd uniongyrchol er mwyn rhoi llai o faich ariannol ar deuluoedd? Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 y byddai hynny’n creu cymhlethdodau gan y gallai’r cyhoedd ddechrau talu am y gwasanaeth ac yna benderfynu peidio parhau i dalu, er y byddent wedi derbyn sticer i’w roi ar y bin yn barod. Byddai’n rhaid i staff y Cyngor gasglu’r sticer ond ni fyddai hynny’n gost effeithiol a byddai’n cynyddu’r gwaith gweinyddol.

·         Awgrymwyd y gallai’r Cyngor greu incwm ychwanegol drwy wneud compost â’r gwastraff gardd. Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 bod y grant Ewropeaidd yn cynnwys amodau penodol sy’n gwahardd y Cyngor rhag gwerthu compost a gynhyrchir o wastraff gwyrdd i gynhyrchu incwm. Nododd y Prif Swyddog Rheoli Gwastraff fod cost ynghlwm â chael gwared â gwastraff gwyrdd.

·         Gofynnwyd beth sy’n digwydd i’r sticer ar y bin os ydych yn symud tŷ? Nodwydd y byddai sticer a bin gwyrdd newydd yn cael eu rhoi ac y byddai’r gwasanaeth yn parhau yn y cyfeiriad newydd.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·         Argymell bod y Pwyllgor Gwaith yn codi £35 y flwyddyn am gasglu gwastraff gwyrdd o’r bin olwynion cyntaf a £30 y flwyddyn am gasglu o finiau olwynion ychwanegol.

·         Bod y gyllideb gwariant ychwanegol sydd ei hangen yn cael ei hariannu o’r incwm a gynhyrchir trwy godi am y gwasanaeth.

 

Dogfennau ategol: