Eitem Rhaglen

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus - craffu ar y trefniadau llywodraethu

Cyflwyno adroddiad gan Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwnedd ac Ynys Môn.

Cofnodion:

Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r cyfarfod i Mr Emyr Williams, Cadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn a Ms Nonn Hughes, Rheolwr Rhaglen.

 

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Rheolwr Rhaglen,  Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn.

 

Dywedodd yr Arweinydd fod yr Awdurdod wedi ymrwymo i'r egwyddorion yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'r Cyngor yn darparu ystod o wasanaethau a fydd yn cyflawni ei amcanion llesiant unigol, yn ogystal â chyfrannu at gefnogi amcanion llesiant y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

Adroddodd Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn ar drefniadau llywodraethu’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Nodwyd bod gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus bedwar aelod statudol fel y nodwyd yn y Cylch Gorchwyl sef - Yr Awdurdodau Lleol, Adnoddau Iechyd Cymru a'r Gwasanaeth Tân ynghyd â chyfranogwyr gwadd sy'n cyfrannu at ddyletswyddau'r Bwrdd. Mae'r Bwrdd wedi sefydlu Is-grwpiau i'w helpu i gyflawni ei waith. Cafodd diweddariad ar waith yr Is-grwpiau ei gynnwys yn yr adroddiad. Mae'r pedwar Is-grŵp yn atebol i'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus mewn perthynas ag unrhyw waith a gomisiynir. Mae'r Is-grwpiau'n diweddaru'r Bwrdd ar gynnydd bob chwarter, ac yn ystod cyfarfodydd y Bwrdd mae'r adroddiadau diweddaru yn cael eu herio a'u trafod yn fanwl. Dywedodd ymhellach, oherwydd y pandemig Covid-19, fod y Grŵp Cydlynu rhanbarthol wedi cytuno ar feysydd y mae angen canolbwyntio arnynt er mwyn sicrhau adferiad ein cymunedau o'r pandemig. Cynhaliwyd gweithdy ym mis Medi i drafod rôl y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wrth adfer o'r pandemig, gan ganolbwyntio'n benodol ar wytnwch cymunedol. Yn dilyn y gweithdy cytunwyd mai blaenoriaethau'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wrth symud ymlaen fydd parhau â gwaith craidd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus oherwydd bod amcanion a blaenoriaethau'r Cynllun Llesiant yn  parhau i fod yn gyfredol. Bydd cyfle i adolygu ffrydiau gwaith yr is-grwpiau presennol trwy gymryd  canfyddiadau'r gweithdy i ystyriaeth. Dros y misoedd nesaf bydd yr holl is-grwpiau'n rhoi ystyriaeth ddyledus i addasu eu rhaglenni gwaith a'u cerrig milltir. Cytunwyd hefyd i gynnal ymchwil bellach mewn rhai meysydd, i ddarganfod y sefyllfa ddiweddaraf o ran materion fel tlodi ariannol a diweithdra.  

 

Dywedodd Cadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn fod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi ei sefydlu yn unol â'r Ddeddf Llesiant ond na roddwyd unrhyw adnoddau ariannol ar ei gyfer ac mae wedi bod yn anodd cyflawni. Pwysleisiwyd hefyd fod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn gadarn ei farn ei fod eisiau osgoi dyblygu, gan mai pwrpas y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yw ychwanegu gwerth at gynlluniau cyfredol.

 

Rhoddodd y Pwyllgor sylw i'r adroddiad a gwnaeth y pwyntiau a ganlyn: -

 

·      Gofynnwyd  i ba raddau y mae'r prosesau adrodd a monitro ynghylch gwaith yr is-grwpiau yn ddigon strwythuredig a chadarn, ac yn sicrhau atebolrwydd yr is-grwpiau ac yn eu dal yn atebol o ran gweithredu'r rhaglenni gwaith. Ymatebodd y Rheolwr Rhaglen fod yr is-grwpiau'n diweddaru'r Bwrdd ar gynnydd bob chwarter, ac yn ystod cyfarfodydd y Bwrdd mae'r adroddiadau diweddaru yn cael eu herio a'u trafod yn fanwl. Mae arweinwyr is-grwpiau'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn aelodau o'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, a'u cyfrifoldeb nhw yw cyflwyno cynllun gweithredu a manylion ynghylch cyflawni;

·      Gofynnwyd i ba raddau y mae’r trefniadau i ddiwygio rhaglenni gwaith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus o ganlyniad i Covid-19 yn ddigon cadarn er mwyn ymateb i'r heriau cyfredol a'r rhai all godi yn y dyfodol. Dywedodd Cadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus fod y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi pennu gweithdrefnau ac yn benodol o ran gwytnwch cymunedol. Penderfyniad y Bwrdd oedd galw gweithdy a derbyniwyd nifer o awgrymiadau gan sefydliadau partner. Nododd y gellir dysgu gwersi o'r pandemig ynghylch gwytnwch cymunedau lleol a sut i fynd i'r afael â materion heb ddyblygu gwasanaethau a ddarperir gan gyrff statudol.

 

PENDERFYNWYD nodi trefniadau llywodraethu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn.

 

GWEITHREDU: Fel y nodir uchod.

 

 

Dogfennau ategol: