Eitem Rhaglen

Galw Penderfyniad i mewn - Tir ar Stad Ddiwydiannol Mona - Cais gan Gymdeithas Amaethyddol Ynys Môn i ddiwygio amodau'r brydles

Penderfyniad a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Medi, 2020 mewn perthynas a Thir ar Stad Ddiwydiannol Mona – Cais gan Gymdeithas Amaethyddol Ynys Môn i ddiwygio amodau’r brydles                          sydd wedi’i alw i mewn gan y Cynghorwyr Peter Rogers, Eric Jones, Bryan Owen, K P Hughes a Aled M Jones.

 

Mae’r ddogfennaeth ynghlwm fel a ganlyn

 

·                Y penderfyniad a gyhoeddwyd ar 1 Hydref, 2020;

 

·                Y cais galw i mewn;

 

·                Adroddiad mewn perthynas a chais gan Gymdeithas Amaethyddol Ynys Môn i ddiwygio amodau’r brydles a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 28 Medi, 2020.

 

Cofnodion:

Cafodd penderfyniad a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 28 Medi 2020, mewn perthynas â’r cais gan Gymdeithas Amaethyddol Ynys Môn i ddiwygio amodau’r brydles, ei alw i mewn gan y Cynghorydd Peter Rogers, Eric Jones, Bryan Owen, K P Hughes ac Aled M Jones. Cyflwynwyd penderfyniad y Pwyllgor Gwaith, y cais galw i mewn ac adroddiad y Pennaeth Priffyrdd, Eiddo a Gwastraff.

 

Fel Aelod Arweiniol y cais Galw i Mewn, esboniodd y Cynghorydd Peter Rogers y rhesymau am alw'r penderfyniad a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith ar 28 Medi 2020 i mewn, fel y nodir yn y ffurflen gais galw i mewn, fel a ganlyn:-

 

‘Yn amlwg cafodd penderfyniad y Pwyllgor Gwaith ei wneud heb ddealltwriaeth lawn o’r straen ariannol difrifol mae Sioe Môn yn ei wynebu. Mae’r Sioe a Chae’r Sioe yn darparu budd cymdeithasol ac economaidd enfawr i Ynys Môn ac mewn cyfnod o ansicrwydd, credaf fod cyfrifoldeb arnom i wneud popeth y gallwn i helpu i sicrhau ei dyfodol’.

 

Darllenodd y Cadeirydd y canlynol i’r Pwyllgor:-

 

           Gohebiaeth ddyddiedig 13 Hydref, 2020 gan Gadeirydd Cymdeithas Amaethyddol Ynys Môn;

           Gohebiaeth, y cyfeiriwyd ato fel Atodiad 1, dyddiedig 8 Mehefin, 2020 gan Gymdeithas Amaethyddol Ynys Môn ynghyd ag e-bost a anfonwyd gan y Prif Swyddog Prisio at Mr Gareth Dawkins, CThEM;

           Gohebiaeth gan y Gymdeithas at y Cyngor, dyddiedig 22 Gorffennaf, 2020.

 

Dywedodd y Cynghorydd Rogers, Aelod Arweiniol y cais Galw i Mewn, fod pryderon ynghylch dyfodol Cymdeithas Amaethyddol Ynys Môn gan y bu’n rhaid canslo’r Sioe eleni oherwydd y pandemig a bu’n rhaid canslo digwyddiadau eraill a oedd i’w cynnal ar gae’r sioe hefyd. Nododd fod y Gymdeithas yn wynebu trafferthion ariannol ac y bu’n rhaid iddi ddiswyddo staff cyflogedig a’i bod yn dibynnu’n llwyr ar wirfoddolwyr i geisio sicrhau dyfodol Cymdeithas Amaethyddol Ynys Môn. Gallai’r cyfle osod y tir yn Stad Ddiwydiannol Mona ar is-les i ddarparu cyfleuster ar gyfer 100 o lorïau ynghyd ag adeiladau ategol dros dro er mwyn paratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd yn derfynol fod wedi cynnig achubiaeth ariannol i Gymdeithas Amaethyddol Ynys Môn. Rheswm y Pwyllgor Gwaith am ei benderfyniad ar 28 Medi, 2020 i wrthod caniatáu i’r tir ar Stad Ddiwydiannol Mona gael ei roi ar is-les oedd y byddai loriau’n teithio drwy’r pentrefi ar yr A5.

 

Dywedodd y Cynghorydd Rogers nad oedd angen i lorïau deithio drwy’r pentrefi; pan adeiladwyd yr A55, adeiladwyd lôn ar hyd terfyn y cae sioe i gario miloedd o dunelli o gerrig o’r chwareli ar yr A5 i safle’r A55 ac yn awr mae tomen uchel o bridd yn cau’r fynedfa i gilfan ar yr A55. Mae’r holl dir ar y safle hwn yn eiddo i Gymdeithas Amaethyddol Ynys Môn a byddai modd ei ddefnyddio fel mynedfa o’r A55. Yr opsiwn arall yw y byddai lorïau’n gadael yr A55 yng nghyffordd 6 ac yn teithio ar hyd yr A5 i Stad Ddiwydiannol Mona; ni fyddai’r cerbydau’n teithio drwy unrhyw bentref. Ychwanegodd y Cynghorydd Rogers fod nifer o fusnesau eisoes yn gweithredu ar Stad Ddiwydiannol Mona. Dywedodd nad yw’r Awdurdod wedi ymgynghori â Chymdeithas Amaethyddol Ynys Môn a’i fod yn ystyried y gallai’r Awdurdod a’r Sioe fod wedi elwa’n ariannol drwy dderbyn y gellid datblygu tir ar Stad Ddiwydiannol Mona fel cyfleuster i storio lorïau os bydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb; bydd y DU yn gadael yr UE ym mis Ionawr y flwyddyn nesaf.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Rogers i’r Pwyllgor ohirio gwneud penderfyniad ar y cais i alw penderfyniad y Pwyllgor Gwaith i mewn a bod angen cynnal ymgynghoriad gyda Chymdeithas Amaethyddol Ynys Môn a Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM) ynghylch datblygu’r safle ar Stad Ddiwydiannol Mona. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Bryan Owen.

 

Rhoddwyd cyfle i’r Cynghorwyr K P Hughes, Eric Jones a Bryan Owen siarad fel aelodau a oedd wedi llofnodi’r cais galw i mewn a chodwyd y materion canlynol ganddynt:-

 

           Byddai hwn wedi bod yn gyfle i Gymdeithas Amaethyddol Ynys Môn a’r Cyngor elwa’n ariannol drwy ddatblygu’r safle ar Stad Ddiwydiannol Mona fel cyfleuster ar gyfer storio lorïau;

           Nodwyd nad yw’r Cyngor wedi tafod yr opsiynau ar gyfer y safle ar Stad Ddiwydiannol Mona gyda’r Gymdeithas na thrigolion sy’n byw ger y safle;

           Byddai modd i lorïau adael yng nghyffordd 6 (Tyrpeg Nant) a theithio ar yr A5 i Stad Ddiwydiannol Mona heb orfod teithio drwy unrhyw bentref. Byddai Cynllun Rheoli Traffig wedi cael ei gomisiynu ar gyfer unrhyw ddefnydd o’r safle ym Mona;

           Mae’r Llywodraeth wedi nodi mai dim ond un porthladd yng Nghymru fydd yn derbyn statws porthladd rhydd;

           Byddai’r posibilrwydd o golli Cymdeithas Amaethyddol Ynys Môn yn cael effaith sylweddol ar fwynhad trigolion ac ymwelwyr â’r Ynys a byddai’n cael effaith ar fywyd amaethyddol Ynys Môn.

 

Dywedodd y Cynghorydd Bob Parry OBE FRAgS, Aelod Portffolio Priffyrdd, Eiddo a Gwastraff, fod safle Parc Cybi, y cyfleusterau aros i lorïau yng Nghaergybi a Stad Ddiwydiannol Mona wedi cael eu hystyried yn ystod trafodaethau yn 2019 mewn perthynas â chanfod tir addas i storio lorïau oedd yn cyrraedd a gadael porthladd Caergybi. Nododd fod cytundeb prydles wedi’i wneud â Chymdeithas Amaethyddol Ynys Môn yn 2018 am tua 17 hectar o dir yn y parth clustogi er mwyn ei ddefnyddio fel cyfleuster parcio a theithio ar gyfer Sioe Môn a gynhelir am ddau ddiwrnod ym mis Awst. Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi gosod cyfyngiadau ar deitl rhyddfraint y Cyngor mewn perthynas â chael mynediad drwy’r tir i ddeilio â sefyllfa argyfwng a allai godi ar y rhedfa ym Maes Awyr Mona, ynghyd â chyfyngiadau ar adeiladu ar y safle ger y rhedfa. Nododd fod y Pwyllgor Gwaith wedi rhoi sylw dyledus i’r cais gan Gymdeithas Amaethyddol Ynys Môn i ddiwygio amodau’r brydles ac ystyriwyd na fyddai ymestyn y brydles yn ymarferol oherwydd y cyfyngiadau a osodwyd gan y Weinyddiaeth Amddiffyn. Ychwanegodd y Cynghorydd Parry fod safleoedd addas ar yr A55 h.y. Parc Cybi, Caergybi a thir ar y safle Parcio a Rhannu yng Ngaerwen a gwblhawyd yn ddiweddar; byddai’n llawer mwy diogel i gerbydau nwyddau trwm droi oddi ar yr A55 i’r cyfleusterau hyn.

 

Dywedodd y Cynghorydd Parry fod dyfodol Sioe Môn yn bryder ond bod ffynonellau ariannu eraill y gallai Cymdeithas Amaethyddol Ynys Môn droi atynt i geisio cael arian h.y. Cymdeithas Elusennol Ynys Môn.

 

Adroddodd y Pennaeth Priffyrdd, Eiddo a Gwastraff fod y cytundeb prydles gyda Chymdeithas Amaethyddol Ynys Môn am gyfnod cytundebol o 5 mlynedd yn y lle cyntaf, yn cychwyn ar 15 Mawrth 2018 ac yn dod i ben ar 14 Mawrth 2023, gydag opsiwn i adnewyddu’r brydles am 5 mlynedd arall, hyd at 14 Mawrth 2028. Nododd fod Cyngor Bwrdeistref Ynys Môn wedi prynu’r tir gan y Weinyddiaeth Amddiffyn a bod cyfyngiadau cyfreithiol wedi eu gosod mewn perthynas â’r defnydd a wneir o’r tir gan y Cyngor a’i denant. Defnyddir y tir fel cyfleuster parcio a theithio gan y Gymdeithas yn ystod dau ddiwrnod y Sioe Amaethyddol a defnyddiwyd y tir yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2017, oherwydd tywydd drwg. Dywedodd y Pennaeth Priffyrdd, Eiddo a Gwastraff fod angen safle ar gyfer lorïau erbyn mis Ionawr y flwyddyn nesaf a byddai angen camau lliniaru sylweddol pe defnyddid y safle ym Mona, yn cynnwys cyffordd newydd oddi ar yr A55 a chodi nifer o amodau cyfreithiol, a noddodd y byddai’n cael effaith ar y cytundeb prydles hefyd.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Prisio fod yr ohebiaeth gan Gymdeithas Amaethyddol Ynys Môn, a ddarllenwyd i’r Pwyllgor, yn anghywir gan ei fod yn dweud fod y Cyngor wedi awgrymu defnyddio Stad Ddiwydiannol Mona fel safle i storio/stacio cerbydau nwyddau trwm oedd yn cyrraedd a gadael porthladd Caergybi. Roedd CThEM wedi cysylltu â’r Awdurdod yn awgrymu Stad Ddiwydiannol Mona fel safle. Gofynnodd y Cadeirydd a drafodwyd cynnwys yr e-bost gan CThEM gyda’r Aelod Portffolio. Dywedodd y Pennaeth Priffyrdd, Eiddo a Gwastraff i’r mater gael ei drafod â’r Aelod Portffolio ar y pryd ond nad oedd unrhyw wybodaeth ynghylch lefel y defnydd o’r tir ym Mona a dim sôn y byddai 100 o lorïau’n cael eu harchwilio ar y safle.

 

Esboniodd y Dirprwy Brif Weithredwr fod yr Awdurdod a Llywodraeth Cymru yn paratoi i adael yr UE heb gytundeb hyd at 18 Hydref 2019. Roedd angen rhoi cynllun wrth gefn mewn lle ar gyfer y lorïau a fyddai o bosib yn cael eu heffeithio neu’n wynebu oedi oherwydd y trefniadau ffiniau newydd ym Mhorthladd Caergybi. Safle’r Road King yng Nghaergybi oedd y prif safle ar gyfer storio lorïau, ac yna ffordd Parc Cybi, gan gau un ochr o’r ffordd rhwng cyffyrdd 2 a 3 yr A55 ynghyd â’r tir ar Safle Diwydiannol Mona er mwyn storio hyd at 500 - 600 o lorïau. Ni dderbyniodd yr Awdurdod unrhyw ohebiaeth ar lefel strategol na gwleidyddol ar ôl 18 Hydref 2019 mewn perthynas â chadw lorïau hyd nes i’r Adran Eiddo dderbyn e-bost gan CThEM ym mis Ebrill 2020 ynghylch y brydles ar y tir yn Stad Ddiwydiannol Mona. Byddai angen y brydles am o leiaf 5 mlynedd a byddai CThEM a DEFRA yn cynnal gweithgareddau ar y safle. Ni fu’r Awdurdod na Llywodraeth Cymru’n rhan o drafodaethau ar lefel strategol ynghylch y mater. Yn dilyn hynny, gofynnodd yr Awdurdod a fyddai’n cael ei gynnwys yn y trafodaethau ynghylch paratoadau a gofynion CThEM a DEFRA ac i gael cyflwyno gwybodaeth leol ynghylch yr Ynys a diogelu mwynderau trigolion yr Ynys. Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr fod yr Awdurdod wedi awgrymu nifer o leoliad ar gyfer storio lorïau h.y. Parciau Busnes ar gyffyrdd ar hyd yr A55, ac mae trafodaethau’n parhau â CThEM a DEFRA. Gofynnodd y Cadeirydd a oedd swyddogion o’r Awdurdod wedi cyfarfod â chynrychiolwyr Cymdeithas Amaethyddol Ynys Môn ar y safle. Nododd hefyd fod y Pwyllgor hwn wedi clywed fod ffordd yn bodoli ger y safle, a ddefnyddiwyd i adeiladu’r A55, a fyddai’n golygu na fyddai’n rhaid i lorïau deithio drwy bentref Gwalchmai. Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr fod yr Awdurdod yn cynnal trafodaethau’n benodol gyda swyddogion yn Llywodraeth Cymru a CThEM a bod yr Awdurdod wedi cyflwyno sylwadau ar y safle yn Stad Ddiwydiannol Mona yn unig ac na chyfeiriwyd at safle Sioe Môn. Soniwyd wrth CThEM fod lôn o’r A55 yn mynd drwy safle Sioe Môn ond mae’n anorfod y byddai’n rhaid adeiladu cyffordd newydd oddi ar yr A55 ynghyd â throsffordd i alluogi lorïau sy’n defnyddio’r porthladd i gyrraedd y safle o’r ddau gyfeiriad yn y boreau a gyda’r nos. Ychwanegodd y Prif Weithredwr na chynhaliwyd unrhyw gyfarfodydd ffurfiol gyda chynrychiolwyr Cymdeithas Amaethyddol Ynys Môn gan na fu safle Sioe Môn yn rhan o drafodaethau gyda chyrff eraill y llywodraeth.

 

Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr y derbyniwyd e-bost gan CThEM yn ddiweddar sy’n nodi bod angen safle am 5 mlynedd a bod ystyriaeth fewnol wedi’i roi i’r cyfleuster ar gyfer CThEM/DEFRA ac nad ydynt yn ystyried y safle yn Stad Ddiwydiannol Mona fel safle addas bellach o ganlyniad i’r farn leol. Fodd bynnag, mae trafodaethau’n parhau ond nid oes unrhyw safle penodol wedi cael ei nodi ar hyn o bryd.

 

Darllenodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol y cytundeb prydles presennol gyda Chymdeithas Amaethyddol Ynys Môn, fel y’i gwelir yn yr adroddiad i’r Pwyllgor.

 

Darllenodd y Cadeirydd e-bost ar ran y Cynghorydd Nicola Roberts, Aelod o’r Pwyllgor ac Aelod Lleol ar gyfer ward Canolbarth Môn, a oedd yn absennol o’r cyfarfod oherwydd salwch.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Dylan Rees, aelod o’r Pwyllgor ac Aelod Lleol ar gyfer ward Canolbarth Môn, at adroddiad y Swyddog a’r argymhelliad i wrthod diwygio amodau’r brydles. Dywedodd y byddai gyrwyr lorïau’n ddibynnol ar offer llywio â lloeren a’i bod yn anochel y byddent yn teithio drwy bentref Gwalchmai, a fyddai’n beryglus gan fod ceir yn parcio tu allan i’r swyddfa bost a thu allan i eiddo preswyl. Darllenodd y Cynghorydd Rees lythyr gan un o drigolion y pentref.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Priffyrdd, Eiddo a Gwastraff fod pryderon dwys ym mhentref Gwalchmai ynghylch nifer y lorïau a allai deithio drwy’r pentref pe byddai’r tir yn Stad Ddiwydiannol Mona yn cael ei ddefnyddio ar gyfer archwilio lorïau. Darllenodd lythyr ar ran Cyngor Cymuned Trewalchmai i’r Pwyllgor. Nododd y gallai pentrefi eraill ar hyd yr A5 gael eu heffeithio. Ychwanegodd fod y brydles yn nodi na chaniateir codi unrhyw adeiladau ger y rhedfa ym Mona ond byddai DEFRA angen adeiladau addas i archwilio dogfennau’r lorïau.

 

  Ystyriodd y Pwyllgor y wybodaeth a gyflwynwyd a gwnaed y pwyntiau a ganlyn:-

 

           Gofynnwyd am yr amserlen bosib ar gyfer adeiladu ffordd ymuno ac ymadael a throsffordd ar yr A55 gan y bydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ym mis Ionawr 2021. Dywedodd y Pennaeth Priffyrdd, Eiddo a Gwastraff mai mater i Lywodraeth Cymru fyddai penderfynu ar unrhyw waith adeiladu ar yr A55 ond rhagwelir y byddai’n cymryd o leiaf dwy flynedd i wneud y gwaith adeiladu ac y byddai’n costio rhwng £6m a £7m;

           Byddai’r effaith ar drigolion lleol, ger Stad Ddiwydiannol Mona, a’r effaith ar drigolion pentrefi ar yr A5, yn annerbyniol gan y byddai lorïau’n teithio drwy’r pentrefi;

           Mae lleoliadau eraill ger Porthladd Caergybi e.e. Parc Cybi, a fyddai’n fwy addas ar gyfer gweithgareddau storio/stacio lorïau;

           Tra bod aelodau’n mynegi pryder dwys am ddyfodol Sioe Amaethyddol Ynys Môn, ystyriwyd y gallai’r Gymdeithas geisio cael arian o ffynonellau eraill h.y. y Gymdeithas Elusennol.

 

Cynigodd y Cynghorydd R O Jones fod y cais galw i mewn yn cael ei wrthod ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd J Arwel Roberts.

 

Yn dilyn pleidlais,

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais i alw i mewn penderfyniad y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Medi 2020 mewn perthynas â Thir yn Stad Ddiwydiannol Mona – Cais gan Gymdeithas Amaethyddol Ynys Môn i ddiwygio amodau’r brydles.

 

Felly, daw’r penderfyniad a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith ar 28 Medi 2020 i rym ar unwaith.

 

Dogfennau ategol: